Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

/:■; MARW - GOFFA.'L'\..

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

■; MARW GOFFA. 'L' MARWOLAETH MR. EVAN DAVIES, BETH. ESDA, DLAENAU FFESTINIOG.. Bore;ü dydd Gwener d'weddaf, Mawrth iqeg, bu farw y gwr da uchod yn dra axmisgwyliaèlwy, yn 62 mlwydd oed. Tarawyd cymydogaeth Bethesda a braw ac a. phrudd-der mawr pan glywodd y newydd trwm.Er nad oedd yn frodor o'r. lie, yr oedd wedi -gwneyd ei gartref yn Ffestiniog er's llawer '0 flynyddøcdd. Daeth yma tua 45 mlynedd yn ol, yn llaac 17 oed, ac, yma yr arhosodd yn ddifwleh hyd y diwedd. Amaethwyr oedd or deulu yn Sir Aberteifi. Ganwyd ef mewn amaethdy tua dwy filldir. o Pontrhydy- groes, Medi 3, 1846. Yr oéèdd y teulu yn grefyddol ac yn mynychu Capel Dafydd Morgan-y. Diwyghyr,/■. yn: Y sbyty Ystwyth. Cafodd yntau addy,sg. grefydd- ot dda) er iddo golli ei; fam panyn bur ieuanc. Bu., y teulu yn byw wedi hyny yn •Rhydfe.ndigaid,. ac ar ol hyny ynSwyddffynon, yn agos i Tregaron, lie buont yn cadw ty capel, a lIe-hefyd y gwasanaeth- odd ei dad fel blae-npr gyda'rvM&thodistiaid. Yn ystod yr adeg hon bu Evan Davies am amsex yn cael addysg yn Ngholeg loan Sant, neu ysgol Ystrad- meurig. Yr oedd ci dad wedi meddwl iddo fyn'd i'r weinidogaeth wrth ei anfon i'r ysgol hon—lv.:ir ysgol Edward Richards ei sefydlydd. Ond fel arall y Irefnodd Rhagluniaeth. Ymadawodd Evan Davies a'r-ysgol am beth amser i Borth, Aberystwyth, ac wedi hyny i ._Corris. Byr fu ei arhosiad yn Nghorris—daeth yn ei.flasn i Ffestiniog, lle.yr.arv hbsodd. Ar ol.dod yno bu am gyfnod ht;b fod yn aelod eglwysig.. Ond tua .30-mlynedd yn ol yniun- odd a'r eglwys yn Ik thesda, a bu ohyny hyd vn- awr yn un o'i haelodau rnwyaf. ffyddlon ac ymrodd- edig. Tua .i6eg mlynedd .yn ol dcwiswyd.ei yn.. flaenor yn Bethesda. LIafuriodd i gymhwyso^ei hun gymaint ag, a allai ar gyfer ei swydd. Darllenodd lawer ar y llyfrau goreu oedd o fewrl ei gyrhaedd, a llwyddodd i gyrhaedd gwybodaefh'helaeth am bethau yr Efengyl, ac enillodd brofiad uchel o'i gwirioneddau. Yr oedd yn naturiol yn wr tawel, syih-l a dirodres. Er yn wr oddifrifwch mawr, eto" yr oedd llawer- o sirioldeb yn -«i ysbtyd -bob .-amser-v Ymollyngai yn rhydd i siarad pan' fyddai eisieu p n hyny, ond gwelid bob amser fod llawer iawn o led- nefsrwydd yn ei ysbryd. Yr oedd ei arafweh a'i bwyll a'i farn aeddfed yn .ei .wneyd;, ynjwerthfawr iawn yn y cylchoedd y bu yn troi ynddynt. Ni chymerodd ran amiwg, ond .gyda jehrefydd a dirwest, Er yn Rhyddfrvdwr cadarn ni box yn amlwg mewn cylchoedd politicaidd". Ac rii chymerodd ran amlwg mewn cylchoedd crefyddol, ond yn ei gartref. Ni waeddodd ac hi ddyrchafodd ac ni pharodd glywed ei lef mewn Cymdeithasfa erioed, nac ond pur anaml mewn Cyfarfod Misol, na* Chyfarfod