Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CHWEDLEUON Y CYMRY A'R SAESON…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHWEDLEUON Y CYMRY A'R SAESON AM GREFYDD. FONEDDIGION,-Fe'm beiir, braidd, gan un o'ch gohebwyr am na roddwn y dyfyniadau a arferwyf yn yr arddull yr ysgrifenwyd hwy gan yr awdwyr. Cof genyf dderbyn o enau y diweddar Gweirydd ap Rhys rywbeth i'r un perwyl. Pe y gwnelswn felly pallaswn gyrhaedd fy amcan wrth ysgrifenu, sef goleuo y werin. Os mynaf argyhoeddi a goleuo y werin rhaid ysgrifenu yr hyn a ddarllenant ac a y ddeallant. Ysgrifenwch a chyhoeddwch yn y papyr newydd ddarn o gyfarchiad, "RICHARD TRWY RAT DYW EPISCOP MENEW, yn dcimuno adnewyddiant yr hen ffydd Catholic a gollauni evangel Christ i'r Cerabru oll," yn gywir fel ei cyfansoddwyd, a rlioddwch y papyr yn llaw gweithiwr sy'n arfer darllen llyfrau Cymraeg, ac yr wyf yn sicr yn fy meddwl na dderllyn y cyfryw ddim mwy na rhyw chwe'llinell iieu saith ohono. Ond ysgrifenwch yr oll yn gywir o'r un meddwl yn yr iaith arferol, ac efe a'i derllyn i gyd. Yr wyf wedi profi anfuddiol- deb y rheol ganwaith yn fy oes. Cof genyf fod mewn dadl gyhoeddus ag un o glerigwyr Eglwys Loegr o barth y degwm wedi llwyddo i gael gafael yn Stlden's History of Tithes, ces lawer o gam a cholled trwy fod yr awdwr dysgedig pan yn dyfynu yn mynu gwneud heb newid nag iaith, gair, na llythyren, ond ei roi ar lawr fel ei hysgrifenwyd yn wreiddiol gan yr awdwr i fedru deall y llyfr oil rhaid bod yn medru Hebraeg, Groeg, Lladin, a Saesneg. Pe mynech oleuo gwerin Cymru yn hanes y degwm, gofelwch fod pobpeth yn Gymraeg, os amgen, ni chyrhaeddwch y nod. Nid wyf mewn un modd yn dirmygu olrhain hanes ieithoedd, ond os mynwch oleuo gwerin Cymru, gofalwch am ys- grifenu yn Gymraeg-y Cymraeg sydd ddealledig gan y gweithiwr. Wel, bellach at y testyn a gymerais—cydmaru chwedleuon crefyddol y Cymry a'r eiddo'r Saeson. Un chwedl Gymreig ac an chwedl Seisnig y dyfynais ohonynt; y mae mil a mwy ohonynt y byddai yn ofer eu dyfynu. Y pwnc pwysig yw cael gogr gym- wys i'w gogrwyn, ac awel deneu lem i'w nithio fel y gweler hyny o rawn a gynwysant. Gwnes fy ngoreu gyda chwedl yr Esgob i ddechreu, a chefais dwys- gan o rawn ynddi. Wedi darllen y Salmau a'r Prophwydi, yna Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist, a dyfal fyfyrio chwed- leuon canlynol Eglwysi Groeg, Rhufain, a Phrydain -eu gogrwyn a nithio y chwedlau-nid oedd eisiau hyn ar y PsaImau, y Prophwydi, a'r Testament dyma y grawn a gaf yn adawedig. Agorwyd ffynon yn Jerusalem i bechod ac aflendid, a'i ffrydiau a redodd yn rhad i Frydain sut, nis gwyddis. Ond y ffaith yw, fe ddaeth y ffynon loyw darddodd allan ar y bryn, ac fe olchwyd canoedd aflan (yn Mhrydain foreu oes Cristionogaeth) nes d'od yn lan trwy'r dyfroedd hyn. Caed llu yn llefain yma pryd hyny, Myrdd o feiau dafla' i lawr i rym y dw'r." Y mae hynyna yn rawn pur nas chwythir gan awel ac nis collir trwy ogr. Y ddadl fawr ddiffrwytli a ymladdwyd trwy'r oesau yw pa un ai o'r ffynon agorwyd yn Jerusalem, yntau o'r un a agorwyd wedi hyny yn Rhufain, y daeth dw'r y bywyd i Frydain. Myn y Pabyddion a'r Esgobion nad oes rinwedd yn nwfr ffynon Jerusalem nes ei hidlo trwy welyau tywod Rhufain. Dyna paham y galwyd