Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
MR. GLADSTONE AC EGLWYS YSGOTLAND.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MR. GLADSTONE AC EGLWYS YS- GOTLAND. DYGWYD Mesur Eglwys Ysgotland nos Lun o flaen Ty y Cylfredin; ac ni feddyliwyd y buasai yn cynyrchu unrhyw sylw neillduol; ond wele Mr. Gladstone yn ei le yn ei wrth- wynebu. Gwrthwynebodd Mr. Gladstone ef yn mhob dull a modd;a gwnaeth ef yn chwil- friw o flaen eu llygaid. Dangosodd mor afresymol yw ei egwyddor, ac mor niweidiol y bydd o ran ei ddylanwad a'i eftaith ar wleidyddiaeth yn y dyfodol. Dangosodd hefyd y bydd yn fethiant hollol, os ei ddyben yw dwyn yn ol i'r Eglwys y rhai a ymneill- duodd o honi yn 1843; ac y rhaid i'r rhai hyny a adawodd yr Eglwys y pryd hyny, o herwydd yr hyn a symudir ymaith yn awr, edrych ar yr ymgais hwn i'w dwyn yn ol i Eglwys waddoledig a sectol y lleiafrif yn annheg i'r eithaf. Diangenrhaid ydyw dweyd mai dyben y Mesur ydyw rhoddi terfyn ar y drefn bresenol o apwyntio i fywiolaethau eglwysig, a chy- Z5 meryd yr hawl i wneud hyny oddiar bawb, a'i throsglwyddo drosodd i'r cynulleidfaoedd. Ar y cyntaf, y cymunwyr oedd i gael yr hawl, ond newidiwyd y mesur yn Nhý yr Arglwyddi yn y fath fodd fel ag i osod yr Z5 bawl i'r cynulleidfaoedd; ac y mae y Gy- manfa Gyffredinol a Sasiynau Kirk i roddi darnodiad pa beth sydd i'w feddwl wrth gynulleidfaoedd. Beth fydd effaith hyn1? Wel, y mae gan Eglwys Ysgotland gyfoeth mawr, a thrwy y Mesuiy trosglwyddir oil i ddwylaw ychydig o bersonau-y cynull- eidfaoedd, neu sect. Ni raid i ni ddweyd y bydd Eglwys Ysgotland y foment y pasia y Mesur hwn yn darfod a hyny o genedlaeth- oldeb sydd yn perthyn iddo. Dywedodd Mr. Gladstone fod ganddo ef achos da iawn i'w ddadleu pan yn dadleu dros Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Wyddelig; ond, meddai, pa mor gryfed fuasai ei ddadl pe buasai sefyllfa pethau yno fel ag y byddant yn Ysgotland ar 01 pasio y Mesur hwn? Ie, yr oedd Mr. Gladstone yn awgrymu, os nid dweyd yn blaen, os pasir y mesur hwn, mai y cam cyntaf a gymerai ef wedi hyny fydd dwyn Mesur yn mlaen i'w Dadgysylltu a'i Dad- waddoli. Os ydyw wedi myned yn Eglwys y ddyrnaid fechan sydd yn ymgynull o fewn ei Hiuriau i wrando, yn ngolwg y gyfraith, nid oedd dim yn hawddach na'i Dadgysylltu a'i Dadwaddoli. Gan :fod Deddfwrfa y genedl wedi trosglwyddo ei llywodraethiad drosodd iddi ei hun, yna, nid yw yn teilyngu ceiniog 0 waddol mwy nag enwad arall. Y mae y Mesur hwn yn gwneud Eglwys Sefydledig Ysgotland yn sect; ae nid oes yr un Llyw- odraeth a ddeil y rhesymau yn erbyn gwaddoli plaid neillduol heb foddloni i'w llwyr Ddadgysylltu a'i Dadwaddoli. Nid oedd araeth Mr. Disraeli mewn amddiffyniad 1 r Mesur yn un math o atebiad i resymau cedyrn Mr. Gladstone. Y mae y ddadl wedi ei gohirio hyd nos Lun nesaf, pryd y ceir clywed llawer rhagor o ergydion. Byddai yn ddoeth i'r llywodraeth wneud y cynghor hwnw gyda golwg ar yr Eglwys Sefydledig- "Oedwch allan o'r Senedd hwyafy galloch."