Dosbarth, nac hyd yn nod Cyfarfod Ysgol^on.. Nid oedd neb ffydd. lonach i'w Gyfundeb nag ef, ond ffyddlondeb diball" iddo gartref cedd ei ffyddlondeb. Rhoddodd ei oreii i'r eglwys yn. Bethesda. Goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog yd oedd yr hwn a osododd ei Arglwydd ar ei deulu gartref. Cyfranodd yn gyson, dilynodd bob moddion yn ddifwlch, ymwelodd yn ddiflino a'r aelodau. Bu ynathraw ymroddedig ar hyd y blyn- vddosdd; bu yn gynxhorwr doeth i'r ieuanc yn y Band of Hope, a'r seiadau; bu yn weiithiwr parod gyda'r adeiladau a'r eiddo. Pan yn adeiladu Gwylfa ni weithiodd neb a'i .law yn galetach nag a wnatth ef, ac y mae dweyd hyny yn ddweyd mawr, oblegd bu llawer yn gweithio yn ogoneddus galed ynglyn. a'r gwaith 'hwnw, ac yn arbsd drwy hyny ugeiniau o bunau i'r achos. Gwnaeth waith felly hefyd o amgylch Bethesda a'r eiddo perthynol, a hyny yn tynych ar ol diwrnod caled o waith yn y gioddla. Credwn fod: y Mo.'sir wedi talu iddo a'i i&ndithio am hyn, oblegid ni bu meistr tebyg iddo ef. Rhoddodd naws ar ei ysbryd—rhoddodd yr en- einiad yn hyfryd ar ei weddiau ac ar yr hyn a ddywedai yn y seiat. Y mae Bethesda wedi pasio drwy gyfwng tra phwysig yn ei hanes y tair blynedd dlweddaf, a bu yntau yn. gynorthwy anmhrisiadwy iddi drwy ei ofal a'i bwyll, ac yn ddiameu drwy ei weddiau drbsti. Nid oes neb all fesur y golled i'r eglwys ar ol y gwas distaw, ond ymroddgar hwn, y biaenor diymhongar, ond cyflawn a defnyddiol hwn. Nid oes o'i deulu yn aros ond un ferch, sef Mrs. J. M. Jones. Rhagflaenodd ei briod ef tua 22 mlynedd yn ol. Rhodded y nef ei chysgod dros ei unig ferch a diddaned hi, a rhodded yn helaeth hefyd i'r eg- lwys yn ngwyneb y golled hon. Dydd Llun daeth tyrfa ynghyd i hebrvvng y gweddillion marwol i fyn- went Llan, Ffestiniog. Gwasanaethwyd wrth y ty acwrtIr ybedd gan y Parchn..R. Evans, Harlech; D. Hoskins, M.A., J. Owen, M.A., ac E. J. Evans, Penrhyn, Yr oedd yn bresenol hefyd amryw weini- dogion craill, ynghyda nifer o flaenoriaid Yr oedd plant Band of Hope Bethesda, i'r hwn yr oedd yr ymadawedig wedi bod yn ofalwr ar hyd y blynydd- oedd, yn bresenol ynghyda hefyd Band of" Hope Gwylfa, a. chanwyd ganddynt yn hiracihiis wrth gychwyii ac wedi cyrhaedd y Llan. ■ D. HOSKINS. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y PARCH. D. MOUIEN DAVIES, GYNT 0 RHOSESMOR. Fel y mae eisoes yn hysbys hunodd y gweinidog ffyddlawn a'r brawd anwyl' uchod dydd Jifcrcher, Maw., 17. Rhoddodd ei, le? fel gweinidog yn eglwysi Rhosesmor a Sardis i .fyny tua dechre.u mis Hydref, a symudodd i fyw i'r Wyddgrug. Anhawdd yn sicr oedd i hen weithhvr fel efe ymryddhau ac ym- neillduo o'r gwaith ag oedd mor hoff o hono. Llesg- edd barodd iddo y/neyd hyn., Ac yn fuan ar ol iddo symud gellid gweled