Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr.
Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr. Y newyddion diweddaraf am y diwygiwr yw ei fod wedi ail ymaflyd yn ei waith cyhoeddus, wedi bod am beth ameer mewn neillduaeth, ac wedi cael buddugolaeth ar allnoedd y tywyllwch. Fel dyn cryf wedi ei adnewyddu yn yrysbryd traddododd pi anerchiad gyntaf gydag eneiniad oddiwrth y Sanotaidd Bwnw. Tra yn lletya gyda Mr a Mrs Rhys Jones, Neath, fe ddarfu y cenadwr ieuanc, yn ol ei dystiolaeth ei hun, ac ufudd-dod i'r Ysbryd, gau eu hunan oddiwrth y byd-gan aros y rhan fwyaf yn ei ystafell-wely-a phenderfynodd i fod fel Ezeciel, ac i gadw yn ddystaw am saith niwrnod. Yn ystod y oyfnod hwn nid oedd ei lety-wraig yn cael eymdeithasu ag ef ond trwy ysgrifen, ac am ddyddiau ymwrtbododd a pbob cyfrinach. Gadawyd ei brydau bwyd tuallan i ddrws ei ystafell. Ac wedi dystrwyl yn amyneddgar am i'w dymo" o neill- duaeth ddirwyn i ben, llawenychasant boreu ddydd Iau wrth weled y dyn ieuane yn ymddangos, ei wynebpryd yn disgleirio gan wenau Cyfaroboddhwygyda 'Boreu da,' a pban ymgynullodd y teulu hlSbysodd bwy gyda seiniau o fudduifoliaeth pit fodd yr ydoedd wedi bod mewn ymgyroh ofnadwy gyda holl alluocdd daear ac uffern, ac fel yr ymdrechodd "Did yn erbyn gwaed a chnawd, ond ya erbyn ty wysogaetbau, Yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysprydol yn y nefolion leoedd." Cyhoeddodd gyda llawenydd ei fod wedi cael buddugol- iaeth, ac yr oedd yti gryfaeh, a gobeithisi ei fod yn fwy sanctaidd am ei brofiad diweddar. Yn ddiddadl gellir dyweyd am dano fel am Enocb, Ac fe rodiodd gyda Duw." Nid rhyfedd ei fod mor ysbrydol, ac yn llawn o eneiniad, wrth ganfod mor uchel mae ei gymdeithas a'r Dwyfol. Efelychwn ef Gymry anwyl. BHYDWENFAB. Hysbysir ddarfod i Mr Evan Roberts tra wrth y bwrdd yn bwyta dydd Sadwrn, gymeryd gafael mewn pensil ag ysgrifenu y weddi ganlynol:— Y WEDDI. Yegrifenwyd dan arweiniad yr Ysbryd Glan yn Godrec- oed, Castellnedd, 5.15-30 p.m., 25-2-1905, A.D. Ysbryd Sanctaidd, Pura a Meddiana y cwbl er Dy Ogoniant; a chadw fi hyd y diwedd—(os diwedd hefvd)- yn Dy wasanaeth, Dysg fi i wasanaethu, Na ad fi i flino trwasanaethu. Rho i mi fwyphad y gwasacaeth wc. Dysar fi i fyned mor isel am dymuniad-ae mor isel ag yr wyt Ti -y Bod Sanctaidd a Chyfiawn yn gotyn i mi i fyned. Agor fy llygiad i weled gwaith-Llanw fy nghalon (yr hon a lanheir genyt Ti) a gwaith. Hwylia fy ngherddediad at waith-nid fy ngwaitb-ond Dy waitb. Cidw fy mysedd yn lan rhall halogi Dy waith-Gwaith jjostiodd Ddwyfol Waed—Gwaith wedi ei Sancteiddio a chwys ie. a dagrau-ie, a gwaed Calon fy Nuw-Gwaith a holl gyfoeth y Duwdod ynddo, arno, y tu ol iddo yn ei yru ymlnen-Gyro. Na, nid oes gyru ar ddim sydd gan Dduw, Satan sydd yn gyru-deuu y mae Dllw-tyou- felly, fy