Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853. OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 24 Netherfield Road South, Has the following dwelling houses to Let:- Rent per week. 87, Netherfield Road North 7 apartments 7/6 40' Elias Street, Everton 6 • •> Daniel Street, Everton ..4 4/9 22, Edinburgh Street, Everton 6 „ •. 7,lb 59, Ogwen Street. Everton 6 •• 7/- 72, Opie Street. Everton ..6 •• 'I- 6, Springbank Road, Anfleld ..6 „ •• 7/» 10, Ludwig Road, Anfield ..6 •• 7/o 67, Townsend Lane, Anfleld 7 f batl;' wc &"c". 7/6 29, Monastery Road, Anfield 1 vfjth^w.c, &c. 7'6 41. Esmond Street, Anfield 6apartments 7/- t), Priory Hill, Everton ,6 7/- 64, Aber Street, West Derby Rd. C „ J, 8, Romilly Street, Kensington 6 „ • 7/- 86, Bunyan Street, Hall Lane ..6 >■ Jilt 57, Lyell Street, Everton 7 „ • »/° 35. Hibbert Street, Everton ..6 7/- 70, Hughes S.reet, Everton 6 56 G. hTeDWARDS & Co, 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the town, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. JONATHAN PARRY & SON, (Estate & Insurants Agents, 230, FALKNER STREET, LIVERPOOL. Rents Collected, Estates carefully managed. R. ANTHONY THOMAS & CO., (Sstatt, ISouss, attb 43itsurance Agents, r 2, BRECK ROAD, Everton, LIVERPOOL. Properties Sold, Rents Collected, Mortgages Negotiated. Houses, &c., to Let. 1, Arundel Avenue, Sefton Park P,45 per annum. 24, The Willows, Breck Road £ 26 do. 20', Diana Street, Walton 7/6 per week. 20, Owydir Street, Toxteth Park 7/- do. 29, Powis Street, do. 6/9 do. 65' Bickerton Street, Lark Lane 4/6 do. 67' Everton Terrace, Everton 7/- do. 6! Letterstone Street, Breck Road 5/- do. 12 St. Tudno View, Everton Ter. 4/6 do. 7' Bostock Street, Scotland Road 5/6 do. 74' Esmond Street, Belmont Road 37/- per month. 19', Osborne Roid, do. 36/10 do. 26, Kenmare Road, Sefton Park 43/4 do. 22, Rossett Street, Rocky Lane 6/6 per week. 14, S'purgeon street, Kv.-rtun 4- do. 81, Dovey Street. To\t-th fark S/C do. Property on Sale. BY ORDER OF THE MORTGAGEES. SIX HOUSES, and One HOUSE and STABLE, in Conis- ton Street, Everton, Freehold. Price, 49,50. Piece of FREEHOLD LAND, suitable for a Warehouse or Stable, near Boundary Street and Docks. FIVE FREEHOLD HOUSES, in Butterfleld Street, Wal- ton Lane. Price, £ 850. TEN LEASEHOLD HOUSES, near Stanley Road, each ontaining six apartments. Price, £ 1,400. Apply to W. & J. VENMORE, 56, Great Homer Street. Established 1856. THOMAS THOMAS & CO., BXornhanl. ail1);S7 Late of 13. TARLETON STREET (Lon t,ad.) :F,!VET-P(-)OT BusinessHours from 8.30 a.m to 7 p.m. The West of England Clot4 Establishment, (Established 1856.) OWEN & WHITTINGTON, 9, SCOTLAND PLACE, BYROM STREET. YR HEN FASNACHDY mwyaf adnabyddus yn Lerpwl, Cymru. a rhanau helaeth o America, am YBRETHYNAU OREU. TORIAD J OREU. GWNEUTHURIADS -h-OREU. FFIT OREU. Ac am y Prisiau mwyaf rhesymol. DEUWCH A GWLI.WCH. TAI A SIOPAU AR OSOD. Ymofyner a. HUGH JONES, 376, Netherfield Road, North. ADVISE to those about to Marry, A and who are Married. If you want SUBSTANTIAL HIGH-CLASS & STYLISH o HOUSE FURNISHING GOODS, AT ECONOMICAL RATES, COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR CABINET FURNITURE. COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR CARPETS. COME TO r, ( T GRIFFITHS & DAVIES FOR FLOOR CLOTHS. COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR BEDSTEADS. GRIFFITHS & DA VIES, General Drapers aqd House Furnishers, 392, 394, 396, 398, SCOTLAND RD., LIVERPOOL. PAPERH ANGINGS. WHOLESALE AND RETAIL EDWARD JONES, PLUMBER, PAINTER, PAPERHANOER, Glass and Sign Writer, and Decorator, 44, CHATHAM STREET, Estimates for all Repairs given fiee. SHAKESPEARE TEMPERANCE HOTEL 7, FRASER STREET (Off London Road), LIVERPOOL. PROPRIETOR: W. THOMAS (Late BANGOR). Two minutes' walk from Lime-street Station, and Five from the Central Station. JONES & LEWIS, COAL MERCHANTS, 253, FALKNER STREET, LIVERPOOL. Agents for BREEZES. House Coal a speciality. CLARENCE STREET PERMANENT BUILDING SOCIETY. Established May, 1865. Incorporated September, 1887. PRESIDENT Mr. JOHN RICE LEWIS, Meirion House, Hoylake. SECRETARY: ROBERT BRADSHAW, Marldon Chambers, 30, North John Street, Liverpool. BANKERS: NORTH & SOUTH WALES BANK, Head Office. BANK OF LIVERPOOL, Victoria Street Branch. This Society is now issuing Bonds for Loans of k20 and upwards, at Rates of Interest according to duration of Loan. Full particulars may be obtained from the SECRETARY at above address. THE COMING FOOD, I Z I N E. I VIDE THE RECOGNISED AUTHORITIES: » The LANCET says It is particularly suitable for children." The BRITISH MEDICAL JOURNAL says: lt is a light and easily digestible feod." The HOSPITAL says Rizine is an article not only palatable, but very nutritious." The HEAD NURSE at one of the largest LONDON HOSPITALS says :—" Many of our patients ask for Rizine. We had no idea it made such delightful light dishes." SILVER MEDAL for general excellence, and • BRONZE MEDAL for Soup at the great Cookery Exhibition at Westminster Town Hall, June 24th. Ii Of all Grocers and Corn Dealers at Threepence and Sixpence the Packet. f. < Samples and Recipe Books Free en Application to the RIZINE FOOD CO., LIMITED, '2' 87, BOROUGH HIGH STREET, LONDON, S.E. To Ie had Wholesale from MORRIS & JONES, Sir Thomas' Buildings, Liverpool. DAVID JONES & Co., Redcross Street,
Profedigaethau IEnoc' Huws.
Profedigaethau IEnoc' Huws. Gan DANIEL OWEN, Wyddgrug. (Yr Hawlysgrif wedi ei Cltofl-estru.) PENNOD XVIII.—Y FAM A'R FERCH. WEDI treulio blynyddoedci mewn llwyddiant a Ilawnder-wtdi haner oes o fwynhau cjsuron bywyd yn ddibrin ac yn ddibryder, peth digon annymunol ydyw fod yr amgylchiadau yn de- chreu cyfyngu—y cysuron yn graddol leihau, ac hyd yn nod dlodi-er nad yn ymyl-e to yn ein haros acw yn y fan draw. Ond mwy gofidus, gallwn feddwl, ydyw tybied ein bod mewn clyd- wcli a digonedcl, fod i ni etifeddiaeth dt g, ac y byddwn farw yn ein nytli, ac ar unwaith ddyfod i ddeall ein bod yn dlawd a llwm. Y mae fel crwydryn a fai yn breuddwydio ei fod mewn gwledd ddanteithiol, ac yn mwynhau rhialtwch ac ysbleddacb, ac yn deffro yri sydyn i gael ei hun ar ei gythlwng ac yn annyddos. Druan oedd Susan Trefor Gyda'r eithriad o'r tipyn belynt a fu rhyngddi hi a'i thad yn ngbylch Wil Bryan, ni wyddai hi, hyd yn hyn, ddim am brofedigaeth a chroeswynt gwerth son am dano. Yr oedd wedi byw gan mwyaf ar "ideas" a gogoniant dyfodol, heb ami na pbryder na pboen. Pa beth bynag oedd ddi- ffygiol yn ei chymeriad, yr oedd ei rhiaint mor gyfrifol am dano, os nad yn fwy felly, na hi ei hun. Nid oedd hi, yn natuiiol, yn amddifad o dalent, a phe cawsai well magwraeth diau y buasai hi yn eneth bur wahanol i'r hyn ydoedd yr adeg yr ydwyf yn son am dani. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dweyd o'r blaen yr ystyrid Susan Trefor yn ferch ieuanc hynod o brydferth. Trwy eu trwynau cydnabyddii hi felly gan y rhai nad oeddynt yn ei hoffi. Yr hyn a an- mharai fwyaf ar ei phrydferthwch oedd y ffaith amlwg ei bod hi ei hun yn rhy ymwybodol ohono. Ni byddai Susan byth yn esgeuluso gwneud defnydd o bobpeth i ymharddu. Fel y rhos, yr oedd Susan can dwtied a dymunol jr olwg yn y bore cyntaf ag yn yr hwyr, a cban nad pa mor gynar yr elid i Dy'nyrardd ni ellid dal Susan yn ei dishabille. Yr oedd bob amser yn barod i gael tynu ei llun, ac yr wyf yn mawr gredu, pe na buasai llygaid i edrych arni, mai ycbydig fiiasai y gwahaniaeth yn ei hymddang- osiad, oblegyd gwisgai, debygid, yn fwy i fodd- hau ei hun nag i fcddbau neb arall. Ond y boreu y cyfeiriwyd ato yr oedd cyf- newidiad yn ymddai gosiad Susan Trefor-cyf- newidiad mor amlwg nes tynu sylw ei mam y foment yr edrycbodd arni. Ymwisaasai yn nod- edig o blaen, a'r hen ffroc gotyn" yn hongian ar ei braich. Amlwg ydoedd fod hyny o gysgu a gawsai wedi ei wasgu i'r ychydig oriau cyn codi, yr hyn a barai i'w llygaid ymddangos yn chwyddedig a chlwyfus. Can gynted ag y daeth Snsi i'r ystafell, cymerodd yr ymgom ganlynol le rhyngddi hi a'i mam :— Be ydi neIJe sy gynat ti, dywed ? Wyt ti'n myn'd i'w rhoi hi i rwfun ?" Nag ydw, mam rwyf am ei haltro i mi fy hun." Hon ene Be sy arnat ti, dywed, wyt ti'n gwirioni 1" Rwyrach y mod i, wir, mam. Mi wn y mod i wedi bod yn ddigon gwirion am lawer o flynyddoedd, ond dydi hi ddim yn rhy bwyr i mi dreio gwella." Ambewt ti'n son ? Dydw i ddim yn dy ddallt di." "Ddim yn y nallt i ? ar ol y peth ddeudodd y nhad neithiwr ? Rydw i, erbyn byn, yn dallt fy hun yn burion-mai humbug ydw i wedi bod ar hyd y blynyddoedd, ynrhoi airs i mi fy hun, fel y deudodd y nhad. Ond dydw i ddim am fod yn humbug ddim chwaneg. Os geneth dlawd ydw i, fel geneth dlawd rydw i am wisgo." Paid a moidro, ngeneth bach i. 'Doedd dy dad ddim yn meddwl haner y pethe oedd o'n ddeud neithiwr. 'Roedd o wedi cynhyrfu, wydd- ost, achos ma gyno fo gitnin o bethe ar i feddwl." Bydase fo wedi deud tipyn o'i feddwl i ni yn gynt, mi fase ganddo lai ar ei feddwl. Dydw i ddim yn ystyried fod nhad wedi bod yn onest efo ni-os bu o'n onest efo rhwfnn." Susi rhaid i mi ofyn i ti beidio siarad fel ene am dy dad—wyddost di ddim byd am fus- nes nac am y profedigaethe y mae dy dad wedi bod ynddynt. Yn wir, erbyn i mi gysidro pethe, mae'n syn gen i sut mae wedi gallu cadw 'i grefydd. Mae'n rhaid fod o wedi cael help oddiuchod. Ac mor geind yno fo yn cadw'r helynt i gyd iddo fo'i hun rhag yn gwneud ni yn annghyfforddus." Sut bynag, mi wyddom yrwan, mam, am ein gwir sefyllfa—rni wyddom ein bod wedi twyllo ein hunain a thwyllo ein cym'dogion— mi wyddom ein bod yn dlawd, ac y byddwn yn dlotach yn y man, a dydio ddim ond humbug i ni ymddangos fel arall. Mae'n well gen i gael deud fy hun wrth bobol ein bod yn dlawd nag