arwyddion fod ei ddydd yn llaesu i hwyrhau "■ yn gyflym. Chwith iawn oedd gweled un ymhyfrydai mewn cerdded, wedi myncd i fethu; Parhao.dd hyd y gallodd i fyried i'r Cyfar- fod Eglwysig ac i'w deithiau ar y Sabbath. Y daith olaf y bu ,ynddi ydoedd Penllyn, Llangollen, Ionawr 17, pryd y pregethidd oddiar yr Heb. xii. 11, a Heb. xii. I, 2. Yr oedd ei yrfa bron ar ben. Rhedodd gan edrych ar lesu, dioddefodd ei groes, a diystyrodd y gwaradwydd," ac. erbyn hyn mae wedi eistedd gyda'r Iesu ar ei orseddfainc, yn un o'r èwmwl tystion," Sy' n iach yr ochr draw." Y dydd Sadwrn canlynol daeth tyrfa liosog ynghyd i'r gladdfa. Cymerwyd yr arweiniad gan y Parch. E. Lloyd, Buckley—hen gyfaill Mr. Davies, a gwas- anaethwyd-wrth y ty gan y Parchn. O. B. Jones, Ffynongroyw, a Griffith Owen, Rhosddu. Yn nghapel Rhosesmor, cyniervvyd rhan gan y Parchn. I. C. Roberts, Gwernymynydd, R. Jones, Rhos, Ben- jamin Hughes, Llanelwy,- Evan Jones, Adwy'r clawdd, W. Jackson, W.S., Wyddgrug, Uwchllyn Jones, Rhesycae; Mn. Ebenezer. Evans, Nantglyri, John Roberts, Rhosesmor, John Davies, Hiraethog; ac wrth Ian y bedd gan y Parchn. J. E. Davies, Tre- ffynon, a Jonathan. Jones, Llanelvvy. Canwyd yr emynau, Mae nghyfeillionadre n myned;' Mor ddedwydd yw y rliai trwy-ffydd/ ao 0 fryniau Casr- salem ceir gweled,' mewn teimlad. dwys. Derbyniwyd llythyrau oddiwrth amryw yn datgan eu gofid nas gallent ddod i'r angladd a'u cydym- deimlad dyfnaf a'r plant ar ol ol eu hanwyl dad :— Mr. J. Herbert Lewis, Parch. John Owen, Liver- pool, John Roberts, Rhyl, T. M. Jones, Colwyn Bay, E. J. Williams, Acrefair, A. W, Tones, Garth, E. Roberts, Brymbo, P. G. Hughes, Chesterfield, J. D. Owen, Bodffari, a Mr, R. Gwyneddon Davies, Caer. narfon. Yrnhlitlx y Iliaws gwelwyd y per.;onaii .-an- lynolParchn. Hugh Roberts, Fflint, J. P. Davies, Caer,. Isaac" Jones, Nantglyn, Edward Lloyd, Massglas, E. Pierce, Trelogan, Ch. Williams, Rhosddu, R. Hughes, Weston, Rhyn, G. Jones, Sychtyn, Evan Davies, Cilcain, T. Roberts, (A.), Wydd.grug, T. Jones, Coedllai, E. Berwyn Roberts (W.), Wyddgrug, W. Rowlands,. Acrefair, J. Ifor Jones, Coed Talon. R. Griffith, 1-flint, J. J. Morgan, Wyddgrug, "T. Ashton, Haiiley, T. Morgan (B.), Wyddgrug, T. T. James, Penmachno, T. E., Wil- liams..Lixwm, W. Morgan, Wyddgrug., J LI. Jones, Bwlchgwyn, Ed. Jones, Gronant, E. Isfryn Williams, Ponkey, W. Williams, Helygain, G. W. Jones, Gwernymynydd, D. E. Roberts, Llaneurgain H. H. Tories, Nerquis, R. R. Jones, Tryddyn, John Smith, Nantglyn,: C., Evans, Buckley, Mri. John Jones, Llanarmon. O. Wynne, Cilcain, Charles Williams a R. Jones, Buckley, Da«id Jones, W. Rogers, E. Peters,, Coedllai, Ez^a Roberts, Ruthin, Owen Wil. liams, -Bodfari, G. J. Jones, Adwy'r Clawdd, T. Hughes-Evans, R. A. Evans, Ivor