Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
-----=---Y CYNWYSIAD. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
--=- Y CYNWYSIAD. Yr Wythnos 1 Y Times a'r Weinycldiaoth 2 Cymdeithan Genadol Llundain 2 Cynghra;r Rhyddfrydol Gogledd Cymru 2 Eisteddfod Gadeiriol Abermaw B Manion 0 Pigott, yr hunanleiddiad 3 O Ben y Garnedd 4 Cynghor Sirol Meiricra 4 Marwolaeth Captain John Evans 5 Dolgellau ••• fj Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 5 Garddwriaeth 6 Llith o'r Debeudir 6 YWasg 7 Gohebiaeth 7 Y Senedd Ymerodrol. 7 Y BrifErtbygl 8 Manceinion 10 Hermon, Llanfachreth 10 Barddoniaeth 11 Hysbysiadau .12,16
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE Pigott, y ffugiwr a'r archdwyll- wr, wedi rhoddi terfyn ar ei hoedl ddydd f Gwener diweddaf yn y gwesty lie y rhoddai i fyny yn Madrid, prifddinas Ysbaen. Ond nid ydyw yn debvg y bydd i'w achos farw gydrf'i drancedigaeth. Arferai yr enw Holand Ponsonby, ac yr oedd yr initials felly yn cyfateb i'r rhai oedd ar ei ddillad. Wedi cyrhaedd Madrid aeth oddiamgylch gyda'i gyfieithydd i daflu cipdrem dros olygfeydd y ddinas. Pell ebrodd prydnawn dydd Iau i LundMn am arian, ac ar ol deall bore Gwener na ddaeth atebiad i'w bellebyr, daeth yn dra anes- mwyth; a phan ddaeth arolygydd yr lieddgeidwaid i'w ystafell, gofynodd am goniatad i estyn ei bet, ymaflodd yn ei lawddryll, a saethodd ei hun yn falw. Cafwyd yn ei logellau, yn mblith ysgrifau eraill, fath o gyffes ychwane(loI, cvfeiried- ig at Mr. Labouchere, gydag amlygiad o ofid, a dymuniad i adgyweirio y cam mor bell ag yr oedd yn bosibl.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNALIWYO cynadledd o'r arweinwyr Rhyddfrydol ddydd Sadwrn i ystyried yr helyntion preseDol, a'r cwrs a ddylid ei fabwysiadu tuag at y Llywodraeth. Credir ddarfod iddyut drefnu fod unrhyw estyn- iad diangenrhaid ar y ddadl ar yr Anerchiad i gael ei ochel. Na fyddai i aelodau mainc flaenaf yr Wrthblaid, o leiaf, gymeryd unrhyw ran bellach yn y ddadl. Tra yn barod i gydsynio ag unrhyw gvnllun ystyriol er ychwanegu ein harfog- edigaeth lyngesol, y bydd i'r cynygion a ddygir yn mlaen yn fuan gan Arglwydd George Hamilton gael eu hystyried yn ofalus, ae os yn angeurheidiol, eubeirniadu a'u gwrthwynebu.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YN Nhy y Cyffredin nos Wener, pan oedd y cwestiynau bron wedi gorphen, 13 gwynebau pawb yn dechreu troi at Mr. Gladstone, clywid twrf oddeutu y drws, a darganfyddwyd Dr. Tanner yn ymwthio i fewn yn ei ddull digrifol arferol. Mor fuan ag yr adnabyddwyd ef, esgynodd bloeddi^dau uchel oddiwrth yr Wrthblaid, a syrthiai rhai aelodau i lewygfeydd 0 chwerthin dilywodraeth -wrth ganfod y fuddugoliaeth ddierrifol hon ar awdurdod Balfour. Tynwyd sylw y Prif Ysgrifenvdd gan y twrw, trodd ei ben, a gwelai y dyn ddylasai, yn ol ei gyfarwyddiadau ef, fod yn y carchar er's hir amser, ac ymdaenodd gwen glafaidd dros ei wyneblryd, a throdi ei ben draw, gan benderfynu peidio cymeryd sylwpellach o'rolygfa. Edrychai yr hen wron mewn iechyd campus, ac yr oedd yn naturiol ddigon mewn ysbrydoedd ucbel.