Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
QUININE BITTERS '904, A o r GWILYM EVANS. Y mae hwn yn gymysg celfyddydgar a ffodus dros ben. Cynwysa QTJININE SARSAPARILLA SAFFRON, LAVENDER, DANDELION, GENTIAN, a BURDOCK, set yr oil o'r darpariadau a nodasom yn y fath gymodedd fel ag i sicrhau cydweithrediad llwyddianus ar yr OLL 0 ELFENAU GWEITHGAR y cyff- erian, er cyraedd a dvogelu y dybenion. daionus raewn golwg wrth ei gyfanaoddi. Cyfaddefir gan brif feddygon y dydd fod Quinine Bitters Mr Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyaf HApus ag sydd hyd yma wedi ei wneyd o'r cyflieriaa nchod. AMCANION. Amoan mawr y BITTEHS hyn yw gosod mewn trefn brif ffynnoneUau (fel pe tae) peirianwaith y ccrff, a symud i ifwrdd y gwahanol achosion, y rhai a gynyrehant effeithiau poenus yn y cyfansoddiad. EU GWEITH L-IEDIAD Y maent yn cyuorthwyo traul yr ymborth, yn gwellhau a hwyluso y cylehrediad, yn cryfhau yqoiau a'r cyhyran, ao yn puro a ffrwythloni y gwaed. Y mae y cymysgivn hwn yn gryfboir cyffredinol, ae yn lanhaydd effeithiol, Nertba v rhanau eiddil yn y cyfansoddiad, ac o herwydd hyny y rhai mwyaf agored anwydon &'u canlyniadau. Y maent yn adnerthu ac yn adfywiocau y cyfansoddiad a'r tymherau, ae ar gyfrif hyny y maent wedi enill iddynt ea hunain y gymeradwyasth uchelaf ar gyfer pob math o wendidau sefyllfa iss', nychlyd, a marwaidd y corff. Y QUININE BITTERS. Pan yn galw sylw at y Tystiolaethau yn yr hysbysiad hwn, dymunem adgono y darllenydd eu bod ol yn dyfodol oddiwrth bersonaa cyfrifol yn ngwahanol gvlchoedd cyradeithas, yn dyfod trwy Fferyllwyr (Chemists), adnabyddus y rhan amlaf o honynt, o bob rhan o'r wlad yn cynwvs cyfeiriad ac enw y per- aonau a'r preswylfod, ac yn tystiolaethu y gellir yn hawdd brofi eu teilyngdod drwy anfon at y personau eu hunain. Nis gellir dyweyd fel hya am lawer o dystiolaethau ereill. Nid oes nemawr i ddiwrnod yn myned hsibio heb fod perehonog y Bitters yn derbyn cymeradwyaathau i'w heffeithiolrwydd. Frem Rev. THOMAS PRICE, M.A., Ph.D., Baptist Minister, Rose Cottage, Aberdare, Tach. 10fed, 1880. At Mr Gwilym Evans, F.C.S., Manufacturing Chemist, Llanelly. GAREDIG SYR,—Yr wyf yn awr wedi cael cyfle i wneyd ptawf teg a gonest o'r Quinine Bitters cyfan- aaddedig genych chwi; ac yr wyf yn gallu tystio oddiar brofiad personol a tb ystiolaethau amryw bersonau i ba rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bitters, eu bod yn meddu yr elfene", y nodweddan, a'r rhinwoddau a hawliwch iddynt. Yn y flwyddyn 1876, cefais gystudd trwm am wyth mis, ae mae rhai o effeithiau y cystudd hwnw wedi aros gyda mi hyd heddyw. Bu yn achos o ddychryn i mi ddyfod o'r llofEt ar hyd y grisiau i'r llawr rhag cwympo. Bu y cof, y cylla, a'r aeiodau yn peidio a gwneyd eu gwaith ond mae y Bitters wedi gwneyd llawer ia.wn er symud hyn oil; mae y cof yn llawer gwell, mae yr aelodau yn iach a chryfion, tra. mae y Bitters yn creu awydd mawr am fwyd, ac yn help mawr i dreulioyr hyn a dderbynir i'r cylla. Bu ams6r pan ag oedd dal yr ysgrifbin yn faich i mi, ond yn awr gallaf ysgrifenu yn ddigryn fel yn y dyddxau gynt, fel y gwelwch wrth y llythyr hwn Nid oes genyf yn awr ond dymuno o galon lwyddiant i chwi i wasanaethu eich gwlad a'ch cenedl am flynyddaa lawer i ddod.