Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Y DDAMWAIN AR Y GONWY.
Y DDAMWAIN AR Y GONWY. MAE'R mor erbyn hyn wedi rhoddi i fynu ei ei*won yn y ddamwain a gymerodd le yn ngenau yr afon Gonwy. Ddydd Gwener, caf- wYd cyrph William Jones y pilot, a Robert fvallS, yn agos i'r fan y cymerodd y ddamwain e a thranoetb, codwyd corph Edward Pullen, gerllaw Pont Conwy. Y mae'r drysorfa at Synorthwyo'r gweddwon a'r amddifaid yn cael e*nogaeth haelionus, o
KHEILFFORDD TWNEL Y MERSWY.
KHEILFFORDD TWNEL Y MERSWY. ^DDEWIR y bydd ei hestyniad i waelod Bold Street, dd yinuniad yn y Pen arall a'r rheilffordd i Gaer, y hef11*! W6(*i eu cwblhau er-byn Mai nesaf. Y maent \vr:y >'n hwylio cychwyn gwneud y llinell ar draws Wirral i Ogledd Cymru.
AMRYWION.
AMRYWION. YR wythnos ddiweddaf, anrhegwyd Llandudno gan Arglwydd Mostyn a Pharc cyhoeddus, yr hwn a agorwyd ac a gyflwynwyd yn ffurfiol gan ei arglwyddiaeth. Saif ar lechwedd y Gogarth, mewn man a elwid yn "Happy Valley." Cyn- lluniwyd ac arolygwyd y gwaith celf a fu arno gan Mr. Marks. YR oedd mawr angen rhywbeth o'r fath yn Llandudno; cwynai amaethwyr yr ardal yn dost fod yr ymwelwyr yn tori eu gwrychoedd ac yn sathru eu cnydau, er colled drum iddynt. Y mae llawer o Saeson yn tybied pan ddeuant i Wild Wales" y gallant fod cyn wyllted a hithau, a bod pobpeth ynddi yn eiddo pawb, hyd yn nod ei choed ffwythau a'i meusydd yd. GWELSOM yn yr Echo am ddydd Gwener brif- erthyd sylfaenedig ar rhyw chwedlanhygoel iawn am ddwy "lwly" a'u plant yn myned ar draws cae heb fod yn mhell o Landudno ac i bwt o ddynes fechan wichlyd eu cyfarfod gan fygwth melldith- ioti trymion ar eu penau am drespasu ar ei thir a phan oeddynt ar gael y llaw uwchaf ar y ddynes haner gwallgo (yn ol eu desgrifiad hwy), daeth dyn mawr yn mlaen, gan hawlio dau swllt am y drespas (yr hyn a eilw'r golygydd yn backsheesh money) a chan fod y plant yn" ysgrechian gan ofn, talwyd yr arian. Bydd gan y ladies a'r plant laswellt pare i sangu arno o hyn allan. CYMERODD yr olygfa gyffrous olaf le ar Drwyn y Fuwch, neu fel y gelwir ef amlaf Little Orme's Head. 0 Drwyn y Fuwch y bwriadai Syr Meurig Grynswth, a'i gyfaill By wbothfardd, fyn'd i'r lleuad er's talwm. Fel hyn Wrth edrych arni o Landudno ymddangosai y lleuad fel pe buasai yn codi o un o ffroenau y Trwyn a dim ond ddynt hwy fod yn y fan ar yr amser iawn, nad oedd eisiau ond camu yn hamddenol i'r blamed oer, a dyna bobpeth drosodd. Y mae yn gofyn bron gryfed ffydd i gredu chwedl y beirdd a'r lleuad ag sydd i goelio'r hanes am y ladies a'r backsheesh. YR wythnos ddiweddaf, yn Eglwys St. George, Hanover Square, Llundain, priodwyd Mr. George Herbert, wyr ac etifedd yr hen bendefig urddasol larll Powys, gyda'r Anrhyd. Violet Lane-Fox, o