Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE, ORGAN, HARMONIUM, & MUSIC SELLERS, 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o ios. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y MIS", &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. CANEUON, &c. (Goreu'r Iaith, Dr. Parry, &c. CwJad y Delyn [J. Henry], cyfaddas i bob llais. Is Gwlad y Canu 11 Is Bwthyn yr Amddifad Is Merch y Morwr I I Is Cenweh im'yr I en ganiadan Is O! Pcidivrch toii'r Blodau JJ Is Dim ond Deilen Contralto neu Baritone 6d O! Rwy'n Cofio (Sweet Memories) Tenor ]s Hoff Wlad fy Ngenedigaeth. Soprano neu Tenor Is Llyifhyr fy Mam. Sopraho neu Tenor la Merch y Cadben. Baritone Is Hen Gadair Fawr fy Mam. Contralto, Baritone 6c Songs of Wales [boundj 4s post free Gems of Welsh Melddy 7s 6d post free Yr oil yn y ddau Nodiant. D. R. JONES & Co., 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL, F Eto ar y Blaen. -TERIW ERIN.- TE A GHOFFI PUR, Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. ,<> CHAS. R. HALL, GENERAL LETTER GUTTER L- ENGRAVER 53, PARADISE STREET, LIVERPOOL. MANUFACTURER OF RMNG BRANDS, STENCIL, PLATES, gennER STAMPS, BRASS PLATES, &c. BEE HOTEL, ABERGELE. Old Established and generally admitted one of the most comfortable in North Wales eitho- for Commercial men or families. Good Billiard ;v;uin. Posting. 'Bus meets trains. Home from Home. M. OWEN, Proprietress. Gartref Cymreig i Ymweiwyr d Llundain. GLASLYN HOUSK, 9, EU3TON SQUARE, LONDON N.W, EVANS' TEMPERANCE HOTEL. Most Central to all parts of London. Close to Euston (L &. N. W. Ry.) Station. Two Minutes walk from St Pancras (Midland Ry). Station. D, EVANS, Proprietor. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SCHOOL FOR BOYS A: GIRLS). HEAD-MASTER EDMUND D. JONES, M.A. HE\D-M I STRESS Miss E. J. OWENS, B.A. Boys received as Boarders by the Head- master, and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. LERPWL I LLANDUDNO, BEAUMARIS, BANGOR, a MESTAI BRIDGE, Yn HWYLIO'N DDYDDIOL o'r Prince's Landing Stage (gyda'r eithriad o Suliau, ac os bydd tywydd ac amgylchiadau eraill yn caniatau. P.S. "ST. TUDNO," Gadael Lerpwl.. 10.45 c.a. Cyrhaedd Lerpwl..7.30 w.a. GWNEIR GOSTSNGIAD ARBEXIU I BARTION (Os trefnir yn flienorol gyda'r Goruchwylwyr neu yn y Swyddfa). r s BONNIE RINCESS bob dydd Sadwrn (hyd Awst 31) O Lerpwl am 1.30 w.a., yn dychwelyd bob dydd Llun hyd Medi 2il, i gyrhaedd Lerpwl am 10.15 c.a. Ymofyner a Mri T. Cook a'i Fab, Swan & Leach, Cyfynedig, Dean & Dawson, H. Gaze a'i Fab, Cyfyngedig, neu a CHWMNI AGERDDLONGAU LERPWL A GOGLEDD CYMRU, CYFYNGEDIG, T." G. BREW. Ysgrifenydd, 20, WATER STREET. LIVERPOOL. Pellseinyr, Rhif 6,366 RICHARD E. EVANS, HOUSE AND ESTATE AGENT, ia, Preston Street (Opposite Police Courts), LIVERPOOL, And 67, CLARENDON ROAD, SEACOMBE. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET. MORTGAGES EFFECTED. THOS.JONES &Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 2/- per lb. SPECIAL VALUE Parcels of Tea value 20/- and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLICATION. THOS. JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore edydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher.