"CAU ALLAN" Y CHWARELWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"CAU ALLAN" Y CHWAREL- WYR. DRWG genym hysbysu yr wythnos hon eto mai hynod o dywyll yw sefyllfa pethau tua chwarelau Llanberis. Yr oeddid yn credu y buasai y dyryswch hwn yn dyfod i derfyniad boddliaol yr wythnos hon, yn gymaint ag i Mr. Assheton-Smith amlygu ei awydd i gael siarad a'r gweithwyr. Meddylid ei fod wedi cymeryd y mater i'w ddwylaw ei hunan, yn lie ei adael yn nwylaw rhai eraill. Yr oedd pawb yn priodoli yr holl anghydfod a'r aflwydd presenol i ddrwg-deimladau oedd gan y goruchwylwyr tuag atyntj a chredai y gweith- wyr pe buasai efe ei hunan yn rhoddi barn ar y mater; na buasai byth yn gadael i hyn gymeryd 1%. Ar ei arcliiad, ymgyfarfu dirprwyaeth y gweithwyr a Mr. Smith, dydd Llun diweddaf, yn ysgoldy cenedlaethol Llandinorwic. Yr oedd Colonel Wyatt, y prif-oruchwyliwr, hefyd yn bresenol; yn nghyda'r Parch. H. Davies, periglor y plwyf, yr hwn a weithredai fel cyfieithydd. Gorchymynwyd i Dr. Davies, Caernarfon, yr hwn oedd y cyfieithydd rhyngddynt y tro o'r blaen, i sefyll draw. Ond drwg iawn genym ddeall nad oedd gan y boneddwr ddim i'w hysbysu i'w weithwyr, trwy y ddirprwyaeth, ond ei fod mor bender- fynol ag erioed i beidio cydnabod yr Undeb na rhoddi gwaith i Undebwyr. Nid oedd ganddo wrthwynebiad iddynt ffurfio Undeb yn eu plith eu hunain o fewn terfynau ei chwarelau ef, ond yr oedd yn erbyn Undeb eyffredinol fel hwn. A dyna'r cwbl! Yr oedd yn foddlon iddynt wneud undeb iddynt eu hunain; ond un o ameanion blaenaf yr Undeb ydyw i'r naill helpu y llall, y cryf estyn eymhorth i'r gwan, ac fe drefnodd Rhagluniaeth fod i gryfder chwarelwyr fod yn mysg. llanciau dewrion Llanberis, y rhai a fu yn offerynol i sefydlu yr Undeb, a'r rhai sydd ynawr yn gorfodaberthu cryn lawer er ei fwyn J Ceisir eu denu o'r Undeb cyffredinol i'r Undeb bychan lleol a chyfyngol, heb gofio fod cariad brawdol yn rhy nerthol i gael ei garcharu felly. Chwarelwyr Llanberis flaenorodd yn sefydliad yr Undeb, ac wele hwy sydd yn gorfod dyoddef gyntaf o'i herwydd. Y mae y waedd am gymhorth yn awr yn adsain yn fwy nerthol nag erioed at eu cydweithwyr, yn neillduol at eu cydchwarelwyr a'u cyd- undebwyr, oblegid dyma hwy,. er eu bod yn ddigon mewn rhif i wneud Undeb iddynt eu hunain, yn gwrthod gadael yr Undeb cyffredinol er mwyn eu brodyr lleiaf. Cynaliodd y gweithwyr gyfarfod eyhoeddus nos Lun, yn Penllyn, er cael gwybod gan y ddirprwyaeth beth a wnaed. Yr oedd dwy fil o honynt yn bresenol; Mr. R. Parry, is-gadeirydd yr Undeb, yn y gadair Wedi hysbysu i'r cyfarfod benderfyniad Mr. Assheton.Smith, penderfynodd y gweithwyr ymlynu wrth yr undeb, doed a ddelo. Yr oedd y brwdfrydedd a'r unfrydedd mwyaf yn bodoli yn mysg y gweithwyr; ac eto, ni ddywedwyd yn y cyfar- fod, nac yn un eyfarfod sydd wedi cael ei gynal ganddynt, yr un gair cas am na meistr na goruchwyliwr. Y mae eul hymddygiad yn hollol foneddigaidd, ac yn teilyngu y parch a'r eydymdeimlad dyfnaf. Edrychir gyda gofid gan bawb ar y canlyn- iad hwn i'r ymgyfarfyddiad, yn neillduol yn amgylchoedd Llanberis, am y credid bron yn sicr yno fod y boneddwr wedi ei ddarbwyllo, ac y deuid i ryw benderfyniad. ar y cwestiwn. Yr oedd y gweithwyr yn barod i roddi rheolau ( yr undeb i'w diwygio i ddau ddyn-y naill wedi ei ddewis gan y perchenog, a'r Hall ganddynt hwythau; ond nid oes dim a wna y tro gan y boneddwr o'r Vaenol ond hollol wadiad o'r undeb, yr hyn na wna y gweithwyr ar un cyfrif. Yr oedd ugain o chwarelwyr yn gweithio yn y chwarel dydd Llun: ond y mae yr undeb- wyr yn myned ymaith wrth y canoedd, i chwilio am waith, a derbynir hwy yn llawen yn mhob man. Ond y mae yno ganoedd na fedrant symud ymaith o herwydd gwahan- ol amgylchiadau; a bydded i ni, fel cenedl, eu cynorthwyo yn yr ymdrech hon.