Braham Park, swydd York. Bu farw tad y priodfab rai blynyddau yn ol, a thyna paham y dilyna ef ei daid hybarch yn yr etifedd- iaeth. EBE aelod o'r Englis Cos yn Mlaenau Ffestiniog wrth un o fechgyn y reilffordd ag yr oedd arno eisiau iddo fyned ar neges trosto, "Here, Robert; go over me to Tanygrisiau, that's a good lad." PRYDNAWN Sadwrn diweddaf, bu Mr. T. Morgan Owen yn esbonio i gynulliad Iluosog. yn Neuadd y Dref, Rhyl, rai o neillduolion cod newydd Addysg y Llywodraeth. Condemniai yn ddiarbed benderfyniad Pwyllgor Addysg Gogledd Cymru; sef "Na ddylid derbyn plant i'r Ysgolion Canol ond rhai tan ddeg oed ac wedi, ac wedi pasio y pumed safon neu arholiad cyfartal." A FYNO wybod pwysau tas o wair, dyma'r ffordd lluoser hyd y das hefo'i lied, a lluoser hyny hefo'i huchder—hyn mewn troedfeddi; rhaner y cyf- answmhefo 27,0 hyn y daw y nifer o latheni cubig: lluoser hyn hefo chwech os bydd y gwair yn newydd; os dipyn yn hen hefo w, th neu naw a'r cynyrch a fydd y maen-bwysau (stone weight). Wrth fesur yr uchder, gadawer allan ddwy ran o dair o'r mesur rhwng y bondo a'r crib. DDYDD Mercher, fel yr oedd genethig yn ceisio codi dwfr o'r ffynon sydd yn Bridge Street, Gwreesam, collodd ei phwysau a syrthiodd i'r ffynon. Rhedwyd ati ac achubwyd hi rhag boddi gan Mr. Hugh Rowlands, druggist, ein hen gyfaill ni a phawb arall, Ephraim Llwyd. FELy crybwyllasomo'rblaen, nifuerioed gymaint o gnau ag eleni, beth bynag yn nghof neb byw. Y maent yn dechreu gwisgio a dywedir fod y gwiwerod, oherwydd cyflawnder en cynhauaf, yn myn'd i weithio diwrnod a haner. MEWN cyfarfod o Bwyllgor Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd, a gynhaliwyd neith- iwr, dywedai y Parch. Griffith Ellis y cyrbaeddai y casgliad at Drysorfa y Jiwbili, yn ol pob tebyg, y swm anrhydeddus o R30,000, ac fe ddichon ychwaneg. Y mae Lerpwl yn gwneud ei rhan yn rhagorol-y tuhwnt i bob disgwyliad. GLANIODD James Sauvage a'i deulu yn iach yn New York ddydd Mercher, Gorphenaf 30ain, oddiar fwrdd y Majestic perthynol i linell y White Star, wedi mordaith o 5 diwrnod a 22 0 oriau. Mae y teulu yn aros yn bresenol yn Newark, New Jersey. Yr oedd Mr. Sauvage yn cymeryd rhan mewn opera yn y Palmer's Theatre, N.Y., nos Fawrth, y 5ed cyntisol, a bydd yn llanw ymrwymiad gyda'r cwmni yn y lie uchod tra y byddant yn New York ond ni fydd iddo deithio gyda'r cwmni wedi iddynt adael y ddinas am fod ganddo ymrwymiadau eraill.