Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. DYDD MAWRTII, 19EG. Pasiwyd y Quarter Sessions (Boroughs) Bill trwy bwyllgor. Darllenwyd y Bar Education I I and Discipline Bill y drydedd waith. Galwodd larll Powis am ddangoseg o'r gwa- hanol darddleoedd ac yr oedd cyflog Esgobaeth Sodor and Man yn deilliaw o bono hefyd pa gwrs oedd y Llywodraeth yn ei gymeryd mewn zn perthynas i ddeddf-wneuthuriad ar bwnc yr Island Legislature. Addawodd Arglwydd Beau- champ roddi yr hyn a ofynid am dano. 0 ber- thynas i'r mater arall, y cwbl allai ef ddyweyd oedd ei fod o dan ystyriaeth. Yna gohiriwyd y Ty.
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. DlDn LLUN, MEHEFIN 18fed. Pan ddygwyd adroddiad am y gwelliantau ar y Bill Claddu dan ystyriaeth, cynnygiodd Arch- esgob York i'od adran liewydd yn cael ei hych- wanegu at- ol adran 7;), yn cynnwys na byddai yr un periglor neu gurad o Eglwys Loegr, wedi i'r n c5 act gael ei pbasio, yn agored i gosb am wrthod cyflawni y gwasHftiaeth oladdu yn angladd unrhyw berson, os gellid dwyn tystiolaeth ei fed o dan argyhoeddiad y byddai defnyddiad o'r unrhyw wasanaeth yn dramgwydd i'r plwyf- olion. Grwrthwynebwyd yr adran gan y Due Rich- mond a Gordon. Ond rhoddodd Archesgob Caergaint ei lais o'i blaid, wedi dadl fer, yn yr hon y cymerodd Arglwydd Beaconsfield ran. Pan ranwyd ar y cwestiwn, gwrthodwyd yr adran gan 146 yn erbyn 89. Cynnygiodd Due Richmond adran sef fod gan dirfeddianydd hawl i drosglwyddo tir i'r dyben o wneyd claddfa, a chytunwyd arno. Yna daeth Arglwydd Harrowby yn miaen, a chynygioddyr adran agoedd wedi ei drosglwyddo i bwyllgor, sef fod gan unrhyw berson neu ber- thynas ag oedd a gofal claddedigaeth arnynt hawl i gladdu eu meirw mewn unrhyw blwyf, ac os dewisant, y gallant wneyd hyny heb i'r wasanaeth gladdu Eglwys Loegr gael ei dar- llcn, ac yn mhellach, y gallant ddefnyddio y wasanaeth Gristionogol hono ag a dybiant hwy yn oreu. o! Atewn atebiad, dywedoedd Due Richmond os byddai i'r adran gael ei chario, mai Eglwys Loegr fyddai yr unig gorph yn y deyrnas ag a fyddai yn analluog i roddi o'r ncilldu ddarn o dir i'r perwyl a nodwyd. Wedi i Arglwydd Granville ac Arglwydd Dynevor siarad o blaid yr adran, ac Arglwydd Xelson yn ei erbyn, rhanwyd y Ty, a chafwyd ei fod wediei gario gan 127 yn erbyn 111. Pan welodd Arglwydd Richmond fod yr adran wedi cael ei chario, efe a gynygiodd ohirio ystyriaeth bellach ar y Bill hyd ddydd Llun, er ei alluogi i siarad a'i gyfeillion, ac i ystyried pa gWI'S a gymerant. Cytunwyd iddo gael ei ohirio am wythnos.—Yna ymwahanodd y Ty.