Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ETrpfion,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ETrpfion, PENNOD VIII.—Y PARCH. WILLIAM HUGHES, DINAS MAWDDWY. (GAN Y PARCH. E. DAVIES, TRAWSFYNYDD). GANWYD Mr. Hughes yn Rhosgillbach, yn mhlwyf Llanystumdwy, yn swydd Gaernarfon, yn mis Mai, 1761. Enwau ei riaint ydoedd Hugh a Mary Rowlands. Bu iddynt ddeuddeg o blant, chwech o feibion a chw ech o ferched. Bu farw dau o'r plant yn eu mabandod; ond cyrhaeddodd y deg eraill oedran pwyll, a daethant oil bron i arddel crefydd gyda rhyw enwad o Gristionogion. Er nad oedd Hugh a Mary Rowlands yn aelodau gydag unrhyw eglwys neillduol, nid oeddynt yn rhoddi unrhyw rwystr neillduol ar ffordd eu plant i ymuno ag unrhyw blaid grefyddoj. a ewyllysient; yr hyn oedd yn ymddygiad lied anghyffredin yn y dyddiau hyny. Adwaenwn bed- war o'r meibion, ac un o'r merched; ac y mae llawer o'r teulu yn bobl grefyddol gyda gwahanol bleidiau Cristionogol. Mae Mr. Hughes, Penmain, a Mr. Williams (Nicander) o Fon, un yn wyr a'r llall yn onvyr, i hen bobl y Rhosgillbach. Nid ydwyf yn gwybod trwy ba foddion y dygwyd meddyliau Mr. Hughes o dan argraffiadau cref- yddol. Y man nesaf ato oedd gan yr Ymneillduwyr i bregethu ynddo y pryd hyny ydoedd y Capel helyg: ac efallai mai yno y clyw- odd Mr. Hughes bregethu yr efengyl gyntaf. Nid oedd gan yr Ymneillduwyr y pryd hyny, yr wyf yn meddwl, ond tri o addoldai yn sir Gaernarfon, sef Pwllheli, Capel helyg, a'r Capel newydd, yn Lleyn. Yr oedd eglwysi wedi eu sefydlu yn Mhwllheli a'r Capel helyg yn y flwyddyn 1650, a'r Capel newydd yn 1767. Nid oedd yr hen weinidogion a fu yn Mhwllheli, sef Mri. Richard Thomas, John Thomas, Rees Harries, a Benjamin Jones, wedi ymdrechu ail i ddim i ledaenu eu hegwyddorion yn sir Gaernarfon, &c., ac ni bydd- ent yn pregethu dim ond dwywaith ar y Sabbath, unwaith yn y boreu yn y Capel helyg, nid Capel newydd, a Phwllheli am 3 yn y prydnawn; ac yna pawb adref. Byddai pregeth hefyd yn Mhwll- heli bob Mercher, sef diwrnod y farchnad, a dyna bron y cwbl. Yr wyf yn cofio, yn y flwyddyn 1815, nad oedd ond pump o weinidogion gan yr Ymneillduwyr yn sir Gaernarfon; a chyn y flwyddyn 1822 yr oedd yno 12 o weinidogion; ac erbyn heddyw, y mae yn swydd Gaernarfon, gan yr Ymneillduwyr, 82 o gapelydd, 30 o weinidogion, a 26 o bregethwyr cynnorthwyol! Derbyniwyd Mr. Hughes (pan tuag ugain oed) yn aelod eglwysig yn Mhwllheli, yn Mhenylan, gan Mr. Rees Harries, a throdd allan yn llawer gwell nag yr ofnid. Yn mhen tua blwyddyn ar ol ei dderbyn yn aelod, annogwyd ef gan yr eglwys a'r gweinidog i arfer ei ddawn fel pregethwr, ac ufuddhaodd yntau. Y tro cyntaf y pregethodd oedd yn y Capelnewydd, yn Lleyn; ei destun ydoedd Act. iii. 19, a gellir dweyd mai sylwedd