—OWDrych. DYWEDAI yr Esgob Lloyd, esgob newydd Ban- gor, yn Llanystumdwy yr wythnos ddiweddaf, fod llwyddiant yr Eglwys yn Nghymru yn di bynu ar i'r offeiriaid droi yn mysg y werin ac ymgydnabyddu &'uliangenion. DIGRIF iawn ydyw hanes gosodiad Assembly Hall, Treffynon, i gadw'r cyngherdd cysegredig hwnw y soniasom am dano yr wythnos ddi- weddaf. Y Parch. Lewis Ellis, Rhyl, oedd gan yr hawl i osod neu wrthod gosod y neuadd. Danfonodd bostcard at y dyn oedd yn gofalu am y lie, ac arno yn ysgrifenedig, "The Assembly Hall is to be let on Sunday for any purpose." Ysgrifena Mr. Ellis i ddweyd iddo yn amryfus adael allan y negidydd bychan not o rhwng y ddau air llai fyth, "is" a "to," yn y frawddeg. Y MAE Railway i Langynog yn y gwynt eto. Y tro hwn o Groesoswallt. Hwyracli fod hwn tua'r seithfed tro i son am yr anturiaeth yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf weithiau o Groes- oswallt, bryd arall o Lanfyllin, a bu son un- waitti am dyllu Berwyn a'i dwyn yno o'r Bala. Y mae yn hen bryd ei gwneud o rywle bellach neu fe geir un i ben y Wyddfa o'i blaen. YR oedd cyfarfodydd ac ymgyrchiadau Cym- deithas Hynafiaethol Cymru yn Nhreffynon a'r gymydogaeth, yr wythnos ddiweddaf, yn ddy- ddorol ac yn llwyddiaut anarferol. PRIODWYD ficer Porthmadog, y Parch. Ll. R. Hughes, ar y 26ain cynfisol, gyda Miss Sweet- apple (enw tlws odiaetb). Yr oedd yr anrhegion vn lluosog, a dathlwyd yr amgylchiad gan y Madogiaid yn y dull llwyr a chalonog nodwedd- iadol ohonynt hwy gyda phobpeth yr ymgymer- ant Ag ef.
ARWEINYDD YR EISTEDDFOD.
ARWEINYDD YR EISTEDDFOD. GAN mai dyma wythnos fawr yr Wyl Genedl- aethol yn Mangor, hwyrach nad annerbyniol gan eich darllenwyr fyddai hanesyn neu ddau am y bod pwysig a elwir yn Arweinydd. Yrwyfyn meddwl mai Talhaiarn a Chlwyd- fardd oedd y rhai cyntaf i wisgo yr enw—yn flaenorol Bardd yr Eisteddfod" y gelwid y sawl a lanwai'r swydd a thua Eisteddfod Rhuddlan, ddeugain mlwydd ynol,y dadblygodd y Bardd yn Arweinydd. Poor Tal, heb os nac onibae, oedd yr Arwein- ydd goreu a fu genym byd yn hyn; a phan fyddai Clwydfardd ac yntau yn cyd arwain, megys yn Eisteddfod Caernarfon, 1861, yr oedd y gwaith bron yn berffaith. Fel y dywedai rhywun arall, byddent yn gwneud eu wits tros nos a tbran- oeth dygid pobpeth yn mlaen yn drefnus yn ol y rhag-gynllun. Pan ddigwyddai bwlch yn y gweithrediadau, galwai Tal. ar ei gyfaill i adrodd Cywydd yr Aur," yr hwn oedd yn aur i gyd bob llinell ohono, megys, Am yr Aur rhaid ymorol, Heb yr Aur bydd pawb ar ol." Wedi iddo ef ddybenu, ysbonciai Talliaiarn yn mlaen, gan ddywedyd, "Da iawn, ynte 1 Ond fel y beirdd yn gyffredin, 'rwy'n ofni fod ganddo yntau fwy o aur ar ei dafod nag yn ei boced." Y mae'r oes hon yn cofio Mynyddog yn well na Thalhaiarn, ac yn dneddol i feddwl fod Mynyddog yn well Arweinydd. Ond yn nhyb yr ysgrifenydd, yr oedd Tal. yn fwy coeth, ei ffraethineb yn fwy gwir Gymreig, ei osgedd yn fwy naturiol a boneddigaidd, a'i allu i hyrwyddo'r gwaith yn rhagorach. Ni fynwn ddweyd, ar un cyfrif, nad oedd Mynyddog yn arweinydd