¡YR EISTEDDFOD GENEDLAEftfOL.
YR EISTEDDFOD GENEDLAEftfOL. DYMA ymweliad cyntaf yr Eisteddfod Gen- edlaethol a. Gwlad y Tyn, prifddinas yr hon ydyw Llanelli ond dywedir ei bod eleni wedi cael cymaint croesaw fel na fyddai ryfedd yn y byd iddi dderbyn gwa- hoddiad yno yn fuan eto. Oddiar luosog- rwydd y presenoldeb, gellid casglu y bydd Eisteddfod Llanelli yn llwyddiant annghy- ffredin mewn ystyr arianol oddiar y gan- moliaeth ryfeddol a roddodd Syr Joseph Barnby i'r canu, yr oedd yn tra ragori ar ei chwiorydd mewn ystyr gerddorol ac y mae enillwyr y Gadair a'r Goron ynsicrhad na fu yn fethiant mewn ystyr lenyddol. Ataliwyd, mae'n wir, rhai gwobrwyon pw) sig o ddiffyg teilyngdod yn y gystad- leuaeth, ac yr oedd yr arlunydd enwog Herkomer yn llawdrwm fel beirniad ar yr ymgeiswyr yn y ganghen a fu tan ei sylw ef. Y mae greddf Cenedl y Cymry yn caelei ddatguddio yn ei Heisteddfod. Awen a Chan ydyw ei gorhoffder hi er's oesau a thasg anhawdd a maith fydd impio gwybod- aethau eraill ar ei chalon, er, mae'n ddiau, y llwyddir yn y pen draw. Mae yn mhell tros chwarter canrif er pan amcanodd nifer o garedigion yr hen sefydliad hybarch wneud math o Social Science Association ohono yr oeddynt, yn gwbl w yneb-agored, yn dadleu nad oedd yn ddigon defnyddiol a gwasanaethgar. Cawsant gyfleusdra i roi prawf teg ar eu damcaniaeth; ond yn lie diwygio'r Eisteddfod dinystrio eu cymdeith- as eu hunain fu'r canlyniad. A chamgymeriad a fu pob cais hyd yn hyn i newid natur yr Wyl Genedlaethol Gymreig. Nid yw yn un dianrhydedd iddi i ni ddweyd mai yn mharlwr gwestty y ganwyd hi, ac efallai ar ddiwrnod gwyl- mabsant. Bu y telynwr a'r cantwr gyda'r tannau yn ei difyru yn ei hieuenctyd. Bu cyfeddach a maswedd yn gweini arni, ac yn raddol ac yn araf y cafodd hi ymadael a hwy. Mwyniant, Difyrwch, a Dyddanwch ydyw ei phrif gyfeillion heb y nodweddion hyn, ni lwyddodd yr un nodwedd i enill ei serch. Mae hi droion wedi dangos ei hoff- der o ddysgeidiaeth, ond iddi fod yn ddysgeidiaeth ddifyr, ac o gelf a gwyddon- iaeth os na fyddant yn ddiflas o sych mewn gair, GVTYL ac Adloniant yw, a pha genedl a fedd ei chystal ? Bob tro y ceisiwyd ei gwneud yn ysgol neu athrofa gan utilitariaid, aflwyddiant a fu a dyled- swydd ei charedigion ydyw cadw ei nodwedd ddifyrus i fynu, gan ofalu na fyddo i'r difyrwch ymddirywio i rysedd a phen- chwibanded. Hi a gododd yn ddirfawr yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yn mhob ystyr, fel y mae'r genedl a'i pia hefyd wedi ymddyrchafu. Nid ydym yn sicr fod rhagorach cyfansoddiadau yn Eisteddfod O j J Llanelli yr wythnos ddiweddaf nag oedd yn Eisteddfod Llangollen yn 1858, ond y mae'n gwbl sicr fod yno lawer iawn mwy o bobl a llawer iawn llai o feddwdod. Yr oedd yn Llangollen hefyd rai nodweddion Eisteddfodol oedd yn absenol yn Llanelli, megys canu gan dant, gobrwyo'r bardd hynaf, datganu pen pastwn, a mwy o Gym- raeg