Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

OYFARFODYDD MISOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

aelod ychwanegol o Drysorfa y Gweinidogion. Pen- derfynwyd bod yn anfon i ddiolch i Maj. ohakespeare am ei garedigrwydd i un o'n cenhad- onj sef y Parch. Edwin Rowlands, Lushai, yn ei Waeledd. Cyflwynwyd cenadwri Llandrillo ynglyn ^r Gymanfa. Ganu i'r pwyllgor sydd yn gofalu am hyny. Penodwyd y Parch. John Owen Jones, B.A. a Mr. David Jones, Bala, i fyned iY Pare a Moel- ygarnedd i gynorthwyo yr eglwysi i symud ymlaen I gltel gweinidog. Cyflwynodd yr eglwys yn Nghyn- Jyd, drwy Mr. Robert Roberts, note of hand,' am £ 300 i'r O.M. i gael ei ddinystrio. Hysbyswyd fod cyfrif Mr R D Roberts, trysorydd y tysteb a. wnaed *r Parch. Edward Williams, Cynwyd, wedi ei chwilio, a'i gaol yn gywir. Dolchwyd i Mr. Rob- erts am ei lafur a'i garedigrwydd ynglyn a hyn. Rhoed rhybudd y bydd y personau canlynol yn cael eu cynyg yn ymddiriedolwyr ar yr eiddo yn Llid- *ardau: Mri. Daniel Jones, Frongain; John Rob- ots, Crythog-ganol; Evan Davies, Pentre; Robert Rowlands, Gwernbusaig; Morris Edwards, Maesy- Waen; David Ellis, Llanerch; Cadwaladr Evans, Penbrynfawr; John Jones, Fronuchaf, Pare; Rob- ert Hughes, Talybont; Parchn. John Howel Hughes, Bala; Isaac Jones Williams, Llandderfel; Owen Ellis, Llanuwchllyn. Penodwyd y Parch. E. O. Davies, B.Sc., a Mr. Morris Peters, i fyned i Lanuwchllyn i gymeryd llais yr eglwys ar wr ieuanc sydd yn dechreu pregethu yno. Penderfynwyd ein bod yn cael dam wr dieithr ar daith drwy y O.M., daw hyn i sylw yn y C.M. nesaf. Cyflwynwyd cenadwri Dos. Edeyrnion, ar fod ein pregethwyr Yn dweyd pa benod a ddarllenir cyn dechreu dar- Hen. yn He ar ol. Anogai y C.M. fod i'r pregethwyr a'r gweinidogion gydymffurfio a'r awgrym, ac ychwanegai mai da fyddai anog y gynulleidfa i ddod a Beibl gylia hwy i'r odfeuon. Amlygwyd cydym- deimlad a'r personau canlynol: Mr. Thomas Ellis, Oynlas, yn ei waeledd; Mr. David Pritchard, Hafodymaidd, yntau ,yn wael; Mr. David Price, Gro, wedi colli ei briod; a, Mr. David Davies, Cefn- ittanau, Llangwm, a'i briod, ar farwolaeth tad Mrs. Navies. Yr oedd y Parch. John Lewis, Rhydlydan, ypi gofyn am lythyr cyflwyniadi i G.M. Sir Fflint; ar Parch. W. C. Williams yn gofyn am lythyr cyf- lwyniad i G.M. Arfon. Caniatawyd eu cais i'r naill ar Hall, er fod y C.M. yn gofidio oherwydd eu colli. Penodwyd y Parch. Hugh Williams, M.A., Bala, a Mr. John Lloyd Jones, Tymawr, i fyned dros y C. M. i gyfarfod sefydlu y Parch. John Lewis. Yn nglyn a'r Ysbyttai yn Liverpool, nid oeddis yn barod i benderfynu dim, ond anogir fod casgliad yn cael ei wneyd at yr achos hwn, a derbynir ef yn y C.M. nesaf. Darllenwytl llythyrau yn cydnabod o cydymdeimlad. Darllenwyd adroddiadau yr ymwel- wyr, a rhoed Proff. R. H. Richard, B.A., i wneyd crynhodeb