campus meddai ymddangosiad dylanwadol, parodrwydd ymadrodd, a dawn i ddweyd pethau digrif tan edrych yn synfyfyriol; ond nid oedd mor siwr o'i fare a'i gyfaill. Yr Arweinydd nesaf i'r ddau hyn oedd Tany- marian. Mewn rhai pethau rhagorai Mr. Stephen ar bawb, yn enwedig pan ddaeth y canu corawl i'r ffasiwn. Yr anfantais fawr iddo ef ydoedd ei fod yn bregethwr byddai bias y pwlpud arno yn yr Eisteddfod, a bias yr Eis- teddfod yn y pwlpud. Ein cred yw, nad yw'r ddau waith yn gyson a'u gilydd. Er hyn oil, Arweinydd campus yn ei ddyddiau goreu oedd Tanymarian—arabus, dawnus, llawn o natur dda, ac yn dwyn y cynulliadau i deimlo mor foddlonag yr edrychai yntau ei hun. Dyma un engraifft o'i ffraethineb. Yn Eisteddfod Gen- edlaethol Bangor, 1874, pabell yr hon a safai yn yr un fan a'r babell eleni, yr oedd amryw fulod yn pori ar y codiad tir sydd tucefn iddi, a'u brefiadau aflafar ac anamserol yn peru cryn ddigrifwch, ac weithiau ddyryswch oddifewn. Dyna'r pryd y bedyddiodd Mynyddog y mul yn Bencerdd Bangor." Un bore, yr oedd rhyw gocosyn, truenusach na'r cyffredin, wrthi hi yn adrodd rhyw rigwm hir a diflas a wnaethai i "anerch yr Eisteddfod," chwedl yntau. Ond tua chanol y darlleniad, torodd Pencerdd Ban- gor allan mewn bonllef fawr, hyglyw, fel pe buasai yn eistedd yn y front seats, ac wedi talu gini am ei docyn. Howld on," ebe Tany- marian, gan godi ei law yn nghyfeiriad y fref, howld on un ar unwaith, 'sgwelwch chi'n dda." Yr oedd y bardd wedi diflanu yn mhell cyn i'r mul orphen y nodau bychain olaf fydd ganddo yn gyffredin yn ei emyn. Bydd genyf air eto rywbryd i'w ddweyd am yr Arweinyddion. HEN EISTEDDFODWR. o
JOHN ADWAEN PAWB.
JOHN ADWAEN PAWB. YR oedd dyn sydd yn gofalu tros bookstall Mri. Smith yn mhentref un 0 siroedd Gogledd Cymru yn cwyno fod gweinidog Ymneillduol yn arfer dyfod at y stall bron bob dydd; sefyll yno allan 0 bob hydoedd i ddarllen y naill bapyr Cymraeg ar ol y llall (chwi ellwch feddwl fod Y Cymro yn eu plith) yna ym- adael heb byth brynu cymaint ag un. Mr. I chwi wyddoch o'r goreu nad yw hyn yn deg—ydio'n onest, deydwch ? Chwi fyddai'r cyntaf i weled bai ar ddyn am roi botwm yn y casgliad. Y mae'r Archddiacon Farrar yn arosyn Nghricieth hyd Medi lleg, ac yn mawr fwynhau ei ymweliad cyntaf hwn a Gogledd Cymru. Synir ef gan grefydd- older Cymru dywed y byddai yn anmhosibl cael cyfarfod pregethu yn Lloegr tebyg i Sasiwn Caer- narfon, pan yr oedd 8,000 yny Pavilion, acoedfaon tros ben yn cael eu dwyn yn mlaen yn y capelau yr un pryd. Nis gall gredu yr hyn a ddywedai gwein- idog Methodistaidd mewn araith yn rhywle yn Lloegr, sef fod y Cymry yn mynychu mwy ar gynull- iadau chwareuol, megis cicio'r bel droed, cricet, &c., nag ar gyrddau crefyddol, fel yr arferai'r