Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
TREFNANNAU, MEIFOD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREFNANNAU, MEIFOD. Ol>addedigaelth.-IGyda-'gofid dwys yr ydym yn cof- nodi ma-r-wolaeth ac angladd y diweddar Mr. Evan Bebb, Keel Mawr. Er nad oedd Mr. Bebb yn mwyn haji iechyd da er ys, peth lamser, daeth y diwedd yn bur sydyn. Yr oedd ein cyfaill yn flaenor yn eglwys y Rock, ac yn wr defnydd-iol a fiyddlawn iawn. Am- aethwr prysur ydoedd; ond peth hollol: eithriadol fyddai iddo, er hynny, fod yn absennol o unrhy.v gyfarfod orefyddol, ar y Sul neu yn yr wythnos, a chymerai ddyddordeb arbennig yn yr Ysgol S'aboth ol. Cydymdeimlir yn fawr a'i weddw ieuanc ar ddatodiad yr undeb dedwydd a ffurfiwyd mor ddi- weddar a blwyddyn yn ol; ac a'i fam oedranus, a holl aelodau y teulu. Cyfarfu nifer1 fawr o berthyn- asau a chyfeilliioh wrth y ty prynhawn dydd LJan, iHydref i6e,g ac wedi cynnal gwasanaeth crefyddol byr, aed rnewn cerbydau yn rhifo 32ain tua'r gladd- fa ym Meifod., lie y Thoddwyd gweddillion ein hannwyl frawd i orffwys. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parchn. Evan Jones: (A.), iLlansantffraid, G. 0. Evans,^Coadway, a J. M. Edwards (A.), Samau ;^ng nghapel y M.C. Meifocil, gan y Parch. T. :H. Griffith, Pontrobert, IMr. David Pryce, Kynant, a'r Parchn. J. E. Thomas (A.), Meifod, a 'Cadwaladr Tones (y gweinidog), ac ar lan y bedd, gan y Parch. 0. H. Owen, Penfrefejin, a'r gweinidog.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
:O¡: ZEE!! R71LEIGH M THE ALL-STEEL BICYCLE A Y-A With liquid- GUARANTEED FOR EVER Prto, from tea breutdioints. Fitted with Dunlop Tyres and *7 lOt. Sturmey-Archer Tri-Coaster. i$tie 16a, \7|i Stud 0 Pott Omrd for th» initfitting "Book 1/ tk* Mthight* DOLGELLEY GARAGE, &MITHFIELD ST., DOLGELLEY. J L Til RALEIGH CYCLE CO., LTD., NOTTINGHAM,
GYDAR MILWYR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GYDAR MILWYR GWRRSYLLFAOEDD LITHERLAND A'R SNIGGERIES. GAN Y PARCH. JOHN WILLIAMS, B.A., CARNO. Gwnaf ychydig nodion o'r pethau gyffrodd fy meddwl, ac a gyffyrddodd fy nghalon, tra yn treulio mis o amser bendithiol imi yn y ddau wersyll uchod. Synais weled cynifer o :Gymry yn eu mysg, yn wir Cymru yw eu grym, nid rhyfedd hynny gan mai gwasgaredigion Ki-nmel ydlynt, yn gwneud i fyny yma y 3rd. Batt., R.W.F. Gwelwn wedi bod yma ychydig ddyddiau fod blaenion ardaloedd Gogledd Cymru yn eu plith, mewn meddwl a moes, mae y pellter sydd rhwng byd: eu byw heddyw a'r hyn oedd yn anhygoel. Pe dywedid wrthynt dair blynedd yn ol na buasai ganddynt hawl ar ddim ond eu heneid- iau eu hunain, byddai ryfedd ganddynt. • Dyma un o herw-helwyr gorfodaeth filwrol. Hiraetha y dynion, gannoedd o honynt yn wyr priod, a theuluoedd: gan- ddynt rhwng bryniau Cymru, am eu hen gysylltiadau, eu cartrefi, a'u mam-eglwysi, dyma werth pennaf danfon gweinidog i droi yn eu plith, y cyfle ga, pan fo gwaith y dydd drasodd, i alw gyda hwynt yn eu huts,' i