Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853. OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netberfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, H we Cottages to LET in various parts of the Q vu, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of a es. Also larger houses at higher rents. (F H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, i AGENT, S T -A- T E HA.S large and small Hous To Let in various parts of the city and suburbs. Houses bought and sold. N,)rtqages arranged, &e. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- nomicajily managed. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insuances effected. (F HENRY JONES, ESTATE & MQRTGAGE AGENT, 777, EVERTON ROAD, LIVERPOOL Rents Collected. Mortgages Arranged. TELEPHONE NO. 1779. The Liverpool Land Company, Limited. TO BUILDERS, &c.-Tobeiold, Freehold and 999 years'Leasehold LAND, in lots to suit purchasers, in Garston, Kirkdale, Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the I)calities.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works-TAYLOR STREET, Oqlce and Show Roonas-402 & 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Railings; Hot Watei, Green Houses, and Sanitary Sngineerg; Williams' Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.; Bakers Oven Stocks, Confectioners' Ovens, Chaffers, Boxes, Fire Bars, &c.; al sizes of Gate Runners, &c. DAVID WILLIAMS, COAL MERCHANT, Best house and other Coals always on hand. Office and Yard- 199, CROWN STREET, LIVERPOOL. esÜlenc-37, Kingsley Road. Telephone No. 8535 TRADE MARK. V PES" 8s'z<9i asasjjSiosa Y Feddygiqiaetq Fawr Gyutreig TV AG AT BESWCH, ASTHMA, BRONCHITIS A holl Anhwylderau y Frest, y Grwddf, a'r Y sgy faint. PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH Ysgrifena y Parch. E. W. DAVIES, Ton tre, yn Q,liweddar:- I Gi.Haf ddwyn tystiolaeth glir i bobiogrwydd mawr HUGH DAVIES'S OOUGH MIXTURE, ac i dderbyniad lies neill- duol fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefn- yddiad ohono, ac hefyd 'w werth yr adeg hon gyda'r haint Influenza.' Llanberis, Jan. 27, 1886. Dywed y Parch. J. E. OWEN :— Y mae hen wraig yn Pentraeth, Sir Fon, yn dueddol iawn i beswch caled yn enwedig ar aluseraurh-Nvllyd. Nid oes dim yn y ffordd 0 feddygitiiaeth yn ei lleshau gystal a'oh 'COUGH MIXTURE Ei hunig gysur ar y ddaear, ebe hi. yw y Beibi a DAVIES'S COUGH MIXTURE.' Dywed y Parch LL. B. ROBERTS, Caernarfon Dan octiain anwyd yn nychu -a'r lungs Yn rhyw lesg weithredu Mwy cais trwy y Cough Mixture cu, Oes 0 iechyd ddi-besychu Dywed D. JONES, Bethesda, Bangor:- Anwyl Syr,-Cefais ddwy botel 0 DAVIES'S COUGH MIXTURE gan Mr. Hughes, Druggist, yn ddiweddar, a dymunaf ddiolch i chwi am dano. Yr oeddwn yn dioddef er's misoedd oddiwrth Beswch a Diffyg Gvyit, ac weditreio pob moddion, ond yn aflwyddianus; ond yr wyf drwy eich meddyginiaeth anffaeledig wedi