hen bobl. Pan gofir poblogaeth mor fechan sydd yn Ngogledd Cymru, yr oedd cynulliad crefyddol o 8,000 yn rhyfeddod. Y mae'r Archddiacon wedi darllen gwaith y Prif- athraw T. C. Edwards, ac yn credu mai efe yw'r ysgolhaig mwyaf yn Nghymru. Nis gall ddirnad paham na wnelsid ef yn esgob cyn hyn. Hwyrach y bydd rhywun mwy gwybodus ar y pwnc na fi yn abl i oleuo y boneddwr hynaws ac urddasol ar y pwnc. Y mae Syr John Puleston wedi cymeryd ty ar y traeth yn Mliwllheli: ac yn troi yii mlilith y bobl, gan ymgomnio gyda hwynt a gwneud ei hun yn gwbl gartrefol; ac nid anfynych yn myn'd i gapel Cymraeg y Methodistiaid. Bu Syr John yn siarad yn bur blaen hefo'r Arch- ddiacon Farrar yn nghylch yr Eglwys yn Nghymru. 11 y Dywedai na fyddai yr Eglwys byth yn llwyddianus yn Nghymru nes y cai well pregethwyr. Un o gyfeillion neillduol yr Archddiacon yn Nghymru ydyw'r Parch. Gwynoro Davies, gwein- idog y M.C. yn y Bermo, ac aelod o Gymdeithas Hynafiaethol Cymru, a heddyw y mae'r ddau yn myn'd gyda'u gilydd i weled rhyw hen gromlechau sydd yn ardal y Garn Dolbenmaen. Yr oedd y Proffeswr 0. M. Edwards, ddydd Sul diweddaf, yn gwasanaethu yr Achos Seisnig yn Rhuthyn. Gan fod pobl Rhuthyn yn gwybod beth sy'n dda, yr oedd y Town Hall yn orlawn. Bron o fewn swn canu y naill i'r llall, y mae capel Cymraeg yr un enwad ac y mae yn anhawdd gwybod pa un o'r ddwy gynulleidfa sydd yn deall Saesneg oreu. Yr un Gymraeg yn ol y farn fwyaf cyffredin. Y mae Mr. T. E. Ellis, A.S., gyda Mr. J. E. Ellis (un o'r aelodau Seneddol Seisnig) ar daitli ar dueddau gorllewinbarth Ysgotland, yn mhleserfad yr olaf ac y mae ei iechyd yn llawer gwell. Yr oedd y Parch. Charles Garrett yn pregethu yn Rhyl y Sul diweddaf. Cafodd y Parch. Abraham Roberts, Newsham Park, hwyl neillduol yn Sasiwn Caernarfon yr wythnos ddiweddaf. Y mae'r Parch. Dr. Dale, Birmingham, yn aros yn awr gyda Mr. R. Davies (Arglwydd-raglaw Mon) yn Nhreborth. Pregethai y Sul yn Nghapel Pres- byteriaid Seisnig Porthaethwy. Y mae ein cyd-drefwr, Mr. R. A. Jones, wedi gyru yn anrheg i lyfrgell Coleg M.C. y Bala, gopi hardd o'r argraphiad diwetldaraf o waith ei hoff brydydd Seisnig, Robert Browning. Dywedir fod y Parch. D. Williams—a phregethwr da y clywes i o hefyd—wedi pregethu am awr gron. Ond yr oedd rhai o'r praidd yn meddwl fod yr arlwy yn ormod ac yn tueddu at fod yn sych. Un o oruchwylwyr Mr. N wrth fyned adre' o'r Eglwys, yn galw gweithiwr ato ac yn dweyd, Ti cario cot fi," yr hyn a wnaeth y dyn ac wrth iddynt ymadael a'u gilydd dywedai drachefn "Cymer di y dwy ceiniog 'ma i cael glasiad o cwrw i swalio y pregeth sych 'n£1." Y mae Mabon, A.S., a Mr. David Randell, yr A.S. tros Gower, yn Lerpwl yr wythnos hon, fel cynrychiolwyr i'r Gymanfa Llafur. -0-