ar y tafod a llai ar y parwydydd ond yn Llangollen yr unig offerynau cerdd oedd y delyn a'r corn gwlad, ac nid oedd yno fath yn y byd o ganu corawl. Y mae un peth y dymunem alw sylw arbenig pwyllgor Eisteddfod Llandudno ato, os na ddartu iddynt sylwi arno eu hunain sef, cael rhywun i edrych ar ol y trefniadau ar yr esgynlawr. Yr oedd dau neu dri o gyfarfodydd y bore yn Llanelli mor faith fel nad allwyd dech eu y cyng- herdd nes oeid hi rhwng wyth a naw o'r gloch y nos. Camdrefn ar yr esgynlawr oedd yr holl achos o hyn--cisi-au rhywun i ofalu fod pawb yn barod i gymeryd ei le yn ol y rhaglen, ac nid y naill yn disgwyl wrth y llail. Collwyd oriau bob dydd o amser trwy yr hwyrfrydedd hwn, a dyryswyd y tr.fniadau er annghysur i'r torfeydd a cholled i'r pwyllgor yn y pendraw. Math o stage-manager a ol- ygwn, yn rhwyddhau ac yn hwyluso'r gwaith yn i-rilaen-un cydnabyddus ag Eisteddfodau, ac yn meddu'r ddawn i yru1r gwaith yn mlaen. Trwy fel hyn, "brifio yn ysgol profiad," chwedl rhyw hen fardd, y naill gyfarfod yn ceisio rhagori ar y Hall a gwneud i fynu ei diffygion, y pery Eisteddfod y Cymry yn glod i'r genedl, ac yn nodwedd arbenig yn ei hanes a'i chymeriad.
o " A OES HEDDWCH ? "
o A OES HEDDWCH ? CLUDER y gofyniad o'r Orsedd Farddol i fysg ein harweinyddion Rhyddfrydol yn Nghymru. Wrth glywed yr Aichdderwydd yn Llanelli yn gofyn y cwestiwn y drydedd waith, ar ol cael banllef o atebiad cadarn- haol iddo y ddau dro cyntaf, sylwai un o'r gwrandawyr, Y dyn be ddylai fod ond heddwch ?" A pha beth a ddylai fod ond heddwch yn ngwersyll Rhyddfrydol Cym- ru ? Y mae ganddynt ddigon o elynion oddiallan, ac o wawdwyr ac o ddirmygwyr; a gorthrymderau hefyd y cymer ddwyoes neu dair i'w symud. Os bydd y rhai gor- thrymedig yn dadleu a'u gilydd pa orthrwm i'w symud gyntaf, ac yn cweryla parth y modd goreu i wneud hyny, tuedda'r gwar- edydd i'w gadael yn llonydd nes byddont yn fwy unfarn yn eu plith eu hunain. Cwestiwn a ofynwyd yn fynych cyn dad- gcrphoriad y Senedd gan Ryddfrydwyr Seisnig ydoedd, "Ibabethy gwaria'r Llyw- odraeth ei nherth a'i hamser yn ceisio dad- gysylltu'r Eglwys yn Nghymru tra mae'r Cymry eu hunain yn taflu gwrthwynebiad ar y ffordd ?" Nis gwyddom pa sawl sedd yn Lloegr a gollwyd trwy y gri hon na pha sawl un o'r seddau Cymreig a newid- iodd ei hochr oblegyd yr erthyliad a elwid Cymru Fydd yn rhwystro eraill, trwy eu hymyriad anamserol, i wneud gwaith na wnaeth hi ei hunan. Ond perthyn i hanes y mae hyn oil; ac amser i wisgo ac nid diosg alfau ydyw hwn. Dyma adeg fan- teisiol i Gymru Fydd neu rhyw symudiad cyffelyb i ddechreu gweithio, a llwyddiant mawr a'i'dilyno. Un o delerau ei llwyddiant ydyw diffodd annghydfod, ymddwyn yn garedig tuag at y Rhyddfrydwyr hyny nad ydynt eto yn cydolygu Ai amcan, gwneud ei sylfeini fyn ddigon Hydan a'i amcan yn ddigon uchel. Dysged yr arweinyddion un o wersi y Mabinoglon, Bid ben, bid bont."