Nuw tyn fi i Dy waith-c-idw fi yn Dy waith cad wed Dy waitb fyfi-a chadw finnau yn allu i dynu eraill i Dy waith. Arddel Dy waith y dyddiau liyn- arddel Dy waith y dyddiau hyn-arddel Dy waith or mwyn yr lawn—a choiia yr Eiriolaeth —Dy FJob-D y Sanot Fdb lesu-th feibion Dy wasauaeth wyr. Bed- yddia fi a gwaith er mewn y Gweithiwr Mawr. Amen. EVAN ROD KRTs. Pan ofynodd ei letywr iddo bore Sul, oedd ganddo ryw genadwri at yr Eglwys y bore hwnnw, ysgrifeLodd a ganlyn mewn atebiad :— Boreu Sul. Anwyl Mr Jonee,-Dyma yr adnod ddaeth i'm meddwl i:- 41 Ewyllus yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef." 1. Sicrwydd v Llwyddiant A lwydda." Mae y Drindod Sanctaidd ar ei goreu, Tybed a ydyw yr Eglwysi ar ei goreu. A yd wyf fi ar fy ngoreu ? A ydycb chwi ar eich goreu? A ydwyf fi yn gwneyd gymaint a allaf i lwyddo y "gwaith." Gwaith oaled i'w dweyd I, Gwneler dy ewyllue." Ond y mae yn rhaid dweyd ynte ni lwydda yr ewyllus i'r graddau y mae Duw am iddi hi i lwyddo Yr wythnos bon yr wyf yn gorfod "ymddarostwng dan alluog law Duw." Hawddaoh dweyd" "Gwneler dy ewyllus na gwneutbur ei ewyllus," eithr "Digon" i ti fy narra-s i. 2. Ammod llwyddiant yr ewyllus "yn ei law Ef." Nid ein cynlluniau ni-eithr ei drefn ddwyfol Ef. Nid trwy lu ac nid trwy north, ond trwy fy ysbryd i. Mae'r Haw fu'n taflu creadigaethau i fodolaeth, a'r Haw fu'n dal y dur garw ar y groes—yn abl-ao yn Ddwyfol addas i godi a chadw miliynau o ddyfoderoedd colledig- aetb. Gawn ni ddweyd—Iesu, cymer fi yn Dy law; fel y mynot gad i'm fod. Megis y rheda yr anfon i'r mor, felly eheded fy ewyllus innau i for mawr yr Ewyllus Ddwyfol. Arglwydd, cymmer fy ewyllus i, i wneuthur dy Ewyllus Ddwyfol dy bun. Ir eiddoch, mewn rhwymau ciriad, EVAN ROBEBTS, §o§
Nodiadau o'r De. -----,-.
Nodiadau o'r De. Castellnedd yn Morganwg yw canolbwynt dyddordeb y dyddiau diweddaf hyn, oblegid mai yno mae Evan Rob- erts wedi bod y aros mewn ymneillduedd am saith niwrnod. Nid ydyw yn debyg iddo dorri i lawr yn ei iechyd, ond yn hytrach fod yr Yspryd yn ei gynghori i beidio dal oym- mundeb a neb am wythnos. A chariodd gyfarwyddyd yr Yspfyd alliin yn llythyrenol. Ni ymganodd air wrth neb am y cyfnod hwn. Gwyddom am rai wedi talu ymweliad ag ef, ond hollcl ofer oedd disgwyl gair oddiwrtho. Erbyn byn y mae wedi dyfod allan o'i unigedd, ond mae ei sym- udiadau gyda golwg ar y dyfodol yn hollol anhysbys i bawb, hyd yn oed iddo ef ei hunan. Mae yn ddigon posibl iddo ymDeillduo i unigedd er mwyn myfyrdod a gweddi ar gyfer cenhadaeth Liverpool. e s • « » Mor debyg vw ei ffyrdd, gellid meddwl, i broffwydi yr Hen Destament. Y mneillduai y rhai hynuy i leoedd unig ag i fjilfacbau'r mynyddoedd 'nawr ac eilwaith, allan o awn y byd, i ddal cymmundeb a'r Anweledig, oyn gw neud ymosodiad ar beohodau eu