Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

ERLID AM BREGETHU YR EFENGYL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ERLID AM BREGETHU YR EFENGYL YN RICHMOND. Dywedai Mr H. A. Smith, M.A., y dydd o'r blaen, tra yn siarad mewn cyfarfod cenadol yn Exeter Hall, ei fod yn edrych ar sefyllfa foesol a chrefyddol Llundain fel y testun truenusaf ar y ddaear i fyfyrio arno. It is," meddai, "only with a strong figure of speech that we can call it a Christian city, yet it is so called, and thereby the name of Christ and the religion of the cross is dishonoured." Caiff yr hyn a ganlyn brofi i'r darllenydd pa mor bell y mae geiriau y dysg- awdwr ieuanc yn wirionedd. Mae wedi bod yn arferiad gan efrydwyr Coleg Wesleyaidd Richmond (un o suburbs Llundain) or's, rhai blynyddau bellach i bregethu bob Sabbath yn yr awyr ago red mewn rhan o'r dref uchod a olwir y Terrace. Mae y Terrace hwn yn gyfansoddedig o ryw bymtheg neu ugain o breswylfeydd boneddigion, heibio gwyneb y rhai y mae y bi-if-ffordd yn rhedeg o Richmond Hill i Richmond Park; ar y tu dehau i'r heol drachefn wrth fyned i fyny, yn union gyferbyn a'r Terrace yma, mae yna dramwyfa yn cydredeg- a'r heol, ar hyd yr hon y mae meinciau wedi eu gosod gan y Llywodraeth, d?.n gysgodion y cangan gwyrdd sydd yn cofleidio eu gilydd uwchben. Dywedir, oddiar "good authority," mai oddiar y fan yma y gellir canfod yr olygfa brydferthaf yn Mhrydain Fawr. Gellir gweled arian-donan y Tafwys yn golchi traed y dolydd mwyaf dymunol a fErwythlawn am filldiro'edd o frordd. Draw yn y pellder y mac Wind- sor Castle, fel rhyw bentraf gwyngalehog Cymreig, yn ymddangos yw. hynod o brydferth, a dwsinau o fan"dreii ar bob llaw yn llawn bywyd a gweithgar- wch. Mae'r olygfa yn ddigon i danio awen Rwss- iaidd. Treuliodd Pope a Thompson lawer o'u ham- ser ar y banlawr mil-bleserawl hwn o eiddo natur. Pan yma y mae cannoedd o bobl i'w gweled yn pasio yn feunyddiol, a miloedd bob Sabbath, a fan yma yr ymdreeha y students ieuainc, Sul ar ol Sul, i geisio enill ea sylw at Grist a'i groes. Ond ym- ddengys fod pregethiad yr efengyl Y11. mtisance i ryw ddau nen dri o wrachod sydd yn preswylio yn y Ter- race hwn, un o ba rai. a eilw ei hun yn Lord Kennedy, a mawr yr erlid a'r gwawdio sydd wedi ae yn bod arnynt, druain. Ond ymddengys fod Duw yn gryf- ach na'r diafol, ac felly parhan i bregethu a Wnaeth- ant, er eu bod wedi bod ger bron yr awdurdodau un- waith neu ddwy, a'u rase wedi cael ei drin yn mha- pyran y wlad. Ond ymddengys fod y diafol a'r off- eiriaid yn cryfhau yn eu dylanwad ar y cenaw uchod, ac yn gwrthod gadael llonydd iddo hyd nes y gwnelo ei eithar a'i waethaf yn erbyn Duw a'i bobl. Fodd bynag, daeth allan drachefn yn eu herbyn y Sabbath wythnos i'r diweddaf, gan dreio ei law ei hun i daflu y pregethwr i lawr oddiar y fan lie y safai i siarad, ac wedi idcl o fethu dyrysu y canu a'i reg- feydd, na dystewi yr efengyl a'i Iwon, aeth i'w gell gyda bygythiad ydeaai a phregetkwr arall yno y Sabbath canlynol. Y Sabbath canlynol a ddaoth (y 17eg), a chan gynted ag y dechreuodd student ieu- ane o'r enw Grainger Ilargreaves roddi pennill allan i'w ganu, dyna Lord Kennedy yn ymddangos ger ei fron, a dau o swyddogion y Llywodraeth, yn erchi iddo dewi a rhoddi ei enw i'r swyddog, fel arweinydd y nuisance; felly y bu, cymerwyd ef i'r police station i entro y case, ac y mae i gael ei ddwyn ger bron yr awdurdodau, cyn diwedd yr wythnos, fel troseddwr am bregethu yr efengyl ar heol y wlad a elwir yn "Brydain Gristionogol." Mae y dref wedi ei chyn- hyrfu drwyddi. o'r herwydd. Cewch glywed eto sut y try pethau allan. Galwyd ar heddynadon Richmond ynghyd dydd Mercher diweddaf, i benderfynu yr achos uchod. Yr oedd y llys wedi ei orlenwi yn mhell cyn yr amsor, yr hyn a brawf fod yr achos dan sylw wedi crou cynhwrf neillduol yn y <lre £ Cymerwyd y gadair gan Syr H. W. Parker, K.C.M.G. Ymddang- osodd Mr W. Sleigh, Barrister, a Mr A. Haynes, Cyfreitliiwr, dros yr achlysur; Arglwydcl Nigel Kennedy a Mr P. A. Ash. Ac ymddangosodd Mr Sanderson Tennant dros y diffiynydd, Mr Hargreaves. Wedi dad leu brwd hyd tua, thri o'r gloch y prydnawn, daeth y llys i'r penderfyniad nad oedd yr un sail i'r achwyniad, ac fod y tystiolaethau o blaid y diffynydd c yn ddigon i'w hargyhoeddi nad oedd y gwasanaeth ar y Terrace yn un rhwystr ar fEordd y werin ac o barthed ei fod yn nuisance" [1 breswylwyr y Terrace, dywedwyd y byddai yn rhaid i'r mwyafrif o honynt roddi eu tystiolaeth yn ei erbyn cyn y gellir profi hyny. Mae Arglwydd Kennedy ar hyn o bryd yn sal yn ei wely, gorfu iddo ymadael o'r llys cyn i haner y treial fyned drosodd, ac yn ol pob tebyg, nis gall fyw hwyaf ond rhyw naw ddiwrnod eto. Nid yw Duw yn cysgu. Richmond College. ELWYN. [Gofaled Elwyn am roddi digon o stamps ar ei ohebiaethau. Gorfu i ni dalu 2g. o'r hervyydd.—GOL.]

NODIADAU o BEN MOEL HIRADDUG.

DAM WAIN NODEDIG AR Y RHEILFFORDD.

TRIOEDD.

AMRYWIAETHAU.

LLOFFION C'R "DRYCH."

TWYLLWR DIARBED.