Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
NODIADAU GAN DIOGENES.
NODIADAU GAN DIOGENES. AlL GYFRES. RHIF DXVI GEORGE CANNING. ER fod awenau y llywodraeth wedi bod mewn amryw o ddwylaw ar ol William Pict cyn i George Canning ymaflyd ynddynt, y mae yn fwy naturiol dweyd gair o'l hanes ef yn ddilynol i'r nodiadau ar Pitt, gan mai ynddo ef y glynodd egwyddorion gwladweini-ieth Pitt, a chanddo ef y cymhwyswyd hwynt gyntaf mewn mesnrau ymarferol. Hanodd George Canning o deulu Gwyddelig parchus ac eiddo ganddo yn Garvagh, yn swydd Londonderry. Enw ei daid oedd Stratford Canning, i'r hwn yr oedd tri o feibion. Yr hynaf, George, a ddygwyd i fynu i fod yn fargyfreithiwr, ac yr oedd yn aelod o'r Middle Temple yn Llundain, ac yn fardd nid anhynod yn ei ddydd. Tynodd arno ei hun ddigllonedd ei dad trwy briodl merch ieuanc ochwareuyddes, yn 1768, un Mary Anne Costello, Wigmore Street, Llundain, a'r canlyniad fu iddo golli etifeddiaeth Garvagh, yr bon a roddwyd i'w frawd, Paul Canning. Dyrchafwyd mab i hwnvr i'r bendefigaeth yn 1818, o dan y teitl Arglwydd Garvagh, teitl sydd yn aros yn y teulu hyd heddyw. Galwyd trydydd mab Mr. Stratford arei enw ef, ac ymsefydlodd hwnw yn farsiandwr yn Llundain, lie y bu farw yn 1787, gan adael amryw o blant, ac yn eu mysg Stratford, yn hwn fu yn adnabyddus iawn am flynyddoedd lawer yu nheyrnasiad ein brenhines fel y llysgenhadwr galluocaf fu gan Loegr erioed. Dyrchafwyd ef i Dy yr Arglwyddi wrth y teitl Stratford de Redcliffe, ac yr oedd yn prysuro tua chym- ydogaeth cant oed pan y bu farw ychydig o flynyddoedd yn ol. Yr oedd yn ofynol gwneud y nodiadau hyn ar deulu y Cannings er mwyn dpall eu cysylltiadau. Dychwelwn bellach at y George Canning a briododdMissCostello Bywyd priodasol byr gafodd y par ieuanc bu farw Mr. Canning yn mhen tair blynedd, gan adael unig fab, George, gwrthrych ein sylw yn y papuryn hwn. Gan em bod ar faterion teuluol, bwyrach mai gwell dweyd yma yr hyn sydd i'w ddweyd arnynt. Priododd George Canning Joan, merch ac aeres y Cadfridog Scott o Baloomie, yn swydd Fife, yn yr Alban. Bu iddynt bedwar o blant. Bu farw y mab hynaf yn fachgen ieuanc pedair- ar-bumtheg oed. Boddodd yr ail fab wrth ym- drochi yn Madeira y trydydd mab oedd larll Canning, Rhaglaw yr India, ar adeg gwrthryfel y Sepoys yn 1858. Yr oedd un ferch hefyd, yr hon a briododd Ardalydd Clanricarde. Pe dilynid y cysylltiad diweddaf hwn arweinid ni yn rhy bell, ac felly arhoswn lie yr ydym wedi cyrhaedd ar byn o bryd. Cymerwyd siars addysg George Canning gan ei daid, ar ail briodas y fam. Anfonwyd ef yn gyntaf i Ysgol Hyde Abbey, Winchester, ac yna i Eton. Yno y daeth yn ysgolhaig mor nodedig fel yr enillodd ei dalentau sylw cyffredinol. Yr oedd ei dad wedi gadael iddo ystad fechan yn yr Iwerddon, ac felly yr oedd yn rhydd i ym- gymeryd a bywyd cyhoeddus, a cbafodd sedd yn N bJ' y Cytiredin. Gweithiodd ei ffordd yoo ar unwaith, ac ni bu yn hir cyn cael lIe yn Ngweinyddiaeth William Pitt, yr hwn a ed- mVgai yn ddirfawr Ar ol marwolaeth Pitt, bu yn gydweinidog ag Arglwydd Castlereagh yn