hoes. Ofnaf yn ami nad yw mj fyrdod yn cael digon o le gennym y dyddiau hyn, er d fod yn un o'r cyfryngau goreu i adeiladaeth ysprydol. K 4 Deallaf trwy gyfaill i mi sydd mewn gohebiaath bar- haus a Evan Roberts, bod y Cenhadwr yn oael ami i lythyr enllibaidd iawn llythyrau sydd yn awgrymu peth iselwael, ac yn gwadu ei gymhellion, llythyrau sydd yn dangos mor ddwfn y gall dynion fyn'd mewn peehod ac yn ddiddadl fod y rhai hyn yn blino ei yapryd. Hyderwn beth bynnag, nad yw y dosbarth enllibaidd hyn yn ami: credwn fod corff y wlad yn grefyddol ac annghrefyddol o'i du, ac yn dymuno Duw yn rhwydd iddo. Gobeithio ei fod ar ail ymafiyd yn ei waith er eymmaint o ddaioni sydd eisioea wedi ei wneud mae digon o le etto. ■ B a a M Anfonwyd"wire" i Kenhadaeth Dr Torrey yn Llun- dain, bod Mr E Roberts wedi torri i lawr, a galwodd Dr Torrey ar ein cydwladwr, v Parch D Young, D.D. i arwain y gynulleidfa mown xweddi ar ran Mr Roberts a'r Diwyg- iad yn Nghymru. Yn sicr, anrhydedd nid bychaii oedd hyn, cael ei alw yn ddifyfyr mewn cyfarfod o ddeng mil i gyfaroh yr orsedd ar ran y Cenhadwr a'i waith. 8 a a Mae Castellnedd yn enwog ar lawer oyftif. 0 fewn milltir i'r dref hon saif adfeilion yr Hen Fynachlog. Chwelir hi gan gilddanedd amaer, ond mae yno rhai ya- tafelloedd heb ayrthio, ac edryohir ar ol y lie gau ddau sydd yn aelodau ynghapel Fynachlog Nedd. 0 bosibl caf ddweud gair etto am yr adeiladau henafol hyn. Fel y mae yn hysbys i lawer bu y Naturiaethwr enwog Alfred Russell Wallace yn byw yn Nghastellnedd dros drl uarain mlynedd yn ol. Ganwyd ef yn Usk, yn Mynwy, yn 1823. Felly eyfrifir ef yn Gymro o enedigaeth. Yrofidd yn gydweithiwr a Darwin, a saif yr athrawiaeth am "Ddadblygiad" trwy ddetholiad naturiol yn gysyllt- iedig ag enw y ddau ddyn enwog hyn am byth. :e: Tarawodd y ddau ddyn hyn ar Ddamoaniaeth Dad- blygiad yn hollol ar wahan, ac yn annibynol ar eu gilydd ac mae yn debyg fod Spencer wedi sylwi ar yr un cwrs- weithreniad yn myn'd yn mlaen mewn natur o flaen y rbai hvn; fel gellir dweud tryda rhywfaint o sicrwydd fod y tri wyr mawr hyn yn hollol annibynol ar eu gilydd, wedi sylwi ar yr un ffeithiau mewn natur, ac wedi tynnu yr un casgliud a chynyg yr un esboniad arnynt, a hynny tua'r un adeg. Cnewyllyn y Ddamoaniaeth bon ydyw, fod natur trwy gwrsweithrediad naturiol yn dewis y crmhwysaf i fyw, ac yn difa yr aaDghymmwysif o fod. Wrth y cymhwysaf y golygir yr un fedr gyfaddasu ei hun oreu i'w amgylchfyd, neu ei gylcbyniadau. Mae yn ddigon posibl y gt!I hyn gyfrif acu ddadblygiad yn y byd llysieuol, ac efallai yn y byd anifeilaidd, ond unwaMi sonir am "ddadblygiad cymdeithasol" mae detholiad naturiol" yn hollol an- nigonol. Cymer "Ddetholiad mewnol" neu "ddeiliadolV le amlwg yn nadblygisd cymdeithasol. Wrth yr hyn y goiyifwn y dewisi^d pcrsonnol