CLODDWYR LLANBERIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CLODDWYR LLANBERIS. NID oes dim achos pwysicach yn bresenol gerbron y Cymry nag achos y clodd- wyr yn ardaloedd Llanberis. Bydd canlyniadau yr ymdrech hon ar weithwyr Cymru am oesoedd; a thrychineb ofnadwy i'r wlad fyddai i ymdrechfa bresenol y gweithwyr ffaelu. Nid wyf, oddiar y syniad a ff'urfiais am y dynion tra yn yr ardal, yn meddwl rnewnun modd y ffaelant yn eu cais; ond ni raid iddynt ddiolch am y fudd- ugoliaeth i neb ond i'r sawl a'u cynorthwyo. Gan fed Cristiogogaeth yn pleidio y gweith- iwr gwan yn erbyn y meistr cryf, diau fod yn ddyledswydd arbawb gynorthwyo. Bum yn ymddyddan a rhai brodyr haelionus, ac y maent yn barod iawn i estyn pob cynorthwy a allont. Y dinyg yw-eisieu lie neu berson cyfleus yn mhob ardal i dderbyn cyfroddion, a byddai yn werth i'r Pwyllgor drefnu mewn pryd, a nodi personau felly, a chyboeddi rhestr o honynt. Yn niffyg hyny, onid g"i;ell fyddai i dderbynwyr y newyddiaduron anfon eu rhoddion i swyddfa eu newyddiadur? Dechreued y Dy DD ar y gwaith, a diau genyf y II wyddir yn rhagorol. IOAN PEDn. [Yr ydym wedi amlygu yn fiaenorol eiu parodrwydd i dderbyn rhoddion ewyllyswyr da at yr amcan teilwng uchod, a'u trosglwyddo i Drysorydd y symudiad.—GoL J I
Y FINTAI BATAGONAIDD. •
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y FINTAI BATAGONAIDD. • Y PAKGH. D. S. DAVIES YN FYW. Daeth y "Faner Americanaidd" i law, yn yr hon y mae llythyr oddiwrth y Parch. D. S. Davies ei hun. Gan ei bod yn rhy hwyr i'w roddi i mewn yr wythnos hon, a'r llythyr yn un lied faith, cadwn'ef hyd yr wythnos nesaf; pryd y cyhoeddwn ef yn llawn. Y mae pawb o'r fintai yn iach a diogel-yn galonog yn ngwyneb pob anffawd, ac yn pen- derfynu myned i'r Wladfa yn hytrach na dychwelyd i New York. Gobeithiwn y bydd i'r oraclau fu mor barod i gyhoeddi hanes llongddrylliad yr "Electric Spark," a boddiad y Parch. D. S. Dayies, fod mor foneddigaidd a gwrthdkiweyd hyny yn awr. Rhaid i'r "Drych," druan, fyned i chwilio am ryw resymau eraill yn erbyn y wlad, oblegid yr oedd yn cyhoeddi ei farn yn anffaeledig ar ol boddiad y Parch. D. S. Davies. • 1,
LLOFRUDDIAETH YN CAERDYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOFRUDDIAETH YN CAERDYDD. Cyflawnwyd Llofruddiaeth ysgeler yn Caerdvdd yr wythnos ddiweddaf. Aeth y llofruddiedig, sef gwraig o'r enw Rose Anne Riley, i'w gwely fel arferol nos Wener tuag wyth o'r golch; ond boreu dydd Sadwrn cafwyd hi wedi ei llofruddio gan ei gwr, yr hwn sydd wedi ei draddodi i sefyll ei brawf yn mrawdlys nesaf Morganwg. Dywedir y bydd i'r Senedd gael ei gohirio ar y 6ed o Awst.
'».m "I'"1.i■■ ADDYSG T GBNEDL,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gorfodai y Llywodraeth ef i fy nanfon i'r ysgol," fydd ei ateb. Ac ateb y llall fydd, Yr oedd fy nhad inau yn byw wrth ei enillion ei huh, a gadawyd fi i redeg ar hyd yr heolydd heb gael diwrnod o ysgol." Nid dychymygion ydyw hyn; ond dyna fydd canlyniad naturiol y ddeddf fel ag y mae yn awr. Y mae y bachgen rieu yr eneth sydd heb rimi, neu a chanddynt rieni yn byw ar y plwyf, yn fwy ffortanu9 na phlant y rhieni gweithgar hyny sydd yn ddiofal am addysg eu plant. Yn sicr ni ddylai y pethau hyn fod felly, a rhaid eu newid, a hyny yn fuan.