Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y TEMLWYH DA YN ABERDARE.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TEMLWYH DA YN ABERDARE. Yr wythnos cyn y ddiweddaf ymgyfarfyddodd yr Uwch Demi Gymreig yn y lie uchod i gynnal ei chweclied eisteddiad blynyddol. Cynnaliwyd yr eisteddiadau yn y Calfaria Hall, yr hon oedd wedi iiaddwrno yn ddestlus iawn gan Mrs. Williams, Miss Williams, Miss Mason, a Miss Trcharne. Yn mysg llawer eraill, yr oedd yn bresenol y Parchn. Morris Morgan, U.D.B.D., Aberdare; D. Young, eto W. James, eto; D. G. Evans, Pcnrhyn- deudraeth D. Jones, Cwmbwrla R. Killer, Maen- twrog Rectory; Thomas Rees, Merthyr; J.Morris, Llangollen; D. D. Davies, Pwllheli; Mri. Malins, U.D B.D., Uwch Demi Lloegr a W.D.U. Ysg. Wir Uwcli Demi y Byd; L. Daniel, U.D.B.D., Uwch Deml Seisonig Cymru Plenydd E. B. Williams, Aberdare; Delta R. Davies, eto; 0. N. Jones; Captain G. B. Thomas Roberts, Festiniog; Rowlands, eto; W. Rees, Pontypridd Thomas Samuel, Aberystwyth Evan Morgan, eto; Miss Lewis, Swansea, &c., &0. Etholwyd y brodyr canlynol i'r gwahanol swyddi yn yr Uwch Demi am y flwyddyn dvfodol: U.D.B.D., Parch Morris Morgan, Aberdare U.D.I.D., Parch. D. Young, Aberdare; U.D.G., Plenydd, Four Crosses A.C. y Plant, Parch. D. E. Davies, Lithfaen U.D. Ysg., Mr. E. B. Williams, Aberdare; U.D.D., Capt. G. B. Thomas, Carnarfon U.D. Gap., Parch. Thomas Roes, Merthyr; U.D.R., Parch J. Morris, Llangollen. Rhoddwyd cymeradwyaeth unfrydol i ymddyg- iadau y Parch. M. Morgan a Captain Thomas fel cynnrychiolwyr Prydeinig ar y cwestiwn negroaidd. Eohoiwyd y brodyr canlynol i fod yn gynnrychiol- yr i Wir Uwch Demi y Byd, yr hon a gynnelir yn Glasgow:—Parchn. Thomas Rees, Merthyr; David Young, Aberdare; J. R. Hughes, Anglesey; a Mr II. J. Wiiiiams (Plenydd). Darllenwyd amrai bapjTau gwir alluog ar wahanol bynciau, y rhai y bwriedir eu hargraffu. Oddeutu dau o'r gloch, dydd Iau, ffurfiwvd yn or- ymdaith. Cychwynwyd. yn Calfaria Hall i lawr i Aberaman, yn ol drwy brif heolydd y dref, i fyny hyd at y Park, ac yn ol drachefn i'r Hall. Lies i galon dyn oedd gweled cynifer wedi ymrestru dan faner sobrwydd. Mac sobrwydd yn deilwng o bob cefnogaeth,— Ni welodd daearen angyles mor glaerwen Ac addien, is wybren, a sobrwydd." Yr oedd y cyfarfodydd cyhoeddus fel y canlyn :— Nos Lun, yn Seion (W), llefarwyd yn hwyliog a gwresog gan Capt. Thomas, Parchn. D. G. Evans, D. Jones, a Mr Roberts, Ffestiniog. Delta oedd yn llywyddu. Nos Fawrth, yn Bethania, (M.C.) dan lywyddiaeth y Parch. W. James, siaradwyd yn rymus ac effeithiol gan Mr M. F. Wynne, D. E. Davies, Mr Rowlands, Plenydd, a'r Parch. J. Morris. Nos lau, yn Siloa (A), cymerwyd y gadair gan y Parch. Morris Morgan, U.D.B.D. Darllenwyd a gweddiwyd gan Delta. Wedi araeth gan y Llywydd, galwyd ar Dr. Davies, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o Llydaw, i "elclywcycl gair'" Cydsyniodd yntau. Cavfsom araeth synwyrlawn a phwrpasol ganddo. Ar ei, ol siaradodd Mr Malins a'r Parch. Mr Evans, Merthyr, yn Saesoneg, a Plenydd yn Nghymraeg. Cyfarfod da iawn oedd hwn. Hyderwn y gody ym- weliad y llu banerog ei ddylanwad ar Aberdare a'r cylchoedd. 0 brysied y dydd y bydd dewrion dirwest wedi ymlid eu gelynion o'r tir,—banerau sob- rwydd yn ymchwyfio uwch ben ein gwlad; yna y daw haul llwyddiant i ymddangos,—gwasgerir caddug ty- lodi a thrueni, a daw bloclau cysur a dedwyddweh i wenu ar bob aelwyd. D.

-.-----------.-NEWYN YN CHINA.

BETH MAE Y LLYWODRAETH YN…

BETH YDYW YR ACIIOS O'R NEWYN…

AI CYFIAWN HYN?

GOHEBIAETH 0 LYDAW.

NEWYN ALAETHUS

BWYTEIR UNRIIYW BETH I DOlU…

-fJdgatt rr § el I ar ^os.…