Ngweinyddiaeth Due Portland. Y pryd hwn y dechreuodd Canning arddangos y tueddiadau Rhyddfrydol a'r rhai y mae ei enw bellach wedi ei gysylltu, mewn gwrthgyferbyniad i'r gor- Doriaeth yr oedd Castlereagh a'i gydryw yn sefyll mor gryf drosto. Ar un adeg fe aeth drwg- deimlad rhwng y ddeuddyn a enwyd i'r fatb faddau fel yr ymladdasant mewn gornest, a rhyfedd na bu hyny yn angau i'r naill neu y llall, gan eu bod wedi tanio ddwywaith yn wir, fe glwyfwyd Mr Canning yn dost. Eto fe fu y ddau yn cydweithredu wedi hyny fel Gweinidog- lony Goron yn Ngweinyddiaeth Iarll Liverpool, hyd nes y rhoes Canning ei swydd i fynu yn bytrach na phleidio y mesur i ddwyn oddi- amgylch ysgariaeth rhwng y Brenin Sior IV. a'r Erenhines Caroline. Bu allan o swydd am beth aniser, ond yn 1822 derbyniodd y cynyg o -Raglawiaeth India ac yr oedd ar gychwyn yno Pan y bu farw Arglwydd Castlereagh (Ardalydd Londonderry erbyn hyn) trwy hunanladdiad. Efe oedd yr Ysgrifenydd Tramor, ac nid oedd neb mor gymhwys i lenwi y swydd hono a banning. Yr oedd yn llawn bryd cael dyn goleu- edIg i ymdrin a'r cysylltiadau tramorol. Policy Castlereagh oedd cytuno a, holl gau egwyddorion caethiwus ac unbenaethol llywodraethwyr y Vyfandir, y rhai ni fynent weled dim ond elfenau chwyldroadol yn mhob symudiad tuag at wellbad ^joesola chymdeithasol y ddynoliaeth. Nid felly banning—yr oedd hwn wedi ei feddianu ag ysbryd blynyddoedd goreu William Pitt, a'ifryd. oedct ar ddatod rheffynau y bobl yn hytrachna'u rhwymo yn dynach. Un o'r pethau cyntaf a ^Qaeth oedd tori pob cysylltiad a'r Undeb anctaidd," fel ei gelwid, a ffurfiwyd gan y ywodraethwyr crybwylledig, i ddarostwng pob Uec'd at ryddid, a'r hwn oedd mor drahaus ei Ljiadweiniaeth yr oe^ Naples a Portugal a'r ispaen eisoes wedi codi yn erbyn yrawdurdodau. ynai Canning na ddylai y naill wlad ymyryd "lewil petbau mewnol gwlad arall, ac fe roes yr gwyddor hon mewngweithrediadymarferoltrwy einyddio y llynges Brydeinig i rwystro y fath ymyriad yn Portugal, a thrwy gydnabod anni- yniaeth y gwledydd yn yr Amerig, y rhai oedd- oelf11 Ceisi° bwrVr ymaith yr iau haiarnaidd d arnynt gan hen lywodraeth yr Hispaen. ewn gwladweiniaeth gartrefol, hefyd, yr oedd y dylanwad newydd yn y llywodraeth i'w weled yn eglur. Yn 1825, aeth mesur trwy Dy y Cyffredin i ryddbau y Pabyddion odd with y gefynau oedd yn gormesu arnynt Ddwy flynedd cyu hyny, ar ddyfodiad eyf.till o g ffdyb feddwl i Canning, William Hnskisson, i swydfl, de- chreuodd y cyfnewidiad yn yr egwyddorion ar ba rai yroeddd-ddfwii ieth fasnachol yn sefydledig -ycyfriewidi;id a gyrhaeddodd ynv diwedd hyd at ddiddvmiad Deddfau yr Yd a sefydbad egwyddorion Masnach Rydd. Y mae yn ddianmbe1) y buasai ein camrall yn y cyfeir adau hyn yn cyfiymu llawer ar ol marwolaeth Iarll Liverpool yn 1827, ac y gwnaed Canning yn Brif Weinidog y Goron, pe buasai estyniad oes iddo. Ond yn i-tilien pedwar mis bu yntau farw, wedi cael anwyd trwm yn nghynhebrwng y Due York, a gwendid a blinder mawr arno ar y pryd. Ond yr oedd ei weithredoedd yn ei ganlyn, ac nid hir y buont cyn esgor ar Ddiwygiad