1 RWYDDEDU TAFARNDAI YN MEIRION.
1 RWYDDEDU TAFARNDAI YN MEIRION. WYTHNOS i heddyw, gwnaed ymdrech egniol, ond aflwyddianus, gan ddirwestwyr Ffestiniog a manau eraill, gerbron yr ustusiaid ymgynulledig yn Mhen- rhyndeudraeth, i leihau nifer y tafaindai yn eu mysg. Yn nghyntaf, ceisiodd Mr. Lloyd George, A.S., yr hwn a gynrychiolai'r gwrthwynebwyr, gael gan Mr. William Davies, Cae'rblaidd, fyned oddiar y fainc, ar gyfrif ei fod yn agent i Mri. Bass a'i Gwmni, y darllawyr adnabyddus. Gwrthododd Mr. Davies, gan ddweyd fod darllawyr yn gwneud y cyfreithiau, a phaham nad allai darllawyr a'u agents eu gweinyddu. Bygythiai Mr. George ddirwyon trymion atebai Mr. Davies y cymerai ef y canlyniadau. Ceisiodd y Parch. Samuel Owen gyflwyno deiseb ond gwrthododd yr ynadon (tan gyfarwyddyd eu clerc) ei derbyn atebai Mr. Owen y byddai yn gwybod sut i weithredu yn y dyfodol. Cymerwyd llais y trethdalwyr yn ddiweddar ar adnewyddu y trwyddedau yn mhlwyf Ffestiniog, ac wele'r canlyniad. Papyrau a ddaeth yn ol, 2,131; heb eu llamv, 141 wedi eu llanw, 1.990. In 0 Enw'r Ty. erbyn. lilaid. London House, Tanygrisiau 1007 :2!):) Miner's Arms, Rhiw LS'J.'j J77 Baltic Hotel, Rhiw 1704 226 London and North-Western Hotel 14 9 581 Shop yr Hall 1768 222 Commercial Hotel 1439 5ol Highstone, Fourcrosses 1792 198 Queen's Hotel, eto 1358 632 Railway Inn, eto 1755 235 Meirion Vaults, eto 1791 199 Glynllifon Inn, eto 17(53 197 Maenofferen Hotel, eto 1617 373 Cross Keys Inn, eto 1814 176 Glyndwr Inn, eto 1818 172 Manod Hotel, Bethania 1763 227 Glanygors Inn, eto 1593 397 Wynne's Arms Inn, eto 1699 291 Penlan Inn, Ffestiniog 1825 165 Abbey Arms Hotel, eto 1549 441 Pengwern Arms Hotel, eto 1365 625 Tanybwlch Hotel, eto. 1420 ."),0 Pont-yr-afon-gam 1662 228 Ddydd Sadwrn, mewn cwr arall o Peirion, sef o flaen ynadon yn y Bala, bu cryn ymddadleu parth adnewyddu trwyddedau. Gwrthwynebid gan yr heddgeidwaid adnewyddu trwydded y Goat Inn, Llangower ac un rheswm am hyny oedd "nad oes yno ond un room i bobl y ty a dyeithriaid, ac y mae hono yn llawn o gywion ieir, &c. ond caniatawyd trwydded chwe' diwrnod, ac am gwrw yn unig. Dygwyd achos y Gross Keys, Llandderfel, yn mlaen yn nesaf. Dywedodd yr Arolygydd nad oedd angen am y ty, ei fod yn dy rhy fychan, bod cwynion yn ei erbyn, bod ganddo ddrws cefn, a bod ty arall cyfleus gerllaw. Tystiolaethai Mr. Thomas Jones, Brynmelyn, nad ystyriai ef fod angen am y ty. Ac wrth ei groesholi, dywedai nad oedd yn deg cyffelybu Llandderfel i'r Bala—lie yr oedd llawer o ffeiriau ac angen cyfleusderau "ond nid oes acw yr un flair. Yr oedd acw unwaith chwarel, ond nid yw yn cael ei gweithio yn awr ac o herwydd hyny, a phethau eraill, y ii-iae'i- boblogaeth yn Ilai nag oedd flynyddau yn ol." Gwrthodwyd y drwydded, a rhoes y cyfreithiwr rybudd y byddai iddo apelio yn erbyn y dyfarniad. Dygwyd cais Mr. Wm. Owen, perchenog y White Lion Hotel, Bala, yn nesaf gerbron y fainc. Ymddengys fod prydles Mr. Owen yn darfod yn mhen tua thair blynedd ac y mae ef a'i feistr tir, Mr. Price o'r Rhiwlas, yil iiiethu cytuno ar delerau ei hadnewyddiad. Yn ngwyneb hyn, gofynai am drwydded i hotel newydd y bwriada ei hadeiladu a'i chwblhau yn mhen tua dwy flynedd. Gwrthod- wyd y cais ar hyn o bryd.