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Mr. Daniel Owen, GELWAJS gyda'r nofelydcl hynaws ychydig ddyddiau yn ol. Yr oedd gryn lawer siriolach na phan welswn ef bythefnos cyn hyny, ac yn ol pob golwg wedi troi at wella. Dywedai ei fod yn bur anwadal ond y mae yn ddoniol am gwyno fel am lawer o bethau eraill-tuedd i gymeryd yr olwg dduaf ar amgylchiadau. I mi, edrychai yn llawer gwell, ac fe'n siomir yu fawr os na ddaw i fynu yn mhen ychydig amser. Llyfr newydd y Claf. Y MAE'R Ilyfr newydd swllt "Straeon y Pentan," o waith Daniel Owen, newydd ei gyhoeddi gan Hughes & Son, Gwrecsam. Ugain o Chwedlau byrion ydyw'r Ilyfr, wedi eu hysgrifenu yn null medrus, blasus, buddiol, yr awdwr diguro pedair neu bump wedi ymddangos o'r blaen, megys y chwedl am "Enoc Evans y Bala," Owil a'r Adar," a fu yn Y Cymro flwyddyn yn ol, ac yr wyf yn ei cbrybwyll fel y deallo'r dar- llenydd ddonioled gwerth swllt sydd i'w gael yn Straeon y Pentan." Dylai werthu wrth y miloedd. Y Fwyell." YN y misolyn dyddorol hwn am fis Awst, parha y golygydd i ddweyd hanes ei fywyd. Yn y presenol, rhydd ddesgrifiad manwl o'i blwyf genedigol, gan sylwi ar amryw o hynodion Eglwys Bach, esbonio'r enw, a gwahodd dy- eithriaid i ymweled a'r lie. Cynwysa'r rhifyn hefyd ychydig o hanes mani ein cymydog y Parch Owen Lloyd Da vies, yntau hefyd yn frodor o'r plwyf hwnw. Yr oedd Mrs Phoebe Davies yn wraig a mam oleu ei meddwl a dwys ei theimladau, neu fel y dywed Mr Evans, "yn graff, gofns a diwylliedig ei meddwl, foneddig- aidd ei moes, a chrefyddol iawn ei hysbryd." Englyn o waith Goronwy. MEWN rhifyn o Gronicl S.R., tua haner can' mlynedd yn ol, ymddangosodd yr englyn can- lynol ac enw prif-fardd helbulus a hiraethlawn Mon wrtho. Hyd y gwelaf nid oes yr un o gasglwyr gwaith Goronwy wedi cael hyd iddo:- Gresyn yw na b'ai gras yn nod,—i wr Gael ei fara ynod Mewn un bwlch mae nai yn bod, Mewn arall y man aerod. Y Ficer Apostolaida- DYNA'R enw a roddir ar warchodwr ysprydol newydd Cymru, sef y Tad Mostyn o Birken- head. Bum yn cyd-drafaelio ag un o urddasol- ion y ffydd Rufeinig rai dyddiau yn ol-dyn boneddigaidd, parod i roi a derbyn gwybodaeth, fel ei frodyr yn gyffredin. Gofynais iddo beth oedd y gwahaniaeth rhwng Vicar Apostolic ac Esgob ? ac atebodd nad oedd y gwabaniaeth ond bychan. Yr oedd. yr hwn a wisgai'r teitl hwn tan awdurdod nniongyrchol y Pab, ac nid oedd yn aelod o'r "hieranhy," neu arglwyddi yr Eg'wys Babaidd. Dywedai yn mhellach nad oedd y penodiad