cael adferiad trwyadl, a gwnaf fy ngoreu i gymhell eich darpariaeth ar bawb sydd yn ddi- oddef oddiwrth anhwylderau yr Ysgyfaint.' Dywed Mr. J. E. EDWARDS, Groes, Rhiwabon: Anfonwch botelaid o'ch COUGH MIXTURE ar unwaith. Da genyf eich hysbysu fod y botel- aid flaenorol wedi gwneud lies mawr. P AIlOTODIG GAN HUGH DAVIES, Chemist, HACHYNLLETfl. Liverpool Agents-Williams, Chemist, Heyworth Street; Williams, Chemist, Granby Street; Wynne Thomas, Chem- st, Keusingt-in Wrexham—Mr Jhtglr Rowlands, Bridge Messrs GRIFFITHS & DAVIES;' 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. :— Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. M antles. Boys Clothing. Paperhangi-ng. Underclothmg. Furs. —AND— Millinei y. In all these Departments will b, Pnd the Newest and most Stylish Goods of the S n at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES 398, Scotland Road. F X T-KilAVNG 0 SYLW PAWB. V W YN LON^~Y CLAF. J\ D A Beth yw ASTHMA AnadiHd byr, brysiog a llafurus. .¡ A oes rhagor nag un math o\sthma? Oes, dau-un n ha. had, a'r Hall yj dyfo ) yn mlaen ar adegau. Gelwir j y.,t if ya continual, a'r olaf yn periodical fla i,etli sydd yn achosi Asthma? Culhad, crebychiad a •lirwasgiad y pibau meinion sydd yn arwain o'r corn gwynt i'r ^yfaint. Pa feddyginiaeth sydd wedi rhoddi esmwythad buan i neirif o be, sonau a ddvoddefent oddiwrth Asthma, Bron- ;llÎ"j6, 1lesweli, Anwyd, itfyg Anadl, a'r Crygni? BALSAM OF FrONEY TUDOR WILLIAMS. GAN mai oerfel ac anwyd ydyw dechreuol achos pob clefyd yn rnron, a 1'id'tadi fo mdoedd yn myned t'r bedd ye auamserol o eisiau e,.d med lyginiaeth bwrpasol a phrydlawn ym, flodd yr anwi d ynwyf mor ddisymwth a lleidr yn y nos, nes yn mron ymdori g'\l1 besweh yn ddibaid, keb ond ychydig orhpwysdra, nes yr oeddwn "li csedu fy mod wedi fy nal gan y darfodedig leth ac yn nghanol y boen dirdynol oedd trwy fy nghyf*nsod iivi anfa ais am botelaid o BALSAM OF HONEY' TUDOR WILLIAMS a chyme ais tua llonaid Hvvy gawl ar unwaith, sef chwaneg na'r cyfarwyd iyd oed I ar y botei; a chyn tri munyd yr eedd y peswch wedi ¡¡dEn i raddau annghyffredin. Cyraerais yr oli o gynwvsiad y botel, ac erbyn lieddyw, yr wyf yn gallu diolch i'r Dvefn Fawr, yn nghyda'r wybodaeth am y feddyginiaeth ddaionus hon, am fy mod heddyiv yn ddyn iach. Yd wyf, yr eiddoch, yn hollol iach, ISA^C THOMAS. Dadganiad dymunol arall. i Bam yn ddyoddefydd mawr am un mlynedd ar ddeg odd, wrth gaethdra, peswch, poeri swae<l, a t.i.yndra y frest burn hefyd am bum' mlynedd yn cael anhawsuer dirfawr i symud o amgylch, ni allaswn gysgu. na g irwedd i lawr y nos na'r dydd. Hum o an driniaeth ftdiygol am un mlyneid as ddeg; > 1 e(1, lnm o dan iiriniaeth yn Yspyttai Hereford, Buxton, a ";outhnort, ond y cyfan yn ofer. Ct y med't.