mao y dyn ei hunan yn ei .4, yii ei wneud pan yn dewis cylch i fyw ymdo, fel mae ,gap, ew- yllys dyn lawer i'w wneud a'r cynnydd mewn moesoldeb. Elfenarall eto yn y dadblygiad hwn vdjw yr hyi a alwant yn "ddetholiad cymdeithasol." Golygwn:wrth hyn bod cymaeithas yn dewis y cymhwysaf i dy weder swydd, am ei fod yn ddirwestwr, tra yn ymddiswyddo dyn am ei fod yn meddwi, neu yn un nas gellir ymddiried ynddo. Gwnli gymdeithas hyn ttwy sefydliadau a dedd- fau, pa rai sydd yn fynegiad o feddwl ac ewyllys cvm- deithas A oes yna wahaniaeth rhwng hyn a detboliad naturiol ? Cymmain't a hyn o bosibl, mae detholiad cym- deithasol yn tybio bwriad, hynny yw. mae yna amean gan gymdeithas, trwy gospi y drwg, a gwobrwyo y da. No gellir bod yn sicr a oes yna fwriad ae amcan mewn detholiad naturiol. Fe allai bod amcan, fe allai na, 'does neb yn gwybod i siorwydd. SCEXTTATOE. —§o§
DIRWEST A MOESAU.
DIRWEST A MOESAU. Dy^wyd tvstiolaeth gref i effeithiau y Diwygiad gan y Parch J W Humphreys (B), Rhos Dywedai am ei ddylauwad ar y bobl mewn ystyr gym- deithaso!, ddinasyddol. amoesol. Credai fod mwy o waith wedi ei gjflawni mewn pcdwar mis o blaid dirwest nag a wnaed gan yr boll ymdrechvon dirwestol yn ystod y deng mlvnedd diweddaf, Heblaw hynny, fod pobl yn awyddus i dalu eu dyledion i arfer in'th burach a sicrhau cartrefi glanach gwisgoedd gwell; ac fod eu holl fywyd wedi diwygio.
-0----GWTDDONIAETH A DIRWEST.
-0- GWTDDONIAETH A DIRWEST. Nid oes gan yr Achos Dirwestol well pleidiwr na'r Pioffeswr Sims Woodhead, Athraw yn Mhrifysgol Cam- bridge. Bu yn traddodi ei ddarlith benigamp ar "Effeithau alcohol ac afiechyd," i gynulleidfa astud, yn Robson St. Chapel. Arfer y Proffeswr yw defnyddio y canvas i egluro ei safie ar y cwestiwn.
-0----NEWYDD DA I DDIRWESTWYR.
-0- NEWYDD DA I DDIRWESTWYR. Deallwn tod dwy grocer's license wedi cael eu "sur- rendro "—eu rhoddi fynny, yn ddiweddar un yn Criccieth, an arall yn Aberdyfi. Diolch bytb, mae'r Arglwydd trwy ei Yspryd yn gweitbio yn rhyfedd yn y dvddian hyn. Gweitbio yn dawel ond hynod o effeithiol. Mae rhoddi i fynny yn golygu aberth mawr, cud bendigedig, offrwm llawenydd a fydd i'r offrymydd ae i eraill. Disgwyliwn glvwed rhagor o newyddioa fel hyn. Mae rhoddi lic- ense i fynny o dan cymhellion cydwybod yn well na gwneud o dan orfodaeth y llys trwyddedol, neu bwysau dylanwadau eraill.
---,0--DIOI.CH I'R YNADON.
-0-- DIOI.CH I'R YNADON. Anfonwyd llythyr gan Undeb y Gweinidogion yn Abet- tawe, i'r Ynadon Trwyddedol, yn cydnabod yn ddiolchga* eu gwaith cydwybodol yn ceisio lleihau nifer y trwydded- au yn y dref a'r cylchoedd. Yr oeddynt yn gofidio foil eu gallu i weithredu wedi ei gyfyngu i raddau gun ddeddf- wriaeth ddiweddar. Er hynny gwrthodwyd saith trwy- dded, a danfonwyd wyth "applicant" am iawn i'r pwyllgor.
