Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
NODION 0 EDINBURGH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 EDINBURGH. Y Sabbath cyn y diweddaf, c!awsom bregeth swynol gan Mr. J. E. Thomas, Penrhiwceibr. Pre- gethwr gyder cyfeillion Annibynol ydyw Mr. Tho- mas. Yr oedd bias neillduol ar ei weinidogaeth. Ar el yr odfa, aeth nifer o'r cor i ganu emynau i common lodging house' yn y Cowgate, y rhan mwyaf isel o'r ddinas. Mae y genhadaeth feddygol yn cynhal gwasanaeth yn amryw o'r tai hyn bob prydnawn Sabbath. Yr oedd nifer fawr o wyr, gwragedd, a phlant, yn bresenol, a golwg tlodaidd a thruenus arnynt. Ymddangosant yn mwynhau y canu. Feallai y cawn hamdden rhyw dro eto i ysgrifenu gair am 'slums' Edinburgh. D.LL.W.
RHOSLLANERCHRUGOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHOSLLANERCHRUGOG. Y Ford Gron.—Yu ol defod ac arfer y Gymdeithas Leiiyddol hon, yr hon yw yr hynaf yn y cylch, eis- teddodd yraelodau Noswyl Dewi yn ysgoldy y 6apel Mawr i fwynhau swper ddanteithiol a. arlwy- asid gan MrSa W. Jones, Epsom House. Ar noson flaenorol) ttaddodwyd i'r gymdeithas anerchiad gwerthfawr ar Lenyddiaeth Gymreig y Ganrif ddi- weddaf gan y Parch. T. M. Jones, Colwyn Bay. Y Cyngor Dosbarth.-Yn nelod, yn lie y diweddar Benjamin Davies, Ysw., U.H., dewiswyd ei gyd- swyddog eglwysig, E. Hooson, Ysw., U.H. Ac yn lie Mr. M. Kyffin, yr hwn oherwydd amgylchiadau sydd yn ymneillduo, dewiswyd Mr. Wm. Thomas, Church Street.
BEILUDU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BEILUDU. Mae genym y gorchwyl anhapus ac annisgwyliad- wy o hysbysui am farwolaeth Mr. Phillips, Nanty- beinin, un o flaenoriaid eglwys Beiludu. Yr oedd Mr. Phillips yn ddyn y ddau fyd,-y byd hwn a'r byd a ddaw. Efe a gollodd ei rieni pan oedd ond 19eg oed: yr hynaf o bump o blant amddifaid heb dad ac heb f-aiin, fel y syrthiodd gofalon y byd hwn; arno yn foreu. Efe a ymddygodd fel tad i'w frodyr a'i chwiorydd, ac a,arhosodd yn weddw nes i'r olaf ei adael; yna efe a welai mai gwell oedd edrych am gymar bywyd, ac fe gyfeiriwyd ei feddwl at un a brofodd ei hun yn bobpeth allesid ddisgwyl iddi fod, fel y darfu i ni nodi yn hanes ei marwolaeth ychydig gyda dwy flynedd yn ol. Hyd yn hyn nid oedd Mr. Phillips wedi meddwl ond ychydig neu ddim am y byd arall, ond trwy ddylanwad y wraig ao eraill, efe a ddaeth i fynychu moddion gras, a hyny gyda chysondeb, a theimlo dyddordeb mewn pethau crefyddol; a. phan oedd y capel yn cael ei adgyweirio a'r moddion cyhoeddus yn cael eu cynal mewn ysgubor porthynol i fferm yn yr ymyl. Ac fel yr oedd yr arferiad o deithio ar hyd a. lied y wlad gan bregethwyr yr adeg hono, fe ddaeth cy- hoeddiad y Parch. William