Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y TIMES A'R WEINYDDIAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TIMES A'R WEINYDDIAETH. MAE twyll llythyrau ffugiol y Times yn hysbys i'r boll fyd; ac er fod y golygydd mewn priferthygl ddydd Iau wedi gwoeud math o esgusawd dros y budrwaith y mae wedi gyflawni er ys cymaint o amser,— pan y mae ei weithredoedd wedi myned yn gywilydd y gwledydd,-nid ei sefyllfa euog a gwarthus ydyw y petli mwyaf dif- rifol i'r wlad yn gyflfredin, ond y cysylltiad diamheuol sydd rhwng y weinyddueth bresenol a'r newyddiadur, ac fod holl gy, mhorth y Llywodraeth wedi bod wrth gefn y rhai sydd wedi bod yn llunio y cyhuddiadau budron a disail yn erbyn Mr Parnell a'i gyfeillion. Mae y cysylltiad i'w ganfod o'r dechreu hyd yn bresenol. Yr oedd anudon Pigott yn berffaith eglur er dydd Gwener, Chwefror 22ain, ond ni ehafwyd yr arwydd Ileiaf o hyny yn y Times hyd y dydd Iau canlynol, pan dyn- wyd allan hvsbysiadau am y llythyrau oedd yn priodoli cysylltiad Mr Parnell a'r llofruddion, ac hefyd y tynwyd y pamphledau oddiar holl Bookstalls Mr W. H. Smith trwy y deyrnas; efe ydyw prif arglwydd y trysorlys, ac arweinydd Ty y Cyffredin. Cyhoeddwyd y llythyrau byth- gofiadwy am Mr Parnell ar y 18fid o Ebrill, 1887, a'r noson hono yr oedd y Ty yn ymranu ar Fesur Gorfodaeth yn yr Iwerddon, ac yn ddiamheu bu yr anfad- y waith yn help neillduol i'r Weinyddiaeth i basio y mesur. Mae fod holl adnoddau a swyddogion y Llywodraeth wrth law y Times yn yr holl ymdrafodaeth yn wyb- r y y yddus i'r byd—o'r Twrne Cyffredinol i'r ] heddgeidwad distadlaf,o'r Alpha i'rOmega a phob llythyren rhyngddynt, mor bell ag y gallai swyddogion y llywodraeth fod o ryw help. Ac nid yw yr hyn sydd eto wedi d'od allan yn y llys ond megys gwawr yn tori ac yn taflu goleuni ar un o'r brad- gyniluniau duaf a welodd y ganrif hon, ac OY nid oedd Syr William, Harcourt ond rhoi lleferydd i'r hyn mae yr holl wlad yn deimlo pan yn areithio yn Derby, ac yn dweyd fod y cynllwynwyr hab d'od eto i'r golwg. Er mai Pigott, a Pigctt, sydd 0 9 yn ngenau pawb, nid ydyw yr adyn cel- wyddog hwn ond rhyw dusw yn nwylaw y prif chwareuwyr. Nid teg ydyw barnu yr achos tra y mae etc o flaen y llys; ond mae tystiolaethau Soames, Macdonald, Houston, ac eraill, yn eicldo i'r cyhoedd ac i'r byd cyfan. Mae perchenog, golyg ydd, aroLygydd,cyfreithiwr, ac ysgrifenwyr y Times -prif newyddiadur y byd, yn ol- ygfa i ddynion ac angylion. Sibrydir rnai y wobr fawr am ddinystrio Parnell a'i blaid oedd sedd.yn Nhy yr Arglwyddi, ac y buasai John Walter cyn yr aethai y Weinyddiaeth hon allan yn eistedd yn ochr Mr W. H. Smith y papyrau newydd- ion-dau hen gyfaill gyda'u giJydd. Os dyna yr afal oedd wedi ei lygddu, mae wedi myned o'i gyrhaedd. Gallesid medd- wl ei fod et a'i holl gwmpeini wedi bod yn astudio ac yn chwilio am gynllun ilwydd- iant ac uchelgais yn hanes Titus Oates, a chynllwynionllys llygredigCharles yr Ail. Wedi i Mr Pigott ddeall pa fath drys- orau oedd Mr Walter a'i gyfeillion yn brisio, bu yn cloddio yn ddiwyd drwy 1886, a chyn diwedd y flwyddyn mae yn darganfod y llythyrau ffugiol hynod-mor weIthfdwr fely rhoddodd y Times £ 1780 ,d > r am yr un ar ddeg cyntaf; ac er fod v rhai hyn yn eu meddiant er ys misoedd, ar y 18fed o Ebrill, 1887,cyn rhanu ar y mesur Gwyddelig, y cyhoeddwyd y gwaethaf, er cynorthwyo y Weinyddiaeth. Cyfaddef- odd Macdonald, arolygydd y papyr, hyn o flaen y llys yr wytbnos o'r blaen, ei fod wedi ei gyhoeddi yn bwrpasol y diwrnod hwnw. Mae y cysylltiad yn ami vg at hyd y drafodaeth, ac mae fod y fath ddym- chweliad wedi goddiweddyd y limes yn ergyd anadferadwy i'r weinyddiaeth bres- enol. Mae fod yr ^Ctholiadau Sirol wedi troi mewn llawer o leoedd yn Lloegr yn erbyn y Llywodraeth yn arwydd sicr nad ydyw ei dymchweliad ond mater o amser, a hyny heb fod yn faith. Mae etholiadau lleoedd fel Rossendale yn rhybudd clir i Arglwydd Hartington moreglur a'r ysgrif.. en ar y pared, ac mewn llythyrenau dys- y glaer, lod eu hegwyddorion wedi cael eu pwyso yn y clorianau, a'u cael yn brin. Mae cymylau yn ymgasglu o'u hamgylch er's amser—creulondeb gweinyddiad y gyfraith yn yr Iwerddon, a r dull y baeddir Aelodau Seneddol, fel y mae yn amlwg fod eu dymchweliad yn agosbau er ys amser. Ond mae y dadlenu sydd wedi bod yn y llysfy Special Commission) ar y dirgel bethau sydd wedi bod yn cael eu cario yn mlaen wedipenderfynueu tynged, a gellir dweyd am y weinyddiaeth,y rhodd- ir y frenhiniaeth i arall; ac wrth brif-ber- chenog y Times, sydd yn awr yn hen a phlentynaidd, — 'Yr aeron a chwenych- odd dy enaid a aethant ymaith oddi- wrthyt.'

OYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.

' CYNGHRAIR RHYDDFRYDOL GOGLEDDCYMRU.