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Gofynodd Mr Smyth, mewn cyfeiriad at yr Irish Sunday Closing Bill, pa un a wnai y Llyw- odracth hwyluso y ffordd i'r ymdrafodaeth ar y penderfyniad yr hwn a ddymunai ei wneyd, set condemnio eu hymddygiad yn caniatau i'r cwestiwn gael ei adael heb ei benderfynu am flwyddyn yn mhellach. Mewn atebiad, dywedodd Canghellydd y Try- sorlys, tra yn gwrthod cefnogi dadl, yr hon, o angcnrheiclrwydd, gymerai amser, ac ar ol y cwbl heb gyrhaedd at un canlyniad ymarferol, a roddodd y cynygiad a wnaeth ddydd Ian, sef, os byddai i Syr Wilfred Lawson roddi dydd Mer- cher, y 27ain, i fyny, sef diwrnod y "Permissive Bill," ac os na byddai y diwrnod hwnw yn ddigon, y gwnai y Llywodraeth nodi eisteddiad boreuol i'r amcan hwnw. Diolchodd Mr Smyth am y cynnyg. Mewn atebiad i Ganghellydd y Trysorlys, dywedodd Syr Wilfred Lawson mai ei addewid ef oedd rhoddi dydd Mercher i fyny ar yr aaiod y byddai i'r Bill gael ei drafod ac ymddwyn tuag ato fel Bill y Llywodraeth, a thra yr oedd yn glynu wrth hyny nid oedd yn bwriadu symud tu draw i hyny. Modd bynag, dywedodd y Canghellydd, os byddai i'r aelodau gael diwrnod at y bill, v byddai i'r Llywodraeth gael un arall, a mwy na hyny ni byddai iddo wneyd. Tra y dywedai Ardalydd Hartington nad oedd yn deall sefyllfa y Llywodraeth, anogai Syr Wil- fred Lawson i fod yn wyliadwrus rhag iddo osod ei hunan mewn slifle afreolaidd yn ei borthynas a'r Bill. Yna dygwyd amryw bethau eraill yn mlaen, ac yn eu plith adroddiad yr Admiral Arctic Committee. Ar y cwestiwn hwn codwyd dadl frwd a dyddorol gan Dr Playfair, yr hwn a alwai sylw y Ty at rai pethan ag oedd yn yr ad-, roddiad, a cfrwalodd y pethau hyny ag y tybiai ef oedd yn wendidau celfyddydol yn yr ymbar- otoi ar gyfer yr ymchwiliadaeth. Yr oedd awyriad y ddwy lestr yn ddrwg, yr oedd prinder o ymborth llysieuol, a phe buasai y lime juice wedi cael ei gario mewn dull canolgasgliad (concentrated), ni fuasai yr anhawsder a'r helynt ag a oddiweddodd y cwmni wedi dygwydd. Ond ar yr un pryd ni's gallai lai nag edmygu ym- ddygiad cyffredinol Syr G. Nares yn yr ym- I chwiliad. Mr Gonrlez a ddadgani ei farn fod y Morlys wedi bod yn rhy barod i wlawio an- rhydedd ar y swyddogion cysylltiol a'r ymchwil- iad, a thybiai Dr Lush nad oedd gan un swyddog hawl i roddi o'r neilldu benderfyniadau pwyllog y personau hyny ag oeddynt wedi eu penodi i'r perwyl hwnw. Dywedodd Mr Hunt er fod y Morlys yn credu fod Syr George wedi cyflawni amryfusedd trwy beidio ag anfon lime juice gyda'r ymchwilwyr, nad oeddynt yn taflu cyhuddiad pwysig yn ei erhvll. Nid oedd yr adroddiad yn gwahan- iaethu dim ar farn y Morlys, ei fod yn haeddu yr anrhydedd ag oedd wedi cael ei osod arno, a chyfeiliornad ydoedd meddwl fod toriad allan y scaruij wedi lluddias cyrhaedd yr amcan uchaf o'r ymchwiliad.. Wedi trafod ychydig ar bwnc y llong Inflex- ible, o barthed i'w chymhwysder i fordeithio, yr cedd Mr Reedo'r farn y gallai fyn'd allan, ond nid i ryfelgyrch. Yna darllenwyd Bill yr Athrofeydd y dry- dedd waith, a chariwyd ef. Gohiriwyd y Ty am un o'r gloch.