-Yr eiddoch, garedig Syr, yn wir serchog, THOMAS PRICE. GOFALED PAWB AM HYN. Gan fod amrywiol o ddarpariadau o Quinine i'w cael megis Tincture of Quinine, Quinine Wine Quinine Mixture, &o., <sc., y mae rhai ymofynwyr am Quinine Bitter Mr Gwilym Evans yn cael eu twyllo a'r pethau hyn yn y model mwyaf dideimlad a digywilydd. Wrth ge;isio bwn gan yr Apothecari, nid digon yw gofyn iddo fel hyn, Potelaid o Bitter," "Potelaid o Quinine Bitter," nac ychwaith Y Quinine yna," ond gofaler gofyn am 11 Quinine Bitters Mr Gwilym. Evans," ac cs na fydd yr enw Gwilym Evans, F.C.S., M.P.S., wedi ei ysgrifenu ar Stamp y Lly-vrodraeth ar bob potel, twyll a ffugiad ydynt. Pris y Potelau yw 2s 9c, i 4s 6c; mewn blychau, 12s 60 yr un. Iggr Cynwysa Potelau 4s 6c ddau cymaint a rhai 2s 9c ao felly gall y prynwr arbed Swllt wrth gym. eryd y rhai mwyaf. AC FEL HYIT REFYD: -Nil yw y perchenog yn profliesu y gwnant weithredu yn wyrthiol" ar neb, neu y gwna y doga cyntaf gyfnewid, neu y symndir poen mewn dAg mynyd," nac y bydd un botelaid yn llwyr iachau," ond y gwnant trwy ymbrawf teg a pharhaus o'r llysiau a nodwyd ddangos eu dylanwad daionus, os cymerir hwynt mewn pryd DALIER SYLW. Pob archebion a Thaliadau (cheques a Post Office Orders) gvmeyd yn daladvoy i ROBERT LFWXDWYN JONES. Y Gwyliedydd" Office, Rhyl. Anfoner pob archebion am y GWYLIEDYDD wedi en oyfeirio To the Publishers Y GWYLIEDYDD Office, Rhyl. Anfonir sypvnau ar y telerau arferol i Ddosbarth- wyr jAnfonir un Rhifyn trwy y Post bob wythnos am chwarter, i bwy bynag a anfono ei address gyda It. 8e. o rag-daliad, neu 2s. os na wneir hyny. Anfonir 2 gopi drwy y post am 2s. 9c. y ohwarter, ond talu yp mlaen, nen 3s. os na wneir hyny Hefyd, anionir 4, yn ddidraul drwy y post yn o 1 g. yr un. Y mae y chwarteri yn terfynu ddiwedd Mawrtb, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Yn mhob amgylchiad, anfonir ef yn mlaen hyd nea y ceil rhybuekl i'w atal. Anfoner pob ymofyniad yn nghylch Hysbysiadau at Messrs AMOS BROTHERS, Gwyliedydd Office, Rhy AT EIN GOHEBWYR. 1. Diolchwn am bob NEWYDDION mor ddioed ag y byddo yn bosibl. 2. Erfynir am i bob Gohebydd ysgrifenu yr hyn a fwriedir i'w gyhoeddi, ar un tu i'r papur yn unig, a bydded y papur yn sheets bychain. 3. Ni chyhoeddir unrbyw obebiaeth heb fod y Gohebydd wedi ymddiried i ni ei enw priodol. Beirniadaeth Clwydfardd. Cymeradwy,—Morgrugyn Callestr; Gwilym Dyfi, > a John Hughes. Gwybydded awdwr y llinellau canlynol fod anafan ynddynt- 'N deg ei wedd awch pob digon," oddefir eillgoll fel yma yn nechreu llinell metvn englyn—ni wna canu nid cwynfan" mo'r tro ychwaith o berwydd y mae f yn owynfan ac nid oes yn canu, wele un eto gyffelyb- Mewn poenau er mwyn prynu," Coll f a haner proest. Eto bythol ar aberth." Gobeithir y bydd iddo ddiwygio a diolch am y wers.