Evans, Nantglyn, R. Jones, Dinbych, John Goodwin, Tryddyn, R. Tones, Hiraethog, John Williams, Fflint, W Griffiths, Nerquis, E. W. Smallwood, Cymau, P. Blackwell, Cilcain, J. Jones, Nerquis, H. Parry, Maesydre; ynghyda swyddogion eglwysi Rhosesmor a'r Wydd- grug, Mrs. W. Owen, Glanadda, Miss Hughes, Coed. poeth, Mrs. Davies, Bwlchgwyn. Brodor o Sir Gaerfyrddin oedd Mr. Davies, ac yn ddyn -ieuanc■•ae^h"ii weithio i Aurgrloddiau Aws- tralia. Wedi bod yno rai blynyddoedd, dechreuodd bregethu. Temlod 1 angen am addysg i'w gymhwyso yn well i'r gwaith, a dychweJodd adref i'w hen wlad, i'r diben hwnw, gan feddwl dychwelyd yn ol, ond nid felly yr oedd trefn Rhagluniaeth fawr y nef< Llafuriodd yn galed fel myfyriwr am y tymor ferol yn Athrofa y Bala, pryd yr enillodd safle -an- lhydeddus, er anfanteision boreu oes. O'r Bala galwyd ef i wasanaethu fel cenhadwr i Barrow, a tnra yno, ordeiniwyd gydag 16 eraill yn Sasiwn Dol* gellau, yn y flwyddyn 1870. Wedi ymadael 0 Barrow bu yn llafurio yn Gyffylliog a Hiraetltog > Nantglyn Soar a Peniel; Bryneglwys a Rhosesmor. Dygwyd tystiolaeth uchel i'w gymeriad gan swydd* ogion yr eglwysi y bu yn weinidog iddynt, fel gweith* iwr ffyddlawn, cynghorwr doeth, arweinydd diogel. a chyfaill gonest a phur. Gellid ymddiried cyf- rinacii iddo yn ddibetrus. Yr oedd yn wr pwyllogi a meddai feddwl a barn wedi eu mantoli yn dda, gallai edrych yn deg ar bob ochr i unrhyw gwestiwii neu fater; gvvnai hyny ef yn aelod gwerthfawr 0 bwyllgor, ac yn gyrnwys ia.vn i ymdrin ag achosioll. neillduol. Cynysgaeddwyd ef a chynheddfau naturiol cryfion, ac ni phetrusai sefyll yn gryf dros yr hyn a gredai oedd yn iawn. Ni ddywedai ie neu nagc er mwyn boddhau neb, os byddai hyny yn groes i"w argyhoeddiad, ond mynegai ei tarn ei hun yn onest a digwmpas. Yr oedd gwenieithio a derbya wyneb yn gross i'w clueddfryd, ac ni ddarostyngodd ei hun un amser i hyny, a gwyddom iddo ddioddef mewn canlyniad. Er y nodwedd hon yr oedd ynddo hae,n ddofn o dynerwch, a pho agosaf y deuid at.o, mwyaf oil y delai ei dynerwch a'i addfwynder l golwg, a'r rhai a'i hadnabyddent oreu a'i carent fwyaf. Perthynai iddo nodweddion, os nad hynodioJt personol, barent fod pawb a'i cyrarfyddent yn sict o'i gofio. Gwnai bobpeth fel efe ei hun, heb gelSlQ dynv/ared neb. Yn ed ddull o ymddiddan, tra,ddodi ei bregethau, a chanu, safai ar ei ben ei hun heb neb yn debyg iddo. Bu yn fyfyriwr ar hyd ei oes—daliodd i lafurio ef myned yn hen. Un o'i blesliau penaf ydoedd dar: lien, a darllenodd lawer, nid yn ddiamcan ond bwrpas. Meddai graffder i adnabod gwerth llyfr; a bwytai yn awchus bob peth fyddai yn werth el fwyta ynddo..symudodd gyda'r oes, a hyny yn rhwydd, heb fod yn geidwadol. Croesawai yn galon* og bob agwedd newydd o'r gwirioneidd os byddai ya