Morris, Llanelli, i bre- gethu yn Beiludu, ac am y rheswm a. nodwyd, yr oedd hyny i fod yn yr ysgubor; ao ar ddiwedd y gwasanaeth, rhoddwyd cyfleusdra i rywun neu rywra-i newid eu meistr, a da oedd gan Mr. Phillips gael y cyfleusdra, a ffyddlawn y profodd i'w Feistr newydd hyd ei fedd, dros ddwy flynedd a deugain. Fe crefyddwr, fe gynyddodd yn raddol, nes dyfod i sylw a ffafr ymhlith y frawdoliaeth, fel y barnodd yr eglwys ef yn gymwys i'r swydd o fod yn flaenor efe a dan arall yr un adeg. Efe a ymddygodd yn hynod o ddoeth yn ngwyneb dewisiad yr eglwys o hono i'r swydd hon, ac a daflodd ei hun wrth draed yr lien frodyr oedd yn y swydd o'r blaen, a phan ddaeth henaint a methiant fel ag i'w hanalluogi i fynychu y moddion, fe g:adwodd Mr. Phillips i fyned atynt, ac i ymgynghori a hwy ar bob mater o bwys; a;c yr oedd yn fFyddlawn i gario eu cyn- lluniau allan hyd eithaf ei allu. Ond fe ddaeth angau i symud yr hen deidiau; a'r ddau. frawd a neillduwyd i'r swydd yr un adeg ag yntau, symud- odd un o'r gymydogaeth i fyw, ac analluogwyd y llall gan afiechyd, fel y syrthiodd pwys y gwaith a holl ddyledswyddau y swydd o flaenori arno yn gyfan oil; ac er i frodyr eraill gael eui neillduo i'r swydd, eto wrtho ef y disgwylid, ac yr oedd yn hynod o fedrus yn cynllunio: heb ei ail; ac yn rhoddi'r esiampl oreu yn ei ffyddlondeb gyda phob aelxos da. Y Sabbath diweddaf y bu fyw, efe a fu fel arfer dair gwaith yn y capel, ac a gyhoeddodd y moddion am yr wythnos a r Sabbath -canlynol; ond ni chafodd yr un o honynt, a'r Sabbath can- lynol yr oedd ei gladdedigaeth yn cael ei hysbysu, a phawb yn teimlo yn drist wrth feddwl ei le nidi edwyn ddim o hono ef mwy. Prydnawn dydd Llun, y 18fed o'r diweddaf, cymerwyd ef yn glaf, a dydd Sadwrn canlynol efe a hun odd yn yr lesu. Gadawodd chwech o-blant i alaru, ar ei ol: pedwar mab a dwy ferch; pump o honynt wedi ymsefydlu. yn y byd, ac mewn amgylchiadau. cysurus, fel nad oes ond un mab yn weddw wedi ei adael yn y nyth wrtho ei hun. Mae addysg yr aelwyd i'w weled yn amlwg ar y plant; maent oil yn grefyddol: dau o'r meibion yn flaenoriaid, ac un o'r merched yn wraig i'r Parch. B. Phillips, Pontfaen. Fe ddarfu i'r tad, ni gredwn, weithredu yn ol cyfarwyddyd y pro- ffwyd, mewn ystyr dymliorol ac ysbrydol,-trefnu y ty, oblegid fod marw i fod. Dydd Iau canlynol, ymgasglodd, tyrfa liosog i hebrwng ei weddillion i dy ei hir gartref; ac an- aml y gwelir cymaint o ddagrau yn cael eu tywallt ag a dywalltwyd ar ddydd claddedigaeth y brawd hwn. Yr oedd yn golled i fyd ao eglwys ei golli. Gwasanaethwyd ar ddydd y gladdedigaeth gan y Parchn. Dd. Williams, Trecastell, Wm. Griffiths, Cwmgiedd, P. Morgan, a D. P. Davies.