Seneddol 1832, trwy rym yr hwn y mae ben gyfreithiau ein gwlad wedi eu lliniaru a'u gwella. Gan mai yn eich dinas chwi y mae Y Cymro yn ymddangos, dylid crybwyll am y dyddordeb lleol mewn perthynas ag enw George Canning. Bu yn aelod seneddol dros Lerpwl am un- mlynedd-ar-ddeg, gan dechreu yn 1812, pryd y gorchfygodd Henry Brougham. Y11 y deunaw- mlynedd-ar-hugain diweddal, y mae Lerpwl lawer gwaith wedi syrthio i ddirmyg truenus yn ei hymgeiswyrac yn ei chynrychiolaeth seneddol, ond ni raid iddi gwbl gywilyddio am yr holl ganrif, oblegyd y mae ganddi i gyfeirio at eitlir- iadau disglaer mewn aelodau ac ymgeiswyr, ac y mae yn debyg mai y ddau brif eithriad oeddynt George Canning a William Huskisson, cyfaill George Canning. Y TWB, Llun, Medi viii.
--0----CYNHADLEDD EGLWYSIG…
--0- CYNHADLEDD EGLWYSIG ESGOBAETH LLANELWY. CYNHALIWYD wythfed Gynhadledd Esgobaeth Llan- elwy yn Nghroesoswallt, Medi 4 a'r 5. Gwahodd- esid pob plwyf yn yr esgobaeth i ddanfon cynrych- iolwyr, sef yr offeiriad a'r swyddogion eglwysig, ac yr oedd y cynulliad yn un tra lluosog a phwysig. Fore ddydd Iau, am ddeg o'r gloch, cyfranogwyd o'r Cymun Sanctaidd yn Eglwys y Piwyf, pan y gweinyddai yr Arglwydd Esgob. Darllenwyd yr Epistol gan yr Archddiacon Williams, a'r Efengyl gan yr Archddiacon Thomas. Yr oedd yr offrwm ar y diwedd tuag at drysorfa'r Gynhadledd yn agos i Ymgynullodd y Gynhadledd i'w chyfarfod cyntaf, yn y Victoria Rooms, am 11. Cymerwyd y gadair gan yr Esgob; a chydag ef yr oedd Maer y Dref, Esgob Wakefield, Deon Llanelwy, yr Archddiacon- iaid Thomas, Williams, a Howell, Arglwydd Har- lech, Mr. Stanley Leighton, A.S., Mr. Trevor Parkins, Ysgrifenydd y Gynhadledd, ac amrai eraill. Canwyd yr emyn adnabyddus, "The Church's one foundation," &c. Cyflwynodd y Maer, ar ran Corphoraeth y Dref, anerchiad o roesawiad i'r Gynhadledd a dywedai fod yr anerchiad wedi ei gynyg a'i eilio yn y Cynghor Trefol gan ddau Ymneillduwr, a'i dder- byn yn unfrydol. Diolchodd yr Esgob mewn araith ddestlus am yr nerchiad, gan gyfeirio at rydd- frydedd yr Ymneillduwyr. Yna traddododd yr Esgob yr ARAITH AUORIADOL. Ni fynem wneud cam ag ymadroddion ei ar- glwyddiaeth mewn cyfieithiad brysiog ac, o gan- lyniad, rhoddir yr ychydig ddyfyniadau canlynol o'r araith yn yr iaith y llefarwyd hwynt. Dyma ei farn am y Wasg Gymraeg :— DURING the year, the Llan has been enlarged, the character and extent of its articles and information distinctly improved, and its circulation in the Diocese of St. Asaph largely increased during the last twelve months. I rejoice at this result, not merely in the interests of the Church, but also in that of the whole Welsh-speaking people of the Principality, who can now read in the vernacular one paper that does not indulge in vulgar personali- ties and persistent misrepresentations. (Cheers.) Sylwodd ei arglwyddiaeth yn nesaf ar y Dydd- iau Tawel" a sefydlwyd yn ddiweddar mewnmanau cyfleus o'r esgobaeth, a'r cymhorth a gafwyd yn- ddynt gan Canon Mason ar benodiad Cenhadwr i'r Esgobaeth, yr hyn a ddygwyd oddiamgylch trwy haelioni dau