Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
COLEG DEHEUDIR CYMRU.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
COLEG DEHEUDIR CYMRU. YR ARHOLIADAU DIWEDDAR. BNWAU YB THGEISWYE LLWYDDIAHUS. Rhyw bythefnos yn ol, cynaliwyd cyfarfodydd arholiadol yn Nghaerdydd, Merthyr, Abertawy, Casnewydd, Aberhonddu, Aberystwyth, Caer- fyrddin, a Hwlffordd, fel manau canolog, er rhoddi oyfleusdra i ymgeiswyr fwriadent aelodi yn y Coleg i gynyg am y scholarships a'r exhibitions. Yr oedd Awdurdodau y Coleg wedi cynyg un ys- goloriaeth gwerth .640ynwyddyn, un arallgwerth £25 y flwyddyn, a naw yn werth X20 yr un, a phob un ohonynt i'w dal am dair blynedd. Yn ychwanegol at yr uchod, yr oedd 32 o exhibitions, enillwyr pa rai a ganiateir i gael holl freintian addysgol y Coleg yn rhad am dair blynedd. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn 75, ac yn eu plith yr oedd tua dwain o foneddigesau, ac mae'n lion gen- ym grybwyll mai un ohonynt hwy gipiodd y brif wobr, a bu wyth ereill mor ffodus ag enill exhibi- tions. Yr oedd oedran y gwahanol ymgeiswyr yn cyrhaedd o'r 16 i'r 27, a gwelir oddiwrth y gyfres fod braidd pob rhan o'r Deheudir yn cael ei chyn. rychioli gan y naill neu'r llall o'r ymgeiswyr, a gellir ychwanegu ffaith ddymunol arall hefyd, fod yn mhlith yr ymgeiswyr blant i lafurwyr, i fas- nachwyr, i grefftwyr, i gyfreithwyr, i offeiriaid, ae i weinidogion Ymneillduol, Agorir y Coleg yn ystod y mis hwn. Maey rhagolygon yn addawol ac yn gysurus dros ben. Wele yn canlyn gyfres o enwau yr ymgeiswyr llwyddianus fel y cyhoeddwyd hi yn y South Wales Daily Netvs am ddydd Llun, yn nghydag enwau yr ysgolion neu y colegau y perthynent iddynt:— THE SCHOLARSHIPS. The scholarship of X40 per annum to Miss Janet Greener, at present a teacher at Miss Tullis's, St. Catherine's School for Girls, Park-place, Cardiff, educated at Milton Mount College, Gravesend. The scholarship of .£25 per annum to Mr John R. Howell, 21, Chalybeate-street, Aberystwyth (University College of Wales, Aberystwyth), Nine scholarships of £ 20 per annum to— Mr John D. Evans, 120, Lammas-street, Car- marthen (University College ,of Wales, Aberys- twyth). Mr Edward Jones, Cardiff. Mr W. E. Parry, 29, Woodville-road, Cardiff (Kingswood School). Mr P. M. Pierce, Dinorwic, Carnarvon (Univer- sity College, Liverpool). Mr C. E. Williams, Cae Coed, Cardiff (Leys School, Cambridge). Mr J. B. Davies, Brynhysryd, Talsarn, Cardi- ganshire (Llandyssil School, and University Col- lege of Wales, Aberystwyth). Mr Herbert D. Moseley, 5, Mary's-hill, Aber- gavenny (Rossall School). Mr William Henry Holmes, Loudon-square, Cardiff (Kingswood School). Mr W. T. Davies, Llangan Vicarage, Whitland, Carmarthenshire (Llandovery School). EXHIBITIONS. Mr Henry J. Curtis, Nantwern, Neath (Bristol Grammar School). Mr Gwyn Morris, 7, Clyde-street, Cardiff. Mr A. C. Davies, 120, Lammas-street, Carmar- then (Llandyssil School, and University College of Wales, Aberystwyth. Miss W. B. Ashe, Rhondda Valley (Miss Tullis's School, Park-place, Cardiff). Miss Alice Evans, at Link's Cottage, Mussel- borough (Miss Tullis's Ladies' School, Park-place, Cardiff). Mr David Stephens, Ty Llwyd, Breconshire (Memorial College, Brecon). Mr L. C. Thomas, 10, Courtland-terrace, Merthyr (Merthyr College and Taunton College). Mr Thomas Davies, Mount Pleasant, Ystalyfera (Normal Cottage, Swansea). Mr Robert Thomas, Ty Vaughan, Pentyrch. Mr William Price, Swansea. Miss Mary Griffith, Poplar, Aberdare (Trecynon Seminary and Bedford College). Miss Elizabeth Cornell, Mandee Hall, Newport. Mr J. Griffiths, Brecon. Mr R. L. Morris, 42, High-street, Cardigan. Mr Rees Rees, Blaengwawr Cottage, Aberdare. Mr William Williams, Llanfabon. Mr C. L. Thomas (Merthyr College). Mr William Lewis, 4, Castle-square, Merthyr, (Abermorlais Board School). Mr Joseph H. Wade, York-place, Newport. Mr Walter H. Jenkins, Water-street, Neath. Miss Annie Gwen Jones, Railway-terrace, Vochriw (Court Girls' School, Merthyr). Mr