Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL. y Llywodraeth a Gorfodaeth. Yr ydym wedi cael wythnos o gyff ro, gwleid- yddol wrth fodd calon rhyw adran o'r wasg, ac nid oes derfyn ar y sibrydion a'r chwedlau ledacnwycl am y Cabinet a'r Llywodraeth o ddydd i ddydd. Ar ddechreu'r wythnos gall- esid meddwl fod y Llywodraeth Genedlaethol ar fin ymddryllio a'r Cabinet yn ymyl cael ei rwygo o gwrr i gwrr. Gwyddid fod yr olaf yn cynnal eisteddiadau meithion, a chesglidi fod cryn anhawsterau yn codi ynglyn a mater arbennig yr eisteddiadau. Er nad yw'r ffig- yrau am yr ateb i alwad Arglwydd Derby wedi eu cyhoeddi eto, deallwyd yn fuan eu bod yn siomedig mor bell ag yr oedd y dynion sengl Z, yn y cwestiwn. Deallwyd hefyd fod y Cabinet yn ystyried y cwestiwn pa gwrs i'w gymryd dan yr amgylchiadau, a bod y dadleu- on yn trod o gylch addewid Mr. Asquith i'r gwyr priod na elwid hwy hyd nes y byddai'r dibriod wedi dyfod i mewn. Goly,gai hyn y rhoddid gorfodaeth ar y bechgyn ieuainc oni ddeuent i mewn yn wirfoddol. Dyfaliadau yw Ilawer o'r pethau sydd wedi eu cyhoeddi am drafodaethau'r Cabinet; ond ymddengys yn sicr fod Mesur i'w gyflwyno i'r Ty yr wythnos hon. Bernir fod y Cabinet erbyn hyn wedi dyfod yn agos iawn i gytundeb ar fanyl- ion ei ddarpariadau. Biydd i gynnwys gor- fodaeth i ymunoar bob dyn sengl rhwllg 19 a 40 oed; fod amser penodol yn caiel ei nodi o fewn yr hwn y rhaid ateb i'r alwad dan boen cosbau trymion. Fod trefniant cynllun Arglwydd Derby i'w ddefnyddio ynglyn a'r vmrestru gorfodol; ac yn olaf fod y Mesur i fod mewn grym hyd derfyn y rhyfel. Diameu y ceir amser bywiog yn y Ty pan ddaw'r Mesur ymlaen, ac y cyfodir gwrthwynebiad cryf iddo o rai cyfeiriadau. Mae Mr. Red- mond wedi gwneud yn glir y bydd i'r Gwydd- elod wrthAvynebu pob cynhygiad o orfodaeth i'r eithaf. 'Mae cyngres fawr 01'r Undebau Llafur i gyfarfod ddydd Iau i ystyried y safle gymerant elm's y gweith'wyr ar y mater. $$$

YmddiswyddoP

* * * Teitlau'r Flwyddyn Newydd.

Suddiad y " Natal."

Y Brwydro ar y Tigris.

* * * Ymosod ar Salonica.

.* * * Synxudiad Newydd Rwsia.

* * * Awstria ac America.

'* * * Y Symudiad o Sulva…

,* * * Suddiad Agerlongau-