\g<)ii wth.f na alUswi ddisgwyl gwellhad, gs" fy mod y 1 64ain mlw.) d., osd. Ar ol clywed cymaint o siarad am BALSAM: OF HO ÑEY' T'JDOR WILLIAMS rhoddais brawf arno, ac er fy syndod darfu i'r dogn cyntaf roddi rhyddhad ebrwydd i mi anadlu. Yr oedd pocri ygwaad or ysgyfaint yn lleihau. Diflanodd y caethdra, fel swyn; gyfaredd. i bed var gwynt y nefoedd, ac yn mhen ychydig wythoosau, drwy ddefuyildiad parbaus 'Balsam tf Honey' T mor Williams, adferwyd fi i fy iechyd da arfe. Yst-yriwyf hi yn d iyledowydd arnaf i anfon i ch"" y dystiolaeth hon. Yr eiddoch yn ddiffuant, Mrs EMBRE*, 19 Coning-by Sueet, Hereford, M,ii 25ain, 1890." Mae Miloedd o Blant wedi eu hachub o Farw laeti O r Croup, Bronchitis, air Pas, wedi pobpeth arall fdllll Y ff or(I I i broti y peth ydyw profi drosoch eich hunain. CH gwuf" ih ydd yn fendigedig ni chewch eich sicjflli. l).„Gwerthir 'BALSAM OF IIONEY'TIJDOR Nli -ti,- M: g in bob Kferyllydd drwy yr holl fyd. Hewn costrelau. Is ljfl 2s :k. lisu 11 wy y lly thyniy yn rhad am Is 3c a 3s. Perchenog-, D. TUDOR WILLIAMS, R.D.S.L., > Medio.Hl Hall, Aberdare. PAPAYANNI STEAMSHIP FLOVTM"" LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAM^H Sail regularly to he LEVANT, BLACK SEA, EG^PT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterra' ean Ports, taking the following two routes alternately:- (1) MALTA, SYR A,SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling ofte on the return journey at sev ral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Srain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPR; BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasiorally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty ■ ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess earns; Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiatc fares for single and return tickets, and no extra charge living on board during ships' stay at Ports. Tourists and pleasure-seekers • airing a trip by this Line ill dnd it most enjoyable and interesting. For further partit Ius, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwie't Chambers, Lirerp LLINELL Y WHITE STAh. ROYAL MAIL STEAMERS. umpWL I NEW YORK via QUEENSTOWN. PC DYDD MERCHER:— GERMANIC Awst 14 "TEUTONIC Awst 21 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwyr A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y fordaith Pr y cludiad ydyw Z7 ac kS. Y mae y Llongau rhagor i hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllan » threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiaa. Ni cheir well cyfleusdra i fordeithwyr. Am fanylion, ymofyner a R. Owen, Ship & It perance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu a. R. Roberts, Bethesda; Owen E Parry, masnachydd llechi, ( wyddelen; David Rowlands, Penygraig; W. D. Jones, Old Banfe Caergybi; W. M. Jones, Church Street, Llangefn. R. G. Roberts, Rock Cottage, CrMgiau Mawr, Ta ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. O. Williams, Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R. C Evans, 1, Minafon, Dolgeliy; neu ag ISMAY IMRIB & Co., 34, Leadenhall Street, Llundain. E.C., Water < r -,A %T SERGE JACKETS 4/6 WJYROMS! 1,1 1 1111,1 1
'Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr
'Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr Gan GWILYM HIRAETHOG PEN. XXIII.—ROBERT FEL GWEDDIWR. YR oedd y digwyddiadau y cyfeiriais atynt yn y pennodau diweddaf wedi cymeryd lie ychydig cyn yr amser yr aethum i gyda meistr i'r Hafod Uchaf i weithio. Yr oedd yr hen wr, er wedi gwangaloni 1 gynal rbyfel teuluaidd yn erbyn y plant am fyned i'r capel, yn teimlo'n bur an- foddog a digofus ynddo ei hun. Beiai lawer ar yr hen wraig am na buasai yn fwy selog i'w gefuogi ond nid oedd hi yn gofalu neraor ddim yn nghylch y pethau hyny. U 1.1 o'r dyddiau yr oeddym yno, gofynodd meistr i'r hen wr, A glywsoch chwi erioed mo Robert y mab yma yn gweddio ?' Na chlowis i erioed, a toes arna i ddim eisio'i glywed o byth chwaith,' oedd yr ateb. Chwi ddylech ei glywed o,' meddai'r llall, mae o'n gweddio'n rhyfeddol iawn, mae son am dano fo trwy'r holl gymdogaeth.' Mi fase'n dda gen i tase fo'n gueud son am dano am rw gamp ymgenach na gweddio,' ateb- ai'r hen wr. Na'n wir,' ebe meistr, (gadewch i ni gael gweddi ganddo fo heno ar ol swper.' Ai o'ch co'r aethoch chi, ddyn ? Ni fu neb o nheulu i'n gweddio'n y ty yma rioed, ac ni cheith neb chwaith, tra bo chwthad ynthw i pwr eisio gweddio sy ? Ond tydan ni'n talu degwm a tbreth i'r person am weddio, a tydi hyny'n ddigon t Jes bosib mae o ehwedi bodya Rhydychen yn dysgu gweddio, a mi wyr sat i weddio'n well na Robin, mi feddyliwn.' Ar hyny daeth Miss Evans i mewn i'r ty ac ar ol ymgomio ychydig, dywedai, Mae mam yn gofyn a ddowch chwi a Mary Davies (y wraig) acw i gymeryd cwpanaid o de gyda ni y pryd- nawn heddyw V Na wn i'n siwr ddown ni acw ai peidio,' ebe'r hen wr. Dy fam ddysgodd y cast o yfed te i'r hen wraig yma gynta, a mae hithe ehwedi dvsgu'r cast i mine, heb yn wbod i mi fy hun mi fase'n well gen i na llawer tase hi na fine heb i ddysgu o rioed. Daw, mi ddaw'r y hen wraig yma, ac mi wranta, am gwpaned o de, mae h:'n waeth am dano fo na 110 am laeth.' Rii,id i chwithati ddod gyda hi,' ebe Miss Evatis, neu ni fydd hi ddim yn iawn.' Rhald i mi ydrach ar ol y t'lwried yma,' meddai yntau, ne toes wbod yn y byd pwr ddrwg na nhw.' Mi gwranta nhw fe edrycha Ann a Mary ar ol y teilwriaid yn eitha,' ebe Miss Evans. Addawodd y ddau fyned, fodd byuag, ac yno yr aethant. Yr oedd yn ddefod yn y gymydogaeth er's rhai blynyddau i gynal cyfarfod gweddi o ddiolchgarwch am y cynhauaf bob blwyddyn yn y tai ar g:.lch a thro yr Hafod Ganol a ddi- gwyddodd fod y flwyddyn houo a'r noson hono yr oedd y cyfarfod i gael ei gynal yno, ond ni wyddai hen bobl yr Hafod Uchaf ddim am y cyfarfod gweddi. Tua saith o'r gloch, decbreu- ai y cymydogion ymgasglu yno dechreuai'r hen wr synn a phetrnso wrth weled un ar ol y llall yn dyfod