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Yn eisteddiad bore heddyw rhoddodd Mr Osborne Morgan rybudd, os byddai i'r Bill n Claddu ag sydd yn awr o flaen yr Arglwyddi gael ei dynu yn ol, y byddai iddo ef ar yr 17eg o Orphenaf gynnyg penderfynia-d yn dadgan yr angenrheidrwydd i gau yr ymdrafodaeth i fyny trwy ganiatau claddu yn y mynwentydd plwyfol heb wasanaeth Eglwys Loegr, ond gyda'r sere- moniau Gristionogol hyny ag a farno perthyu- asau yr ymadawedig yn briodol. Darllenwyd Bill y Carcharau y drydedd waith. Ond cododd Mr Rylands i'w wrthod oblegid y draul ychwanegol a'r trethi a ych- wanegid trwyddo, ammeuaeth o'i diylanwad fel Mesur Diwygiad Carcharau, &c. Wrth eilio y cynnygiad, Mr P. Taylor a gyfeiriodd at fflan- gellu yn y carcharau yr oedd Syr W. Bartlelot, er o'r un farn a Mr Rylands, yn dal ei holl wrthwynebiadau rhag trosglwyddo y carcharau o afael yr awdurdodau lleol i'r swyddfa gar- trefol, a chyngorai ef i beidio datguddio gwen- did ei achos trwy fyned i ymraniad. Wedi i Mr Hilbert, Mr Newdegate, &c., draethu eu barn, tynodd Mr Rylands ei wrthwynebiad yn ol, a phasiwyd y Bill. Yna fEurfiodd y Ty yn bwyllgor ar y Supreme Court of Adjudicature (Ireland) Bill, ond nidaethant gam yn mhellach, trwy fod yr aelodau Gwyddelig yn methu a chytuno yn eu mysg eu hunain pa un ai hwn ynte y County Courts (Ireland) Bill ddylai gael ei basio gyntaf. Ond hysbysodd Mr Parnell ei fwriad i wrthwynebu y Bill, yr hyn, credai, a roddai iddo ddyrnod marwol. Yn yr eisteddiad prydnawnol cyfrifwyd y Ty allan heb wneuthur dim gwaith.
DYDD MERCHER, 20FED.
DYDD MERCHER, 20FED. Y pethau cyntaf ddygwyd o flaen y Ty ydoedd ail ddarlleniad y Bill o lawndrefniant y defnydd o Agerbeirianau ar jfyrdd cyifredin, &c. Dad- leuwyd am oriau ar y mater, ac ymddangosai y mwyafrif yn gefnogol i'r symudiad, ond gwrth- wynebent rai pethau yn y Bill. Gwasgai Mr Bromley-Davenport, &c., ar i'r Llywodraeth gymeryd y peth i fyny. Yr oedd Mr Monk am i'r fantais a ddeilliai oddiwrth gadarnhad cyf- raith y prif-ffyrdd. tra yr oedd Mr Assheton a Mr Henley yn ei hystyried yn angenrheidiol i arfer mwy o ofal, a thrwy hyny attal damwein- iau. Ond yr oedd Syr W. Edmonstone am wrthod y Bill yn yr oil o hono, am ei fod yn beryglus i drafnidiaeth ac yn niweidiol i'r fryrdd. Barnai Mr M. Stewart ei fod yn hollol annghymwys i Scotland, lie mae y tollau ar gael eu cwbl ddileu tra nas gallai Mr Verner weled yr agerbeiriant yn dda i ddim yn y rhan ogleddol o'r Iwerddon. Yr oedd Mr D. Davies o'r farn pe gwneid hwy o bwysau neillduol, y buasent yn ateb y dyben i wellhau y ffyrdd yn hytrach na'u niweidio tra yr ychwanegai Mr Beach ei fod o'r farn yn gymaint ag fod peir- ianau yn offierynau mor werthfawr mewn amaethyddiaeth, fod rhyw lywodraethiad yn angenrheidiol, megys tollau, &c., tuag at adgy- weirio y ifyrdd. Modd bynag, methai Mr Slater-Booth a gweled fod y Bill yn un cymhwys am fodynddo lawer o leoedd gweiniaid, ac o ganlyniad, nis gallai weled un fantais oddiwrth roddi aii ddarlleniad, ac o'r diwedd tynodd y Milwriad Chaplin y Bill yn ol. Treuliwyd gweddill yr eisteddiad i ddadleu y Landlord and Tenant (Ireland) Act Amendment Bill, ond gwrthwynebwyd ef yn hollol gan am- ryw. Hysbysodd Syr W. Lawson ei fwriad o roddi i fyny ddydd Mercher nesaf i'r Irish Sunday Closing Bill.