MARCHNAD YD LIVERPOOL.
MARCHNAD YD LIVERPOOL. DDYDD MAWRTH. Gwenith yn sefydlog, yn ol ic. i lc. o Blawd yn dal at ei bris blaenorol. Ceirch a Blawd Ceirch yn gwerthu yn araf. Indrawn, |c. yn is na dydd Gwener. Pys a Ffa wedi gostwng ic. y cant.
NODIADAU GAN DIOGENES.
yn aelod dros Caergrawnt, gwnaed lie ildo yn Appleby, un o'r bwrdeisdrefi bychain a feddienid Y pryd hyny gan un o deulu y Lowthers. Nid bir y bu cyn iddo ddangos fod deuparth, a mwy na deuparth, o ysbryd ei dad wedi disgyn arno. Ebe un o arweinwyr politicaidd y dydd wrth Charles Fox, ar ol araith gyntaf Pitt yn Nby y Cyffredin, Fe fydd y gwr ieuanc yna yn un o ddynion blaenaf y Ty bob yn dipyn." Atebai Fox, "Y mae yn un ohonynt eisoes." Edrychwn arno-dyn tal, teneu, heb fod fawr o l'dslonrwydd yn ei ymddangosiad, ond yn ar- ddangos yn mhob osgo y balchder y gellid ei weled yn ysgrifenedig mewn llythyrenau eglur, eglur yn llinellau caledion y wynebpryd, dros yr hwn ni welid byth ddim gwen yn ymdaenu- balchder y gellid ei hawdd adnabod yn oerineb a cbrasder ei ffordd, sobrwydd dieithriad eigerdd- ediad, a'r olwg dra-awdurdodol a gorchymynol a geid arno bob amser. Ni fynai edrych ar bethau bychain, a phan ffurfiodd Ardalydd Rockingham weinyddiaetb ar gwymp Arglwydd North, go- lueddodd Pitt yr amrywiol Iwyddi a gynygid iddo fel politician ieuanc tra addawol. Con- denmiai rhai y balchder a barai iddo edrych mor uchel; yr oedd yntau yn ymwybodol o'i fedd- iant o alluoedd a deilyngent fwy nag a allai Ardalydd Rockingham gynyg iddo. Wedi di- "Wreddu y rhyfel a'r America, i'r hyn y galwyd gweinyddiaeth Rockingham at ei gilydd, torodd hono i fynu, a daeth Arglwydd Shelburne yn ttilaen i lenwi y swydd o Brif Weinidog. Yn 1782 y bu hyn, ac yn y Ilywodraeth newydd yr oedd Pitt yn Ganghellydd y Trysorlys ac yn y Cabinet, ac nid oedd ar hyn o bryd ond ychydig iawn dros dair-ar-bugain oed. Ddechreu y flwyddyn nesaf, trwy undeb cywilyddus rhwng cyfeillion Fox ac Arglwydd North, gorchfygwyd y llywodraeth hon drachefn. Yn y ddadl a ddi- Weddcdd fel hyn y dywedodd Pitt am yr undeb crybwylledig, "Os nad ydyw y briodas annatur- iol hon wedi ei chwblhau yn wyf yn gwybod am rwystr uniawn a cbyfreithlawn ar ei ffordd, ac yn enw y budd cyhoeddus yn wyf yn gwabardd y gostegion." Cymerodd Pitt fantais ar ei ryddhad i fyn'd ar daith ar y Cyfandir-ei gyd- ymaith oedd ei anwyl gyfaill tua'r un oed ag yntau, yr enwog William Wilberforce. Gresyn na chaem amser i ddweyd gair am dano yntau hefyd, un o'r cymeriadau mwyaf swynol y gallwn ddychymygu am dano. Ond y mae yn rhaid i ni brysuro yn mlaen. Yn 1783 syrthiodd Gweinyddiaeth