Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mae y rhan fwyaf o'r rhifynau diweddaf o'r Drafod yn cael eu gwneyd i fyny o'r Spaniaeg. ♦ Hysbysir fod y Parch. D. Treborth Jones wedi fhoddi i fyny ofal yr eglwys Satsneg Caerlleon, n C5 gyda'r bwriad o fyned dan gwrs o addysg yn Nghaergrawnt. y — > Mae Mr. Herbert Lewis, A.S., wedi ei ail-benodi yn aelod ar Bwyllgor y Cyfrifon Cyboeddus,-un o bwyllgorau pwysicaf Ty y Cyffredin, ac un sydd yn golygu JIawer iawn o waith. ♦ Gwrthododd Mr. W. Moses Davies yr alwad gafodd o Lansawel a Rhydcyrnerau,-taitb gyn- hwysai oddeutu tri chant o gyflawn aelodau, -a dewis'odd yn hytrach gydyu.ffurfio a cbais o'i gartref i wasanaethu eglwys y D)ffryn. Bu y nodachfa a gynbaliwyd ynglyn ag eglwys C, Saesneg Pontypridd yn dra llwyddianus. Gwnaed eJw o 300p., ac yn ystod y deunaw mis diweddaf y Mae dros 600p o'r ddyled wedi ei cblirio. Gweinidog yr eglwys bon ydyw y Parch. J. S Roose, B.A. ♦ Mae y- Parch. D. E. Jenkins, Porthmadog, newydd gyhoeddi ail argraffiid o Bywyd a Byw," Hyfr adnabyddus Dr. Cameron Lees. Gwerthwyd yr argraffiad cyntaf. yn gyflym, a diameu y bydd galwad am yr ail argraffiad, yr bwn sydd yn llyfr destlus a rhad. — —— Nid oes neb yn fwy adnabyddus ar Gyngor Sirol Llunain na Mr. Howell J. Williams, yr aelod dros Ddeheu Islington, a chafodd ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad adeg yr etboliad diweddaf. Sieryd hyn yn uchel am ei boblogrwydd, ac i ddathlu'r amgylchiad, mae ei gefnogwyr yn Islington wedi trefnu i roddi ciniaw iddo yn yr Holborn Restaurant nos Iau nesaf. < Gweithia Cranogwen yn egniol gyda'r achos dirwestol yn y Rhondda, a dechreu yr wythnos lion yr cedd cynhadledd fawr o'r chwiorydd yn cael ei chynal yn y Ton. Amcan Cranogwen ydyw ffurfio Cyngrair Dirwestol Merched y De, ac er nas gwn hyd yr adeg yr wyf yn ysgrifenu pa beth fa llwyddiant y cyfarfodydd, ac yr wyf yn hydeius na bydd i Cranogwen orphwys nes y bydd y breuddwyd yn ffaith. 4 Penderfynodd Pwyllgor Cofadail Thomas Ellis ynagynghori a'r tanysgrifwyr er gweled pa un a 0 ydynt am i'r arian sydd wedi ea cyfranu (o 1600p. 1 I700p.) gael eu defnyddio er codi cofgolofn, neu ynte a ydynt yn bleidiol i roddi rhan o'r arian at ryw scacan yngjyn ag addysg. Credaf fod teimlad lied gyffredinol o blaid cael cofadail anrhydeddus, yn hytrach na rhanu yr arian at wabanol amcanion. + Amddiffyna Seren Cymru waith y Bedyddwyr yn sefyll draw oddiwrth y Genhadaeth Unedig sydd wedi bod mor llwyddianus drwy'r wlad yr ^ythnosau diweddaf. Yn rheswm am hyny «ywedir fod Bedyddwyr mewn gohebiaeth a'r Cyngrair Qanolog, ac yn ail fod y Cyngor Cyffred- Inol er yn dweyd nad oes dim yn y rheolau yn galw am gytundeb, eto yn ei oddef. Ai tybed fod "lywbeth yn galw am y frawddeg hon :— Gwyddom fod Bedyddwyr mewn rhai cymydog- aethau wedi uno a brodyr o gymydogaethau eraill yn gwasanaethu yn eu cyrddau, ond pa fodd y cysona y rbai byn eu hymddygiad a theyrngarwch lr Undeb ac i'r egwyddorion a broffesant nis gwyddom, ac ni ddymunwn ddweyd dim yn galed Dac yn angharedig am neb." Gyda chysondeb y mae The Friend of Sylbet yn cyraedd oddiwrth y Parch. J. Pengwero Jones, a hawdd gweled oddiwrth ei gynwys fod gwaith rhagorol yn cael ei wneyd drwy y cyhoeddiad ymhlith v dosbarth mwyaf meddylgar yn Sylhet. Bydd