Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gresyn fod y talentog a'r cywir JOlIN BRIGHT wedi methu gweled ei ffordd yn glir i gefnogi y diweddar Brifweinidog. Ond cofier nad oedd Mr BRIGHT yn peidio gwnenthnr hyny am fod ganddo y mesur lleiaf o gydymdeimlad gyda golygiadau ac amcanion y "VVeinyddiaeth bre- senol. Yr oedd mor hell oddiwrth hyny ag yw y dwyrnin oddiwrth y gorllewin. Os nad yw yr aelod athrvlithgar dros Birmingham am i Loegr uno gydag Ewrop i gau ei dwrn a bygwth y Twrc, os na bydd iddo ymddwyn yn well rhag- llaw, yn sicr ni bydd iddo ymuno'gyda y blaid sydd yn bloeddio i'r gad, ac yn barod i ymar- fogi er diogeln gorseddllofruddion ac yspeilwyr anwaraidd. Na, nis gall y gonest JOHN BRIGHT yrriuno yn y fath anfadwaith gyda gelynion cydraddoldeb crefyddol, a chefnogwyr y fas- nacli sydd yn llanw carcliarau a thlotai ein gwlad. Eithr nid yw y diwedd etc. Rhaid gwylio yn barhaus ar symudiadau y Weinyddiaeth bresen- ol, neu arweinir ni i ryfel. TIawddyw i ddynion o ysbryd Arglwydd BEACONSITELD gyfodi cri, a chael eraill i uno gydag ef yn y cri, a bloeddio, Buddianau Prydeinig "Buddianan Pryd- einig!" Dylid cofio dau beth pan glywir y llefau hyn. Dylid cofio fod buddianau mwy cysegredig na "Buddianau Prydeinig," sef hitJdutrum dynoliaeth. Cyfodwyd y cri hwn yn erbyn rhyddhau y caethion gynt; ond profodd buddianau dynoliaeth yn drech nag ef, ac mewn canlyniad mae cadwynau y caethion wedi eu dryllio. Peth arall ddylid gofio ydyw fod mwy nag un ffordd i ofalu am fuddianau Prydeinig. Pa fuddianau Prydeinig a ddiogelodd Rhyfel y Crimea ? Un peth sydd eithaf sicr diogelodd feddau i filoedd o'n cydwladwyr gwrol mewn gwlad estronol, ac ychwanegodd gannoedd o filiynau at ddyledion ein gwlad. Yr ydym yn llongyfarch y blaid Ryddfrydol am ei gwaith yn sefyll yn bybyr yn erbyn gwleidiadaeth dramor y Weinyddiaeth bresenol.

A YDYW Y WEINYDDIAETH YN DEILWNG…

[No title]

--------..-.---Y RHYFEL.

-----ETHOLIAD TREFALDWYN.

"'"-''-'''''''"",..,."""r..-"-'...-.ar;...,.""…