ei weinidogaeth i raddau ar hyd ei oes, oedd edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. Yn fuan ar ol dechreu pregethu treuliodd ychydig o amser yn yr ysgol dan ofal Mr. Abraham Tibbot, yn Llan- uwchllyn, lie y daeth yn alluog i ddeall yn weddol yr iaith Saesneg; a phethau eraill angenrheidiol tuag at gyflawni y swydd oruchel oedd o'i flaen. Dysgodd Mr. Hughes y gelfyddyd o rwymo llyfrau, yr hyn a fu yn llawer o gymhorth iddo ar hyd ei oes. Er nad oedd wedi cyrhaedd llawer o gywreinrwydd yn y gelfyddyd, yr oedd yn hynod o onest a gofalus yn hyn fel pethau eraill; gwnai waith cryf, didwyll, a pharhaus, ar bob llyfr a ddeuai o dan ei law. Tua'r flwyddyn 1788 aeth Mr. Hughes i Fangor, a bu yn ymdrechgar iawn i bregethu yr efengyl yno, a'r cymydogaethau o amgylch, yn wyneb llawer iawn o rwystrau ac anhawsderau. Byddai ef a'i ychydig gyfeillion yn cael eu hymlid o'r naill ystafell a'r llall; ond o'r diwedd cafwyd lie i adeiladu capel yn Nhyddyn-yr-ordor, ychydig oddiar Station y Railway yn bresenol. Yn y flwyddyn 1789, neillduwyd Mr. Hughes i gyflawn waith y weinidogaeth, yn y lie a elwid y Cae- gwigin, yn agos i Landegai, lie y saif capel Bethlehem yn bresenol. Yn y flwyddyn 1790, priododd Mr. Hughes Margaret, merch Ellis ac Anne Roberts, Ty'nyddol, yn agos i'r Bala, yr hon a gladdwyd amrai flwyddau o'i flaen ef. Bu iddynt ddeg o blant, ond y maent wedi meirw erbyn hyn i gyd ond pedwar, dau fab a dwy ferch. Mae Mr. William Hughes, y brawd hynaf sydd yn fyw, yn fasnachydd yn Llynlleifiad, a Mr. Ellis Hughes yn weinidog gyda'r Ymneilldu- wyr yn Penmain, yn swydd Fynwy. Mae Elizabeth Hughes yn byw yn Mwlch Cwmceuwydd, ar gyfer y Dinas, a Rebecca Hughes yn wraig i Mr. H. Morgans, gweinidog yr Annibynwyr yn Samah. Cafodd Mr. Hughes ei ddirwyo i dalu deg punt am bregethu, ar gais cyfeillion, o dan dy Marchnad Llanrwst, a thalodd hwynt o'i boced ei hun. Bu Mr. Hughes yn llafurio yn Mangor a'r cymyd- ogaethau gyda diwydrwydd a ffyddlondeb mawr hyd ddechreuad y flwyddyn 1797, pan dderbyniodd alwad unfrydol oddiwrth yr Eglwys Annibynol yn Ninas Mawddwy. Ar ol dwys ymgyngh-ori a'r Ar- glwydd ac a'i gyfeillion, symudodd ef a'i deulu i'r Dinas, yn mis Mai canlynol, lie bu yn weinidog ffyddlon i'r Eglwys hono hyd ddi- wedd ei oes. Bu Mr. Hughes yn ymdrechgar a ffyddlon iawn i gasglu a sefydlu eglwysi yn y cymydogaethau cylchynol i'r Dinas; megys y Fool, yn mhlwyf Garthbeibio; Samah, yn mhlwyf Cemes; Bethsaida, Penrhiw'rcul, a Bethesda, yn Llanymawddwy. Talwyd yr holl draul am adeiladu yr addoldai hyn; ac nid ychydig o gysur a deimlai Mr. Hughes ei fod wedi llafurio i adeiladu cynnifer o addoldai, a'i fod yn cael eu gweled yn ddiddyled cyn marw. Yr oedd Mr. Hughes yn ddyn o gyfansoddiad cryf, o ran corff