foneddwr yn rhoddi 9500 yr un tuag at y gwaith. Diolchai i'r Archddiacon Thomas am y dyddordeb a gymerai yn yr Eglwysi Cymraeg yn Lloegr ac ar ei ran ei hun dywedai y byddai gan y clerigwyr a elent, trwy ei gymeradwyaeth ef, o'r esgobaeth hono i'w gwasanaethu, yr un hawl i ddyrchafiad o'i law a phe yn gwasanaethu yn yr esgobaeth. Dywedai mewn perthynas i ADDYSG GANOLRADDOL YN NGHYMRU IF our new intermediate schools simply cheapen education for the children of a middle class, well able to provide for themselves before, the working classes of Wales will have just cause to complain that their poverty and needs have been used as a cry to secure educational advantages for others. This point must be kept clearly in view, not merely in the scale of fees, but also in the character of the education given at the new intermediate schools and in the interests of the working classes, I would put in a very strong plea for the formation of con- tinuation schools. Terfynodd trwy gyfeirio at waith cynyddol yr Ysgol Sul yn yr Esgobaeth. ADRODDIAD Y PWYLLGOR SEFYDLOG a gyfeiriai at amrywiol bynciau, Seneddol ac eraill yn dal cysylltiad a'r Eglwys Sefydledig ac yn eu mysg, Mesur y Degwm y bu y Llywodraeth yn aflwyddianus i'w gario yn y Senedd-dymhor di- weddaf. Dywedai Arglwydd Harlech, yn ei araith tros fabwysiadu yr adroddiad, fod y Dadgysylltwyr yn yr Iwerddon cyn i'r Dadgysylltiad gymeryd lie, yn awyddus i Gyfrifiad y Bobl gynwys hefyd ystadegau crefyddol, gan wybod beth oedd crefydd mwyafrif mawr y Gwyddelod. Ond yn Nghymru, yr oedd yn wahanol; gwrtliwynebid yr ystadegaeth gre- fyddol yn y modd ffyrnicaf gan y Dadgysylltwyr. Yr Archddiacon Howell wrth eilio, gan gyfeirio at fethiant Mesur y Degwm, a cldywedai nasgwyddai ef am yr un ffaith" awgrymiadol fwy poenus na bod dyrnaid o ffermwyr Cymreig mewn plwvfi annghys- bell yn Nghymru, wedi llwyddo i orchfygu Llywodr- aeth gyda'r gryfaf yn yr oesau diweddaf hyn yn ei hymdrech i ainddiffyn un o egwyddorion mwyaf elfenol gwareiddiad, sef iawnderau cytundeb ac yn mhellach, na buasai lleygwyr yr Eglwys ar ddechreu y gwrthryfel wedi sefyll i fynu fel un dyn rhwng talwr y degwm a'r offeiriad yn yr achos—gan y rhaid y gwyddent fod heddwch cymdeithas a iawnderau a defnyddioldeb yr Eglwys yn gynwysedig ynddo. Nis gallai ymddiried iddo ei hun i aros gyda'r pwnc; ond anturiai d (I weycl yn iiihel lacii, gyda pliob parch i'w frodyr clerigol, mai eu dyledswydd a'u dyogel- wch ydyw edrych llai at ddynion, a mwy at Dduw —meddwl llai am eu buddianau a mwy am eu dyled- swyddau—ac uwchlaw pobpeth, dylent ymdrechu amddiffyn eu hawliau—canys yr oedd ganddynt eu hawliau ond dylent gyfiawnhau eu hawliau trwy sancteiddrwydd eu bucheddau, eu tawelwch tan dclyoddefiadau-a gwyddai rhai ohonynt pa beth oedd dyoddef-ac ymroddiad llwyr i'w gwaith, yn hytrach nag ymddiried i wladweinwyr, ni waeth o ba ochr y byddont. Siaradodd Mr. Stanley Leighton a'r Canon Howell Evans ar y mater yn mhellach. CYMDEITHAS DDIRWESTOL YR EGLWYS. Ar gynygiad y Parch. T. Redfern, Croesoswallt, yn cael ei eilio gan Capten