Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

DEINIOL WYN, A'I SYNIADAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DEINIOL WYN, A'I SYNIADAU CREFYDDOL. A GYMKEIGIAVYD GAN CEPHAS. IX-Y Brawd Deiniol yn y "Class." Yr oedd gan y Brawd Deiniol ddau glass ac, fel y dywedasom eisoes, yr oedd ar ei lyfrau fwy na haner y Seiat yn Mhenybryn. Ymgynullai y class cryfaf a mwyaf poblogaidd am wyth o'r gloch foreu y Sabbath. Deuent yn nghyd i fan o ran moesgarwch a elwid "Y PAELWII "—yr j hwn, mewn gwirionedd, oedd y gegin ffrynt daclus, a'i llawr yn llawn tywod glan,—yn mhreswylfod clyd yr hen Domos Pirs. Yn nesaf i enw y blaenor ei hun, yr oedd eiddo Sali Pirs, neu "Nain," fel y gelwid hi gan bawb, gwely yr hon oedd yn yr ystafell dan sylw, ac yn yr hwn y gorweddai beunydd. Yn hen wreigan, fel yr oedd, yn ymylu ar gant oed, bu yn y Seiat am bedwar ugain mlynedd, ac nid un- waith na dwywaith y datganodd y buasai'n marw yn y fan oni bae ei bod hi yn myn'd i'r cyfarfod yn gyson,yr hyn, modd bynag, nid oedd yn hollol gywir, canys y cyfarfod a ddeuai ati hi yn wastadol. Yno y gorweddai, gyda'i bysedd teneuon, diffrwvth, yn blethedig ar y gynfas lian wen y gwyneb, gyda'i liw gwridgoch clir, yn cael ei ymylu gan y gwallt hwnw oedd o'r fath lyfnder canaidd, a'i fframio gyda'r cap a ymgasglai o amgylch, gan ei osod allan yn union fel darlun. Yn gymaint a'i bod wedi ei thori ymaith oddiwrth bob moddion arali, yr undeb hwn o ganu a gweddio, gwynebau ei hen gyfeillion, a'r siarad am "fawrion bethau Duw,"—hyn ydoedd ei nerth a'i chysur hi. Nid oedd amheuaeth o'i gwmpas; yr oedd hyn yn gwneyd daioni iddi, fel y dywedai, "Gorff ac enaid, bendigedig fyddo'r Ar- glwydd!—gorff ac enaid." Ac i'r sawl a ddeuent yno, yr oedd yn gystal a phregeth,—yn well nag ambell i bregeth efallai,-i ddim ond edrych arni hi. Trefriiant oedd hwn yn gyfangwbl i gyfarfod ag achos un hen aelod gywir, yn gyfryw ag y gellid, gyda bendith, ei efelychu mewn miloedd o leoedd; trefniant hefyd drwy yr hwn yr oedd yr eglwys yn sicrhau y dylanwadau sanctaidd, a'r datganiadau aeddfed hyny ag y gall fforddio leiaf eu colli. Os nad all y mynydd dd'od at Mahomet, y mae eto un dyfais yn aros—aed Mahomet at y mynydd ei hun. Cymerer y rhestr-gyfarfodydd at yr hen aelodau nvchlyd, methiantus; os nad bob amser, o leiaf unwaith neu ddwy yn y chwarter. Mae hyn yn well na chael yr enwau i redeg o'r naill tudalen i'r Hall, hyd nes rhyw ddiwrnod y gollyngir hwynt fel yn anadnabyddus gan flaenor newydd,—a thrwy hyny, dori ymaich aelodaeth rai o etifeddion sancteiddiaf y gogoniant. Yr oedd llawer o ras, a llawer o ddoethineb, a llawer o elw yn mhob ryw fodd, yn y trefniant bychan, caredig hwn. Ac Oh mor glyd ac mor gynhes yr arferai y lie hwn fod Nid oes cartrefwch mewn festri, rhywfodd. Yr ydych yn teimlo nad yw pobl yn byw yno, ac nis geliwch gyda pharodrwydd wneyd eich hunain "gartrefynddi. Ond yno, yn nhy yr hen Domos Pirs, ceid y caneri yn hongian yn y ffenestr, yr hwn beunydd a ddechreuai ganu pan y rhoddid allan y penill, fel pe buasai ef yn aelod cyson o'r class. Eithr diarddelid ef am enyd o'r Seiat, drwy daflu llian rhidyllog dros yr adardy, yr hyn oedd ddirmyg ag a ddystaw brotestiai yn ei erbyn, drwy yngan nodyn tra galarus yn achlysurol. Acw, uwchben y shilff-pen-tan, yr oedd y tecell copr dysglaer, a lluaws o fan nwyddau pres caboledig; ac ar y mur- iau. canfyddid arluniau hynod a henafol o Arch Noah, a thestynau Ysgrythyrol eraill. Ac yn y class canol yr wythnos, ceid cyffyrddiadau a wnelent ddynion i siarad am grefydd mewn ton ddydd- gwaith a syml, y fath ag sydd yn dra anhawdd ei gael mewn festri. Ceid, fe geid yno ddysglaid o fara wedi ei gosod o flaen y tan i grasu," neu fe geid pob- iad danteith'yd y "pastai" yn dystaw hysbysu ei hun o'r pobty; ac ar yr aelwyd, ceid gweled par o esgidiau a hosanau bychain yn gorwedd. Nid oes amheuaeth nad oedd llawer o'r undeb cymdeithasol cryf hwnw ag y bu Wesleyaeth mor neillduol ddy- ledus iddo, a'r hwn yn yr hen amser a feithrinai mor ofalus, yn dyfod o'r ffaith fod y bobl yn myned o "dy i dv;" cynaliwyd y rhestrau a'r cyfarfodydd gweddio yn mhreswylfeydd y bobl, ac nid anfynych yr oedd yr Eglwys ei hun yn Eglwys yn y teulu."

LLONGDDRYLLIAD A CHOLLI CHWECH…

BRIWSION 0 PENMACHNO.

DARLUN MR GLADSTONE.

Y GWERSI AR RESYMEGYNY "WINLLAN"…

■EFLINT.

BANGOR.

Utijmw: fr g,cli uc

GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD.

RHYMNI.