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMERWYD Dr. Tanner yn garcharor yn I fuan ar ol haner nos bore ddydd Sadwrn. Canlynwyd ef gan heddgeidwaid o Dy j Cyffredin ar ol v rhaniad nos Wener i'r Westminster Palace Hotel. Cymerwyd ef i orsaf yr heddgeidwaid yn WbitBhall- place, ac yn fuan ar ol chwech o'r gloch gyrwyd ef i Euston, ar ei daith i Clonmel, drwy Gaergybi. Ar ol cyrhaedd Clonmel, dygwyd Dr. Tanner o flaen yr ynadon, a gorchymynwyd ei anfon yn ol i garchar. Gwrthodwyd meichiau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ATEBODD Syr William Harcourt, wrth anerch ei etholwyr yn Derby yr wythnos o'r blaen, her Mr. Chamberlain pan ar ei hynt undebol yn Scotland, yn ei gyfeiriad at gynadledd y Bwrdd Crwn. Mewn llythyr at Mr. John Morley, Ionawr 17eg, 1887, dywedai Syr William Haicourt, ar ol dadl k Mr. Chamberlain ar y pwyntiau angliytunol ar y pryd, nad oedd yn aros ond dwy gneuen galed i'w cracio—presen- oldeb yr aelodau Gwyddelig v u Westmin- ster, a meini tiamgwydd Ulster. Yr oedd y materion hyn, nid oes amheuaeth, yn anhawdd, ond uad oedd ef yn meddwl eu bod yn annatodadwy. Dywedai Syr William na thorwyd y gynadledd i fyny oblegid unrhyw wahaniaeth mewn egwyddor, nac hyd yn nod oblegid unrhyw wahaniaeth mewn many lion. Ni thorwj d hi i fyny am fod Mr. Gladstone neu ei gynrycbiolwyr yn anewyllysgar i ddyfod i 9 1 ddealltwriaeth. Daeth i'r pen yn syml am na3 gallent dderbyn y gosodiad y dylai Mr. Chamberlain barhau i ymosod ar Mr. Gladstone tra y n cario yn mlaen gynadledd gyfeillgar o berthynas i wahaniaethau. Dyna y gath o'r cwd—eisieu bod yn ben sydd ar Joe.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR wytbnos ddiweddaf, bu Arglwydd Salisbury y n siarad yn nghiniaw blynyddol y Chamber of Commerce. Llundain. Dywedai fed yn llawen ganddo, nid yn uni<r fel dinesydd a gwladgarwr, ond fel aelod o'r Llywodraeth, i weled arwyddion digamsynioJ 0 fywiogrwydd masnach. Yr oe ld gwledydd tramor, wrth gynadleddu yn nghylch cytundebau trafnidiol, yn gweithredu yn ol awyddfryd neu ofnau y cyfryw yr oeddynt yn d3lio a hwy. Ond yr oedd genym ychydig dollau ag y gallem eu gostwng, ac nid oedd y wladwriaeth farchnadol yn dymuno i ychwaneg gael eu harosod. Mynai ei Arglwyddiaeth fod ein mrsnach yn cynyddu yn gyflymach nag eiddo unrhyw wlad arall, ac yr oedd y Lly wodraeth yn ailbrofi ei thollau er amddiffyn ein trafnidiaeth gynyddol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DA genym ganfod fod y diweddar Mr. J. Kylands o Manchester, yn ei ewyllys diweddaf, wedi cofio am gynifer o sefydl- iadau daionus eiri gwlad. Gadawodd i Gymdeithas y Traethodau Crefddol 10,000p.; i Goleg y Bedyddwyr yn Hegents Park, 10,000p. i Gymdeithas Adeiladu AnlJibvlIw vr siroedd Caer a Lancaster, 10 OOOp. Ni anghofiodd Mr. Rylands ein gwlad fechan ninau, oblegid ceir ei fod wedi gadael 5,000p. i Athrofa yr Annibyn- wyr yn y Bala, yr hyn yn sicr fydd yn godiad pen i'r sefydliad ar lanau y Tegid. Y mae ryfanswm rhoddion Mr. Rylands at wahanol sefydiiad-tu crefyddol a dyn- garol yn cyrhaedd y swm aruthrol o 162,000p. Cyrhaeddai ei eiddo 2,573,922p. -dros ddwy filiwn a haner.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YN ail gyfarfod Cynghor Sirol Meirion, a gynaliwyd yn y Bala y dydd olaf o'r mis diweddaf, cynvgiodd Mr. Price, Rhiwlas, fod Mr. Pope i fod yngadeirydd y Cynghor yu y dvfodol, a chefnogwyd ef gan Mr, Wynne o Beniarth. Ond oblegid amryw res m«u safads\y. cynygiodd Mr M. D. Jones, Bala, fod Dr. Edward Jones, Dol- gpllau, i fod yn ga/leirydd y Cynghor, a chefnogwvd ef g -n Dr. Humphreys, Traws- fynydd. Amlygodd Mr. Pope i'r gyfarfod nad oedd et yn dymuno y swydd, ac fel dyn doeth, dymunodd ar Mr. Price dynu ei enw ef yn ol, am nad ystvriai ei hun yn feddianol ar rai o'r cymbwysderau ang- enrheidiol i fod yn gadeirydd Cynghor Sirol Cymreig. Yr oedd yn dda genym ganfod yr ysbryd boneddigaidd oedd yn llywodraethu y boneddwr urddasol hwu o dan yr amgylohiadau.