Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
= > J r M SEEDS Secured from a reliable source. are bound to give Satisfaction. Send for my Garden. Seeds Catalogue, free-. Kay's Nurseries, Fairbourne, S.O. r ARGRAFFU Adroddiadau Eglwysig, Ystadegau, Tafleni Cymanfaoedd. &c., &c. Yn brydlon a destlus, ac am V prisiau mwyaf rhesymol f Anfoner archebion ar unwaith i- Swyddfa'" gCymro Dolgailau. [ T l ■ Use MEENORA SELF-RAISING FLOUR IT MAKES PERFECT PASTRY, SCONES, &c, &c. £ f SOLE WHOLESALE ÅGENTS- I MORRIS & JONES, Ltd., I LiAerpool (Sc Manchester. BASIC SLAG.—Art&ta vritM good FtoB&ing oon- Metifms TOaoted. Qood cxttrwBissioo. Askiress: "AgAitiltme," Bireh*irs Advertising OSetM, Liver- pool. ..40 .W "MJr: Y PARCH. J. H. SYMOND, TOWYN MEIRIONN- YDD. Owepst Uwohmf ar gyfor AdferiasS HoeMwch. (Higher Lessens pertaining to the Restoration of fa"e) Pins SWLLT (Net). Piob Archeb a'i Thil i'w cyfeirio at- E. W. EVANS, Ltd., DOLGELLAU. DR. WILLIAMS' SOHOCL, DOLGETJLEY. REQUIRED strong respectable girl, age from 18 to 22, as laundry maid. Welsh preferred. Apply The House M i stress.
CYMRU A DIRWEST.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMRU A DIRWEST. GAN MR. E. T. JOHN, A.S. Ni chefais y fantais o glywed na darllen Araith y Proffeswr Levi, ac nis gallaf felly ond sylwi, yn unol a'ch cais, ar eich nodiadau ar ei ymdrin- iaeth fedrus o sefyllfa gwleidyddol presennol cwestiwn Dirwest yng Nghymru. Dengys graffter sydd dipyn yn amheuthyn pan y dadleua mai doethineb dirwestwyr Cymru fyddai ceisio yn gyntaf, Deyrnas Hunan-lywodr- aeth i Gymru, gan ddirnad y cynwysir ynddi ddi- wygiad eofn a thrylwyr ynglyn a'r fasnach fedd- wol. Ac nid ydyw Ymreolaeth Gymreig yn beth pell ac amheus. Yehydig ymdrech, undeb a brwdfrydedd ar ran cynrychiolwyr Cymru a'r Alban a sicrha i'r ddwy wlad yn ddiatreg fesur- au o Hunan-lywodraeth amgenach na mesur yr Iwerddon. Y mae aflwyddiant ymdrech diweddar ein cyd- wladwr enwog i wastadhau pethau yn yr Iwer- ddon, ac agwedd ddifrifol pethau fel y'u dat- guddid gan Mr Redmond ddydd Mercher di- weddaf, yn brofion digonol na cheir gwaredig- aeth ar Iwybr y mesur presennol—cenfydd ar- weinwyr mwyaf meddylgar y Ceidwadwyr mai unig ffordd ymwared ydyw creu ar unwaith sen- eddau yng Nghymru a'r Alban yn gystal a'r Iw- erddon, gan adael i'r Saeson drefnu eu materion eu hunain. Dyna erbyn hyn farn hyd yn oed Arglwydd Selborne, y "Times," ac athrony-dd- ion gwleidyddol y "Round Table." Y mae parodrwydd rhai o'n cyfeillion yng Nghymru i ffafrio pryniant-y Fasnach yn seilied- ig ar y gred nad ydyw Cymru yn ddim amgen na rhyw dair ar ddeg o siroedd Gorllewinol heb un- rhyw wahaniaeth hanfodol rhyngddynt a phobl Lloegr. Tybient gan fod rhagolygon Mesur o Waharddiad Lleol ddim yn rhyw obeithiol iawn yn Lloegr, nad ydyw sefyllfa pethau un tipyn gweil yng Nghymru. Nid wyf o gwbl yn gyd- gyfrannog o ddiffyg ffydd ein cyfeillion-y mae efengyleiddiad Cymru o leiaf deirgwaith yn fwy trwyadl na'r eiddo Lloegr, ac y mae yn anhawdd gennyf gredu fod cyfundebau crefyddol Cymru mor gwbl ddi-ddylanwad a diymadferth ag y myn y cyfeillion hyn gredu. Ond rhoddi i ni yng Nghymru gyfle i ddatganein barn, ni fydd Cym- ru ar ol pobl ein trefedigaethau a nifer helaeth iawn o'r Unol Dalaethau. Y tro diweddaf y rhanwyd y Ty ar gwestiwn dirwestol cyn y rhyfel oedd ar yr 8fed 0; Fai, 1914, ar Fesur o blaid lleihau gwerthiant diod- ydd meddwol ar y Sul, a dyma farn y gwahanol wledydd yr adeg honno 0 blaid. Yn erbyn, Yn absenno]. Lloegr 95 175 191 Cymru 19 2 13 Yr Alban 31 9 32 Yr Iwerddon 34 12 57 179 198 270 Pe buasent yn bresennol y mae yn dra thebygol y buasai y cyfan o'r aelodau Cymreig oeddynt yn absennol, namyh tin, yn pleidleisio o blaid y Mesur. Ond fel y safai pethau, yr oedd Cymru yn naw i un o blaid y Mesur, a