ymgomio am ardaloedd eu cartrefi a'u cysylltiadau crefyddol, ac anghofiant am ychydig yr amodau dan ba rai maent yn byw heddyw. Clywais ami un o honynt yn dweyd, rhai oedd gynt yn ath- rawon, yn glercod mewn banciau a gwahanol swydd'- feydd, os cant ddychwelyd yn fyw o t heldrin hwn, nas cwynant pe baent yn torri cerrig ar ochr y ffordd. Daw daioni o'r dinistr. Gwelaml un mai paradwys oedd yr hyn ystyriai yn anialwch ac ni fydd gwaeth ganddo mwyach ai gwas ai beth y bo, o chaiff fyw i wel'd y byd yn dod i'w bwyll. Er nad oes hyfryd'- wch i'r dynion mewn, dwyn arfau, eto parod ydynt i wneud eu rhan, ac i ufuddhau i'r awdurdodau. Yr unig beth y cwynent yn ei gylch, oedd iaith aflan a chableddus rhai o'r "non-commissioned officers" oedd yn eu "drillio." Credwn fod moddion effeith- iol wedi ei gymryd i beri y bydd y gwyr dienwaed- edig hyn yn fwy gofalus rhagllaw. Parai y geiriau ddefnyddiant fwy o loes i'r milwyr nag unrhyw ar- teithiau cnawd allant feddwl oedd yn nghol y dyfod- ol ar eu cyfer. Parod ydynt i roi eu bywyd ar allor eu gwlad, ondnid ydynt am i'w heneidliau gael eu hacru a'u briwio gan lwon a rhegfeydd'. Da y gwnaeth y Swyddfa Ryfel ddanfon gwr mewn awdur- dod yma i wneud ymchwiliad i'r cwynion hyn. Dy- wedir imi gan y milwyr fod gwelliant yn barod wedi cymryd lie. Gwerthfawr yw'r gwaith o alw yn yr ysbytai, a chwrdd a bechgyn wedi dod1 yn ol yn fyw o'r alanas fawr, er y bydd ei hoi arnynt tra byddont byw. Da gennyf wel'd! eu gafael yn eu C'yfundeb crefyddol. 'Gall I matrons yr ysbytai ddeall beth olyga Congregationalist neu Baptist ar eu 'chart' uwchben eu gwely, ond mae W.C.M. tu- hwnt i'w dirnadaeth. Drwg gennyf am eu hanwyb- odaeth o hanes y C'orff. Golygfa gwerth ei gwel'd yma yw y Church Parade fore Sul. Os am gynull- eidfa grea ysbrydiaeth mewn pregethwr, doder ef i bregethu i gapelaid orlawn fel geir yn Wilson's Lane. Llenwir y capel'hyd yr ymylon, eistedcla-nt hyd risiau y pulpud, ac i fyny iddo. Ca pawb fyn fynd i'r set fawr. Dywedai rhai o fechgyn ardaloedd fy nghartref yn Arfon, fod rhaid iddynt fyn'd yn soldiwrs i gael bod yn fiaenoriaid. Pregethir bob Sul i rai dynion na chlywant yr Efengyl yn y wlad yma drachefn, danfonir draft' unwaith a dwy yr wythnos i faes y brwydto. 'Mae eu heneidiau yn ddwys ac esgud i wrando. Dywedaicyfailf imi fu yn pregethu iddynt yn ddiweddar yng Nghinmel, mai wylo yn hidl wnaeth wedi'r oedfa, wrth feddwl fod dynoliaeth mor hawddgar a da yn cael ei pharatoi i'r fath erchyll- waith. Hawdd gennyf ddeall y cysylltiadau agus ffurfir rhwng capieniard y. fyddin a'r dynion: cydir hwy a'u gilydd gan linynau tyneraf a sancteiddiaf bywyd. Da i genhadon-Crist yw cael dod i blith y milwyr i wel'd mai nid ofer yw eu gwaith. Y nos- waith o'r blaen daeth nifer o honynt i ffarwelio a mi, cyn gadael o honynt y noswaith honno am Ffrainc. Er cymaint ddywedid mai bychanoedd dylanwad eglwysi y wlad, ceir prawfion mai gwerth- fawr fu yr had hauwyd yn ddistaw mewn cymoedd a phentrefi yn nhystiolaeth ac ymddiriedaeth bechgyn ag ofnadwyaeth a dieithrwch tragwyddoldeb yn eu Z, trem. Diolchaf i Bwyllgor y Sasiwn am y fraint fawr o gael troi ymysg y dynion hyn, dros ychydig dro.