Due Portland, yr hon a ffurfiwyd trwy undeb North a Fox, ac wele William Pitt yn Brif Weinidog a Changhellydd y Trysorlys, ac efe erbyn hyn yn bedair ar hugain. Apeliodd at y wlad, a dychwelwyd iddo fwyafrif a'i gwnaeth y Gweinidog mwyaf galluog yn y ddau Dy a welwyd erioed. Fel y dywed Macaulay, ni bu ei dad erioed a'r fath allu yn ei law, na Walpole, na Marlborough. Am y gweddill o'i banes hyd y dydd y bu farw, ar ol pedair blwyddyn ar bumtheg o brofiad yn y swydd nesaf at yr orsedd, ar y 23ain o Ionawr, 1806, onid ydyw wedi ei ysgrifenu mewn llythyrenau breision yn Llyfr Croniclau Teyrnas Prydain? Ni chaniata ein gofod i ni wneud mwy bellach na symio i fynu rai o nodweddion neillduol gwladweiniaeth y dyn mawr hwn. Yr oedd ganddo feistrolaeth berffaith ar Dy y Cyffredin, seiliedig ar wybodaeth fanwl am ei holl duedd- iadau, ac yr oedd ganddo y gallu i chwareu ar Wahanol dymherau y Tý, ei hyawdledd digymhar yn rhoddi iddo y medr i ddweyd ac i beidio dweyd yn effeithiol. Ni bu neb erioed yn fwy taedrus i beidio a dweyd, a pheidio mewn Ilawer o eiriau y rhai a barent i'r gwrandawyr dybied eu bod yn cael clywed pob cyfrinach, pan mewn gwirionedd nid oeddynt yn cael dim. Ac ar yr ochr arall, pan ei ddyben fyddai ar- gyhoeddi y Ty, yr oedd ei fedr i osod allan ei fater yn glir ac yn ddeniadol, a grym anorchfygol rhaiadrau ei areithyddiaeth yn ysgubo ymaith bob gwrthwynebiad. Ac yr 11 11 oedd ei wladweiniaeth yn dra newydd. Yr pedd y byd yn dechreu dysgu rhywbeth am lawaderau dynion, ac yn dechreu dysgu rhyw ychydig am wir egwyddorion hwsmonaeth wleid- Yddol, yr hyn a eilw y Sais yn political economy; a yr oedd Pitt yn ddisgybl aiddgar yn y ddysg- ^idiaeth newydd—wedi yfed yn ddwfn oboni, ae yn awyddus i gyfieithu athrawiaethau fel yr eiddo Turgot ar y naill law, ac Adam Smith ar y llaw arall, i iaith ymarferol bywyd cyffredin. Hyn oedd wrth wraidd ei holl ymdrechion i ddwyn oddiamgylch Ddi wygiad Seneddol, a gwersi y "Wealth of Nations" a welid yn ei holl lesurau arianol. Pe na buasai Ffrainc wedi colli pob llywodraeth ami ei hun pan ddeffrodd hithau trwy rym yr un athrawiaethau, ac y rhedodd i ornwd rhysedd y Chwyldroad, gan lenwi ein gwlad ni a gwledydd eraill Ewrop a. braw a dychryn, y mae genym le i gasglu mai gweinidog beddweh fuasai William Pitt, ac mai fel rliag- flaenydd Syr Robert Peel a Mr. Llawenfaen y buasai yn cael ei gofio. Ond gorfododd y teimlad P^nedlaethol ef, a bu raid iddo fod yn Weinidog ^byfel, ac yn greawdwr y Ddyled Wladol, a bu farw wedi tori ei galon pan glywodd am iwyddiant Napoleon ar feusydd Austerlitz. y TWB, Sadwrn, Awst xxx. o