Y DIWEDDAR ARGLWYDD USTUS…
Y DIWEDDAR ARGLWYDD USTUS MELLISH. Y mae Lloegr wedi colli, yn marwolaeth y diwedd- ar Arglwydd Ustus Mellish, un o'i chyfreithwyr gallu- ocaf un, pa beth bynag oedd oi ddiffygion eraill, ydoedd dra dysgedig a doeth yn nghyfraith a gwein- yddiadau cyfreithiol y wlad. Eu efe farw wythnos i ddydd Gwener diweddaf yn ei gartref yn Loundes Square.,jjYr oedd wedi bod yn ddyoddefydd achlysur- 01 am fiynyddoedd oddiwrth yr afiechyd a derfynodd ei einioes pan mewn hyn o fyc1;" ac am ychydig o wythnosall cyn ei farwolaeth bu mewn poenau mawr. O'r diwedd efe a oUyngwyd ymaith yn ei 73ain flwydd. Mab ydoedd y diweddar y Gwir anrhydeddns Syr George Mellish i'r diweddar Gwir Barcliedig Edward Mellish, Deon Hereford. Addysgwyd ef yn Eton, Rhydychain. Gralwyd ef i'r Bar yn yr Inner Temple yn 1848, a daeth yn Q.O. yn 1861. Am rai blynydd- oedd efe a deithiodd y Gylchdaith Ogleddol; ond gan iddo ddyfod yn dra phoblogaidd fel cyfreithiwr gall- uog a dyn o addysg a medrusrwydd mawr, efe, weithiau, a roddai i fyny waith cylchdaith, ac or gwaethaf gwaeledd iechyd, efe a sicrhaodd practice eang ac ennillgar iawn. Yr oedd efe ar y ifordd, bellach, i anrhydedd a bri ar y fainc gyfreithiol, or na wnaeth efe un ymdrech i geisio hyny trwy fyned i'r Senodd a thrafod gwleidyddiaeth. Arosodd yn y Bar hyd farwolaeth Syr G. Giffard yn Awst, 1870, pryd yr achoswyd gwagle yn y Court of Appeal in Chancery." Y pryd hwnw efe a appwyntiwyd yn Arglwydd Ustus. Pan y penodwyd ef, efe a urdd- wyd yn farchog ac a dyngwyd yn aelod o'r Cyfrin- Gynghor. O'r pryd hwnw hyd ei ddiwedd, efe a barhaodd i addurno ac anrhydeddu ei swydd uchel; ac er na bydd unrhyw rwystr ar y fEordd i gael swyddog i lenwi ei le, eto teimlir colled arbenig ar ei ol yn y cylclioedd yn mha rai yr arferai ym- symud.
LLITH 0 LIVERPOOL.I
LLITH 0 LIVERPOOL. Methu cytuno a'u gilydd y maent." Dyna'r atobiad gafwyd ganwaith i'r gofyniad paham na wnai ysgolion Wesleyaid y dref roddi treat i'r plant yn yr un lie ac ar yr un adeg ? Yr oedd y fEaith fod POBL YN FFRAEO YN Y DYDDIAU GYNT," -(ugain neu ddeg ar hugain o flwyddi yn ol)—yn brawf terfynol gan rai mae'n ben-ben ai'r Wesleyaid y dyddiau hyn. Pe yr aech i holi beth oedd yr asgwrn cynen, anhawdd iawn cael atebiad, heblaw mai nid ein hysgol ni oedd yr achos "-taflu'r bai ar arall o hyd. Rhyfedd hefyd fod pethau fol hyn yn dygwydd yn yr hen amser gynt, pan oedd pobpeth mor berffaith,—dyddiau yr Hen Benns,bobl anwyl, dyna lie yr oedd cyfarfodydd gweddio, yr amser hono yr oedd canu bendigedig—blaenoriaid heb eu bathau, odfa dda bob amser. Pe yr aem i ammeu hyn, fe ddigiem lawer, heblaw yr hen frawd Thomas Simon. Mae genym barch mawr i hen bethau, yn enwedig i hen dduwiolion, ac yn ddiammeu yr oedd llawer o'r cyfryw rai yn mynychu Benn's Garden; ond er hyny, prin y gailwn grodu fod "teulu'r Benn's" yn rhagori yn mhobpeth ar bobl yr oes hon. Dyna'r Ysgolion Sabbothol er engraifft, rhaid i bawb gydnabod na fu yr ysgol Sul erioed mor lwyddianus ag ydyw y dyddiau hyn, ac y mae