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Sul a Llun, Hydref 15 a'r 16, cynhaliodd eglwys y Twyn, Caerphilly, ei gwyl flynyddol. Pregethwyd gan y Parchn. R. J. Jones, Penygraig, a J. Pumpsaint Jones, Treharris,
NODION OR DE'HEUDIR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION OR DE'HEUDIR. Eglwysi Maesteg a'r Cylch. Mewn cynhadledd ynglyn aig Eiglwysii Rhyddion y He uchod a'r cylch: i. CadaDnhawyd penodiad y Parch. D. Johns Canaan, yn GapLan Ysbyty Cynorth- wyol y Groes Goch. 2. Pasiwyd fod pob gweinidog ordeiniedig i'w wahodd gan y Capian i wasanaethu yn yr Ysbyty pan yn gyfleus iddynt o S i 9 o'r gloch nos Sul lati. 3. P^iwyd fod apel yn cael ei wneud at yr awdurdodau i gariatau i'r goileuadau fod yn y gwahanol addoldai hyd 8 o'r gloch ar nos Suliau ar yr amod y bydd pob eglwys yn gofalu am foddion goleuadau 11 ai pe troid y nwy i. ffwrdd rhag digwydd cyffro. 4. Pasiwyd fod y Gyinhadledd yn cymryd mesurau i wrthwynebu y Boxin.g Con.tests yn yr ar- dal. ,Diolch trwy Bregeth. Y I'arch. James Llewelyn, Penybont, a bregethai gydag arddeiiiad i gynulleidfa fawr yng NgHytarfod Diolch,garweh Pontfaen y Fro eleni. Newid ei henw. Nid am ei bod wedi gwneudi, ond oherwydd ei bod wedi gwneud ac wedi rhioi i fyny ganu ohoni yr offer yn yng i-i,g,hap,el,M.C. Pyle, y rhoddwyd i, Mrs. Owen Thomas (Edith Riees,) lestri arian hardd ar yr achiys- ur o'i phriodas. Cadwyd trefn ar y cyfarfod gan yr ysgolfeisitr, Mr. F. G. Davies, a ,MTS. T. 'R. Wil- liams gwraiig y gweinidog parchus, mewn g,eirian priodrol a gyflwynodd y rhodd. Dywedai Mr. Rich- ard Morgan ara wasanaeth y chwaer gyda'r gymanfa ganu yn y cylch, a chanwyd yn swynol gan nifer o rai eraill. Colli Mab. Cydymdeinilir yn fawr a Mr. David Evans, bardd a b 1 aenor ffyddlon yn eglwys, Moriah, Mynydd Cyn- ffig, yn wyneb colli ei fab annwyl ar faes, y frwydr. iNid ydym wedi cael y manylion, ond deallwn ei fod wedi cael pob manteision, lac yn ddyn ieuanc addaw- ol iawn,. Pregeth Angladd. Cyfeiriodd y Parch. David Jones, M.A., Penrhiw- ceibr, yn briodol. nos Sul diweddaf tra yn pregethu oddiar Salm 103, 3, gartre at nifer o rinweddau a berthynai i un o'r aetodau ym mhers-on Mr. W. Wil- liams, yr hwn a gyfarfu a'i ddiwedd yn y :lofa yn ddi- weddar. I'r Cyhoeddiadau Pwysicaf. 'T,ra wedi ymneilltuo o fod yn is-oruchwyliwr yn y tofa nid yw 'Mr. John Charles, Pontypridd, yn gor- ffwys ar ei rwyfau. Ymddangosodd erthygl o'i waith ar Eniynau Edmwnd Prys yn y 'Traethodydd' yn ddi- weddar ac yn y "Cymru" y rhifyn diweddaf oil, ceir ganddo ddarlun rhagorol o hen bont un bwa Ponty- pridd yn gysyliltiediig ag y^grif ar William Edwards, yr hwn a'i hadeiladodd. I Sweet 'Berdar. Fel oilynydd i'r Parch. J. iLewisi Jenkins, yn