Mytton, Y Garth, cymeradwywyd yr adroddiad. PWYLLGOR Y WASG GYMRAEG. Cyfeiriai adroddiad yr is-bwyllgor at symudiad y Llan o Gaerdydd i Fertliyr, gan fod yr olaf yn lie mwy Cymreig i'w gyhoeddi. Dywedid fod cylch- rediad y eyhoeddiadau Eglwysig, yn enwedig y Llan, yn cynyddu. Mabwysiadwyd yr adroddiad ar gynygiad y Parch J. M. Rees, yn cael ei eilio gan Mr P. P. Pennant. ANGHENION YSBRYDOL CYMRY YX LLOEGR. Darllenwyd atebion oddiwrth amryw Esgobion yn Lloegr i'r ymofyniadau a wnaed gan y pwyllgor liwn i nifer ac anghenion ysbrydol y Cymry sydd yn byw yn eu hesgobaethau. Ar gynygiad ac eiliad Archddiacon Thomas a'r Canon Richardson, Corwen, mabwysiadwyd yr adroddiad. ANRHEG I'R ESGOB 0 FFON GNWPA. Offeryn neillduol o hardd a chostfawr ydyw hwn --yr harddaf meddii ag sydd yn perthyn i'r un esgobaeth yn Mhrydain. Mesura chwe' throedfedd o hyd, ac y mae ei phen cnwpa o arian pur. Addurnir hi alluniau deuddeg ohen saint Cymreig, megys Cyndeyrn Sant, sefydlydd yr esgobaeth, &c., a phedair santes, sef Gwenfrewy, Melangell, Ffraid, ac Eurgain a chan arluniau eraill. Yn mhlith y cyfranwyr tuag ati, cawn enw Mr Gladstone. Traddododd yr hen bendefig urddasol, larll Powis, araith hynod o ddestlus a choeth wrth gyflwyno yr anrheg, a diolchodd yr Esgob yn wresog am y rhodd ysblenydd. YR EGLWYS A'R DOSBARTH GWEITHIOL. Agorwyd yr ymdriniaeth a'r pwnc hwn gan Syr Watkin W. Wynn a dilynwyd ef gan Syr Robert Cunliffe, ac eraill. Fel y byddo i'r darllenydd gael rhyw amgyffred am rediad y cyfarfod rhagorol hwn, ni a ddyfynwn frawddeg o'r naill araith ar ol y llall:— Syr Watkin a ddywedai:— ER fod tai llafurwyr yn fychain ac anhylaw ddigon, yr oedd yn drist ganddo gyfaddef y cedwid llawer ohonynt yn y fath fodd fel na roddid fawr gefnog- aeth i'r sawl a ddymunai eu gwella. Wedi gwneud tai gwell, ceid eu bod weithiau yn cael eu defnyddio at gadw Hetty, neu i drysori hen gelfi. Gallai y clerigwyr ddangos i r llafurwyr bethau mor gysurus oedd ty glan a threfnus a gardd fechan dlos. Syr Robert Cunliffe SWM yr hyn a ddywedasom ydyw, Ond i wyr a gwragedd ein parthau poblog weled fod yr Eglwys yn teimio dyddordeb yn eu difyrion, cystal ag yn cydymdeimlo a dyledswyddau difrifol eu bywyd yna, os cytuna lien a lleyg yn yr amcan o ddyrchafu y dosbarth gweithiol, fe ddyrcliefir y bywyd cyff- redin i'r safon uwch hwnw yr ydym oil mor awydd- us am ei godi. Parch. W. H. Fletcher, Croesoswallt:- Y MAE yn dda gan fy nghalon fod y pwnc hwn ar raglen ein Cynhadledd canys y mae'r eglwys hono a gyfynga ei gweinidogaeth rhwng pedwar mur ei hadeilad, ac nad yw yn treiddio i'r bywyd cym- deithasol, ac i bob agwedd sydd ar fywyd ei phlant —nad yw yn puro y bywyd hwnw, yn ei ddyrchafu, yn ei sancteiddio—y mae gan yr eglwys hono enw ei bod yn fyw, eithr marw ydyw, a chanddi ffurf duwioldeb heb ei grym hi. Esgob Wakefield:- YR oedd lluaws o'r dosbarth gweithiol yn synied mai rhywbeth rhy uchel iddynt hwy oedd crefydd— rhywbeth yn y cymylau. Dyna ddywedai gweith- iwr wrtho ef un tro "Digon hawdd i chwi siarad am grefydd a'r nefoedd, ond y mae yn mliell iawn