o'r cyfan i'w gyflwyno i'r C.M. nesaf, Pfyd y ceir sylwadau pellach ar yr adroddiadau. Gofynir i Gyfarfod Dosbarth Cerrig a Chyfarfod Dosbarth Yspytty, gyfarfod ynglyn a C.M. Cerrig- ydruidion, i ystyried mater arbenig. Caed adrodd- lad o sefyllfa casgliad yr Ugeinfed Ganrif, a dis- gwylir adroddiad pellach o bob eglwys yn y C. M. ftesaf, yr hwn sydd i'w gynal yn y Celyn, yn nech- reu Ebrill; a'r C.M. dilynol yn Oerrigydruidion, yn niwedd Ebrill, sef y 29ain a'r 30. Penderfynwyd bod yn anfon deiseb yn ffafr Mesur y Plant. Hefyd yn anfon cydymdeimlad a'r teulu brenhinol yn eu galar ar ol y Frenhines fel y canlyn To the King's Most Excellent Majesty. May it please your Majesty: We, your Majesty's most dutiful and |oyal subjects, members of, and assembled at the Monthly Meeting of the Calvinistic Methodist yhurch of Wales (East Merioneth), and represent- ing upwards of 4,000 persons in communion there- with respectfully tender to your Majesty, to your august Consort, and the members of the Royal Family, our sincere condolence and heartfelt sym- pathy at the loss which in common with the whole empire, you have sustained by the death of our be, loved sovereign your Majesty's illustrious and lam- ented mother. Her Majesty's long and glorious reign was one of great beneficence. Her Majesty ruled over her people in a 'constitutional and wise nianner, and we gratefully acknowledge the bless- lngs which have resulted to these Realms from the }Varm interest Her Majesty ever took in maintain- ing civil and religious liberty and toleration, and oy her pure and noble life. We also humbly offer to your Majesty our cordial congratulations on Your Majesty's accession to the Throne. Signed on behalf of the Monthly Meeting this Eleventh day of March, 1901,—John Morgan Jones, Chairman, John Williams, Secretary." Darllenwyd yr ad- roddiad canlynol o Bwyllgor y Genhadaeth: (1) f^in bod vn gwneyd caife am i Dr. Griffiths gael dod 1 G.M. Gerrigydruidion Ebrill 29, 30. Hefyd i ym- J'eled a'r Bala, Corwen, a Glanau Ceiriog os yn oosibl. (2) Foci sylw i fod ar y casgliad cenhadol yn Nghyfarfod Misol Gorphenaf, y Parch. William Williams ac Evan Jones, Ysw., U.H., i wneyd "yny. Penodwyd y Panch. T. O. Jones, Ysbytty, i ysgrifenu anerchiad o flaen yr adroddiad cenhadol. "adarnhawyd yr adroddiad. Darllenwyd mantolen casgliad y myfyrwyr, a phenderfynwyd ein bod yn diolch i R. D.. Roberts, Ysw., Bronygraig, Corwen, ei rodd arbenig tuag at Gronfa y Myfyrwyr. ^afwyd hanes yr achos yn Gwyddelwern. Rhodd- odd y Parch. John Howel Hughes rybudd y bydd yn cynyg yn y vyfarfod nesaf fod y gwaith hwn i gael ei wneyd ymhob C.M. yn yr eisteddiad cyntaf. Pregethwyd gan y Parchn. John Morgan Jones, T. 0- Jones, Owen Ellis, J. Howell Hughes, ynghyda Wm. Thomas, Llanrwst. GORLLEWIN MEIRIONYDD.