Lloegr bron yn ddau i *un yn erbyn-—cyferbyniad a gwahaniaeth tra arwyddocaol. d"" r_ Ymdeimlad o anobaith sydd wrth wraidd y sym- udiad o blaid pryniant, a hynny yn anobaith cwbl ddiesgus. Nid ydyw Cymru fel gwlad- na thrwy ei Haelodau Seneddol-wedi gwneud fawr ymdrech i sicrhau unrhyw ddiwygiad o bwys yn ein cyfundrefn o drwyddedu, yn enwedig o'u cyferbynu a'r Alban-dewisasom ddatsefydlu a dadwaddoli yr Eglwys yn hytrach na datsefydlu a dadwaddoli y dafarn-y ddwy oruchwyliaeth yn eitha iachus ac angenrheidiol, ond yr olaf y bwysicaf o lawer iawn yn ei effaith ymarferol ar fuchedd a ffyniant y genedl. Dygwyd Mesur Dirwest yr Alban bron yn flynyddol o flaen Ty y Cyffredin, a dengys y ffigyrau canlynol farn yr Alban:— 0 blaid. Yn erbyn. 1905 33 13 1907 52 7 1908 46 5 igog 35 2 1910 46 e; Pe y gallasem edrych yn ol yng Nghymru ar rhyw gyffelyb ddygn ymdrech, gellid efallai es- gusodi ystad meddwl cefnogwyr pryniant, ond gadawyd i Syr Herbert Roberts fel Arglwydd- Rosebery i aredig ei "gwys unig"—ofnaf taw ychydig o sylw roddir fel rheol i achos dirwest yng nghyfarfodydd anaml, brysiog ac ysgafala y blaid Gymreig. Ond y mae y cyfrifoldeb yn gor- wedd ar bobl Cymru ac yn fwyaf neilltuol ar ar- weinwyr crefyddol Cymru. 16 Yn bersonol, apeliais yn daer at arweinwyr Ymneilltuaeth Cymru yng Nghynhadledd Caer- dydd a Gwrecsam, i wneud ymdrech benderfyn- ol i sicrhau i Gymru Fesur tebyg a chyfartal i Fesur yr Alban, ond tybiwyd fod y cyfryw ym- gais yn anamserol. Ar y Haw arall, derbyniodd fy nghyd-aelodau Cymreig gyda'r parodrwydd a'r^irioldeb mwyaf fy nghynygiad o blaid dwyn Cymru gyfan o dan reolau y Bwrdd LIywodr- aethol, yr hyn a wnaethpwyd gydag ond ychydig o anhawster ac oediad. Dylai dirwestwyr Gogledd a Deheudir Cymru gyfarfod ar fyrder i ystyrried y sefyllfa bresen- nol, ac yn fy marn i goreu oil po gynaraf y bydd iddynt hefyd gyfarfod yr Aelodau Cymreig mewn cydymgynghoriad rhydd ac agored.
CYRDDAU BLYNYDDOL YR ALLIANCE.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYRDDAU BLYNYDDOL YR ALLIANCE. GAN Y PARCH. ELLIS JONES, BANGOR. MAIyw Mis y Gwyliau Crefyddol: fel y cyrcha Mahometaniaid i Fecca, felly y Sectau i Lundain yn ystod Mai. Ond Dirwest bia yr Hydref, a Dinas y Cotwm yw ei Mecca hi. Yn anffodus nia yw Dirwestwyr Cymru yn ffyddlon iawn i'r cyfarfodydd hyn: anodd gwybod pam hefyd: byddem yn fwy ymosodol pe baem. Gwir fod y daith ymhell ar gost yn drom. Ond byddai pob cymanfa sirol ar ei hennill pe danfonai ei Llyw- ydd a'i hysgrifennydd, o leiaf, i'r cyfarfodydd hyn. Yr ydym yn achwyn nad oes nemor ddim yn cael ei wneud gennym. Ymffrostiwn fod y farn gyhoeddus yng Nghymru yn iachach nag yn un rhan o'r Deyrnas: gall mai gwir hynny. Ac eto, cwyno wnawn fod yr Aelodau Cymreig yn sobr o ddi-ddim mor bell ag y mae dadleu ein hachos yn y Senedd yn myud. Danodwyd inni yn yr Abermaw, gan yr aelod pedair oed, fod yn ddigon hawdd i wr segur fel y Prifathro Prys a'i debyg ddweyd beth ddylem gael yn y ffurf o ddeddfwriaeth-fod pethau yn edrych yn bur wahanol i'r gwyr sydd yn eistedd ar feinciau St. Stephan—mae hwy oedd yn fyw i'r anhawsterau. Ac ni feiddiodd neb ohonom gymaint a sibrwd mai nid eu danfon yno i fwynhau eu hunain wnaethom. Beth pe bae Samuel Owen yn y Bermo yn gwrando ar y fath ddanodiad! Ond dyna ni, mae.'r Tadau wedi mynd, a'r tan gyda hwy. A'u culni hefyd meddych ? Efallai hynny. Gwell culni y Tadau gyda eu brwdfryd- edd na'r hyn sydd gennym yn eu lie. Wrth gwrs, mae yn hen ddanodiad fod platform yr Alliance yn gul, dim ond Gwaharddiad sydd ganddi i'w gynnyg at bob drwg! Ond os cul, y mae yn frwdfrydig, ac y mae ganddi bolisi y mae yn credu ynddo, ac yn foddlon ymladd drosto. Ond y rhai nad ydynt byth yn ymgyd- nabyddu a gwaith yr Alliance sydd yn dannod y culni yma iddi, Pe dilynech ei gweithrediad-