gwaith mawr ini ydyw byw, ac y mae arnom eisiau rhywbeth i'n helpu i fyw'r bywyd caled hwn yn well, a'i wneud yn dipyn mwy hapus a siriol." Mr Tudor Howell:- YR oedd sefyllfa bresenol y werin yn mhell o fod yr hyn a ddymunid a rhaid iddynt gydnabod nad oedd yr Eglwys yn y gorphenol wedi gwneud yr hyn a ddylasai. Yr oedd ef wedi darllen nad oedd ond dwy ystafell mewn 50 y cant o fythynod y llafurwyr amaetliyddol yn Lloegr; ac ond un ystafell mewn 20 y cant ohonynt. Ni fuasai hyn, os gwir, yn digwydd ped arferasai yr Eglwys ei dylanwad yn ddiofn ac egniol, fel gwir fam y bobl. Parch. E. Roberts (EEs Wyn) :— NID oedd eisiau yr ymarferiad o gieio pel droed yn mhlwyfi gwledig Cymru—yr oedd gan y llafurwr ddigon o waith i'w goesau eisoes. Rhodder digon o chwareu i'r plant, a dysger y merched ieuainc sut i gadw ty. Parch. D. Williams, Llandyrnog :— Os oes ar yr Eglwys eisiau cael gafael ar y bobl, rhaid iddi gyfaddasu ei hun at reddf y Cymry. Diau fod gan y Cymro ei gynheddfau anianyddol, ond yr oedd yn rhaid iddynt apelio at ei anian ddeallol. Mr Murray-Browne a gynghorai y llafurwr Cym- reig i dalu mwy o sylw i fanteision Deddf Dyraniad (Allotrnent Act). Llythyren farw ydoedd hyd yn hyn yn Nghymru. Yr Anrhyd. H. C. Raikes :— TYBIAI ef fod cryn wahaniaeth rhwng y Cymry a'r Saeson yn eu chwaeth at y deallol. Deon Llanelwy Ni byddai'r Cymry yn ddiolchgar i na chlerigwyr nac eraill am weniaith. Bydded iddynt ddweyd wrth y Cymry eu barn ddifloesgni am danynt. Cyn tewi, yr oedd yn dda ganddo grybwyll am y bywyd dyrchafedig a welodd lawer gwaith yn nghartrefi Cymru. Yr oedd ef yn adwaen y Cymry yn dda z; a gallai dystio nad oedd yn nghylchoedd uwchaf cymdeithas fywydau purach a dedwyddach nag a I welsai yn fynych yn mwthyn y llafurwr Cymreig. Dylanwad crefydd oedd wedi ei gynyrchu. CYFARFOD CYMRAEG. Daeth cynulliad lluosog yn nghyd. Cymerwyd y gadair gan yr Esgob. Traddodwyd areithiau hy- awdl ar sefyllfa moes a chrefydd yn Nghymru gau y Deon y Parch D. Jones, Llanrhaiadr Mr Hugh Davies, Bala Parch T. Lloyd, ficer Llanelwy Mr Lewis Roberts, Llangar; Mr Benjamin Bryan, Llanfwrog Elis Wyn o Wyrfai Parch D. Evans, Abergele Mr H. Hughes, Corwen Parch D. Grimaldi Davies. Dyma ddywedai'r Deon Owen yn un rhan o'i araith:- Ail-raddol hollol yw cysylltiad yr Eyhcyn a'r Wlwl- wriaeth o'i gydmaru a dyledswydd ysprydol yr Eglwys i weithio allan ei chomisiwn. Credwn ei fod yn ddyledswydd arnom fel Eglwyswyr i wneud ein rlian i ddal gafael yn y cysylltiad hwn, tra y credwn ei fod yn fuddiol i'r gwaith ysprydol. Angenrhaid a osodwyd arnom i ymyraeth i raddau a dadleuon, ond gwyliwn rhag ymgolli ynddynt, a cholli golwg, hyd yn nod am foment, ar wir waith yr Eglwys fel Corph, Priod, Tyst, a Chenad Crist, i ddwyn dynion, trwy nerth yr Yspryd, at y Gwaredwr, a'u hadeiladu ynddo yn y sancteiddiaf ffydd. Nid teg na doeth fyddai i ni annghofio fod i'r Eglwys yn ei gwaith ysprydol yn Nghymru lawer o gydweithwyr llafurus a chydwybodol, er na weithiant o dan ei baner. Er na fynant eu galw eu hunain yn Eglwyswyr, nis gall Ymneillduwyr dori