yn dda gan olygydd y Friend glywed fod cyfieithiad o'i ysgrifau yn ymddangos yn y TJrysorfa a'r Drych. Cymerodd etholiad Bwrdd Ysgol Conwy le ddydd Sadwrn, ac fel y canlyn y safai yr ymgeis- wyr:—Dr. R. A. Prichard (E ) 707 Mrs.'Fincham (E) 696; Parch. J. P. Lewis (E) 569; Dr. Morgan (MO) 538; Parch. W. Edwards (B ) 453 Parch. T. Gwynedd Roberts (M.C ) 347. Y pump cyntaf fydd yn ffurfio y bwrdd newydd, ac felly bydd y mwyafrif yn Eglwyswyr. — ♦ Cyboeddwyd yn Swyddfa y "Western Mail" yr wythnos ddiweddaf Handbook on the Law and Practice of Friendly Societies," gan Mr. M. Roberts-Jones, bargyfreithiwr, a Mr. Evan Owen. Bydd y Uawlyfr-hwn yn hynod o gyfleus i'r rhai sydd yn cynorthwyo gyda chymdeithasau cyfeill- gar, a chy^nwysa, hefyd, grynhodeb a darpariadau y gyfraitb gydag Undebau Gweithwyr, a phenod ar flwydd-dal i'r hen bobl. « Darpara Undeb Y mdrech Grefyddol Lerpwl a'r cyffiniau at gael cyfarfodcyboeddus mawreddog yn mis Ebrill ynglyn a Chenhadaeth Dramor y M. C., a Chenhadaetb yr Annibynwyr (London Mission.) Math o arddanghosiad fydd y cyfarfod hwn. Ynddo dangosir y nwyddau" a gasglwyd gan y gwahanol gymdeithasau er budd i'r genhadaeth cyn eu rhanu a'u hanfon i'r ddwy gymdeithas a nodwyd. Hefyd trefnir i gael presenoldeb ac an- erchiadau gan y Cenhadon sydd adref. + Am y drydedd waith dewiswyd Mr. T. Jones, Parry, Llanelli, Abergafeoni, yn ddiwrthwynebiad yn aelod o Gyngor Sirol Brycheiniog, yn aelod o'r Cyngor Dosbarth, ac yn warcheidwad y tlodion. Daeth allan yn ail, hefyd, yn etholiad y Bwrdd YsgoL Gweithia Mr. Jones-Parry yn aiddgar ymhob cylch gyda'r achos dirwestol, a chydag eraill bu yn llwyddianus i atal y diodydd meddwol o dloty Crugbywel, ac i gael amryw gyfleusderau cyhceddus allan o'r tafarndai. Collodd Y mneillduaeth wrcadarn yn marwolaetb y Parch. Urii ill Thomas, Bristol, yr hyn gymerodd ,e ar yr 8fed o'r mis hwn. Mab ydoedd i'r Parch. D. Thomas, golygydd yr Homilist, a hanai o deulu Cymraeg. Bu yn gweinidogaethu yn Bristol er y flwyddyn 1862, a chymerodd ran flaenllaw yn holl waith ei enwad ac mewn cylchoedd cyhoeddus eraill, ac yn aelod gweithgar o Fwrdd Ysgol Bristol am bedair blynedd ar hugain. Yr oedd yn un o weinidogion mwyaf dylanwadol yr Annibyn- wyr, a bu yn Ilanw cadair yr Undeb, 4 Daeth yr ail rifyn o'r ail gyfrol o Gylchgrawn Myfyrwyr y Bala i law beth amser yn ol, yn cynwys 50 o dudalenau. Nis gallaf roi syniad cywirach ar ei gynwys na thrwy roddi penawdau yr ysgrifau a'u hawdwyr. Aspects of the Crusades," gan Proff. W. B. Stevenson. Count Tolstoi," gan Mr. D. J. Lewis, B.A. Codi Pregethwyr," gan Mr. W. T. Ellis, B.A. The Legends of Chivalry," gan Mr. R. Silyn Roberts, B.A. "Tennyson's Theology," gan Mr. G. H. Havards, B.A. Boreu Llun y Gweithiwr," gan Mr. J. Ellis Jones. Nature Notes," a Charles Pierce," gan E. E. Heblaw'r arlwy sylweddol yna o ysgrifau, oll oddigerth un yn fwyd cryf,—ceir hanes y Symudiad Cenhadol yn yr Athrofa gan Mr. E. L. Roberts, ac amryw ddarnau gan y beirdd. Mae'r rhifyn yn mwy na chadw i fyny safon uchel y rhifynau blaenorol, ac yn sicr rhaid i'r hen gylchgronau edrych ati. Cynhalivvyd cyfarfodydd blynyddol Cymdeithas prifathrawon ac athrawesau yr Ysgolion Sir yn yr Amwythig, nos Wener a dydd Sadwrn diweddaf. Y cadeirydd oedd Mr W. J. Russell, Gwrecsam. Bu