NODIADAU WYTHNOSOL. -
NODIADAU WYTHNOSOL. Dymnnwn alw sylw at hysbysiad a geir yn ein colofiiau, yn ogystal a llythyr oddiwrth ELEN WYN parthed Bazaar at gapel newydd i Pres- tatyn. Diau mai ychydig iawn o'n prif weini- dogion sydd yn awr yn fyw nad ydynt yn gwybod am sefyllfa enbydus hen gapel hyll Prestatyn, ac y cydolygant a ni fod eisieu capel newydd hardd yn ei Ie. Yn gwybod hyny, a gawn ni erfyn yn daer ar y cyfryw weinidogion i ddweyd gair yn mhlith eu ffrynd- iau ar y pen, a cheisio eu perswadio i anfon rhywbeth-nwyddau neu arian-at y mudiad. Nid oes dadl nad yw sefyllfa y capel wedi bod yn anfantais i'r achos yn y lie, ac yn parhau i fod felly a chyhyd ag y peru pethau fel y maent, nis gallwn ddisgwyl gweled gwawr ar yr achos. Mod.d bynag, mae y ffaith fod yr yni sydd yn cael ei ddangos gan gyfeillion yr achos yn Rhyl, ac yn Prestatyn yn dweyd fod pethau i newid yn bur fuan—y ceir capel newydd yno cyn bo hir. Gofynwn eto am gynorthwy PAWB. Y dydd o'r blaen, bu Arglwydd GEANVILLE yn siarad mewn cyfarfod, pryd y gwnaeth ddatganiad parthed yr Aipht, nad oes gan y Llywodraeth ddim arall mewn golwg amgen na 11 hyrwyddo llwyddiant y wlad, a sicrhau y rhyddid Ilavnaf i'r trigolion." Modd bynag, nis gall lai na chydnabod na ellir disgwyl gweled yr Aipht yn Hwyddianus os na lywodr- aethir ei phobl ar egwyddorion Ilwyddiant a iawndrefn. Yn cael ei harwain gan y teimlad hwn, mae y Llywodraeth Seisnig wedi cymeryd gafael ar bob cyfleusdra i argraffu ar fedd wI y KHEDIVE yr angenrheidrwydd o godi y bobl o sefyllfa o ddirwasgiad i un o esmwythyd a dyoge]wch." Mae yn resyn meddwl fod gwlad fel yr Aifft yn cael ei gorthrymu gan bersonau nad oes dim ganddynt mewn golwg ond eu hunan-barch, tra mae ynddi adnoddau llwydd- iant a chynydd. Mae y gair wedi cyraedd y wlad hon fod y Kaffiriaid yn y Transvaal—dosbarth o bobl pertbynol i'r Zuluiaid-wedi cyfodi arfau i fyny yn erbyn y Boeriaid. Ni pheidiodd y brodorion a chyfodi arfau rhyfel yn erbyn yr amaethwyr Ellmynaidd, oblegid eu bod yn hoffi rheolaeth y bobl wynion, bydded hwynt Saeson ai Ellmyniad ac nid' yw eu bod wedi eyfodi arfau i fyny yn ddim llai diberygl i'n trefedig- aethau ni nag ydyw i eiddo y gwerinwyr. Mae y boblogaeth frodorpl drwy yr holl diriogaethau o'r un a'r unrhyw lwythau ac iaith ag ydyw I eiddo y trigolion a breswylia yn y tiriogaethau a feddienir genym ni a'r Boeriaid yn y rhan yma o Affrica Ddeheuol. Fel y gwyr ein darllenwyr, mae ein milwyr ni wedi eu galw yn ol o'r fan y gosodwyd hwynt ynddo i wylio dyogelwch ein pobl. Yn gweled hyny, mae y MAPOCHA, yr hwn a fawr ofnid yn ystod y rhyfel Zuluaidd, wedi cymeryd y cyfleusdra cyntaf i anelu ei saeth at y bobl wynion agosaf ato; ac mae yn ddiddadl ei fod ef yn cashau yr Ellmyniaid yn fwy nag y mae yn cashau y Saeson ond unwaith y cyfyd y brodorion yn erbyn y dyn