Y DIWVGIAI) IIETHODISTAIDDI…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn barod pris 6c. Y DIWVGIAI) IIETHODISTAIDDI A IIOWELL HARRIS. Atebiad i Haeriadau a Chyhuddiadau Diwygwyr Cymru." Gan IDRISWYN. BETH DDYWED Y WASG AM DANO? Gwyddis pa mor galed y mae (Beriah Evans) wedi bod at Howell Harris. Y mae Idriswyn yn galed iawn arno yntau, ao yn llawn match iddo, a dweyd y lleiaf. Dylai ugain mil o'i lyfr yntau werthti. Beth fyddai i'r holl ddarllenwyr anfon ato am bawb i ddau ? Gallwn eu sicrhaui ei fod yn wir werth ei ddarllen."—Y Traethodydd am Ionawr, 1901. "Nid gwaith hawdd yw gwneyd adolygiad yn ddyddorol i bawb; ond gaU Idriswyn' fod yn dawel yn hyn o beth, oherwydd y mae wedi gwneyd ei lyfr yn ddyddorol iawn; a dylai pob un sydd wedi darllen llyfr 'Beriah,' neu yn awydduts i gael cip- drem arno, gymeryd y llyfryn bychan hwn fel gwrthwynebydd teg a phendant. "-Celt Llundain. Nid yw Idriswyn' yn pallu mewn iaith i ddweyd ei feddwl yn glir; y mae ei ddynoethiad yn ddiar- bedi; ac y mae ambell bwynt, yn arbenig, yn cael eu gwneyd ganddo ag y carem yn ein calon wybod pa fodd y cyfarfyddir a hwynt.¡'-Baner ac Amser- au Cymru. "Am y pris hylaw o chwe'cheiniog, ceir yn y llyfryn tlws hwn 96 o dudalenau gyda'r mwyaf dar- llenadwy a gyhoeddwyd er's llawer dydd yn Gym- raeg. Amddiffyniad medrus a gonest, a boneddig- aidd sydd yma i gymeriad y mwyaf, liunanymwadol a llafurus o'r hen Ddiwygwyr Methodistaidd. Llwyddodd yr awdwr yn rhagorol i dynu allan wy- bedyn y meirw o enaint yr apothecari."—Y Cymro. Y mae llyfryn Idriswyn' yn profi yn egluir nad ellir ymddibynu dim yn ffeithiau hanesyddol '.Di- wygwyr Cymru,' ac y mae ei restrau o'r argraffiad- au or Beibl Cymraeg a Llyfrau Morgan Llwyd o Wynedd, a gyhoeddwyd cyn ac ar ol y Diwygiad, yn ergyd angeuol i awdwr y llyfr hwnw fel hanes- ydd.Ta-rian y Gweithiwr. I'w gael yn ddidraul drwy'r post o Swyddfa'r GOLETJAD ar dderbyniad 6c. mewn stamps.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llyfrau w cael can y Parch. 0 Davies, D.D, Caernarfon. Holl Weitbiau Christmas Evans. Tair Cyfro hardd 303. Esboniad ar Actau yr Apostolion. 4s 6c. Esboniad ar Efengyl loan. Cyf. I., 2s.; Cyf. II., 2s. 6c. Cofiant y Parch. J. Pritchard, D.D., Llangollen. 4s. Yr Oraclau Bywiol, gan J. Wiiiiams, Rhos 3s. 6c. Fligyrau y BeibJ, gan J. Williams, Ehos. 2s. 6c. Holwyddoreg ar Hanesiaeth y Testament Newydd. 2c. Cofiant a Barddoniaeth Cynddelw. 5s. 6c. Telir y cludiad, a rhoddir 2c. ?/ swllt i ddosbarthwyr o dri copi ac nckod.