y cysylltiad fiurfiol sydd rhyng- ddynt a'r Eglwys trwy y sacrament o Fedydd, na'r cysylltiad ysprydol byw sydd rhwng pawb a gredant yn yr Arglwydd Iesu Grist ac a weithiant drosto a'r Eglwys Lan Gatholig, yr hon yw ei gorph Ef. Nid oes angen i ni er mwyn dal yn dyn a dibetrus yr egwyddorion gwerthfawr a roddwyd i gadw i ni fel aelodau o ganghen yr Eglwys gyntefig yn y wlad hon, fychanu nac eiddigeddu wrth lafurus gariad y sawl, oherwydd amgylchiadau anhyfryd, nad ydym ni na hwythau yn yr oes hon yn gyfrifol am danynt, a safant ar hyn o bryd tu allan i gylch gweledig awdurdod yr Eglwys. Yn hytrach, llawenhawn o galon yn mhob daionia pliob clylaiim,ad yr un yspryd lie bynag ei gwelir, Ilawenhawn ynarbenig oherwydd uniongrededd Ymneillduwyr Cymru ar athraw- iaethau sylfaenol crefydd. Brodyr ydymni, paham y gwnawn gam a'11 gilydd? Ar y 11aw arall, ni ddylai cydymdeimlad ysprydol a gwaith da Ymneillduwyr beri i ni anngijofio ein rhagorfreintiau ysprydol a'n cyfrifoldeb arbenig fel Eglwyswyr. Y mae gwir gariad brawdol, bob amser, yn sylfaenedig ar ffydd- londeb i'r gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu, ac fel y rhoddwyd ef ganddo yn nghadw i'w Eglwys. Nos Iau traddodwyd pregeth gan Esgob Rhyd- ychain ar y testyn: "Y mae corph daearol, ac y mae corph ysbrydol." Ddydd Gwener etholwyd pwyllgor o ] 1 gan y gynhadledd ar gyfansoddiad y pwyllgor sefydlog, ar gynygiad yr Archddiacon Thomas, yn cynwys y boneddigion canlynolMr P. P. Pennant, Canon Howell Evans, Mr J. Marshall Dugdale, Canon W. Richardson, Parclin Maurice Jones, 0. A. Nares, Mr O. S. Wynne, Parchn D. Evans, J. P. Lewis' a'r ddau ysgrifenydd. Darllenwyd papyr gan y Parch D. Edwards, Bala, ar "Genhadaethyr Esgob- aeth a chan y Parch J. W. Thomas, Bwlchycibau, ar Y gwaith cenhadol yn y plwyfydd gwledig." Siaradwyd gan amryw ar bynciau y papyrau. Yna galwyd sylw gan Arglwydd Harlech at bar- had cynhwrf y degwm, a chynygiai fod yr Esgob yn ail-agor y drysorfa gynorthwyol, a sylwai fod punt o aur yn werth moroedd o gydymdeimlad. Eiliwyd y cynygiad gan Iarll Powis, yr hwn a ofidiai am fethiant y mesur ar y mater yn y Senedd. Pasiwyd y cynygiad, a diolchwyd yn wresog i Esgob Llan- elwy am y gwasanaeth a wnaeth gyda'r drysorfa y llynedd. Darllenwyd papyr gan y Parch Owen Jones, Pen- trevoelas, ar "Ganiadaeth eglwysig a chorawl," a chan Mr C. T. Reynolds, organydd Eglwys Blwyfol Croesoswallt, ar Ganiadaeth Eglwysig." Cymer- wyd rhan gan amryw yn yr ymddiddan a ddilynodd. Darllenodd Mr Stanley Leighton, A.S., lxtpyr ar Addysg Rydd a Chynorthwyol," a darllenodd y Parch R. Evan Jones bapyr ar yr un pwnc, a chymerwyd rhan yn yr ymdriniaeth ddilynol ar y pwnc gan Mri P. P. Pennant, yr Anrhydeddus H. C. Raikes, A.S., Canon Howell Evans, y Parch J. W. Sparling, &c. Talwyd y diolchiadau arferol, a therfynwyd gwaith y gynhadledd trwy weddi. Cynhaliwyd Cyfarfod y Gweithwyr nos Wener yn y Neuadd Gyhoeddus, dan lywyddiaeth y Maer, a thraddodwyd areithiau i gynulleidfa luosog gan Esgob Wakefield, Mr Clarke Aspinall, Syr Robert Cunliffe, Esgob Llanelwy, &c.