gwyn, nis gwaeth ganddvnt pa un ai Sais ai Ellmyn fyddo ac felly y maent wedi codi arswyd ar y trigolion gwynion nes eu gyru i'r pentrefi cylchynol. Mae Dr THOROLD, Esgob Rochester, wedi datgan ei feddwl yn ddiamwys wrth glerigwyr ei esgobaeth yn nghylch eu hymddygiad tuag at gladdedigaethau Ymneillduwyr. Ystyriai ei arglwyddiaeth na ddylai y clerigwyr fod yn ofnog rhag gwneyd dim yn ffafr brawdgarweh crefyddol na. fydd o duedd i dramgwyddo ea plwyfolion. Byddaf mor hael ag sydd n-iodd, ydoedd geiriau yr ESGOE a chynghora, pan y cymer angladd la yn y mynwentydd, i'r gloch gael ei defnyddio, ac i'r clerigwr wahodd y galarwyr i'r eglwys, lie y byddai iddo ddarllen y wasanacth gladdu, canu emyn, a dweyd ychydig eiriau caredig o gydymdeimlad, acyna gollwng y bobl ymaith. Pe buasai Esgob THOROLD wedi dweyd geiriau i'r perwvl uchod dipyn yn nghynt, diehon y buasai efe wedi rhagflaenu llawer o ddrwg- deimlad mewn rbai manau. Eithr yr ydym yn ddiolchgar iddo am eu llefaru yr adeg y gwnaeth. Ond amheuwn a ydyw yr oll o'i glerigwyr yn barod i fod yn "ufudd weision i'w arglwyddiaeth, serch hyny. Credwn fod ami un, yn Nghymru beth bynag, sydd mor ddi- deimlad fel ag i gadw at lythyren y gyfraith- na cheir claddu os na bydd y cynhebrwng mewn pryd, ond ganddo ef ei hun. Hefyd, gofalant am yr arian mewn modd mor ddisere- C) moni a phe byddai eu bywoliaeth am flwyddyn yn dibynu ar yr hyn a dderbynir oddiwrth y claddedigaeth hwnw yn unig. Nid yw byth yn gwlawio na bydd yn tywallt" sydd hen ddiareb. Folly y mae yn dygwydd tua Dinbych y dyddiau hyn. Yr wythnos o'r blaen etholwyd J. HARRISON JONES, Ysw., yn aelod o Gyngor Trefol Dinbych, trwy ei osod ar ben y rhestr, yr wythnos ddilynol etholwyd ef yn ddiwrthwynebiad yn Faer y drefhono; ac erbyn hyn da genym ddeall ei fod wedi ei. benodi gan yr AIIGLWYDD GANGHELL- TDD yn un o Ustusiaid y fwrdeisdref hono. Os nad ydyw hyn yn tywallt anrhydedd nis gwyddom beth arall i'w alw. Da genym feddwl mai dyn fedr yrngynal o dan £ dywallt- iad o'r fath hyn ydyw Mr JONES heb anghofio ei hun. Mae yr echwynwyr o'r diwedd wedi derbyn sicrwydd y bydd iddynt dderbyn gan y Porte ryw gydnabyddiaeth am yr arian a fenthycas- ant i'r Ymerodraeth Dyrcaidd. Diau y bydd pob ychydig yn dderbyniol, ond rhaid addef fod yr hyn a addewir yn mhell o fod yr hyn a ddylai fod. Mae ymddiried y rhai a fenthyc- asant arian i'r Llywodraeth Dyrcaidd wedi eu siomi yn fawr. i'r hyn a gynygir iddynt ydyw 1 y cant ar y ddyled wreiddiol. Nid yw hyn, megis, yn un sarhad ar y Llywodraeth bwdr hono, ond pan yr ystyriom fod Galluoedd Mawrion Ewrop weni ymenwogi yn symudiadau mewnol, yn gystal a policy tramorol yr ymer- odraeth Ottomanaidd, eu bod i ryw raddau wedi taflu eu hunain yn gyfrifol, y gwelant fod yr ymrwymiad yn cael ei gyfarfod, mor belled ag y gallant yn rhesymol. Y mae yn eu gosod mewn