Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
- Netogfcinott < £ Tgmmg;.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Netogfcinott < £ Tgmmg;. Ar un o ddyddiau cynhes yr wythnos o'r blaen collwyd dau blentyn perthynol i rieni parchus yn Nhowyn. Daeth i glustiau y tad a'r fam eu bod wediinyned yn nghyfeiriad y mor, gyda'r amcan o ymdrochi, ac yr oedd amryw wedi eu gweled yn ymddyosg i'r per- wyl hwnw. Wedi chwilioglan y mor a'r morfeydd gerllaw yn aflwyddianus, cadarn- heid y rbieni trallodus fod eu hanwyliaid bychain wedi eu colli am bytb. Ond yn ffodus nid felly yr ydoedd: yn ddamweiniol, edrychodd un o'r cymydogion i mewn i gut y moch, ac yno y cafwyd y ddau yn cysgu yn drwm. Wedi deffro, mynegent iddynt weled eu tad yn rhedeg tua'r mor, a chan ofn ei gosbedigaeth, iddynt ymguddio yno a syrthio i drwmgwsg. Dirwywyd Mr Evan Timothy, masnachydd, Ceinewydd, a Mr David Thomas Davies, Mydroilin, gau ynadon Aberaeron, am esgeu- luso rhoddi brech y fuwch (cowpox) ar eu plant. Y mae pier newydd wedi ei ddechreu yn Llandudno. Y mae y contract yn £24,000, ac wedi ei dderbyn gan gymerwr o Lundain. Y mae lladrad yn myned yn beth cyffredin yn nghymydogaeth y Wyddgrug. Y dydd o'r blaen torwyd i fasnachdy yn Soughton, ac aed a zC7 o'r cloer. Bu Tanymarian yn darlithio ar Gerddor- iaeth, nos Fercher, yn addoldy Cynulleidfaol Wood St., Caerdydd; ac yr oedd yr elw oddi- wrth y ddarlith i fyned i drysorfa gofFadwr- iaethol y diweddar Barch. Lewis Powell. Y mae Mr. Owen Evans, Broom Hall, wedi anrhegu Eglwys St. Cawdros, Abererch, ag organ newydd, ac wedi tanysgrifio £100 tuag at y ficerdy newydd. Gadawodd gwraig yn Mhorth Dinorwig, o'r enw Elizabeth Hughes, ei chartref tua phymthengnos yn ol heb grybwyll wrth ei gwr. Cymerodd ei dillad gyda hi, gan adael ei plant, tri neu bedwar mewn rhif, yn ngofal ei mam. Y mae bddeutu 30 oed, ac yn edrych yn llawer ieuangach. Y mae ei gwr yn ddyn sobr a diwyd, a phob amser yn enill cyflog da. A beidia hon ag "ewyllysio etifeddu y fendith" pan yn rhy ddiweddatl Llwyddodd pwyllgor Eisteddfod Tregaron ibasio penderfyniader atal reporters y newydd- iaduron i gael myned i mewn i'r Eisteddfod heb dalu. Yr oedd yr Aelod Seneddol dros y Sir, a'r aelod dros y bwrdeisdrefi yn bresen- 01; a chredir iddynt allu darbwyllo y pwyll- fjPf eu bod wedi camgymeryd, ond nid cyn ei bod yn rhy ddiweddar i gael gwasanaeth y reporters. Yn Mrawdlys Chwarterol Meirionydd, yn Dolgellau, yr wythnos ddiwedaf, cyhuddid Evan Evans, railway porter, o ladrata poteli o druc. Tyngai detective iddo ddal y dyn ar y weithred o ladrata; pnd eto traddododd ei ddadleuydd anerchiad nor gywrain ac athry- lithgar, fel y rhyddhawyd ef! Yn Nghymanfa lfynyddol y Trefnyddion Calfinaidd yn Abertawe, cyhoeddwyd amryw ystadegau yn rhoddi golwg ar