am "Fucheddau Saint Ynys Prydain," i'w darllen yn Gymraeg adeg y gwasanaeth cyhoeddus yn eglwysi Cymru. Onid yw trueni dyn yn fawr arno pan gynygier iddo druth celwyddog a thaeru yn ei wyneb mai dail y pren i iachau y cenhedloedd" ydoedd ? Ond,. "Gwreiddyn pob drwg yw arian- garwch." Eisiau arian y Cymro i gynal y weinidog- aeth ydoedd ar ddilynwyr y goresgynwyr Norman- aidd pan dalasant i fyneich am ddychymygu y bucheddau hyn i'w darilen yn yr eglwysi. Y mae llawer o wir i'w gael yn chwedl yr Esgob, ond eisin sil sy'n sachau y mynachod. Wrth edrych ar Grist a'i Apostolion yn myned oddiamgylch gan bregethu y Gair yn rhad, ac mai oddiwrthynt hwy yr aeth yr Efengyl i'r holl fyd, gallwn ddyfalu mai felly yr oedd y rhai a gredasant trwy wrando arnynt yn gwneud. Dios y daeth rhai o'r cyfryw i Frydain a phregethu'r Efengyl i'r preswylwyr oedd ynddi—i'r Gair gynyddu a llwyddo, yn enwedig yn mysg y werin, fel y cawn fod yma yn gynar lawer o eglwysi Cristionogol yn yr ail a'r drydedd ganrif yn myned o dan yr enwau Corau. Gair o darddiad estronaidd yw eglivys, o'r un ystyr a cynulleidfa gair Cymraeg ydyw cor am yr un peth. Fel hyn y cawn yn yr Iolo MSS., td. 151, &c. Cor Eurgan yn Llanilltyd i 24 sant; a hon fu'r Gor gyntaf yn y byd i ddysgu'r Efengyl a'r ffydd ynghrist. Cor Sallwg yn Llandaf i 30 sant, a Sa- llwg yn benrhaith. Cor Elvan yn Ynys Wydrin i fil o saint. Cor Tathan ynghaerwent ar bumcant o saint, a Thathan yn Benraith ar y ddwy Gor yma. Cor Elbod ym Mangor Elbod yn Arfon, ac Elbod yn Benrhaith ar bumcant o saint. Cor Mechell yni Mon i gant sant. Cor Dewi ym Mynyw i bumcant o saint. Cor Teilo yn Llandaf i fil o saint. Cor Cadfan yn Enlli i ugain mil saint ag nid oedd yno geUoedd eithr pob un fel y mynai a gwedi ugain mil saint fe fu Enlli yn Gor o Gell i bum cant sant. Cor Cybi ym Mon a phum cant o saint a Chybi yn Benrhaith. Cor Mathew, Cor Marcus, Cor Lucus, Cor Ieuan, Cor Arthur, Cor Dewi, Cor Morgan, Cor Eurgain, a Chor Amwn, ag Illtyd yn Benrhaith ar yr wyth Gor hyn, ag enwi'r lie Bangor Illtyd a Theirmil o saint." | Dyna eto chwedl Gymreig a gynwys ryw gymaint o rawn pur; ond am chwedl y Sais aeth hono i gyd i ganlyn y gwynt, ac ysgafnach ydoedd na gwegi yn nghlorian yr Ysgrythyr. Gan mai o Palestina y daeth yr Efengyl gyntaf i Frydain, tebygol yw fod llawer o wir yn chwedl lolo. Pe buasai yr Apostol Paul yn Gymro, ac yn ysgrifenu at eglwys o Gymry, mai fel hyn y buasai ei gyfarchiad ar ddeehreu yr Epistol:—" Paul, Apostol lesu Grist, at Gor Duw sydd yn Ynys Wydrin, gyda'i Phenrhaith, Elfod, a'i gadswyddogion," &c. Dyfais y dyn pechod a wnaed er elw bydol ydoedd dilyn yr enw episcopus ar un swyddog eglwysig, tra yr oedd enw aQvydd- ocaol i'r swydd ar gael yn iaith yr eglwyswyr hyny. Eglwys o Gymry yn galw y penaf yu eu plith yn Benrhaith, pryd y mynai Eglwys Rhufain ei alw yn Esgob, a'i osod ar eglwysi talaeth gael iddo gael miloedd o bunau yn flynyddol o gyflog, ac felly wneud masnach o Air Duw a marsiandiaeth o'r saint. Yr wyf mewn mor—nis gwn pa bryd y deuaf i lan ond y mae y fmor yma yn werth ei forio pe parai y daith ddeuddeng mis. Cadnant. JOHN MORGAN. o

[No title]

DYFODOL Y°FRONGOCH.

ENWAU LLEOEDD YN NGHYMRU.

NODIADAU GAN DIOGENES.

NODIADAU 0 RYDYCHAIN.