sefyllfa braidd yn annymunol. Wedi i ni yn ymarferol symud yr anhaws- derau ar derfyndir gogledd-orllewinol India, mae ein sylw yn awr yn cael ei alw i'; gogledd- ddwyrain. Yn y lie hwn mae llwyth o Abariaid y rhai sydd yn dyfod yn annyoddefol. Hyd yn hyn, arferid edrych ar ein perthynas a hwynt, serch eu bod yn bobl beryglus, yn un gweddol gysurus; ond mae gan y Llywodraeth reswm dros gredu nad yw ei dyogelwch yn gyfryw ag y dylai fod y gauaf dyfodol. Tua 23 mlynedd yn ol decbreuasant yrnderfysgu, a hyny i'r fath raddau nes gorfodi y wlad hon i anfon nifer o filwyr allan yn eu herbyn, ond i un dyben. Y flwyddyn ddilynol bu raid anfon rhagoro filwyr allan, a'u cael i lonyddu. 0 hyny hyd yn awr, yr ydym wedi gorfod bod yn wyliadwrus o honynt, ac mae'n ymddangos y rhaid ymddwyn j 7 yn chwerw tuag atynt y waith hon. Gobeithiwn na thywelltir gwaed.
DECHREUAD ADFYWIAD.I
DECHREUAD ADFYWIAD. Y MAE Adfywiad ar Waith yr ARGLWYDD yn bwnc mor bwysig fel yr ydym heb unrhyw ym- ddiheurad, yn ei ddwyn gerbron ein darllenwyr yr wythnos hon eto. Yn wir, gan Adfywiad Crefyddol y mae yr hawl gyntaf i'n colofnau. Amcan mawr cyntaf a phenaf ein papur o'r dechreuad ydyw gwasanaethu Trefnyddiaeth Wesleyaidd; ac er mwyn y gangen hon o eglwys CRIST, yn mlaen pob peth arall, yr ydym yn parhau, ac yn penderfjnu parhau i weithio. Ac amcan mawr ein Trefnyddiaeth o'r dechreu- ad, yn ol geiriau cynwysfawr, cryfion, ei SYL- FAENYDD, ydyw gwasgaru sandeiddrwydd Ys- grythyrol trwy y tir. Gan hyny, y mae nodi allan yr Angen am Adfywiad, rhoddidatganiad i'r Hiraeth a deimlir am dano, gwylio ei Ddech- reuadau, anog pob ymdrech Y sgrytbyrol er ei gael, cymell pob parotoad priodol ar ei gyfer, cefnogi pob disgwyliad eyfreithlon am dano, yn gystal a Uedaenu pob hysbysiad yn ei gylch -mae y pethau hyn oil yn porthyn i'n gwaith mwyaf priodol, ac yn un o'n prif ddyled- Bwyddau. Dylid edrych am Ddechronad Adfywiad ar Waith yr ARGLWYDD, a dylid bod yn ofalus i adnabod ei Ddechreuad. Mae hyny yn angen- rheidiol, nid yn unig rhag digalondid, eithr er gwybod pa beth, a plia fodd, i vveithredu yn mhellach ac er mwyn teimlo y gobaith sydd yn rhoddi nerth bywyd yn y cyfryw weithgar- wch, ac yn rhoddi llawenydd a chan, yn He tristweh a chwyn. Gall y Dechrenad fod yn fychan-yn fycban iawn. Dyna hancs cyfTrcdin pethau mawr Duw yn ein byd ni. Morfychan y goleuni ar doriad cyntaf y wawr, ond dyna ddechreuad hirddydd haf. Mor fychain yr egin ar eu^blaendarddiad cyntaf, ond dyna- ddechreuad defnydd bara i drigolion byd cyfan am flwyddyn o amser. Mor fychan oedd i wyth neu ddeg o ddynion fyned at JOHN WESLEY yn Llundain, yn niwedd y flwyddyn 1739, gan ddymuno arno "dreulio ychydig o amser gyda hwy mewn gweddi, a'u cyfarwyddo pa fodd i ffoi rhag y Hid a fydd," ond dyna ddechreuad yr QUcuincnioal Methodist Conference a gynaliwyd yn