llwyddiant SCHOOL TREAT SIIAW ST., A BOUNDARY STREET yn myned yu mhell tuag at brofi, un ai fod y deil- iaid yn haws eu trin, neu ynte fod y swyddogion yn amgenach llywodraethwyr. Beth bynag, cafwyd y cydg-ordiad llawnaf yn New Ferry yr wyfcbnos ddiweddaf. Hin ddymunol—trefniadau gorphenedig, ic a phlant mown tymer dda i fwynhan eu hunain. Llongyfarchwn y swyddogion—Meistri G. E. Owen, E. E. Jones (Shaw Street) a Meistri William Davies, ac Ellis Owen Boundary Street)—ar y llwyddiant a ddilynodd eu hymctrechion. Parhaed brawdgarweh. Ofnwn y bydd i'r hyn a gymerodd le yr wythnos ddiwecldaf, yn nglyn a Pitt Street Ward, wneyd j lawer un ammen DIOGELWCH Y TUGEL. Yn yr etholiad nid oedd gan yr ymgeisydd Toriaidd ond mwyairif o UN, fel y penderfynwyd y gwrthwvn- ebwyr o hawlio ymchwiliad. Cafwyd "hyn, a'r canlyn- iad yw, fod y cyhoedd wedi cael gwybod gyda pha ochr y pleidleisiodd nifer o'r ethclwyr. Diammeu y bydd i'r scrutiny dan sylw fod y moddion i ddwyn cyfnewidiadau i'r dull presenol. Parhaodd yr ym- chwiliad am ddau-ddydd, pryd y cytunwyd i gael ail-etholiad, felly caiff y Rhyddfrydwyr gynnyg eto am yr eisteddle yn y Bwrdd Ysgol. Nid yn ami y clywir fod MERCH WEDI TORI AJIMOD PRIODAS, —o leiaf, anfynych y ceisir gorfodi un o'r rhyw deg i dalu am dori addewid. Os ceir rhywun ddigon gwrol, neu ddigon ffol os mynwch, i wysio'r fenyw ger bron y Barnwr, ni wnaiff pobl ond chwerthin am ben y carwr gwrfchodedig, ac os caiff y ddedfrvd yn ei ffafr, ni bydd hyny ond 'one farthing and costs'—ffyrling ydyw yr iawn am y golled, pris go fach onide, ar y fenyw ? Ond, nid yw rheithwyr bob amser yn edrych ar bethau yn y goleu yna. Gorfu i foneddigos o'r dref hon yn ddiweddar, dalu dau cant o bunnau i'w hen garia,d, o herwydd iddi briodi un arall. Gwyddelod oedd y rheithwyr y tro yma, ac feallai y tybia rhai, mai peth Gwydd- elig iawn ydoedd i neb feddwl fod gan ddynion deimladau i'w dryllio, neu os oes ganddynt serch- iadau, eu bod y fath nas gellir rhoddi pris arnynt.
NODIADAU 0 GAERNARFOS.
NODIADAU 0 GAERNARFOS. Yn eu cyfarfod diweddaf, penderfynodd Pwyllgor Cerddorol Eisteddfod fawr Caernarfon fod i Gym. deithas Gorawl Bangor gaelei gwahoddi uno ynnghy- ngherddau yr uchel wyl Genedlaethol, i roddi dad- ganiad o'r Messiah. Y mae coraa y dref hon wedi teimlo hyn yn sarhad mawr arnynt, gan i'r Pwyll- gor Cerddorol, adeg cychwyniad y symudiad Eis- teddfodol, fethu a chytuno gyda golwg ar ffurfio cor mawreddog i Avasanaethu yn y cyfarfodydd. Credwn y gellir rhoddi esboniad ar hyn trwy ddyweyd fod gormod o arweinyddion lleol yn aelodau o'r pwyllgor hwnw, ac folly, hawdd ydyw tynu casgliad. Erbyn hyn, y maent wedi gweled eu fEolineb, a chan na ellir gwneyd heb gor, wele hwy yn gorfod gwario cant neu ddau o bunnau er sicrhaa presenoldeb cor Bangor, tra y mae yn nhref Caer- narfon gorau a ennillasant enwogrwydd Eistoddfodol ar amryw achlysuron, a'r rhai, yn ddiammeu genym, a fuasent yn addurn i'r Eisteddfod ddyfodol. Ond, druan o honynt, y maent yn ddirmygus yn ngolwg y Pwyllgor Cerddorol hwn.