awr o Lerpwl, syrthiodd y goelbren ar y Parch. W. E. Roberts B.A., Caergybi i ddod i'r Triniti, ac y mae yntau wedi cydsynio a'r alwad. Gwaed y Cymro sydd yn ei wythienmau, a mantais i'r Saeson ydyw cael gafael arno. Y Cymreigyddion. v Y Parch. Robert Beynon, Abertawe, agorodd ddrws y Gymdeithas> yn Festri Nebo, Ystrad, eleni, trwy draethu ei len yn odidog ar Ben Bowen, i lond yr adeilad o bobl. Dafydd Domos (teiliwr), lienor coeth, a:c un o'r yohydig arwyr Cymreig yn y cylch oedd yn llywyddu, ac nid oedd prinder ar y gan na'r awen yn y cwrdd. Dyfnallt o Gaeirfyrddin fu yn y Neuadd yn Nanty- moel, gyda'r un gorchwyl. 'Hanes ei ymweliad a Ffrainc mewn cysylkiad a'r Y.M.C.A. oedd ganddo ef peth eithriadol debyg i gymdeithas felly, ond mwyn- hawyd y ddarlith yn fawr. Y Parch. D. J. Williams lanwodd y gadair. Seven Sisters. Dydd Mercher, iSfed cyf., gosodwyd gweddillion Mr. J. D. Thomas, sef brawd iMir. Phillip Thomas, yr athraw adnabyddus o CasteII Nedd, i orwedd yn erw Duw, vn ymyl Soar, Seven 'Sisters. Hunodd wedi cysitudd chwerw. Gadawioddi weddw a theulti lluosog, ac urddasol iawn, mewn galtar a hiraeti-, dwys ar ei ol. Llywyddwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Jones, Creumant. Cymerwvd rhan gan v Parchn. J. R. Evans, B. T. Jones, Neath, T. Davies, Cilifriw, W. Griffiths (B.), a Diavies, Seven, Sisters, a'r ysgrifennydd Gwelsom ymysg y dorf lawer o wyr enwog o Ystradgynlais a lIeoedd eraill. Byddeci i'r galarwyr ddiddanwch mawr,
FFARWELIO A CHENHADON. --L--
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gadw o flaen ei llygaid yn barhausi amcan Duw yn ei galw ac yn ei hanfon. Tybiai fod popeth a fyddai ami eisiau yn hyn. Nid y CyfeLsteddfod Gweithiol, ac nid y C'yfundeb, oedd wedi ei galw, ac nid hwy oedd yn ei hanfon cyfryngau yn unig oeddynt hwy yn llaw Duw i rwyddhau y ffordd iddi fyned. Gofyn- odd beth oedd amcan y iDuw mawr yn ei galw ac yn ei hanfon. Atebodd mai y ffordd oreu i wybod hyn oedd myned yn ol at eiriau y Cenhadwr mwyaf a welodd Eglwys Crist, a dymunc/dd ar Miss Row lands ddarllen llawer o'r noson h6nno ymlaen ar y pedair pennod cyntaf yn y Llythyr at yr Ephesiaid, yn y rhai y ceid siarter pob Cenhadwr a Phregethwr. Darllenodd amryw o'r adnodiau gan bwysleisio dwy o honynt yn arbennig-" Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroed'd y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo Ef." Fel y byddai yr awrhon yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau yn y nefolion, trwy yr eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw-The many-coloured wisdom of Cod." Dywed- ai hefyd wrthi ei bod yn cychwyn i Genhadaeth ag y mae ei seiliau yn nhragwyddoldeb, a chymorth iddi a fyddai cofio beunyddi fod. India, Japan, China, ie, holl wledfydd y byd yng nghynllun Duw, ali bod hi yn cael cydweithio a; Duw yn y gwaith o grynhoi ynghyd yng Nghrist. Gofynodd paham yr oedd cenhadon yn myned allan i'r India? Nid oeddl dweyd eu