a meddwl, ac yn mwynhau iechyd rhagorol hyd yn agos i ddiwedd ei oes. Teithiodd fwy, mae yn debygol, na fawr neb yn ei oes, trwy Ddeheudir a Gogledd Cymru, trwy bob tywydd; ni thorodd nemawr o gyhoeddiad erioed. Pregethai dair gwaith braidd bob dydd, yn gyffredin, ar ei deithiau, ac nid ydwyf yn cofio ei glywed yn ceisio gan neb ddechreu yr oedfa iddo un amser. Dywedodd rhyw un wrtho unwaith ar ol swper, "Yr ydwyf yn ofni eich bod wedi blino gormod i gadw dyledswydd heno." "Ona," meddai yntau, "ni ddarfu i mi erioed flino gormod i weddio." Byddai yn ofalus iawn am fod yn gynnarol yn mhob cyfarfod; ac os byddai eisieu myned i dy neu gapel cyfagos i bregethu, ai ef yno yn ewyllysgar a digymhell, a gwnai ei oreu. Nid oedd Mr. Hughes wedi gwneud fawr o drefn ar ei bregethau, nac ysgrifenu dim o honynt; ac felly nid oes dim o honynt ar gael heddyw. Yr oedd yn ymddiried y cwbl i'w gof; a hawdd y gallai, o herwydd yr oedd yn gryfach ei gof na neb, yr wyf yn meddwl, a ddarfu i mi adnabod erioed. Clywais ef yn pregethu ar y geiriau, "Pwy wyt ti, y mynydd mawr ? gerbron Zorobabel y byddi yn wastadedd," &c. Yn mhen amrai flynyddoedd clywais ef drachefn yn cymeryd yr un testun, ac ni wyddwn i fod yno un gair wedi myned ar goll oedd yn y bregeth y tro cyntaf. Darllenodd gryn lawer ar esboniad yr enwog M. Henry, a mabwysiadodd gryn lawer o'i ddull. Yr ardderchogrwydd mwyaf yn ei bregethau, oedd eu bod yn cael eu britho a'r ysgrythyrau; a'i ddull sobr a difrifol yntau yn eu traddodi. Yr oedd Mr. Hughes yn hynod o ofalus rhag niweidio cymeriad un dyn trwy siarad yn gul am neb yn ei gefn. Yr oedd yn cyfateb yn lied gyflawn i'r hyn y mae Paul yn ei ddweyd am ddyn duwiol yn 1 Cor. xiii. 4, 7. Pan oedd Mr. H. yn dych- welyd adref dros Fwlchygroes (mynydd uchel rhwng Llanuwchllyn a Llanymawddwy) ar dywydd oer a gwlyb iawn, pregethodd mewn ty a elwid Cerddin, yn Mhenant Mawddwy, a llon'd ei fotasau o ddwfr; ac aeth adref wedi hyn tua phum milldir o ffordd heb newid na chael un ymgeledd. Gadawodd yr oerfel y tro hwn effaith arno a'i blinodd hyd ddydd ei farwolaeth. Bu farw Mr. Hughes mewn llawn sicrwydd ffydd a gobaith yn Iesu Grist, y dydd olaf o Ragfyr, 1826, yn y 65 mlwydd o'i oedran, a chladdwyd ef y dydd Mercher can- lynol yn y capel, o dan fwrdd y cymundeb, yn ngwydd tyrfa luosog a galarus. Yr oedd yno chwech o'i frodyr yn y weinidogaeth, ond y mae yn debyg nad oes dim ond dau o honynt yn fyw yn awr. Pregethodd Mri. Jones o Ddolgellau a Roberts o Lanbxynmair, y noson cyn claddu, yn y Park; a Davies o Drawsfynydd, a Morgans, Machynlleth, yn y capel wrth ei gladdu. Pwy bynag a ewyllysio weled ychwaneg o hanes y brawd duwiol hwn, edryched i ddechreu y DYSGEDYDD am y flwyddyn 1835.

GWEDDI NEWYDD.

CASTELLNEWYDD EMLYN.