Llundain yn niwedd y flwyddyn 1881, ïe, a llawer mwy na byny-dyna ddech- reuad yr hyn oil a wnaeth, ac a wna, Trefn- yddiaeth Wesleyaidd, er gwella y ddaear, a phoblogi y nefoedd, byth er hyny, ac o'r pryd hyny byth A phaham y soniwn Oni welwyd PEN YR EGLWYS yn ddyn bach wedi ei rwymo mewn cac -chau, a'i ddodi yn y preseb?" "Bydd dyrnaid"—dyrnaid! Mor fychan Mor ychydig Dim ond dyrnaid! Ie, ond dyrnaid o yd "Bydd dyrnaid o yd ar y ddaear, yn mhen y mynyddoedd: eiffrwyth a ysgwyd fel Libanus Er i'r dechreuad fod yn fychan, er hyny, os yn ddechreuad Adfywiad, gellid disgwyl pethau mawr, a dylid parotoi ar eu cyfer. Ond y cwestiwn sydd yn ymwasgu arnom ydyw: Yn mha le yr ydym i edrych am y dechreuad hwn? Os ceir yr adfywiad yr addefir fad cymaint o angen am dano, ac yr hiraethir cymaint am ei gael, rhaid iddo ddech- reu yn rhywle. Ond yn mha le ? Y mae yn hawddach ateb y cwestiwn hwn yn uniawngred, na'i sylweddoli yn ddyladwy a dichon mai yn y fan hon y mae un diffyg na chaem Adfywiad- au mynychach a mwy cyffredinol. Rhaid iddo ddechreu yn yr eglwys. Yr ydym i eurych yn gyntaf atom ein hunain-yr ydym i edrych atom ein hunain cyn edrych i'r nefoedd. Y pwnc mawr ydyw ystyried hyd nes ei sylweddoli yn ddwfn ynom ein hunain. Aeth ELIAS i ben Carmel ac ymostyngocld ar y ddaear, a gosododd ei wyneb rhwng ei liniau, cyn dywedyd wrth ei lane am fyned i fyny i edrych tua'r mor. Ie, a chyn hyny yr oedd ELIAS wedi cyweirio allor yr ARGLWYDD, yr hon a ddrylliasid— yr oedd wedi gwneyd hyny yn enw yr ARGLWYDD, ac mewn ymddiried hollol yn yr ARGLWYDD, ae wedi nesau at ARGLWYDD DDlJW ABRAHAM, ISAAC, ac ISRAEL, i erfyn, a deisyf, a dadleu, am wran- dawiad, cyn i dan yr ARGLWYDD syrthio. Ond wedi i dan yr ARGLWYDD syrthio, y syrtbiodd yr holl bobl ar eu hwynebau, ac y dywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW." Yn union felly y bu ar ddydd.y Pentecost yn Jerusalem. Yr oeddynt hwy oll yn gytun yn yr un He. A hwy oll a lanwyd a'r YSBRYD GLAN." Dyna oedd y dechreuad. Ar ol hyny y tiaddodwyd y bregeth fawr fytbgofiadwy gan PETR—ar ol hyny y dwysbigwyd y lluaws yn eu calonau, ac y derbyniilsant y gair yn ewyll- ZD ysgar, ac y chwanegwyd yn nghylch tair mil at yr eglwys. Hyn sydd arnom eisieu eto. Deffroad mawr, dwfn, cyffredinol yn yr eglwys i ddechreu. Hiraeth am sancteiddrwydd calon -y fath hiraeth ag a gymello ymdrech mewn hunanymwadiad, ac ymostyngiad, a thaerineb angerddol mewh gweddi, am ei f wynhau ac yna gallem edrych am ddychweliadau o'r byd ar raddfa eang a chyffredinol. Byddai WILLIAM BRAMWELL, wedi ei fynediad i gylchdaith new- ydd, yn gyffredin, mewn ymdrech gyda Duw hyd ing am wythnosau, cyn y byddai yn gweled y dychweliadau rhyfeddol a lluosog, y bu mor fynych yn offeryn yn Haw yr YSBRYD GLAN, i'w dwyn oddi amgylch. Ac hyn yw y peth a ddywedwyd trwy j prophwyd JOEL: "WyJed