i mewn i'r ty a gofynodd i wr y ty yn y man, Be sy gynthoch chi yma, Tomos ? Be mae'r bobol yn hel yma o bob man fel hyn ?' Tipyn o gyfarfod i dalu diolch am y cyn- haua da gawson ni eleni, Robert bacb, sy genym ni yma heno.' Ni fydde raid i chwi ddim cadw Ilawer o swn yn i gylch 0,' eb y llall, mi welais i well cnaua lawer gwaith na'r cnaua dwaetha, heb son am ddiolch am dano fo. Ond diolchwch chi faint fynoch chi, mi a i adre.' Eisteddwch 1 lawr,' ebe Miss Evans, 'ni chewch chwi ddim mynd oddiyma cyn swper, cymerwch fy ngair i ar y mater.' Wedi cryn drafferth, cafwyd ganddo aros. Yr oedd pob un a ddeuai i mewn yn edrych ar yr hen wr gyda pyndod. Yr oedd fel Saul yn tnysg y propbwydi yno ac yntau yn bur anes- mwyth ei le ac anniddig ei feddwl. Yn mysg eraill, daetb Sion y Gof i mewn, a safodd yn syn pan welodd hen wr yr Hafod, megys yn barod i ofyn, Y cyfaill, pa fodd y daethost ti yma V Trwy ystod y eyfarfoq, eisteddai'r hen wr yn synllyd ac yn surllyd, a'i ben i lawr, a thaflai ambell i gipolwg o'i gwmpas yr oedd yr hwyr I ganddo weled y gwasanaefch trosodd. Ar ol i ddau o'r cyfeilliou ddarllen a gweddio, galwyd ar Sion y Gof i ddyfod yn mlaen yr oedd Sion wedi bod wrthi er's raeitya yn myfyrio gweddi bwrpasol at gyflwr ei hen gyfaill o'r Hafod Aeth at ei bwnc wedi iddo ddiolch ychydig am y cynhauaf da i achwyn ar galonau drwg ac an- niolchgar plant dynion. Goleua ni a dysg i ni adnabod ein calonau meddai, mae yma rai ohonom ger dy fron heb nabod eu clonau erioed, mae nhw'n meddwl yn dda am eu clonau drwg dangos eu camsyniad iddyn nhw—gyr nhw a'u clonau yn mhena'u gilydd,' a llawer o ymad- roddion cyffelyb. Yr oedd yr hen wr yn bur anesmwyth wrth glywed y pefchau hyn. 'Ata i mae o'n lluchio,' meddai ynddo'i hun, gwyn fyd nad ai'r cythrel i'w glust o eto.' Wedi i Sion derfynu, galwyd ar Dafydd Davies, o'r Bwlch, i derfynu y cyfarfod. Yr oedd Dafydd yn nodedig am ei ddawn gweddi, ac yn ddyn cymeradwy iawn yn yr ardal. Tua chanol gweddi Dafydd, gwelid agwedd astud iawn ar yr hen wr yn gwrando. Yr oedd ei wyneb wedi newid yn fawr ymddangosai wrth ei fodd, a rhoddai ambell i ho mewn ffordd o gymeradwyaeth. Yr oedd yn bur siriol ar swper. Y bore dranoeth gofynodd meistr iddo I 'Beth oeddych yn feddwl o'r cyfarfod gweddi neithiwr ?' Na wn i be ydw i'n feddwl ohono fo,' atebai rhw ddau go symol oedd y ddau gynta; ond wfft i Sion y Go, taflud ata i 'roedd Sion bob ergyd-pam drychith o ar ol i galon i hun, agadel llonydd i glone pobol erill pw'r fisnes sy gyn- tho fo efo nghalon i ? Mae hi yn llawer gwell calon na'i galon o, beth by nag. Ond yn wir mi 'roeddwn i'n leicio gweddi Dafydd y Bwlch trost ben, a mi leiciwn i glywed Dafydd eto yn y nghalon a deyd y gwir, mi 'roedd Dafydd yn gweddio'n well na'r person o'r haner hefyd.' 