—Dyffryn, Mawrth 11, 12, Llywyddjon, Parch. W. R. Jones a Mr. John Meyrick Jones, Doglellau. Yn nghyfarfod y boreu, ymddiddanwyd a'r swyddogion am eu profiadau, cre- fyddol gan y Parch. R. Evans, Harlech; a holwyd am yr achos yn y lie gan y Parch. E. Jones-Ed- wards. Caed fod gwedd lewyrehus ar y gwaith yn ei holl ranau. Yr oedd yn llawenydd gan y cyfarfod glywed fod y capel a'r holl eiddo perthynol i'r eg- lwys yn awr yn ddiddyled. Talwyd yn ymyl P,500 yn ystod y 15eg mis diweddaf. Llongyfarchwyd yr eglwys am eu hymdrech ganmoladwy a llwyddianus ynglyn a hyn. Penderfynwyd cyilwyno i ystyriaeth Cyfarfod Dosbarth y Dyffryn y priodoldeb o ddar- paru moddion ar nos Sabbothau yn y rhan o'r wlad sydd yn gorwedd rhwng y Dyffryn a'r Abermaw, sef yn Egryn a Llanaber, yn gystal ag ychwanegu at gyfleusderau yr Ysgol Sabbothol yn ardal y Dyffryn. Yn y prydnawn, traddodwyd anerchiad amserol gan y Parch. W. R. Jones wrth adael y gadair. Pasiwyd diolchgarwch gwresog iddo am ei lywyddiaeth fedrus, ac am ei anerchiad. Hysbys- wyd fod pump o flaenoriaid wedi eu dewis yn Salem," Dolgellau, a, thri yn Towyn. Cadarnhawyd dewisiad Mr. O. D. Roberts yn flaenor yn Salem, a Mr. Meyrick Roberts yn Towyn, y rhai oeddynt yn flaenoriaid o'r blaen. Derbyniwyd y brodyr can- lynol yn aelodau o'r O.M. fel blaenoriaid: Mri. Rowland Williams, R. 0. Evans, Joseph Roberts, a W. G. Jones, Qi eglwys Salem; a J. Geufronydd Jones, o Towyn. Holwyd hwy am eu profiad, a.o arweiniwyd mewn gweddi, gan y Parch. J. Davies, Bontddu; ac am eu gwybodaeth, gan y Parch. R. Roberts, Penrhyn. Y mater i'w holi ydoedd, 'Cym- wysderau diacon yn ol y Testament Newydd." Rhoddwyd cyngor iddynt ar eu neillduad i'w swydd gan Mr. Evan Jones, Arthog. Cadarnhawyd cof- nodion y C.M. cliweddaf. Galwyd, enwau yr eglwysi. Talwyd y casgliad misol at y Gronfa Fenthyciol, y Forward Movement, a'r Ugeinfed Ganrif. Y C.M. nesaf i fod yn Aberdyfi, Ebrill 15, 16. Mater yr awr gyntaf, Pwysigrwydd. parotoad ar gyfer gweinyddiad a chyfranogiad o Swper yr Arglwydd," i'w agor gan y Parch. J. H. Symond. I holi hanes yr achos, y Parch. W. M. Griffith, M.A., Dyffryn. Mater y seiat gyhoeddus, Lie y weinidogaeth yn y cpf a'r myfyrdod," seiliedig ar Heb. ii. 1. Y C. M. dilynol i fod yn Gwynfryn. Sylwer mai y dydd- iad fydd Mai 20, 21. Enwyd y Parch. R. R. Wil- liams, M.A., Towyn, a Mr. W. James, Maethlon, i ranu sypynau yr ystadegau; a'r Parch. J. R. Jones, B.A., Peniel, a Mr. H. Davies, U.H., Cor- ris, i dderbyn pleidleisiau yr ordeinio. Rhoddwyd caniatad i eglwys Seion, Arthog, i gael gweith- redoedd y capel o'r gist. Penodwyd Mr .J. Parry Jones, U.H., Ffestiniog, a'r Parch. D. Jones, Garregddu, i fyned i Danygrisiau i gynorthwyo i ddewis rhagor o swyddogion; ar Parch. R. Ernest Jones a Mr. E. R. Jones, Aber- maw, i fyned ar yr un neges i'r Bontddu. Pasiwyd pleidlais yn ffafr y Mesur