hwn, yn ol pob tebyg, ond yn rhagflaenu rhanu Cymru a'i rhoi yn ngofal dau neu dri o esgobion cyffredin-niai felly y gwnaeth y Babaeth a, Lloegr. Chwanegai fod Cymru wedi ei hesgeuluso gan eu crefydd hwy yn ddirfawr paham, nis gwyddai, os nad ellid ei br.iodo!i i'r anhawsder o ddysgu'r iaith. Yn Nghymru Seisnig y mae gan Babyddiaetb y gafael gwan sydd ganddi ar Gymru ac fel y cilia'r Gymraeg, y mae ei siawns bitliaun cyn- yddu. Gallech gyfri'r Cymry Cymreig sydd yn Babyddion ar flaenau cich bysedd ac nid oedd y Tad pnrchedig y cvfeirir ato uchod yn gwybod digon am y genedl i allu dweyd beth a fu'r gwir rwystrau ar ffordd llwyddiant y Babaeth yn Nghymru—yr iaith Gymraeg, mae'n wir, ond yr Ysgol Sul a'r Pwlpud trwyddi hi. Tra byddo bywyd ac effeithioldeb yn y ddau sefydliad hyn, draen yn ngbap Pabyddiaeth. Aflwyddiant fydd ei gweinidogaeth hi a'i hefelychwyr yn mhlith defodwyr Eglwys Loegr. Chwedl yr hen lyfrau doctor "Profedig yw."
-0--Nodion o'r Rhos.
-0-- Nodion o'r Rhos. RHYFEDD fel y mae pob tipyn o gor, lie bynag yr aiflf i frwydr, yn cael nawddogaethcyngberdd; tra y rhaid i'r seiudorf, druan, ymladd ei ffordd i bob man heb fawr gymhorth. Nos Fercher, cynaliwyd cyngherdd yn y Neu- add Gyhoeddus er cynorthwyo Cor y Tonic Sol-ffa i fyned i gystadlu yn Eisteddfod Glyn Ceiriog. Yr arweinydd ydyw Edward Davies. Nid ydym yn malio llawer am ei ddull oarwain, mae yn ceisio efelychu rhywun. Hefyd, yr oedd Miss Sissie Pritchard yno, ac er ei bod yn hynod swynol, dymunol fyddai genym gael mwy o Gymraeg a newydd-deb gan- ddi. Yr ydym wedi gl&n flino 3/r hen glonc Cymru Fydd" yna. Yr oedd Tom Edwards yno hefyd, a chanodd "Sound an Alarm" yn deilwng o broffeswr. Wm. Jones, wnaeth ef fawr ohoni gyda "Hyd fedd hi gar yn gywir." Ond gyda'r ddeuawd Howel a Blodwen," hefo Miss Pritchard, tybiem y buasai eisiau llawr newydd i'r neuadd gan faint y curo traed. Yr oedd Wm. Edwards yn well nag y clywsom ef lawer gwaith gyda "Glyndwr" (unawd gys- tadleuol yn Nghorwen) a chyda'r ddeuawd "Excelsior" hefo Tom Edwards; am y ddau arall, Llew Llanerch, gwell genym ei glywed ef yn canu ar etholiad ac ymgymered â chanu gyda'r delyn, gwnai fare yn y cyfeiriad hwnw, a John Williams hefyd. Bu y Cynghor Plwyfol am yr wythfed tro yn eistedd nos Iau. Cymerwyd sefyllfa Allt y Gwter i sylw eto a'r gias ar yr heolydd, a phas- iwyd ar y diwedd benderfyniad priodol iawn "yn condemnio gwaith y bagad plismyn anfou- wyd yma ddydd yr etholiad." Nos Sadwrn. GOMER JONES.