--0-MESURAU A GYNYGIR I'R…
--0- MESURAU A GYNYGIR I'R SENEDD. 1. I roddi i'r trethdalwyr direct veto ar y fasnach feddwol o fewn eu terfynau priodol yn Yserotland. Cyf- lwynir y cyfr> w gan Mr Hunter Craig. I'wddarllen yr ail waith ddydd Gwener Mai 5ed—y drefn gyntaf. 2. I wrthwynebu gwerthu diod ar y Sebboth. Cyf- lwynir y cyfryw gan Mr Perks. Mae yr uchod i lawr am yr ail ddarlleniad ddydd Gwener Mai 26ain-yr ail drefn 4. I wella y ddeddf o berthynas i werthu diodydd meddwol ar Sadwrn yn yr Iwerddon. ;Cyflwynir yr uchod gan Mr Sloaoe. I'w darllen yr ail waith ddydd Gwener Ebrill 7fed-ail drefn. 4. Meddwdod yn yr Iwerddon.—I wella y ddeddf 0 ber- thynas i'r uchod, ag amcanion eraill cysylltiodig. Uyf- lwynir gan Mr T W ltussell. I'w darllen yr ail Vraith ddydd Gwener Mawrth 2lain—y bedwaredd drefn. 5. I wella y ddeddf o gau tafarndai yn Nghymru. Cyf- lwynir gan Mr Herbert Roberts. I'w darllen yr ail waith Mai 19eg—y drydedd drefn.
-0--PLANT Y BAND OF HoJPE.
-0-- PLANT Y BAND OF HoJPE. Darn i'w adrodd. Mae baner dirwest ar y blaen Yn chwifio yn y nen A thyrfa fawr yn dilyn sydd I noddfa Seion wen. Mae gal wad gyffredinol rhad Ar bawb i ddilyn hon, Mae holl ainoddau'r Nef wrth law I'w chario dros bob ton. 0 Arglwydd diolch am dy ras Ac am dy gariad mawr, Mae baner dirwest wen o hyd Yn ymyl ar y llawr. I'r pellaf beddyw sydd yn byw Yn nyfnder nos ei chwant Fe all trugaredd Duw ei wneud I rodio gyda'i blaet. Dros fryn y groes a'i goryn gwyrdd 0 byd mae'r ffordd i'r Nef Ac iddi y mae dirwest gu Yn arwain tyrfa gref. Mae Duw o blaid y faner wen Ei dilyn wnawn o hyd Cawn fuddugoliaeth yn y man Ar elyn mawr y byd. ILAB.
[No title]
-0-- Hyderaf eich bod yn parbau yn ffyddlon i'r cais a wnaed ychydig wythnosau yn ol. LLOYD DAVIES.
Advertising
EORG 9 GRAVEL PI LLS Esiamplo lythyrau a dderbynir yn ddyddiol gan Berchenog "George's Pile and Gravel Pills." PARK HOUSE, SALISBURY ROAD, CARDIFF, Chwefror 24, 1894. ANWYL SVR,- Mae fy anwyl fam wedi dymuno arnaf lawer o weithiau i ysgrifenu atoch i ddiolch i chwi o waelod ei ehalon am y lleshad y mae wedi dderbyn trwy eich Pelenau. Y mae yn 73 mlwydd oed; ac y mae yn hapus genyf ddweyd y mae yn teimlo yn hynod o iach a hoenus Priodola sefyllfa ei hiechyd i ddau beth, a defnyddio ei geiriauhi, sef, yn gyntaf, i drugaredd yr Arglwydd, ac i'ch Pelenau chwi yn ail. Dioddefodd boen dirfawr yn ei chefn am lawer o flynyddoedd, ond tua thair blynedd yn ol penderfynodd dreio blychiad o'ch Pelenau chwi, a mawr v ileshad a dderbyniodd yn union. Mae ei genau yn agored wrth bawb am y lies mae wedi deimlo, ac yn parhau i dderbyn o hyd. Teimlai rwymedigaeth arni i gyhoeddi hyn er budd i eraill. Ydwyf. yr eiddoch yn ddiffuant, D. BEYNON, COAL MERCHANT. LLYTHYR ARALL ODDIWRTH MR. BEYNON,— Hydref 22, 1904. Anwyl Syr,-Deng mlynedd yn ol, ar gais fy anwyl fam, ysgrifenais yn gynes iawn i ddiolch i chwi am eich Peleni Rhif vr Ail (No. 2 Pills). Mae mam eleni yn bedwar ugain a phedair oed, ac yn mwynhau iechyd da-diolch i'ch Peleni chwi, a thrugaredd yr Arglwydd yn benaf, wrth gwrs, ys dywed hithau.