er gwahardd Diodydd Meddwol i Blant. Darllenwyd yr adroddiad can- lynol o Bwyllgor y Myfyrwyr: —Cyfarfu. y Pwyll- gor yn Abermaw, Chwefror 25ain. Yn bresencl, y Parch. W. M. Griffitli, John Davies, Mri. Hump- phrey Davies, J. Edwards, Coedcymer, a R. J. Williams, Dyffryn. Mr. H. Davies yn gadeirydd. (1) Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. (2) Cym,erwyd i ystyriaeth adroddiad Is-Bwyllgor Coleg Bangor ar waith* efrydydd perthynol i'r C.M. hwn yn y Coleg, a phenderfynwyd fod i'r ysgrifen- ydd ohebu a'r efrydydd parthed ei waith yn ei gwrs addysgawl. (3) Ystyriwyd yn fanwl a phwyllog y cwestiwn o estyn cynorthwy mwy effeithiol i'r my- fyrwyr. Cytunai pawb o honom fod y C. M. yn gwneyd llai i'r myfyrwyr nag odid un arall yn Ngog- ledd Cymru. Ar ol dwys ystyriaeth a llawer o ytn- gynghoriad, penderfynwyd cynyg y cynllun a gan- lyn i gymeradwyaeth y C.M. Fod P,5 yn y flwydd- yn i gael ei estyn i bob efrydydd tra yn dilyn ei gwrs addysgol, sef L2 10s. gan y Dosbarth y byddo yn perthyn iddo a C2 10s. o Drysorfa. y C.M. Ond pan y gwelo'r Dosbarth reswm dros amrywio oddi- wrth y rheol hon, fod yr achos yn cael ei gyflwyno i svlw'r C.M. (4) Awgryma'r Fwyllgor fod y C.M. yn codi Ie. yr aelod yn y casgliad misol i "gyfarfod a'r trefniant hwn.—Cafwyd trafodaeth faith ar y cynygion uchod, a phasiwyd i ada,el y ddwy adran olaf dan ystyriaeth hyd G.M. Gorphenaf, gydag an- ogaeth am i'r cwestiwn gael ei ddwyn i sylw y gwa- hanol Gyfarfodydd Dosbarth. Hysbyswyd fod y brodyr a ganlyn wedi eu dewis yn rheolaidd gan yr eglwysi i'w hordeinio eleni, sef Mri. R. R. Wil- liams, M.A., Towyn, Howel Williams, Croesor, T. J. James. Llanbedr, Afonwy Williams, Bethania, a R. R .Jones, Abergynolwyn. Pasiwyd ein bod i'w cyflwyno i'w hordeinio yn Mehefin. Cadarnhawyd yr adrojddiad canlynol o Bwyllgor y Drysorfa Gyn- orthwyol: (1) Dewiswyd Mr. Edw. Griffith, U.H., Dolgellau, yn llywydd; Mr. R. Richards, Pensarn, yn drysorydd; a'r Parch. S. Owen yn ysgrifenydd. (2) Fod y taliad tuiag; at wneyd i fyny am y gyfran a dalai Llanfachreth at gyflog y gweinidog, i'w thalu i daith Abergeirw a Hermon o Drysorfa, y C. M. (3) Fod cylchlythyr i'w anfon i'r holl eglwysi yn nghylch casgliad y Drysorfa am y flwyddyn hon. (4) Fod i'r gweinidogion a fyddo yn holl deithiau y sir yn ystod misoedd Ebrill a, Mai i alw sylw at y casgliad, oddieithr yn yr eglwysi sydd yn derbyn o'r Drysorfa. (5) Fod Pwyllgor i'w gynal ynglyn a'r C.M. yn Aberdyfi.