bod yn myned oherwydd eu cariad at eneidiau—' passion for souls,' yn ddigon o ateb dros fyned i'r India. Y mae yn y wlad hon ddigon o eneidiau ag angen ein cariad a'n gwasanaeth ond elent i'r India am eu bod yn credu fod India mor hanfodol i Iesu Grist-ag yw Cymru, ac fod yna agweddau ar gymeriad yr Ar- glwydd Iesu na welir mohonynt hyd nes y daw Japan ac India ato. Wedi i'r Dwyrain ddyfodt at Grist y gellir gobeithio cael gwr a fedr esbonio Efengyl loan. Ei neges fawr hi a fyddai, nid ceisi-o gwneud yr Indiaid yn Fethodistiaid Calfinaidld, ond, eu dwyn at Grist. Wrth gadw hyn o flaen ei llygaid' cai weled naa gallai hi ei hun wneud y gwaith hwn ond trwy fod yn gydweithiwr ai Duw. Byddiai cofio hyn yn gosod urddas ar ei gwaith, ac yn ei gwneud yn wir ostyngedig. Fe fydd eich gwaith mawr yn dechreu cyn gynted ag y glaniwch yn Calcutta. Fe sylwa yr Indiaid ar eich cymeriad, ar eich bywyd, ac fe wel- ant fwy felly na thrwy ddim a fedrwch ddysgu iddynt am flynyddoedd." Adroddai am ryw fachgen oher- wydd rhywbeth wedi ymwylltio ac yn taraw John Selwyn, Esgob Selwyn ar ol hynny. Gyrwyd y bachgen ymaith gan y llywodraethwyr, a pharhaodd yn fachgen drwg, ac yn ddyn drwg, ond galwyd cen- hadlwr i'r ynys lie yr oeddynt hwy wedi ei anfon ymhen rhai blynyddoedd, ac yr oedd yno ddyn yn awyddus am gael ei fedyddio, a phan aeth y cenhad- wr i gyfiawni yr ordinhad, gofynodd ei enw. Ateb- odd y dyn, Galwch fi yn John Selwyn, oblegid efe oedd y gwr a ddangosoddi Iesu Grist i mi." Ymhellach galwoddl ei sylw at y ffaith ei bod nid yn unig yn cydweithio a Duw, ond hefyd a dynion ac a merched. iNi bydd pawb o honynt yr un farn a chwi bob amser am bopeth. Cedwch rhag gwneuthur rhyw fater o opiniwn yn fater cydwybod ac yn bennaf cedwch rhag gwneuthur unrhyw ragfarn o'ch eiddo yn fater cydwybod. Goddefwch eraill, a gwnewch eich goreu i gydweithio a'ch cydweithwyr, ac a'r Cyfeisteddfod. yr hwn sydd yn caru y cen- hadon i'r gwraidd. Bydd raid i chwi wrth amynedd mawr; i'r India yr ydych yn mynd, ac yn araf iawn y mae popeth yn symud, ac yn cael ei wneud, yn India." Dymunodd bob bendith iddi a Ilwyddiant m^wr ar ei llafur. Yna cafwyd ychydig sylwadau gan Miss Aranwen Evans. yr hon a ddiolchai o galon1 am yr holl gared- igrwydd oedd wedi ei dderbyn ymhob man yr oedd wedi bod ar ran y Genhadaeth. Erfyniai am i'r gynulleidfa ei chofio, a chofio y cenhadon eraill, yn1 eu gweddiau, gan eu sicrhau pe sylweddolent werth eu gweddiau, na thawent ddydd na nos ar eu rhan. Dymunai yn arbennig ar yr adeg bresennol le yng ngweddiau yr eglwys tra ar y fordaith. ond teimlai yn hyderus pa beth bynnag a ddigwyddai iddynt eu bod yn ei l'aw Ef. Wedi i'r Parch. O. Lloyd Jones, Mi.A., B.D., gynriyg, a Mr. W. Venmore gefnogi, penderfynwyd ein bod yn dymuno Duw yn rhwydd i'r -chwiorydd ieuainc hyn, a bendith y nef amynt, a'u sicrhau y byddent yn eu cofio ger bron Gorseddi Gras, terfyn- wyd cyfarfod rhagorol gan y Parch. John Hughes, M.A.