'Be clowech chi Robert, eich mab,' ebe meistr. Ydio cystal gweddiwr a Dafydd, wyt ti'n meddwl, Haw r gofynai'r hen wr. Ydyw, a gwell hefyd,' meddai'r llall. Fedra'i ddim coelio hyny.' We], gadewch i ni ei dreio fo ar ol breewest heddyw,' ebai Huw. 4 Waeth gen i mo'r llawer am unweth 'nte; mi leiciwn i glowed o am dro,' ebai yntau. Cafodd Huw gyfle i ddweyd wrth y ddwy ferch yr ymddyddan a fuasai rhyngddo A'u tad a llawen iawn oedd ganddynt glywed y chwedl. Dywedasant yn ddystaw wrth eu brawd ac ar ol breoweiit, dygodd y chwaer henaf y Beibl i'r bwrdd am y tro cyntaf yn yr Hafod Uchaf erioed. Y maflodd Bob ynddo'n bur grynedig ac ofnus. Wedi myned ar ei liniau, a dywedyd ychydig eiriau, ymadawodd ei ofnau. Gweddi- odd yn hynod o daer, gafaelgar, a thoddedig, tros y teulu, yu enwedig tros ei dad a'i fam. Cyn y diwedd, yr oedd yr hen wr wedi ei lwyr- orchfygu. Methat yn deg ag atal ei ddagrau, ac ymdrechai yn ofalus i'w celu a'u cuddio. Ond nid oedd yr hen wraig yn teimlo dim mwy na'r post. Dystaw iawn fu yr hen wr trwy y dydd hwnw -ni soniodd yr un gair wrth meiatr am weddi Bob, ac ni ddywedodd meistr ddim wrtho yntau yn ei chylch, gan ei fod yn gwybod ei bod wedi gafael yn meddwl y tad, a gwneud argraph go ddwys ar ei feddwl. Yr oedd y gerwindeb mewii dull a geirian wedi lliniaru llawer y diwr- nod hwnw rhagor yr arferai fod. Aeth yr addoliad teuluaidd yn mlaen yn rheolaidd yn yr Hafod o'r dydd hwnw allan. PENNOD XXIV.—HEN WR YR HAFOD A'I GALON. YR oedd cryn gyfnewidiad i'w weled yn hen wr yr Hafod Uchaf ar ol y cyfarfod gweddi yn yr Hafod Ganol, a sefydliad y weddi deuluaidd gartref. Yr oedd y cyfnewidiad mawr yn nhymherau ao ymddygiadau y ddau fab a'r ddwy ferch er pan aethedt at grefydd, wedi megys creu awyrgylch newydd yn y teulu, ac yr oedd anadlu yn hono ya barhaus yn tymheru ac yn nawseiddio ei ysbryd, a'i dymher ynddo wedi ei ddofi a'i wareiddio lawer iawn, er nad oedd yr hen wr wedi ei ddiorseddo eto, er hyny dygasid ef dan warogaeth, fel nad oedd yn cael ei ffordd ac yn gallu llywodraethu yn ddiabaliad fel cynt, oddigerth ar amgylchiadau neillduol, pan y cynhyrfid ef i ddigofaint; ar ddig- wyddiadau felly, ymgynhyrfai yn ofnadwy, ac weithiau yn fwy ofnadwy nag erioed cyn hyny» oherwydd y teimlai y cryf arfog hwnw yn awr ofn ac eiddigedd am ei neuadd. Nid oedd y dyn newydd wedi dyfod i mewn i'r neua.dd, ond yr oedd yr hen ddyn yn dirgeldybio ei fod yn clywed trwst traed yr estron hwnw yn agoshau, ac ym- drechai ar y cyfryw achlysuron i'w ddychrynu ytnaith a llwon, a rhegfeydd, a chrochlefau, a meddyliai weithiau ei fod wedi llwyddo. Ond wedi i'r cyffro fyned heibio, nid oedd yr hen wr yn gallu teimlo mor esmwytb ei feddwl ag a arferasai gynt. Teimlai fod rhywbeth y mater arno, dim byd chwaith ond yr oedd yn rhywbeth hefyd ;— yn rhywbeth y buasai yn dda iawn ganddo ymys- gwyd oddiwrtho, ac wedi iddo feddwl ami dro ei fod wedi llwyddo mewn ffit o wylltineb i'w regi a'i wylltio ymaith, profai drachefn nad oedd yr eatron digroesaw ddim wedi gollwng ei