ILLANSILIN.
LLANSILIN. Cynnaliwyd cyfarfod pregethu a gwyl de llynyddol y Wesleyaid yn y lie uchod, Mehefin 14eg a'r 15fed, pryd y cafwyd gwasanaeth y Parchn Wm. Powell, L'anfyllin; a John Evans, Liverpool. Pregethodd Mr Powell nos lau i gynnulleidfa luosog. Pregeth- wyd am 10, 2, a 6 dydd Gwener,—yn y boreu gan Mr Powell, a'r prydnawn a'r hwyr gan Mr Evans. Bechan oedd y gynnulleidfa yn y boreu, ond yn y prydnawn yr oedd yr addoldy wedi ei orlenwi, ac yn yr hwyr gorfu i lawer aros tu allan i'r capel a hor- wydd y tyndra. Yr oedd yr oil o'r oodfaon yn rymus ac effeithiol iawn, ac y mae yn dda genym alia dyweyd fod yr had da wedi cael lie yn nghalon rhai pechaduriaid oedd yn bresenol, a gobeithio y bydd ychwaneg o 61 y cyfarfod bendigedig hwn i'w weled y dyddiau sy'n d'od.—Am 4 o'r gloch yr oedd y to wedi cael ei barotoi mewn model canmoladwy iawn yn Assembly Room y Wynnstay Arms, lie y daeth cannoedd i fwynhau o ffrwyth y ddeilen. Gwasan- aethodd y boneddigosaucanlynol wrth y byrddau :— Mrs Lewis, Glan'rafon Mrs M. Roberts Mrs Jones, draper; Miss Jones, Brynglas; Miss Ellis, Bryn- derw; Miss Ellis, New Mills; &c.; ac fol yr ydym yn deall fod y boneddigesau hyn, gydag eraill, wedi rhoddi y to yn rhad ac am ddim felly mac olw da yn sicr o ddeilliaw oddiwrtho. Yr elw oddiwrth y cyfan i fyned tuag at adgyweirio y capel. Bwriada'r cyfeillion roddi ceiling newydd, ac amryw welliantau eraill, er gwneyd y He yn gysaru-s i addoli ynddo. lVlae capel Llansilin yn un o'r capelyad liarddaf yn y fro oddiallan, ond yn mhell o fod yn gysurus oddi- fewn; a da genym weled y brodyr yn myned ati o ddifrif. Pob llwyddiant iddynt yn eu hymdrech.-B.
GALLTMELYD.
GALLTMELYD. Nos Fercher, Mehefin 20, cynnaliwyd cyngherdd yn Ysg..Idy Wladwriaethol y lie uchod, dan lywydd- iaeth Mr Owen, ieu., Prestatyn. Yr elw at ddiddyledu addoldy y Methodistiaid Calfinaidd. Y corau oedd- ynt yn gwasanaethu oedd Cor (M.C.), Dyserth, dan arweiniad Mr Peter Williams, a Chor (M.W.), Gallt- melyd, dan arweiniad Mr David Owens. Yr oedd eu detholiad o donau yn chwaethus ac amrywiol; a'r ddau arweinydd a'u corau o ddifrif yn gwneyd eu gwaith, yn neillduol tra yn cyduno i ddad- ganu yr anthem, Molwch yr Arglwydd." At y coreu, cawsom amryw ganeuon dyddorol ac adeiladol gan y Meistrf T. Roberts, Gwaenysgor; S. Williams, Dyserth E. Humphreys, Prestatyn; a Miss Brom- ley, Rhyl. Yr oedd naturioldeb ac eglurdeb geiriol yn bethau amlwg yn y cyngherdd hwn. Hefyd cawsom anerchiad gan Mr Owen, hynaf, Prestatyn. Yr oedd ei sylwadau yn bwrpasol ac angenrheidio 1 ac yn fuddiol iawn i'r ieuenctyd. Gobeithio y can le priodol yn eu meddyliau, ac na byddant yn myned dan y cymeriad y bobl dim byd," chwedl Mr Owen. Wedi y diolchiadau arferol i'r llywydd, ac i Mr Hughes, Person y plwyf, am ei garedigrwydd yn rhoddi Y11 ewyllysgar fenthyg yr ysgoldy at ei.n gwasanaeth, aeth pawb adref mewn amser priodol, wedi cael gwledd gerddorol dda, ao, yn ddiammeu, yn dyrauno cael un gyflielyb yn fuan eto,-O.Y. 0 ïe, mae gan y Wesleyaid un eto mis i'r un noson, ac y maent yn dysgwyl W. Parry (Asaph Glan Dyfrdwy), D. Proffit, Miss Roberts, Llanasa, cwmni o Dyserth, &c., a chor y lie, i'n gwasanaethu.-—A—ch—n—dd.