—(Samuel Owen). Hefyd cadarnhawyd a ganlyn o Bwyllgor y Meddianau: -Ein bod yn cymeradwyo planiau Lecture Hall' y bwriedir ei hadeiladu gan eglwys Nazareth, Pen- rhyn deudraetli, gyda. chyflwyno rhai awgrymiadau gyda golwg arnynt i ystyriaeth yr eglwys, a'n bod yn enwi y Parch. John Williams, B.A., a Mr. Thos. Roberts, Maentwrog, i fyned i gyfarfod: y Pwyllgor Adeiladu i ddwyn yr awgrymiadau hyn i'w sylw. A'r adroddiad canlynol o Bwyllgor Dirwest a Phurdeb (1) Dewiswyd y Parch. E. V. Humphreys yn llywydld am y flwyddyn ddyfodol. (2) Ail dde- wiswyd yr ysgrifenydd presenol am flwyddyn eto. (3) Pasiwyd i argraffu cyflenwad o lythyrau yn cyn- wys penderfyniad Cymdeithasfa Rhosllanerchrugog o berthynas i'r pwysigrwydd i holl swyddogion eg- lwysig fod yn Hwyrymwrthodwyr ac yn gefnogol i ddirwest, a bod un o'r llythyrau hyn i'w anfon gan ysgrifenydjd dirwest i'r cenhadon fyddont wedi eu nodi gan y C.M. i gymeryd llais yr eglwysi yn ne- wisiad swyddogion, a bod y llythyr hwn i gael ei ddarllen gan y cenhadon i'r eglwysi cyn cymeryd pleidlais y dewisiad.-(J. J. Evans). Pasiwyd fod anogaeth i'r eglwysi roddi pob croesaw i Ysgrifen- ydd Sirol yr achos dirwestol pan yn ymweled a hwy i edrych ansawdd yr achos. Cadarnhawyd hefyd yr adroddiad canlynol o Bwyllgor yr Ysgol Sul: — (1) Dewiswyd y Parch. Owen Ellis, Llantawchllyn, yn Arholwr Sirol am 1902 a 1903. (2) Hysbyswyd mai y Maes Llafur am y flwyddyn nesaf fydd, loan ix--xxi. Dewiswyd yn faes llafur yr arheliad yn 1902 fel y canlyn:—Dos. Hynaf, loan xiv-xvii.; Dos. Ychwanegol, Hyfforddwr xi.; Dos. dan 21ain, loan ix-xiii., ac xviii-xxi.; Dos. dan 16eg, eto a'r Safonau IV. a V. fel o'r blaen. (3) Penderfynwyd gohirio darparu papur ar gyfer yr ymkeiswyr, yn nghyda threfnu iddynt gael defnyddio rhifnodau yn lie eu henwau priodol, hyd y flwyddyn nesaf. (4) Er cael dull unffurf o lenwi i fyny golofn cyfar- taledd' adnodau i bob aelod yn yr ystadegau blyn- yddol, penderfynwyd mai y safon ddylid gymeryd ydyw cyfartaledd' presenoldeb yr ysgolion, ac nid rhif cyflawn eu haelodau. Ynglyn a hyn hefydJ rhoddwyd anogaeth ar fod i athrawon yr ysgolion arolygu llafur eu dosbarthiadau er mwyn gwybod fod y llafur yn un cywir, ac yn cael ei ddysgu yn deilwng.—(T. R. Jones). Adroddiad am y casgliad- au:—Diwedd y Ganrif: Hysbyswyd fod: JE139 lis. and 5c. wedi eu derbyn er y C.M. o'r blaen. Y cyf- answm sydd wedi dod i law erbyn hyn ydyw £ 1,069 14s. 2c. Y Gronfa Fenthyciol: 41 o eglwysi wedi ei wneyd. Rhoddwyd gair o anogaeth am i'r gwedclill ei wneyd erbyn y C.M. nesaf; ac awdurdodwyd yr Ysgrifenydd Sirol i anfon at swyddogion y Gronfa er cael yr adroddiadau allan yn fwy prydlon at y dyfodol. Y Forward Movement: Swm. y casgliad eleni ydyw £ 240. Gwnaed coffhad serchog am Mri. Owen Evans, Peniel, Ffestiniog, a W. O. Williams, Bethel, Dolgellau. Rhoddid y dystiolaeth uchaf i gyymeriad y ddau hyn. Gweithwyr difefl yn y winllan oeddynt, a bydd colled fawr ar eu hoi yn y cyk-hoedd y gwasanaethent. Pasiwyd i anfon lly- thyr o gydymdeimlad a Mrs. Williams yn ei thrall- od. Pasiwyd hefyd fod llythyrau yn cael eu halifon at y rhai canlynol:—Mr. William Jones, Aberdyfi, ar ol colli ei unig a'i anwyl fercli; Mr. Rowlands, Board