Y Gwir am y Methodistiaid,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Gwir am y Methodistiaid, Ac am y gwaith a wnaed ganddynt yn Nghyntrsim GAN JOHtf MORGAN JONES, CAKE DYDD Pris Is. Cc. I gynulleidfaoedd a gynieiant 20 copi ac uchod V. Cyfeirier pub archebion— REV. J. MORGAN JONES, 6, Wordswoitli Avenue, Roath, Caidiff
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
YN EISIAU yn ddioed X200 ar dai Freehold perth- 1 ynol i gapel y Methodistiaid CMlfinaidd Penrhyn- side ger Llandudno, t'ecur^ty y Cyfun,,eb. Llog heb fod dros C3 10^. Anfoner at MR. BENJAMIN WILLIAMS, 6, St George's Crescent Llandudno. 1YCLES.—Humber Agency open in Dinas \J Mawddwy to good Cycle Agent, Ironmonger, &c. List and terms on application. Humber, Limited, Coventry. AR OSOD.—Ty a Shop yn y wlad. Agoriad da i ddyn yn meddu cymhwysder i werthu pob math o Grocery, Bara, Ac. Da pe byddai yn gigydd hefyd. Ymofyner &'r Parch. JOHN PRYS, I^anover, Abergavenny. CYMDEITHASFA COLWYN BAY. Ebrill 23—25, 1901. Dymunir ar i'r Cj nrychiolwyr ac aelodau erail y Gymdeithasfa, ynghyd ag eraill ag y disgwylir iddynt fod yn bresenol, anfon eu benwau cyn neu erbyn Ebrill 2il i Mr. John Roberts, Fern Bank, Colwyn Bay. NEW ENGLISH PRESBYTERIAN CHAPEL CONNAH S QUAY. Wanted XI, 500 in one or more sums. State lowest rate of interest, which will be paid regularly and prompt'y. Address—IIUGII HUGHES, The Laurels, Connah's Quay, Flint. CAMBRIAN RAILWAYS. Oxford and Cambridge Boat Race. ENGLAND v SCOTLAND, At Crystal Palace, Saturday, March 30th, 1901. FURNISHING TRADES EXHIBITION, AGRI- CULTURAL HALL. On Friday, March 29th, 1901, Cheap Excursion Tickets will be issued to 3L, 0 N" P 0 1W FROM. Times of staiting. 3rd Class Rtturn Fares. p m. 2 Days Tickets Barmouth 12 7 V Barmouth Junction 12 20 j 128. Penmacnpool 11 55) Arthog 12 5 I Llwyngwril 12 33 I- Towyn 12 46 Aberaovey 12 56 J Passengers return from London (Euston) as under:- At 9.45 on Monday, April 1st. All information regarding Excursion Trains and Tourist arrangements on the Cambrian Railways ct n be obtained from Mr. W. H. GOUGH, Superintendent of the Line Oswestry. Oswestry, C. S. DENNISS, March, 19)1. Secretary & General Marager The World's Medicine. SieecbdmS &iUs> For Bilious and Nervous Disorders, Flatu- lence and Pain in the Stomach, Sick-heartache, Giddiness, a sense of repletion and discomfoi t after eating-, Dizziness and Drowsiness, Coid Chills, Flushings of Heat, Loss of Appetite, Shortness of Breath, Costiveness, Scurvy and Blotches on the Skin, Sleeplessness, Disturb- ing Dreams, Low Spirits, Loss of Energy, and Nervous Dyspepsia in all its forms. The first efose generally gives relief in twenty minutes. This is no fiction, for in countless cases the im- mediate effect has proved remarkable. Every sufferer is earnestly invited to make a trissl ef BEECHAM'S PILLS, which will fully justify their reputation of being' WORTH A GUINEA A BOX. FOR FEMALES of all ages these Pills are simply invaluable, as a few doses will restore free and regular conditions, and effect- ually remove the causes of much suffering, to the sex. For a Weak Stomach, Impaired Digestion, Disordered SJver, BEECHAM'S PILLS act like" MAGIC," and a few dosen will be found to work wonders on the most important. organs in the human economy. They brace up the nervous and muscular systems, revive the long lost complexion, bring back the keen edge of appetite, and arouse into action, the, too often, slumbering energies of mind and body. As a blood purifier it is not too much to say that THEY HAVE NO EQUAL. One of the best guarantees that can be offered to the nervous and debilitated is that BEECIIIAMIS PILLS have by far tho largest sale of any Patent Modi- cine in the World, being Over Six Million Boxes per Annum. Prepared only by the Proprietor, THOMAS BEECHAM, St. Helens Lancashire, and sold by Druggists and Patent Medicine Dealers, everywhere. In Boxes, 1/IJ and 2/9 each, with full direction S