Family Notices
(Semfrigadjratt, |pnob;is;mf • GEKEDIGAETHAU. JOKEs.Mehefin 15, priod Mr W. C. Jones, Pengwern Arms Hotel, Festiniog, ar fab. "WILLIAMS.—Mehetin 20, priod Capt W. H. Williams, Clifton Villa, Van Mines, Llanidloes, ar ferch. CASSON.—Mehefin 12, priod T. Cusson, Ysw., K. & S. W. Bank, Dinbych, ar ferch. HUGHES.—Mehefin 19, yn Gladstone Terrace, Fflint, priod Mr W. Hughes, ar fab. JONEs.-Mehefin 12, priod Mr J. Jones, St Winefred's Vaults, Trelfynnon, ar fab. ROllERTs.-Mehefia 15, priod Mr Roberts, dilledydd, Bank Place, Treffynnon, ar ferch. ROllERTs.-Mehefin 22, priod y diweddar Mr Thomas Roberts, Glan-yr-afon, Aber, ar ferch. Byddeel i'r weddw gofio fod Daw yn dad i'r amddifad. ac yn farnwr i'r weddw. Bevxif.—Mehefin 25, priod Mr William Bevan, Swansea House, Llandudno, ar ferch. PRITeHARD.-Mehefin 13, mab i briod Mr Edward Prifcchard, Trefynant, ger Ruabon. Gelwir of Stephen Oliver. yrfa ddaearol, Stephen Oliver anwyl, Dy ddydd fyddo'n ddysglaer, a thawel fo'th noswyl: Boed blodion a gwlith yn prydferthll dy lwybrau, A gwreichion athrylitii f'o geiriau dyeuan. PRIODASAU. OWEN-,TONEs-Mehefin 21, yn Eglwys St Petr, Pwllheli, Mr W. Owen, fferyllydd, å Lizzie, mereh hynaf Mr R. H. Jones, masnachydd blawd-y dclau o Bwllheli. LEWIS—ROBERTS.—Mehefin 20, yn Eglwys Dewi Sant, Lerpwl, gan y Parch E. T. Davies, ticer, Mr Robert Lewis, & Miss Elizabeth Roberts. ROBERTS—OWEH.—Trwy drwydded, yn nghapel y Bedyddwyr, Caernarfon, gan y Parch W. R. Ambrose, Mr J. IV. Roberts, Bryncelyn, Llaiillyfni, i1 Miss Ann Owens, Henwaliau, Caer- narfon. WILLIAMS—HUGHES.—Mehefin 18, yn y Tabernacl Newydd, Caergybi, trwy weinyddiad y Parch W. Lloyd, Mr David Williams, Llanfeirig, Ceirchiog, a Miss Mary Hughes, 'lyn- llidiart, Gwalchmai. ELLIS-PUILLIPs.-Mehefin 20, yn nghapel Hill Street, Rhos- llanercljrugog, yn mhresenoldeb Mr J. D. Jones, cofrestrydd, Mr J. Ellis, Church Street, a Miss Miriam Phillips, Jones' Street-y ddau o'r Rhos, JONES—WILLIAMS.—Mehefin 19, yn Eglwys Crist, Prestatyn, gan y Parch T. Price, ficer, Robert Jones, mab IV. G. Jones, Ty Isaf, Gwaenysgor, a Martha, merch y diweddar Mr J. Williams, Newmarket. MARWOLAETHAU. DAvŒs.-lVlohefin 17, wedi hir gystudd, yn 24 oed, Hannah, merch hynaf Mr R. Davies, Penisa'rdre, Llanrwst. DAVIES.—Mehefin 17, Cap ten Evan Davies, Gwyndy, Talsarnau, yn (JO oed i'r diwrnod. JOKES.—-Mai 29, yn 25 oed, yn Quincy, Mass., U.D., Catherine, priod Mr W. Jones, a merch Mr David Owens, Llanfyllin. ROBERTS.—Mehefin 23, Mrs Ann Roberts, Eriviat Bach Isa, Henllan, ger Dinbych, yn 86 oed. EDWARDS.—Mehefin 16, Susannah, (gweddw y diweddar Mr B. Edwards, gynt o'r Lion Hotel Llansantffraid, yn 75 oed. JOXES.