Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

GARIRITDNIACTIJ.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GARIRITDNIACTIJ. PENNILLION Ar yr achlysur o briodi am y waith gyntaf yn nghapel Wesleyaid Porthmadog. Y personau oedd- ynt Mr Robert Pieroy, Porthmadog, gynt o Dre- ffynnon, a Miss Mary Williams, Harlech, sir Feir- ionydd. Y Parch Griffith Jones oedd yn gosod telerau y dyfodol o'u blaen. Ac anrhegwyd hwy â chyfraith ac a chan (gan y trustees), sef gyda Beibl a Llyfr Hymnau hynod o hardd. 'Roedd Robert a Mary yn caru cyn hyn, A'r ddau yn cordeddu edafedd byd gwyn, A phob tro y cwrddent 'roedd chwaneg o'r llin Yn myned i'r rhaffau, er cynydd eu rhin. Ac erbyn cael amser i fesur pob rhag, Fe'u eacd yn rhai hirion, ac hynod o braff, A methwyd cael llinyn yn un lie drwy'r byd G-yrhaeddai yn agos i haner ei hyd. Ond Uwyddwyd er hyny, wrth chwalu pob lien, I dd'od yn llwyddiannus o hyd i'r ddau ben, A dygwyd hwy'n ddedwydd i'r fodrwy aur gron, I'w cyfan gysylltu yn rhinwedd mawr hon. Yn nghapel Wesleyaid Porthmadog, bid siwr, Yn wraig y gwnaed Mary, a Robert yn wr, A'n parchus weinidog, yn rhinwedd ei swydd, Roes ddcddfau'r cyfammod i'r ddau er eu llwydd. Llyfr Hymnau a Beibl a roddwyd yn glau, Ar ol y cysylltu, yn anrlieg i'r ddau, I golio'r waith gyntaf gwnaed deuddyn yn un, Yn nghapel Wesleyaid, rliyw foreu dydd Llun. Wel, bellach, boed iechyd a llwyddiant i'r ddau, A'r nefoedd yn gwenu, a'i nhawdd yn parhau, A'r gadwyn, mewn 'stormydd, yn dal yn ei rhin, 0 dan bob amgylchiad trallodus a blin. Boed llwyddiant i'r ddeuddyn nos myned yn hen, A'u diwedd fo'n dawel a dysglaer ei wen, A chael wedi byny gyrhaeddyd i'r wlad Y cant yn dragwyddol ddedwyddol fwynhad. Porthmadog. R. E.

I ANNTJWIOLION A WELAIS.

BETH YDYW EISTEDDFOD ?

GWEDDI YR ARGLWYDD AR GAN.

[No title]

Y CYFYNGDER YN Y DEHEUDIR.…

DYIm GWYL SEWI.

HYN A'R LLALL.

LLITH ODDIAR GLAWDD OFFA.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD MAWETH.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD MAWETII.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD MEECHEE

TY'R ARGLWYDDI—DYDD IAU.

TY'R OYFFREDIN-DYDD IAu.