iddyn nhw ddeud wrtho i." "Dim ffasiwn beth paid a gwirioni, eneth! On ddeudes i nad oedd dy dad ddim yn meddwl haner y pethe oedd o'n ddeud neithiwr. Wedi cynhyrfu 'rodd o, a 'does dim isio i ti son gair am y peth wrth neb. Mi wyddost mor glyfar ydi dy dad, yn wir, rhy glyfar ydio, a dene sut mae pobol ddim yn i ddallt o. A bydae Pwlly- gWYllt yn darfod, mi fedr dy dad ddechre gwaith arall ar unwaith. Yn wir, y mae o'n myn'd i ddechre un rai o'r dyddie nesa 'ina,fel y cei di wel'd, a mi fydd cystal arnon ni ag y bu hi 'rioed. Wyddoch chi, mam? rydw i'n teimlo'n rhyfedd—fedra i ddim deud mor ryfedd rydw i'n teimlo. Rydw fel bydawn i wedi bod yn breuddwydio ar byd f'oes, ac newydd ddeffro i realeisio sut y mae pethe. Wrth feddwl sut yr ydw i wedi byw, sut yr ydw i wedi ymddwyn at bobol gan' mil gwell na fi fy hun, ac am fy airs, chwedl y nhad, wn i ddim sut i ddangos y ugwyneb i neb, a mae gen i y fath g'wilydd nes ydw bron a marw Meddyliwch be ddeidiff pobol! y fath sport wna nhw ohonon ni A fedra i byth 'n beio nhw am hyny. Chysges i wine dan saith o'r fdloch y bore, a rydw i'n credu y mod wedi meddwl mwy neitbiwr am bethe y dylaswn i fod wedi meddwl am danyn nhw o'r blaen nag a feddylies drwy fy holl oes, a rydw i'n gobeithio y mod i yn dipyn callach nag y bum i 'rioed." *'Mzte'n d,ia ceii i dy glywed di'n siarad fel ene, Susi. 'Roedd gen i ofn mai rhyw ymoll- wng a thori dy galon a faset. Yn wir, mae dyn yn cael help yn rliyfedd, end rydw i'n ofni dy fod di wedi C) myd atat yn ormod o lawer y peth a ddeudodd dy dad neithiwr. Mi ddeidiff dyn yn 'i ffrwst bethe na ddyle fo ddim, ac mae'r calla'n colli weithie. Erbyn i dy dad 'sbonio i mi neithiwr a bore heddyw, dydw i ddim yn gwel'd y bydd raid i ni-yn ol fel mae pethe'n edrach-newid dim ar yn ffordd o fyw, achos mae isio i ni gofio pwy yden ni o hyd, a bydae ni'n altro mi naen ddrwg i dy (lad ac i ni'n hunen, a mi iti pobol i siarad yn bethma am danon ni. 'Does ene harm yn y byd bod yn gall, fel 'roeddet ti'n son, ac hwyrach y dylen ni dreio peidio bod cweit mor strafigant, ond, hyd y gwela i, 'does dim isio i ni altro yn ein ffordd o fyw, eto, beth bynag." "Pa ole ydach chi wedi gael, mam, ar y pethe ddeudodd y nhad neithiwr ? a sut 'roedd o'n 'sbonio am fod mor gas hefo chi ? Ai swp o glwydde (edd y cwbl ddeudodd o ?' "Nage nid dyn i ddweyd celwydd ydi dy dad, a phaid a gadel i mi dy glywed di'n siarad fel ene eto. Mi wyddost o'r gore mod ine wedi cael y nychrynu a mrifo efo'r peth ddeudodd o. A mae'r amgylchiade, weithie, yn newid mewn 'chydig oriau. Pan oedd dy dad yn siarad neitbiwp 'roedd bron wedi d'rysu efo cymin ar i feddwl. A mi fum yn synu lawer gwaith fod o liebd(i'rySLI, a rhaid fod ganddo synwyr mwy na dyn i fedru dal y cwbwl. le, fel 'roeddwn i'n deud, 'roedd hi'n edrach yn ddu iawn arno fo. Ond mi ddoth Mr. Huws, Siop y Groes, yma, a mae Mr. Huws am joinio dy dad i gael gwaith mem newydd, a mae gen i barch calon iddo, a mi dreia ddangos hyny hefyd. Rydw i bob amser yn deud mai dyn clen iawn ydi Mr. Huws, ac, erbyn i mi feddwl, rydw i'n synu bod ni wedi gneud can lleied ohono fo. Ddaru mi fawr feddwl mai Mr. Huws fase ffrynd pena dy dad. Er i mi glywed mai fo ydi'r siopwr gon- esta'r dre' ddaru mi rywsut 'rioed ddelio efo fo, ond yno rydw i am ddelio'r cwbwl 0 hyn allan, wired a mod i'n y fan yma. Erbyn meddwl, mae'n rhyfedd fod Mr. Huws heb briodi, achos 'roedd dy dad yn deud fod o'n gefnog iawn. Ond ddyliwn na ddaru'r dyn ddim rneddwl am briodi, ne, mi wn, y base'n dda gan ambell un i gael o'n wr." Rydw i'n methu gwel'd, mam, os bydd gan ddyn lawer ar i feddwl p'am y dyle hyny neud iddo siarad yn gAs ac insulting efo neb. 