—Mehefin 26, Mr Peter Jones, Grocer, Boot, Bagillt, yn 66 oed. ROBERTS.—Mehefin 15, yn 23, Church St., Rhosymedre, Sarah Roberts, yn 18 oed. THOMAS.—Mehefin 17, yn 66 oed, yn Trernariaii, Bala, priod y Parch R. Thomas (Ap Fychan.) WILLIAMS.—Mehefin 11, yn Gweryl Lodge, Conwy, yn 73 oed, John TVilliams, gynt o felin Gyflin. LLOYD.—Mehefin 13,1877, Mrs Lloyd, Llanbedr, mam y Parch Evan Lloyd, Mountain Ash, yn 66 mlwycld oed. Pedwar mis yn ol y bu farw Mr Lloyd, ei phriod. Yr oedd Mrs Lloyd wedi bod yn aelod ffyddlawn gyda'r Wesleyaid am fiynydd- oedd lawer. Yr oedd yn wraig dda, synwyrol, a hynod barclms gan bawb. Ni chafodd ond byr gystudd. Cladd- wyd hi yn mynwent capel yr Undodiaid prydnawn dydd Gwener. Daeth cynnulleidfa luosog yn nghyd i dalu y gym- wynas olaf. Cyn eycliwyn oddiwrth y ty, darllenodd a gweddiodd y Parch T. G. Pugli; ac yn y capel pregethodd oddiar 1 Cor. xv. 57., ar Fuddugoliaeth y Saint trwj^r Cyfryngwr." Hefyd gweinyddodd wrth y bedd. Boed ben- ditli ac amddiffyn dros y plant amddifaid—a'r nefoedd wen yn gartref iddynt oil yn y diwedd. Humms.—Mehefin 17, yn dra ddisymwyth, yn Madoc Street, Llandudno, yn 60 oed, anwyl briod Mr Thomas Hughes. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlawn o'r eglwys Wesley- aidd yn y lie.
JILARDNRABOTBFR,
JILARDNRABOTBFR, DINBYCH, Meh. 27. — Gwenith, 20s Oc i *j21s Oc yr hob haidd, 16s Oc i 16s 6c yr hob y ceirch, 9s Oc i lls Oc; ymenyn lfres, o Is 3c i Is 5c ypwys cynogau bach, is lc i is 2c y pwys llestri mawr a thybiau, 13c i 13ic y pwys pytatws, 14s i 15s yr hob. I LERPWL, DYDD MAWIITII.-— ivgorottu y larclmad g-yda mwy o alaw am wenith am godiad o 2g. y canpwys ar brisiau dydd Gwener. Pethau eraill rhywbeth yn. debyg.
[No title]
EXAJNT A PIIELENI HOLLO WAY.—Mae y ddyfais feddygol yn mhob oes wedi cael ei chyfeirio tuag at liniaru yr anhwylderau hyny ag y mae y rhyw fenywaidd yn agored iddynt, ond y mae y ProfEeswr Holloway, trwy ymchwiliadmanwl a gofaluswedi cael allan fod natur wedi darpar meddyginiaeth .ar gyfer yr anhwylderau neillduol hyn. Y mae, ar ol hirfaith ymdrech, wedi llwyddo i wneyd defnydd o'i Beleni a'i Enaint, pa rai ag ydynt yn cynnwys yr egwyddor amcanedig er gwaredu a gwclla y cyfryw anhwyl- derau, yn mha wlad neu hinsawdd bynag. Y maent yn wedi llwyddo i wella cyfansoddiadau ac y methodd llawer math o physgywriaeth y meddygon goreu, ac nid gwellhad amserol yn unig ydyw, ond am oes. '3131 ArgrafEwyd (dros y Gwalia Printing and Publish- ing Company, Limited) gan AMOS BROTHERS, yn eu Swyddfa ArgrarEu, 13, Heol Sussex, Rhyl, Mehefin 29ain, 1877.