--0--DRAMA NEWYDD 0 WAITH…
--0-- DRAMA NEWYDD 0 WAITH CYMRO. YR wythnos hon, chwareuir drama newydd o waith ein cydwladwr, Mr. E. R. Cleaton, gynt o Lanidloes, yn chwareudy y Prince of Wale■ Lerpwl. Bu Mr. Cleaton yn byw am yspaid yn y dref hon rai blynydd au yn ol; a chymerairanflaenllaw mewn ami i symud- iad gwleidyddol a Ilenyddol. The Unionist" y gelwir y ddigrif-draith, neu gomedi. Nid yw y wasg leol yn rhyw ffafriol iawn i'r cyfansoddiad. Dyma ddywed y The Unionist,' written by Mr. E. R. Cleaton. who, however, appears to have a dim and distant notion of the playwright's craft." Y mae'r Courier yn drymach fyth It was dull, full of tedious explanation toaccountfortheexistence of the different personages, and their relationship to each other, and the writer seems to have only a slight idea of dramatic construction, not even that little necessary to make a comedietta amusing." Sychlyd iawn ydyw'r Post dyma'r oil a ddywed *:— The Unionist,' which calls for no praise." Wele hai! hai! Ond diolched Mr. Cleaton nad oes fawr iawn o goel i'w roi ar feirniadaeth hogia. newyddiaduron dyddiol Lerpwl.
-0-PA LE YR OEDD CORAU LERPWL?
-0- PA LE YR OEDD CORAU LERPWL? CANIATEWCH i mi trwy gyfrwng eich papyr gwerth- fawr ofyn paham nad aeth y Walton Park Male Voice Choir i gystadlu yn Mangor ar y gystadl- euaeth cor meibion, a'r "Brython" hefyd am y baton aur ? Yr wyf yn sicr, oddiar fy adna- byddiaeth o'u talent, a'r canu gweddol a fu yn Mangor yn y ddwy gystadleuaeth, y buasent wedi d'od a'r gwobrau i Lerpwl. Hefyd, Mr Gol., ai gwir yw y sibrwd fod y ddau gor uchod, ar gais Mr Jenkins, wedi cymeryd ei oratorio 11 David a, Goliath" mewn llaw, a'u bod yn bwriadu rhoddi perfformiad ohoni yn gynar yn y flwyddyn newydd, gydag orchestral accompaniment ? A oes a ali fy hysbysu ?—Ydwyf, &c., B SIIARJ'.
o LLYTHYRAU PENAGORED.
nghyngor yw-gwneweh hi yn anmhosibl i un beirniad, lieu beth bynag i gwmni o feirniaid, wneud c im a chwi. Rhaid i mi beidio clwey-i rhagor wrth rai anafus a chlwyfus. Feallai mai rhai ohonocb cbwi fydd yn gorfoleddu'r flwyddyn nesaf. Y mae yn bleser meddwl fod rhywrai yn cael cam o hyd. Yr eiddoch yn gysurus, Medi 8fed. PWYLL 0 DDYFED. o