- Ydwyf, &c., D. BEYNON. PONT-Y-GWAITH, GLAM. Anwyl Syr,-Dymunaf eich hyspysu gyda diolchgarwch, a hyny er mwyn eraill a all fod yn dioddef, fel y bum i cyn i mi ddyfod yn adnabyddus o'ch Peleni clodfawr chwi—sef, GEORGE'S PILE AND GRAVEL PILLS. Flynyddau yn ol, pan mewn poenau mawrion, yn gorfod cadw'm gwely gan gefn dolurus, ac wedi treio pob peth a allaswr, i ac eraill, feddwl am dano, nes wedi cwbl anobeithio, a chredu nad oedd gwellhad i'w gael i mi, daeth cymydoges i mewn i edrych am danaf. Pan y gwelodd fy sefyllfa dywedodd —"Ddyn Pa- ham y byddwch farw pan y mae meddyginiaeth yn ymyl ? Y mae yn rhaid i chwi gymeryd GEORGE'S PILLS, a hyny ar unwaith." Gyrwyd am danynt; ac wedi i mi eu cymeryd ryw bedair gwaith cefais y fath ryddhad nas dichon neb ei gredu, er drwy boenau mawr ond y mae y ffaith yn aros. Nid wyf bydd oddi ar hyny wedi cael y fath boenau a phan y teimlaf fod y poenau fel yn awyddus am ail ymaflyd ynwyf, nid oes genyf ond troi at y blwch a chymeryd y ddogn arferol, sef dwy o No. I wrth fyned i'r gwely, a bydd pob arwyddion o honynt wedi eu hysu ar ffo cyn y boreu. Ydwyf. yr eiddoch, &c., D.THOMAS Gwerthir y Peleni byd-glodus hyn yn mnob man, mewn Blychau Is. lic. a 2s. 9c. rr tin. Gyda'r post, Is. 2c. a 2s. 10c. yr un. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri fiurl:- No. 1.—George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las). No. 3.-George's Pills for the Piles (label goch). Perchenog, J. E. GEORGE, M.R.P.S., Hirwain, Glam. RHYBUDD—Byddwch ofalus wrth bymu 'PILE AND GRAVEL PILLS," eich bod yn cael y Genuine Pills, sef PELENI GEORGE. DIARHEBION CYMREIG. Gwobr o 101- Yr ydym wedi penderfynu rhoddi v swm uchod yn wobr i'r un lwydda i lanw bylchau mewn nifer o ddiarhebion Cymreig. r < jj- Nid oes eisiau anfon y pqpuran yn ol yn wythnosol, ond cadwer hwyot yn ofalus, ac fe gyhoeddir yn y GWYLIEDYDD pa bryd bydd eisuiu eu cael. Y mae dyfarniad y GOLYGYDD i fod yn derfynol. (io). i (i) A g 1 n d g 1 e ph h n if i (2) Deu th w th y..1 ech u h I (3) Ew. n d. f. y.. w a.. e i. m.b » i ENW 1 CYFEIRIAD 5. 1 Mawrth 9fed, 1905. ■ ADVERTISEMENT ORDER FORM. To the "MANAGER, 'GWYLIEDYDD' OFFICE, LEiESiWOOD, MOLD." Please insert the following Advertisement in your next issue, for whidh I enclose £ s. 6dL I I I 1 I I I I —. I I I I I NAME.. ADDRESS