amryw faterion dan sylw, ymysg y rhai yr oedd perthynas yr Ysgolion S:r a'r Ysgolion Elfenol Uwchraddol, cofrestriad ac addysg athrawon, yn nghyda chynhaliaeth yr Ysgolion Sirol. + Mae llyfrau Undeb Ysgolion y Methodistiaid ar gyfer y Maes Llafur wedi cyrhaedd yn brydlon. Y Parch. T. E. Roberts, M.A., Aberystwyth, ydyw awdwr y Gwerslyfr, a'r Parch. Dr. Cynddylan Jones ydyw awdwr yr Esboniad,-yn cymeryd o'r IX benod hyd ddiwedd" Efengyl loan. Gan nad CIY oedd yr amser terfynedig yn caniatau i Dr, Cyn- ddylan Jones ysgrifenu ar y pedair penod olaf, ceisiodd gymorth y Parch. T. E. Roberts, yr hwn yn rhinwedd ei ymweliad diweddar a Jerusalem a feddai bob cymhwysder i gyflawni y gwaith. Cynhwysa y llawlyfr 331 o dudalenau. Gwelaf fod dau Fethodist ymysg yr ymgeiswyr am y pedair sedd sydd i'w llanw eleni ar Lys Prifysgol Cymru o Gorfforaeth y Graddedigion, sef Mri. J. H. Davies, M.A., Cwrtmawr, a Edgar Jones, Ysgol Sirol Barry. Mae'r oil o'r hen C, aelodau, y mae eu tymor o dair blynedd yn terfynu, yn cynyg eu hunain eto, oddigerth Proff. Young Evans, Trefecca; sef Dr. Chattaway, Mr. Mr. R. E. Hughcs (Arolygydd Ysgolion), a Miss Perman. Yr ymgeiswyr eraill yw Mri. J. G. Davies, Castellnedd; Gwyn Morris, Barry; a Proff. T. Rees, o Goleg yr Annibynwyr, Aber. honddu. 0 Methodistiaid oddigerth un ydyw awduron y Traethodydd am y mis hwn. Yr un eithriad ydyw Mr. Beriah Evans, yr hwn sydd yn ceisio ateb ertbygl Dr James mewn rhifyn blaenorol. Nid yw Mr. Beriah Evans yn edrych yn fwy chwertbinllyd yn unlle nag y mae pan yn ceisio bod yn ddoniol r,eu yn trin ffeithiau. Ceisia wncyd y ddau beth yna yn yr ysgrif hon ac os myn y darllenydd wybod faint yw ei lwyddiant, darilened yr ysgrif. Y penawdau eraill ydynt: Ymson loan Fedyddiwr yn Ngharchar," gan Dr. Cynhafal Jones Gweddiwr a Gweithiwr Hyn- otaf y Ganrif," gan y Parch. W. M. Griffith, M.A., Dyffryn; II Y Prifathraw T. Charles Edwards, M.A., D.D. Adgofion ac Argraffiadau," gan y Parch. T. Gwynedd Roberts, Conwy; Vech. ysgrifau Tel-EI-Amarna," gan y Parch. Robert Williams, M.A., Llanllechid; "Jacob Boehme. IV. Gwahanol Gymwysiadau o'i Syniad am Natur," gan y Parch. W. Hobley, Bontnewydd, Caernarfon, a Victoria," gan y Parch. Daniel Rowlands, M.A., Bangor. 4 Dyma fel yr ysgrifena gohebydd o'r Wyddgrug ataf, ac er fod yr adroddiad yn hen, mai yn werth ei gyhoeddi:—" Ddydd Gwyl Dewi nid oedd yma, hen gartref Alun a Rhys Lewis, unrhyw drefniant cyhoeddus i ddathlu a cbadw mewn cof yr am- gylchiad er hyny ni fu Hen Ben Garddwr y Cenin' yn ddidyst yma. Y mae yn arferiad gan Miss Felix, Prifathrawes Ysgol Genethod y Bwrdd Ysgol, roddi gwledd o de a phob danteithion ar ei chostau ei hun i'r holl enethod o'r Teaching Staff. Eleni fe'i cynhaliwyd ar Ddydd Gwyl Dewi, a chan fod y Gymraeg' fel Specific Subject yn cael ei ddysgu yn yr ysgol hon, a'r maximum grant yn cael ei henill, hapus dros ben fu dewisiad o'r dyddiad i'w chynal. Yr oedd yn bresenol, y Parch. W. Morgan, Cadeirydd y Bwrdd Ysgol; Parch. J. R Poole Hughes, Vicar, aelod o'r Bwrdd, ac amryw o'r genethod oeddynt wedi gorphen eu 9 hysgol, y rhai ynghyd a'r genethod sydd yn yr ysgol yr. awr oeddynt yn rliifo yn agos i ddau gant. Ar ol gorphen cafwyd cyfarfod adloniadol o ganil ac adroddiadau gan y plant a'r athrawesau.