Herbert Herbert, Quay-street, Ammanford (Hope Academy).. « t> Mr John Hughes (Memorial College, Brecon). Mr John Jones, Greenfield House, Hengoed (Pengam School). Miss Mary White (Howell's School, Llandaff). Mr Albert Thomas, Malvern House, Roath (British Schools, Cardiff).. Mr W. P. Williams (Memorial College, Brecon). Miss Florence E. Jones, Havelock-street, Sheffield (High School for Girls, Sheffield). Mr Owen W. Samuel, Pontardawe (Collegiate School, Pontardawe). Mr D. P. Jones, Newcastle Emlyn (Indepen- dent College). Miss Edith Rowe (Roath Collegiate School). Mr J. Evans (University College of Wales). Mr W. Edward George, 26, Cardiff-street, Aberdare (Presbyterian College, Carmarthen). ♦
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
ROUGH ON RATS."—Y peth y dymunid dm dano wedi ei gael. Gofynwch i'r Druggists a'r Grocers am "Rough on Rats," v hwn a gliria allan lygod mawnon a bychain, chwilenod, roaches, gwybed, bugs gwely, trychfilod, a tyrchod daear. Blychau, 7ic. a Is. 'RUl"fUItES.rIIlTE'S MOC-MAIN LEVEE TRUSS is the most effective invention for the treatment of Hernia. The use ot a steel spring, so hurtful in its effect, is avoided, a Ssott bandage btinf, worn round the body, while the requisite resisting power is sup- plied by the Moc-Main Pad and Patent .ever, fitting with so much ease and closencss that it cannot be detected, bend for descriptive circular, with testimonials and pnccs, to «J. 'yiite and Co. (Limited) 228, Piccadilly, London. Do not buy ot Chemists, who ofen sell an IMITATION ot our Moo-Maw. J. Wlute auu Co., have not any Agents.
.WYDDGRUG.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WYDDGRUG. Cyfarfod Blynyddol. — Dydd Sabboth, Medi 23ain, cynaliodd yr eglwys Seisonig yn y lie uchod ei chyfarfodydd blynyddol, pryd y cymer- wyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch H. Elvet Lewis, Buckley, a Mr Hywel Cynon, Aberdar. Cyfarfod Ordeinio.- Y Llun dilynol, cymerodd cyfarfod ordeinio Mr D. R. Evans, o Goleg Anni- bynol y Bala, yn yr un eglwys. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch Owen Thomas, M.A., Holy- well. Traethwyd ar natur eglwys gan Profl Lewis, B.A., Bala. Gofynwyd y gofyniadau gan y Parch H. Elvet Lewis, pa rai a atebwyd yn gryno ac effeithiol gan Mr Evans. Offrymwyd yr urdd- weddi gan y Parch H. J. Haffer, Wrexham, a rhoddwyd siars i'r gweinidog gan y Parch D. B. Hooke, Llundain. Nos Lun, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddua, pryd y cadeiriwyd gan Mr C. Rocke, Wrexham. Dechreu- wyd y cyfarfod gan y Parch W. Gwilym Rees, Flint. Cafwyd anerchiad gan y Cadeirydd, a'r Parchedigion canlynol :—J. H. Hughes (lenan o Leyn), Wrexham; W. Tiller, Wrexham; D. B. Hooke, Owen Thomas, M.A., E. M. Edmunds, Oswestry a H. Elvet Lewis, Buckley, Gorfod- wyd amryw o'r brodyr i ymadael cyn bod y cyfar- fod drosodd, er mwyn dal y tron i fyned i Chester, Wrexham, &c., ac yn eu plith y Cadeirydd, pryd y llanwyd ei le gan y Parch Roger Edwards, Mold. Rhoddodd Hywel Cynon ddwy g&n deilwng ohono ei hun yn y cyfarfod cyhoeddus. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Miss Edwards a Mr J. H. Adams. Cafwyd lunch am un o'r gloch, a thd am haner awr wedi pedwar, pryd y cafodd y dyeithr- iaid a phawb eu gwala a'u gweddill. Yr oedd amryw o weinidogion yn bresenol heblaw y rhai a gymerodd ran yn y gwasanaeth, a myfyrwyr o Goleg y Bala. Cafwyd oyfarfodydd ardderchog o'r dechreu i'r diwedd, a naws nefolaidd ar yr holl ymwneyd. Arosed Duw yn ei dangnefedd a'i gariadgyda'n hanwyl frawd yn y lie. B. R.
CWM RHONDDA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CWM RHONDDA. Cymanfa Ganu rhan uchaf y Owm. — Ychydig amser yn ol, crybwyllasom am y priodoldeb i'r rhan uchaf o'r Cwm efelychu y rhan ganol yn eu hymdrech gyda y canu cynulleidfaol, ac y mae yn dda genym allu dyweyd fod ar y pryd swn yn y gwynt, ac erbyn hyn mae wedi d'od yn rhywbeth mwy sylweddol na bod yn y gwynt. Mae yr undeb hwn yn cynwys Bodringallt, Ton-Ystrad, