Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
¥ Sjenrtrti.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
¥ Sjenrtrti. Ty Y CYFFREDIN, Mercher, Mai 12. Y Permissive Prohibitory Liquor Bill. Cynnygiodd Syr W. Lawson ail ddarlieniad y mesur uchod. Dywedai nasgallai y ffaith fod anghy- medroldeb yu cynnyddu neu yu lleihau gyfnewid ei ddadlyu ffafr y mesur-eibrif reswm ydoedd, mai angbymedro deb ydoedd y prif achos o droseddau a thlodi. Fel prawf fod teimlad y wlad yn ffafriyl i'r mesur, eyfeiriaiat y 2,370 deisebau a gyflwynwyd drosto, pan nad ydoedd un yn ei erbyn.—Euiwyd y cynnygiad gan Mr. Dimsdale.—Dywedai Mr. Bazley, wrth gefnogi y mesur, fod y draul mewn diodydd meddwol, yn nghyda chost yr ymwneud a'r troseddau a'r tlodi a gynnyrchent, yn cyr- haedd dros gan' miliwn o bunnau ( £ 100,000.000) yn flynyddol.-Cyn- nygiai y Milwriad Jervis i'r ail ddarlleniad gymeryd lie mewn chwe' mis.-Rhoddodd Mr. Osborne Morgan ei gefnogaeth wresog i'r mesur.- Gwithwynebai Mr. W. E. Forster y mesur ar y tir, pa faint bynag a gamddefnyddia llawer ar yr arferiad o wirodydd, y byddai deddfu yn ddirymtad uniongyrchol ar ryddid y deiliaid.- Y r oedd Mr. Jacob Bright, yn cymeradwyo yr egwyddor oedd yn oblygedig yn y mesur, end yn hytrach yn wrthwynebol i'w ffurf. Yr oedd efe yn ffafriol i fesur chwyldroadol ar y mater; apho fwyaf chwyldroadol y byddai, tebycaf yn y byd iddo basio y Ty.-Dywedai Mr. Bruce nad cwestiwn yn effeithio ar sefyllfa tlodi a throsedd yn y wlad yn unig ydoedd, ond yr eedd yn cyffwrdd ag arferion y bobl yn mhob troad. Nid ydoedd y feddyginiaeth i'r drwg o ddiota i'w chael mewn deddfwriaeth seneddol- yr oedd yn rhaid ei chael yn addysgiaeth y bobl. Ond etto, nid oedd un rheswm yn bod yn erbyn cynnyg rhyw feddyginiaeth. Yr oedd y llyw- odraeth, pa fodd bynag, yn parotoi at ddwyn mesur i mewn ar y mater y flwyddyn nesaf; ond uid mesur fel hwn, yr hwn a amddifadai y bobl o'r mwynhad a gant o'r tai cyhoeddus, a pherchenogion y cyfry w dai o'u heiddo. Ystyriai y llywodraeth fesur felly yn ddiangenrhaid ac anghyf- lawn. Dan yr amgylchiadau hyn, byddai iddo ef wrthwynebu ail ddar- Meniad y mesur. Ar raniad y Ty, yr oedd dros yr ail ddarlleniad, 87; yn erbyn, 193—mwyafrif yn erbyn, 106.
; ' .TYYR AKGLWYDDI, lau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TYYR AKGLWYDDI, lau. Iarll Russell a givladlywiaeth Wyddeltg y llywodracth.Gofynai IarII Russell i'r llywodraeth pa gwrs a fwriadent ddilyn mewn perthynas i gynnydd trosedd a tberfysg, ac mewn perthynas i'r cyfreithiau yn nghylch tir-ddaliad yn Iwerddon? Credai ef fod y llywodraeth yn y gwneud yr olt a. allent gyda'u gallu presenol i gadw heddweh yn yr Iwerddon, ac i attal a chael allan ymosodiadau rhandirol; ond yr oed(I gin ddeiliaid ei Mawrhydi, pa Ie bynag y trigent, hawl i amddiffyniad bywyd; a chan ei bod yn hysbys nad ydoedd bywyd yn ddiogel mewn dwj sir (Westmeath a Tipperary) dyledswydd y llywodraeth ydoedd ystyried pa fesurau pellach fyddai yn ddymunol, a pha awdurdod chwan- ellid roddi yn eu dwylaw. Yr oedd yn ddrwg ganddo ef am y llwybr a ddilynodd y llywodraeth ar gwestiwn y tir, oblegid credai ef fod tuedd ynddo i gefnogi gobeithion yn mhlith y Gwyddelod na ellid eu sylweddoli. Yr oedd yn ddrwg gan Iarll Granville am ddychweliad parhaus y dadleuon hyn, heb y tebygolrwydd o arwaift i unrhyw ganlyniad ymarferol. Yr oedd yllywodraeth yn gweithreduyfoment bresenol gyda'r brwdfrydedd niwyaf mewn grymuso yr awdurdod ag yr ydoedd deddf cadwraeth yr heddweh yn osod yn eu dwylaw.
Tr Y CYFFKEDIN, Iau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tr Y CYFFKEDIN, Iau. A,chos yTornado.Mewn atebiad i Mr. Bentinck, dywedai Mr. Otway focI y llywodraeth wedi derbvn atebiad oddiwrth lywodraeth Yspaen, yu gwrthod cydsynio a'r cais a wcaed yn Rhagfyr diweddaf, ar'i achos y Tornado gael ei wrando gerbron brawdle neiilduol. Yr oedd y rhesymau a ddadleuai y llywodraeth Yspaenawl yn cael eu hadrodd yn bur 11awn, a gosodid hwynt gerbron swyddogion cyfreithiol y Goron. Y gallu milwrolyn Canada.—Mewn atebiad i Syr John Hay, dywedai Mr. Cardwell fod y cyf irwyddiadau er lleihad y catrodau yn Canada yn bresenol wedi eucario alMn, ac nid ydoedd yn mwriad llywodraeth ei Mawrhydi alw yn ol y trefniad o dan yr amgylchiadau presenol.
LLOSGI BEIBLAU YN LLOEGR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOSGI BEIBLAU YN LLOEGR. Sefydlwyd mynachesdy yn ddiweddar yn Market Harborough, swydd Leicester, er addysgu genethod ieuainc yn egwyddorion a defodau Pab- yd'diaeth: ac, ryw wythnos yn ol, darfu i I Faniau,' iieu attirawesau y sefydliad gymeryd y Beiblau Frotestanaidd oddiar y dysgyblesau ieuainc a gwneud coelcertho honynt yn y Kitchen Fire; a phan aeth y gair o hyny ar led, anfonodd y Cynghrair Protestanaidd foneddwr i Market Harborough, i wneud ymchwiliad i wirioinedd yr adroddiad. Aeth Mr. Owen, y goruchwyliwr, yn uniongyrchoi o orsaf y reilffordd i'r sefydliad, agwelodd yno y foneddiges y dywedid ei bod yn rheoli yn yr amgylchiad; a chan belled ag yr oedd hysbysrwydd yn myned, cafodd lawn foddlon- rwydd. Y mae adioddiad Mr. Owen o'r rhan gyntaf o'r ymddyddan fel y canlyn: —Gwahoddodd i fi ystafell. un pen i'r ho a ydoedd wedi ei wneud yn gapel, gydag allor, a dywedai,' Cyn rhoddi i chwi atebiad, hoifwn ddarlien yr adroddiad yn y papyr.' Estynais yr hanes iddi, a darllenodd y para- graff yn ystyriol. Yna dywedai, gan ymogoneddu,' Y mae yn wirionedd, llosgais gryn nifer o'r Beiblau Protestanaidd yn y gegin, ac yr wyf yn barod i wneud yr un peth etto: gwneuthum yn eithaf iawn eu llosgi; cyfieithwyd y Beibi Protestanawl gan hereticiaid—cyfleithiad hereticawl ydyw.' Gofyuais, Pa niter o Feiblau a losgasoch?' Atebai, 4 Nid wyf yn mlddwl fod "rhwymau arnaf i ddweyd wrthych pa niter; ond nid oeddynt yneiddo yr amddifaid, fel yr adrodda v newyddiadur.' 'A ydych yn gwrthod mynegu imi panifer alosgasoch?' 'Ydwyf.' Dywedai .Mr Owen, 'Y ma.e hon yn weithred ysgeler, ac wedi achosi cyffro mawr yn barod, a bydd yn sicr o greu cynhwrf llawer mwy etto. Yr wyf fi wedi fy anfon i wneud ymchwiliad i'r achos gan y Cynghrair Protestan- •aidd, a gobeithiwn y byddech yn alluog i wrthddweydadroddiad y newyddiadur.' Yr wyf fi yn llawenhau ynddo,' meddai hithau; 'y mae yn ddagenyf weled yr adroddiad yn y papyr. A ymddangosodd efe mewn unrhyw bapyrau eraill? Yr wyf yn gobeithio y bydd i'r adroddiad gael ei ledaenu drwy bob man, fel y dilyno eraill fy esiampl; yr wyf yn sicr y deillia Hes o hono.' Yna cyrchodd Rhemish Testament, a. dywedai fod ganddi awdurdod ysgrythyrol dros yr hyn a wnaeth; ac i gyfiawnhau ei hymddygiad, darllenoddyn uchel. gyda phwysiais neillduol, Dat. xxii. 18, 19—ymadredd ag sydd yn cyhoeddi gwae uwchben y sawl syddyn chwanegu at, neu yn tynu oddiwrth eiriau y brophwydoliaeth hon. Ymddengys, oddiwrth y gweddill o'r ymddyddan, fod y foneddiges a amddiffynai ei hun fel hyn yn Brotestant—neu, yn hytrach, yn aeiod o Eglwys Loegr-flwyddyn yn ol. Gofynwyd iddi am enw ei hoffeiriad, on4 atebai nad oedd un offeiriad yn bresenol pan y liosgodd hi y Beiblau, nac ychwaith wedi ei hanog i'w llosgi. Gobeithio nad oes yr un offeiriad hyd yn nod yn Rhufain a gymeradwya ei gwaith yn llosgi y Beiblau: ond os na ddeuant allan fel un gwr i gondemnio ei hymddygiad, esbouia cyf- eillion y Beibl eu dystawrwydd fel cymeradwyaeth o set benboeth y Fam babaidd hono yn erbyn y Beibl, ac fel eyfiawuhad i'r hen gyfraith a defod babaidd i gadw y Beibi o ddwylaw y Werin.
GWLAD YR HWNTWS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWLAD YR HWNTWS. (ODDIWRTH BIN GOHEBYDD). Deallwn fod un o feibion mwyaf addawol Llangeitho wedi cael ei glajdu, sef, P. li. Jenkins, Arwerthydd. Nid oedd Mr.Jenkins heb ei wendidau: ond nid ydyw y rhai hyny bellach; eithr y mae y parch oedd iddo yn aros yr un, ac yn fwy tanbeidiol heddyw. Yr oedd yn ddyn ieuanc caredig, llawn o natur dda, ac yn addawol iawn yn ei alwedigaeth. Yr un gwyneb oedd ganddo i'r tlawd a'r cyloethog, a chyflawn chware teg i'r naill fel y llall. Claddwyd ef yn mynwent y plwyf. Na wnaed neb ddrwg i'w lwch, a boed i'w fam a'i berthynasau ymgysuro dan y brofedigaeth er mai chwerw ydyw. Tyddewi. Bu farw gwr ieuanc hynod addawol ger y lie hwn yr wythnos hon, sef Mr. E. H. Williams, Penberry. Preswyliai Mr. Williams yn Kent, ganddityneialwedigaethfelllaw-feddyg. Ond daethai adref i dyei dad ychydigwythuosau yn ol, yn cael ei boeni gan afiechyd poenus. Byddai yn arferol o gymeryd Morphine yn achlysurol er ileddfuy poenau erchyll. DyddHun, dtnfouodd i faelfa Mrs. F. Cicks am ychydig o Morphine. Ar ol cymeryd cyfran o hono, eymerwyd ef gan ffitiau (tetanic convulsions), a. bu farw mewn poenau dirtawr mewn deng mynyd ar hugain. Mae yn debyg idrlogael Strychnine yn lie Morphine. Cam- synied erchyll, onide! Nis gallwn fod yn rhy ofalus gyda phethau o'r fath. Danfonwyd y gweddill o'r byu gymerodd yr yniadawedig i Dr. Taylor, er ei ddosranu. Mae newyddiaduron y wlad hon, yn gystal a phrif newyddiaduron y deyrnas, yn methu gadael Sarah Jacob yn ddisylw, er eu holl anghrediniaeth; ac fel eich Gohebydd o'r wlad hon, arlhawdd yw peidiodweyd gair ynaml yn ei chylch. Buais yn siarad a Mr. I). James, ysgolfeistr Llanfihangel-ar-arth htddyw, a dywed- ai fod y cwul llawn mor dywyll ag ydoedd flwyddyn yn ol. Yn mhlith yr ymwelwyr diweddaf a Sarah, cawn y Parch. Frederick Howland ïOllng, gweinidog y Free Christian Church, New Swindon. Mae ef yn Spiritualist proffesedig,a daethai i lawr i Lethi neuatid, yn un swydd, ar ran y frawdoiiaeth, er gwneud cynnyg i iachau y ferch trwy arddodiad dwylaw. Ysgrifena hanes ei daith i un o bapyrau Lloegr. Darfu iddo fethu gwneud dim iddi trwy ei ddefod; ond y mae y bai yn cael ei osod ar y ferch. Nichawsai osod ami fel y dymunai. Dywed Mr. Young wrth ddiweddu ei banes, fod yr holl dystiplaeth hyd yn hyn o blaid y ferch. Ni phery pethau yn hir fei hyn—daw y cwbl i'r goleu, a gobeith- iwn na ddaw a gwarthrudd ar neb. Mae'r Hwntws yma yn dymuno arnaf i ddiolch i'r "Gwr a'r baich pechod yn y lloer, am ei gnniad i'r gorthrymedig yn ein plith. Nid Notices to Quit y vy yr unig arfau a ddefnyddir, ond eu hen wau y w^Lleng. Cynnaliodd y Trefnyddion Calfinaidd eu Cymanfa dri-misol yn JLlangadoc, dyddiau Ma wrth, Mercher, a'r Iau diweddaf. Yr oeddy tywydd yn ddy- munol, y cludiad gan y rheilffordd yn rhesymol, a thrwy hyny daeth tyrfa anarferol yn nghyd. Yr oedd caredigrwydd y preswylwyr yn hynod o gan- moladwy. Dechreuwyd pregethu ar y maes dydd Mercher, a pharhawyd trwy y dydd canlynol. Pregethodd y gweinidogion canlynol:—E. Phillips, G. Williams, J. Pritchard, T. Phillips, D.D., J. Jones, W. Williams, R. Edwards, a—. Jones. Clywsom ddweyd fod y pregethau yn rhagorol,—yu eu traddodiad, yn eu coethder, yn eu difrifoldeb; a gobeithio yn eu heffeithiau. Ffair Dalisfawr. lr Dyma un o ffeiriaumwyaf. a hynaf Cereuigion. Cynnelir hi y nawfed neu'r degfed o Fai bob blwyddyn. Er fod yr hin yn anifafriol eleni, nid oedd yn lbi pwysig nac yn llai lluosogo herwyddhyny. Gwerthai y ceffylau yn hynod rwydd am brisiau uchel. Yr oedd gofyn mawr am bob math. Gwartheg yn newid dwylaw am brisiau lied dda, ond nidcymaint ag a welwyd. Moch tewion yn gostwng mewn prisiau, ond yr oedd y perchill yn ddiarhebol o ddrud. Nid oedd son am y fath beth a pherchill punt. Gwerthid rhai dau fis oed ae uchod am bum swllt ar bugain ac uchod. Gwell i bob un ¡ g,tcl parchell o hwch ei hunan' eleni. Nid oedd y bustych a'r aneirod yn hynod uchel, Beth oedd dyben ein hynafiaid yn sefydlu ffeiriau mewn lieoedd mor anghysbell? Mae ein ffeiriau oil yn cael eu cyiinal ar leoedd uchel ac annhrigiannol. Clywsom ddweyd mai er cael mwy o gyfle i ymladd ceiliogod a. champau eraill, yngystal ag ymladdau. personol, meddwi, &c. Nis gwn beth sydd iawn, ond cysurus ydyw nieddwl iiad oes fawr o ymladd lia meddwi ynddynt yn bresenol, oddigertii eithriadau anaml, a'r rhai hyny yn y dynion m'vyyaf dichwaeth a digymeriad. Mae mis Mai yn orlwythog 0 gyfarfodydd pynciau, pregethu, areithio, &c. Bu Cymanfa Ysgolion Llangâtlw yr wythnos ddiweddaf. Daeth pump ysgol i'r Jerusalem henafol yma. Hol- wyd hwynt gan y gweinidogion hyn:—K. Roberts, Llangeitho; John Evans, Abermeurig; ac A. Oliver, Llanddewi-brefi. Yr ysgolion oeddynt—Llan- ur'g; -a' geitho, Abermeurig, Penuwch, LI wynpiod, a Bwlchyllan. Canwyd amryw ddarnau yn nefolaidd gan y gwahatiol g6r&u. Gwnaedy gorchwyl o adrodd ac ateb yn ddehelliggan yr oil. Saif Llangeitho byth yn enwog yn nglyn âg enw Daniel Rowlands. Bodolai teimladaugwahanol iawn yn y gymyctogaeth y pryd hwnw i'r hyn ydynt heddyw. Mae yn wir ddrwg genym achwyn ar ymddyg'aiau anaddas ac an-Nghristionogol rhai o bobl Llangeitho at eu gil- ydd. Nid yw y cynhenau, y 'tafodi,' y meddwi, yn cydweddu ag ysbryd yr hen Rowlands fendigedig. Pahain y rhaid i'r Methodistiaid ddal digter at yr Eglwyswyr am nad ydynt yn cyduno mewn barn? Paham y gwna y rhai sydd yn bloeddio cymaint am 'Ryddid Crefyddol,' omedd caniatâu hyny i eraill? Credwn fod eu dau flaenor yn Gristionogion difrycheulyd, a phaham nt wna. pobi synwyrol y gymydogaeth ymestynat yr unrhyw gymeriad? Gobeithio y cenfydd pobEglwyswr a Methodist yrangenrhaid hyn, ac y gmant addoli Duw mewn ysbiyd ac mewn gwirionedd, heb gymeryd tram- gwydd oddiwrth British na National, Eglwys na Chapel.