afael arno. Teimlai awydd ambell dro i fyned i'r Capel i wrando pregeth am unwaith, ond synai ato ei hun wed'yn ddarfod iddo erioed feddwl am y fath beth. Ni buasai neb o'i deulu na'i henafiaid o'i flaen yn y fath le erioed, a gobeithiai na buasai efe byth yn euog o droi oddiar lwybrau da yr hen bobl; ond, y gwir yw, meddai ynddo'i hun, nid oedd un Capel yn y wlad yma i neb fyned iddo yn nyddiau yr hen bobol; pe buasai, hwyrach yr aethai Ilawer ohon- ynt iddo. Hwyrach,' meddai rhywbeth o'i fewn, nad oes dim cymaint drwg mewn myn'd i'r Capel ag oeddwn i wedi ei feddwl naeth o ddim drwdilr plant yma beth bynag, a hwyrach na nae o ddim drwg i minau tawn i'n myn'd am dro. Ond sut yr awn i ? ond tydwi chwedi cau'r drws yn f'erbyn fy hun, trwy erlid cimin arno fo a'r bobl sy'n arfer myn'd iddo fo bob amser. Mi leiciwn fyn'd am unweth, ond ta'i ddim er hyny.' Y fath ynaoedd lleferydd yr hen wr wrtho ei hun yn awr ac eilwaith. Yr oedd y plant wedi lied amheu, rywfodd, fod awydd ar eu tad fyned i wrando pregeth i'r Capel am dro, er na ddywedasai efe un gair am hyny wrth yr un ohonynt; ond yn unig y byddai'n holi beth fyddai yn y Capel weithiau pwy fyddai'n preg- ethu, a pha fath bregethwr oedd y gweinidog, 80 hwn a'r llall ddeuai heibio yn achlysurol. Yn y tymhor hwn daeth cyhoeddi&d gwr dyeithr, preg. ethwr pur boblogaidd, i bregethu yno noson o'r wythnos, ac yr oedd cryn son a disgwyliad am dano yn y gym'dogaeth, Yr oedd y ddau frawd a'r ddwy chwaer yn bur awyddus i gael eu tad i'r oedfa y noson hono, ond ni feiddient dori ato i ofyn iddo ddyfod. Beth a wnaeth y ferch hynaf, ond gofyn i Miss fcvane ddyfod heibio wrth fyned i'r Capel a'i hudo gyda hi, ac felly fu. Rhaid i chwi ddyfod gyda mi i'r Capel i wrando y gwr dieithr heno,' ebai hi wrtho. 0, ai ie ? y mae'n rhaid i mi, aie ? Tydw'i ddim yn dalit peth felly'n iawn.' Nid af fi ddim i'r Capel heno, os na ddeuweb, mi rosaf yma i'ch poeni chwi; ond raid i mi ddim, chwi a ddeuwch, rwy'n siwr,' ebe hi. A dweyd y gwir i ti, mi faswn i'n leicio clowed y gwr diarth ene rydech chi'n son am dano fo, a. y tro rwan, ond pytawn i'n dwad i'r Capel, 1 fydde pawb a'u llygid arna i, fel pe tase fwstwil wedi myn'd i mewn ono.' Ond, fodd bynag, i'r capel yr aeth, heb ryw lawer o gymhell yn mhellach arno, a chyd 1 fod i fewn trwy y drws, yr oedd cawodydd o lygaid yn disgyn arno, ae yntau'n cywilyddio, ac yo. edifarhau o'i galon ddarfod iddo ddyfod ynoJ dododd Miss Evans ef yn ei chor hi, a llechodd yntau yno a'i ben i lawr trwy yr oedfa. Wedi myned trwy ranau arweiniol y gwasafl* aeth, dododd y pregethwr allan yn destyn y geiriall hyny yn Esaia, 'Yrnborthi ar ludw y mae, caloll, siomedig a'i gwyrdrodd ef, fel na waredo ei enaid, &c. Dyna hi eto,' eb yr hen wr wrtho'i hun, P$13 glywodd y testyn, Sion y Go roes yn ei ben 0 gymryd y testyn ene i bregethu i mi, toedd dun posib i'r dyn fod yn gwbod dim am dana i 32*