'Roedd y nhad yn ffiedd o gas efo chi a fine neithiwr, a 'roeddwn i'n cre,iu y fod o'n feddw ne'n d'rysu yn i synwyre. Ond 'doedd o ddim yn feddw, ue f se fo ddim yn gailu myn'd dros Lanes i fywyd mor fanwl." Rydw i'n cyfadde, Susi, na chlywes i 'rioed mo dy dad yn siarad 'run fath, ac ar y pryd mi ddaru mrifo i'n arw. Ond rydw i'n madde'r cwbwl iddo ar ol i glywed o'n sbonio 'i hun. Yn wir, mi fase'n werth i ti glywed o bore heddyw 'n deud i deimlad-rodd yn ddrwg gyno fo. Wydde fo ddim be i neud iddo fo'i hun. Chlywes i neb erioed-hyd yn oed yn seiat—yn deud ei brofiad yn fwyrbydd a melus. With son am y seiat, mi fase'n dda gen i bydase dy dad yn fwy rhydd yn seiat, fel rydw i wedi deud wrtho lawer gwaith. Mae ganddo ddawn at byny, a mi fydde'n dret i glywed o, a mae isio mwy o hyny yn y dyddie yma, yn sicir ddigon." Mi fydde gan y nhad brofiad rhyfedd." "Bydde, wel di, a mi fydde. Mae o wedi gwel'd cymin, ac wedi cymysgu cymin efo pobol annuwiol, ac wedi cael ei demtio gymin gan y byd, y cnawd a'r diafol, fel 'roedd o'n deud, ac eto wedi cael nerth i ddal trwy'r cwbwl." "Be bydae o'n digwydd deud y profiad a gawson ni ganddo neithiwr, mam ?" "Paid a siarad yn wirion, da ti. Mi wyddost o'r gore nad oedd dy dad ddim fel y fo'i hun neithiwr, a rydw i'n fecsio nghalon na faset ti'n i glywed o'n rhoi rheswm am bobpeth. 'Roedd yn biti gen i glywed o mor edifeiriol, a 'roedd ganddo 'Sgrytbyr ar bobpeth. Ond dene oeddwn i yn myn'd i ddeud—rhaid i ni neud yn fawr o Mr. Huws, achos 'roedd dy dad yn deud y bydde'r cwbwl yn dibynu arno fo wrth gychwyn y gwaith newydd, gan fod Mr. Huws mor gefnog. Ond mi ofaliff dy dad, mi wn, i Mr. Huws gael 'i arian yn 'u hoi gycla,, interest." Os oes gan Enoc Huws arian, fel y mae'n ddiame fod, mi faswn iyn ei gynghori i gymeryd gofal ohonynt, mam." Llawer wyddost di am fusnes. Be ddoe o'r byd, fel y clywes i dy dad yn dend, bydae pawb yn cadw 'u harian a neb yn mentro. Ac wyt ti'n meddwl fod dy dad a Mr. Huws mor wirion a declare gwaith newydd a gwario'u harian oni- bae bod nhw'n siwr y can' nhw'u harian yn ol a llawer chwaneg ?" Mi wn hyn, mam, nad oes gan y nhad, yn ol ei eiriau ei bun, ddim arian i'w gwario na'u colli, ac os bydd Enoc Huws yn ddigon dwl i godlo efo gwaith :nein y bydd yntau yn fuan yr un fath, neu mae'n rbyfedd gen i." Be sy arnat ti, dywed? on'd oes ene lawer wedi 'u gneud yn fyddigions wrth fentro ?" Oes, dyna Hugh Bryan a William Deiiman!" "Nage, nid Hugh Bryan a William Denman, er mor sharp yr wyt ti Rhaid i rwfun golli, ne mi fydde pawb yn fyddigions. A mi glywes dy dad yn deud nad oedd gan Hugh Bryan ddim busnes i fentro." "Ie, ar ol iddo wario'r cwbwl." Arno fo roedd y bai am hyny a be wydde dy dad faint oedd i gwbwl o." "Gwyclde o'r gore." Dyma ti, Susi; bydae dy dad yn dy glywed