gynydd a safle yr enwad yn ystod y flwyddyn a basiodd. Yr oedd cynydd yr aelodau yn 5,167; a chyfan- swm yr arian a dderbyniwyd at bob achos yn £ 154,043; 17s.; cynydd o £3,009 12s. 9c. ar gyfanswm y flwyddyn flaenoroL Yr oedd yr enwad wedi cynyddu 10,000 yn nifer ei aelodau yn ystod y ddwy flynedd. Cynaliwyd 1,405 o drengholiadau yn rhaubarth gogleddol Morganwg yn ystod y pum' mlynedd diweddaf-409 mewn canlyn- iad i farwolaethau mewn glofeydd, 147 oblegid damweiniau ar y rheilffyrdd. Yr oedd y pellder a deithiwyd i gynal y treng- holiadau yn 21,000 o filldiroedd. Boddodd William B. Baldwin, mab i fasnachydd haiarn yn Nghaerfyrddin, yn afon Towi, yr wythnos ddiweddaf, tra yn ym- drochi. Y mae y twr coffadwriaethol yn Machyn- lleth eto wedi ei adael gan yr adeiladydd; ac y mae yr ychydig sydd yn ol heb ei orphen wedi ei ohirio oblegid rhyw achos anesboniad- wy. Y mae y deialau wedi eu gosod i fyny, ond nid yw yr awrlais tu cefn iddynt. Y mae y Parch Edward Lewis Lloyd, curad Wrexham, wedi ei drwyddedu i gurad- aeth St. Mary, Bangor; a'r Parch. David Jones, Llansadwrn, i guradaeth Pentir, Bangor. Deallwn fod y Parch. W. Williams, Borth, wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth eglwys Annibynol Maentwrog ac Utica, a'i a fod yn bwriadu ymsefydlu yno.
LLANFACHRETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANFACHRETH. Darlith.—Traddodwyd darlith yn Siloh nos Wener diweddaf, ar "Martin Luther a'i amser- au," gan y Parch. W. Rees, D.D., Caer. Cadeirydd, y Parch. R. Thomas, Brithdir. Cawsom un o'r darlithiau goreu a glywsom er- ioed. Oadwodd y darlithydd y gynulleidfa i wrando yn astud am ddwy awr a chwarter. Yr oedd yr elw yn myned at ddiddyledu y capel newydd. Gwyl flynyddol y Gymdeithas Gyfeillgar.—Cy- naliodd y gymdeithas uchod ei gwyl flynyddol dydd Llun diweddaf. Gorymdeithiasant drwy y pentref, yn cael eu blaenori gan y Llanfach- reth Brass Band. Ac ar ol bod yn yr eglwys aethant i'r Blue Lion i giniawa. Yn yr hwyr, aethant i Nannau, a rhoddodd J. Vaughan, Ysw., de iddynt hwy a'r Band. Deallwn mai myned yn mlaen a ddarfu'r gymdeithas yn ys- tod y flwyddyn ddiweddaf. Cyfarfod llenyddol y Temlwyr Da.—Cynaliwyd y cyfarfod uchod nos Lun. Llywydd, Mr. D. Jones, goruchwyliwr chwarel W. Griffith, Ysw., Glyn. Enillwyd am adrodd ac ateb gan Mr. W. Thomas, Tyisaf. Enillwyd am y "Casgliad cyflawnaf o ymadroddion ysgrythyrol yn erbyn y ddiod feddwol," gan D. Evans, ieu., Llan. Am y traethawd goreu ar "Y pwysigrwydd i famau ddwyn eu plant i fyny yn Nazareaid," gan Miss J. Price, Corsygarnedd. Am y traeth- awd goreu ar "Y pwysigrwydd o iawn ddefnydd- io, a'r perygl o gamddefnyddio arian," gan Mr. R. Price, Friog, ail, Mr. W. Williams, Bryn- coch. Dadganwwyd yn ystod y cyfarfod gan y Band, Mr. L. Evans, ac eraill.—CYMRO.
ARTHOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARTHOG. Cynaliodd yr Annibynwyr yn y lie uchod eu cyfarfod pregethu ar y Mercher a lau, Mehefin 21 a'r 22ain, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Miles, Aberystwyth; Probert, Portmad- og; a Stephen, Tanymarian. Cafodd y brodyr hwyl neillduol i draddodi gwirioneddau yr efengyl. Dechreuwyd y gwahanoloedfaon gan y Parchn. Evans, Samah; Stephen, Tanymarian; Parry, Bethania; a Jones, Abermaw. Cafwyd hin ddymunol dydd Iau, fel y cynaliwyd yr oedfaon ar y maea; pe amgen, buasai raid myned i gapel y Methodistiaid, a diolchwyd yn gynes iddynt am eu paroirwydd yn ei ganiatau.—GOHBB.
LLANDEGLA-YN-IAL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANDEGLA-YN-IAL. Yr oedd dydd Gwener, Mehefin 23ain, yn ddi- wrnod pwysig iawn yn Llandegla-yn-Ial. Yn y boreu, yr ydoedd y ffair, ac yn y prydnawn a'r hwyr, cynaliwyd "Eisteddfod Fawreddog" (?) o dan lywyddiaeth Mr. Thomas Roberts, Peny- bryn. Yr oedd y babell yn orlawn o bobl. Y goreu ar y prifdraethawd "Ial, ei hynodion, a'i enwogion," ydoedd y Parch. S. Evans, gwein- idog yr Annibynwyr yn Llandegla. Y goreu ar y Bryddest ar "Paul yn ynys Melita," ydoedd Mr. Benjamin Davies (Myfyr Clwyd). Cor Broughton, o dan arweiniad Mr. Seth Roberts, Brymbo, a gafodd y wobr am ganu "Worthy is the Lamb." Yr oedd ynbresenol yn yr Eistedd- fod lolo Trefaldwyn, Eos Bradwen, Ehedydd Ial, Llew Llwyfo, Alaw Maelor, Eos Brymbo, Rhodwy, R. Mills, Wrexham, R. Lewis, Coed- poeth, Wood, Corwen, ac eraill.
BWLCHGWYN, GER WREXHAM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BWLCHGWYN, GER WREXHAM. Cynaliodd eglwys Nebo, addoldy yr Annibyn- wyr, eu cyfarfod blynyddol ar y dyddiau Sul a Llun, Mehefin 11, 12fed, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. R. M. Thomas, Rhesycae; P. Howell, Ffestiniog; J. Roberts, Brymbo; a J. Roberts, Conwy. Cafwyd cyfar- fod lluosog, a gwir ddymunol,|y gwirioneddau yn disgyn fel "gwlith-wlaw ar y gynulleidfa," ac arwyddion amlwg fod "Ysbryd Dnw." yn cario y genadwri i galon y bobl. A'n gobaith yw, fod y saethau a anfonwyd yn ddigon llympn i lynu yn nghalonau gelynion y Brenin; a Duw o'i ras a'i fawr drugaredd a fendithio lafur ei weis- ion, ac a chwanego beunydd at ei eglwys o rai a fyddont. gadwedig. Rhyfedcl fel y mae troadau yn nhrefn Rhag- luniaeth yn cyfnewid, ac yn sobreiddio dynion, felly y mae yn yr ardal hon, h.y., trwy ym- ddangosiad y clefyd sydd yma er's rhai wythnos- au bellach. Y mae amryw wedi eu cymeryd i ffwrdd, a Iluaws eraill yn gorwedd yn garchar- orion yn ei afaelion. Nid ydys yn gwybod yn iawn pa glefyd ydyw; dywed rhai mai Slow Fever, eraill mai y Typhoid, ac hefyd y Gastric Femr. Ond beth bynag am ei enw, y mae ei eftèithiau yn ddifrifol, effeithia ar yr ymenydd, gan beri dyryswch yn y synwyrau, a dyga wendid anarferol. Ceisia rhai o'r medd- ygon roddi bai ar y dwfr. Ond os yn hyny y mae yr achos o hono, gallwn i dybio y buasai llawer o honom yn farwolion diymwared er's blynyddau lawer; oblegid gallaf dystiolaethu i mi fy hun ddrachtio afon o hono yn awr er's tair ar hugain o flynyddoedd. Ond fel yn mhob achos o dywyllwch, rhaid rhoddi y bai ar ryw- beth. Terfynaf ar hyn gyda chofion serchog at Ephraim a Lowri Llwyd, gyda dymuno hir oea iddynt; a diolch i ti, Ephraim, am dy fod a'th lygaid yn agored i weled yr hyn ydwyt, ac ym- wneud a phethau mor angenrheidiol. Minera. G ION AWR.
FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFESTINIOG. Nos Lun, y 26ain o'r mis diweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Llan, o dan lywyddiaeth Mr. D. Llewelyn Lloyd, U. H., Plasmeini, i areithio o blaid cau y tafarnau ar y Sabbath, prjd yr areithiodd y Parchn. R. Parry, D. Marriott, R. Killin, Z. Mather, H. Williams, Jones, curate, &c., a chafwyd anerchiadau gwerthfawr, a phasiwyd deisebu y gymydogaeth yn llwyr fel y byddo iddynt gael barn pob gwr. Ac er cymaint ydyw yr areithio sydd yn erbyn meddwdod, y mae yn syn gweled cymaint o dan effeithiau y ddiod feddwol; ac fel y mae mwyaf cywilyddus dweyd fod yr arferiad melldigedig hwn yn cynyddu yn ein hardal. Nos Wener, y 30ain cyfisol, cynaliwyd cyng- herdd yn yr Assembly Room, Blaenau, o dau lywyddiaeth Mr. A. Roberts, Cwmorthin, o dan arweiniad Mr. Griffiths (Gutyn Ebrill). Cy- merwyd rhan ynddo gan Mrr. Maigge Jones Williams, Llinos Alwen, Alaw Dewi, Eos Tud- ur, Eos Moelwyn, O. R. Owen, Accompanist, Mr. R. R. Owen, a gwasahaethoddyGwaenydd Brass Band yn deilwng o honynt eu hunain a chafwyd anerchiad barddonol gan loan Gwyn- gyll, ond yr oedd yr hen gyfaill heb ei ddysgu, acfelly, nid oedd gwreafyriddo gam ei fod mor annyben yn dyfod allan. Yr elw at gynorthwyo Llinos Alwen, i fyned i'r Athrofa Gerddorol Boreu dydd Gwener, yn chwarel Rhiwbryfdir, cyfarfyddodd gwr ieuanc o Sais, o'r enw David Osborne, a damwain trwy ei ryfyg yn croesi un or waliau oedd yn y level y byddai yn arfer myned trwyddi, a'r canlyniad fu iddo syrthio i ddyfnder mawr.—GLAN BAIILWYD. • Y.-¥r oedd ychydig wallau yn y pwt ys- grit a ymddangosodd yr wythnos o'r blaen gen- yf, mewn perthynas i oedran, dylasai fod yn 30, f 1U? oec*- Safon y cyflog y dyddiau hyn iei y dyddiau blaenorol ydyw £ 2 yr wythnos, a chwi a welwch fod deng mlynedd yn gryn lawer at einioes dyn i wneud i fyny ei hapusrwydd yn y byd bach chwarelyddol yma.—G. B.
ILLWYNGWRIL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLWYNGWRIL. Dydd Llan, Mehefin 26ain, anrhegwyd plant perthynol i Ysgol y Bwrdd yn y lie uchod a gwledd