School, Penrhyndeudraeth, ar ol colli ei frawd, yr hwn a, fu farw yn yr Amercia; Mrs. Price, Towyn, gweddw y diweddar Mr. John Price (gynt o Dolgoch); a'r Parch. R. P. Griffiths, Aber- geirw, ar ol colli ei rieni. Oedwyd gwneyd coffhad am Mr. John Price hyd y C.M. nesaf. Pasiwyd hefyd i anfon cofion at Mr. a Mrs. Evans, Glany- mor, Abermaw; at Mri. David Thomas, Penuel; Morgan Morgan, Ralltg:oed, Aberllefeni, a'r Parch. J. David Jones, Aberdyfi, y rliai sydd mewn gwaiel- edd. Cydnabyddwyd llythyrau oddiwrth Mrs. M. Evans, Manod Rd., Ffestiniog, Miss Owen, Post Office, Ffestiniog, a Mrs. Davies, Tanyrywen, Pen- nal, a Mri. H. Pugh, Llanegryn, R. Roberts, Bo- wydd, Morgan Jones, Bryncrug, a'r Parch. David Hoskins, M.A. Cynhaliwyd cyfarfod nos Lun yn y Dyffryn ynglyn a symudiad y can'mlwyddiant, pryd yr oedd yn bresenol y Parch. Evan Jones, Caer- narfon. Pregethwyd yn y moddion cyhoeddns gan y Parchn. David Jones, Garregddu, J. Hughes, M.A., Liverpool, ao Evan Jones, Caernarfon. SIR GAERFYRDDIN.—Cynhaliwyd y C. M. hwn yn Pantgwyn, ar y dyddia.u Mawrth-a Mercher, Chwef 26 a'r 27, 1901, o dan lywyddiaeth y Parch. W. W. Lewis, Gaerfyrddin. Darllenwyd a chadarn- hawyd Cofnodion y C. M. blaenorol. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y Parch. John Oliver, Mr. Herbert, Llanelly, Mrs. Peregrine, Llanelli, Mrs. Parry, Caersalem, yn cydnabod diolchgarwch i'r C. M. am ei gydymdeimlad a hwy yn eu profed- igaethau; Mr. J. R. James, Llanymddyfri, yngahv sylw difrifolaf y C. M. at y pwysigrwydd a'r aug- enrheidrwydd i dafleni ystadegol y sir ddyfod i fewn iddo ef mor fuan ag y bydd modd, gan fod y Gymanfa Gyffredinol i'w chynal eleni mor gynal* a Mai 22ain; ysgrifenydd y Penrhyn Relief Fund1 yn apelio at y C. M. am gasgliad at y Fund uchod. Darllenwyd yr adroddiadau canlynol o'r gwalianol Gyfarfodydd Dosbarth: Meidrym,—Darllenwyd adroddiad rhanol o'r ymweliad. Enwyd y person- au canlynol i arolygu arholiad yr Ysgol Sul yn y Dosbarth, i fyned i Bancyfelin, Parch. J. Walters, St. Clears, a Mr. David, Llanddowror; i Llan- stephan, Parch. J. B. Thomas, a Mr. Joseph 'rho- mas, Penline. Fod cais yn myned o'r Dosbarth i Bwyllgor yr Ysgol Sul, parthed y gwobrau. Cym- eradwywyd cais o Tyhen am gymortli i gadw cwrdd dirwest. Enwyd yr eglwysi canlynol fel rhai teilwng i gael help o'r Genhadaeth Gartrefol, Pendine, £ 20; Roses, L3; Laugharne, £10. Llan- elli: Fod dymunir.d am i'r rhai fu yn gwrando ar la-is Libanus, Pontardulais, parthed bugail i roddi eu hadroddiad yn y C. M. Derbyniwyd cymer- adwyaeth unfrydol eglwysi y Dosbarth i Mr. W. Davies, ymgeisydd am y Weinidogaeth o'r Triniti, a phasiodd y C. M. fod y Parch. Maurice Griffiths a Mr. D. Davies, i fyned yno i'w holi, t&te. Trefn- wyd lleoedd a gofalwyr yr Arholiad Sirol yn Nos- barth Llanelli fel y canlyn: Capel Saesneg, Llan-