Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

BIL DADGYSYLLTIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BIL DADGYSYLLTIAD. yo MAE'R Carnarvon Herald am ddydd Sadwrn diweddaf yn cyhoeddi cynllun Bil er Dadgysylltu yr Eglwys yn Nghymru—y cyntaf, hyd y gwyddom, a gyhoeddwyd. Cynwysir ynddo ddeuddeg sir Cymru a sir Fynwy, ac y mae iddo 47 o benodau. Yn ol y cynllun hwn, tros- glwyddir yr eiddo eglwysig i ofal un Dirprwywr penodedig gan y Llywodraetli, ac un cynrychiol- ydd o bob Cynghor Sirol yn y tair sir ar ddeg, y rhai a ffurfiant gorphoraeth yn meddu sel gyffredin a gallu i bwrcasu a dal tiroedd i ddybeniol1 y weithred bon. Y mae Dirprwywr y Llywodraeth i gael cyflog a farno yr Is- -dairprwywyr (sef Cynrychiolwyr y Cynghorau Sirol) yn deilwng iddo, gyda chydsyniad Llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol; a'r Is- ddirprwywyr gydnabyddiaeth ddigonol i dalu eu treuliau teithio a gwestya, ond ni wiw i hyny fod uwchlaw haner canpunt yn y flwyddyn. Darperir yn y bil ar gyfer parhau i dalu i bob swyddog eglwysig, o'r esgob at y sexton, ei gyflog yn llawn, ac ar ei farwolaeth, bydd y cyfryw yn darfod a gwneid darpariaeth at ddyogelu pob eglwys tros haner cant oed rhag adfeiliant neu i'w gosod neu eu gwerthu ar delerau gan y gorphoraeth a nodwyd i'r gynulleidfa oedd yn ymgyfarfod ynddi o'r blaen ond rhaid i hyny gymeryd lie o fewn chwe' mis i amser y Dadgysylltiad. Os na bydd yr eglwys yn hyn na haner cant, ac os na wneir cais am dani gan yr hen gynulleidfa o fewn y chwe' mis, gall y gorphoraeth ei gosod neu ei gwerthu i gynull- eidfa arall, ond er cynhaliad Gwasanaeth Dwyfol ynddi yn unig. Dyna rai o brif benau y cynllun. Ond y pwnc mwyaf dyrus ydyw

BETH A WNEIR GYDA'R CYLLID?

CYMDEITHAS Y CYMREIGYDDION.

RHWNG BRYNIAU ERYRI.

LLEOL.

-0-PWLPUDAU CYMREIG LIVERPOOL,

Advertising

u--NODION O BETHESDA.

v----.. GOHEBIAETH.

Advertising

Family Notices