gyson a datguddiad yr efengyl. Edrychid i fyny ato fel awdurdod ar bynciau sylfaenol crefydd, arbenig yr Athrawiaeth am Berson Crist. Dyma el hoff faes, i gloddio ynddo. Cloddiodd yn ddyfal a gwleddai ac addolai wrth ganfod y cyfoeth o dry sot* au sydd ynddo. Troai yr hyn a darllenai yn destyu myfyrdod, a chlywsom ef yn dweyd mai wrth gerdd* ed y byddai yn cael rhanau helaeth o'i bregethau. Ysgrifenai nodiadau ar ol dod adref, i'w trefnu Yfl ofalus drachefn. Am gyfnod athrawiaethol oedd ei bragethau yn benaf, a dichon ei fod yn rhy uchel neu ddwfn i rai ei ddilyn, ond yn y blynyddoedd dl- weddaf pregethai yn fwy ymarferol. Cafodd ami odfa rymus iawn. Nid anghofiwn ei bregeth ar yt Iesu yn Feichniydd. Dywedai gydag eneiniad a dagrau gorfoladd yn llanw ei lygaid-" Mae'r ddyled. wedi ei thalu, a'r biliau wedi ei squario bob un- Diolch byth iddo." Tra yn nodi fel hyn rai o'i ragoriaethau, nid ydytn yn anghofio fod yn perthyn iddo wendidau, a phwy sydd hebddynt? Ond colliadau mewn pethaU bychain oeddynt, yr oedd yn ddiogel yn y pethau mwyaf, a chadwodd ei goron yn ddisglaer hyd Y diwedd. Cafodd Mr. Davies ami brofedigaethau chwerwotu ond daeth drwyddynt heb ddweyd dim yn ynfyd yn erbyn Duw." Collodd ddwy ferch a mab, phriod anwyl, ond dysgodd blygu i'w ewyllys Ef. Gofynwyd iddo pan gollodd ei fab 15 mis yn ol, sut yr oedd yn gallu bod mor siriol. 0, meddal, pan gollais i Ellen Mary yn Nantglyn, mi fum mewn ymdrech galed am noswaith bron gwallgofi, ond cyfl pen y boreu mi gefais fuddugoliaeth, a byth wedi hyny 'rwy'n gallu ymostwng yn dawel a siriol; a'r profiad hwnw a'i galluogodd i ddweyd mewn Cyfarfod Misol ychydig yn ol, 'Rwy'n meddwI. y medra i roi cynghor i lawr mewn profedigaeth, le," a cherydd i ambell un." Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth," &c. Ychydig ddyddiaU cyn ei ymadawiad gofynem iddo, sut yr oedd yn teimlo Wel, myned yn wanach bob dydd, 'rwy'n berffaith foddlon bellach, meddai gan edrych 1 fyny. Nid anghofiwn yr olwg arno. Adroddai Y penill hwnw yn ei ddyddiau olaf, Os dof fi trwy'r anialwch," &c. Ail-adroddai A'm henaid i lonyddwch,—i lonydd- wch rol," &c. a'r penill hwnw hefyd, Mi welaf Ie mewn marwol glwy' Nis gallai ei ganu, ond yn ei galon, am fod ei anadl yn pallu. Hunodd yn dav/el. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd." Bellach bydd ei le yma yn wag. Collasom ar- weinydd profiadol a hyny mewn cyfwng pwysig yn hanes y Cyfarfod Misol. Gadawodd chwech o blant, dau fab a phedair o ferched i alaru mewn hiraeth dwys ar ei ol, a'n gweddi yw ar i Dduw a Gwaredwr eu tad a'u mham fod yn amddiffyn, arweiniad ac vmgeledd iddynt. Mae'r addewid yn aros. "Gad" dy amddifaid a mi a'u cadwaf hwynt yn fyw. 1. C. ROBERTS.

"-LLYFRAU GAN H. CERNYW WILLIAMS.

Y GOLOFN GENHADOL.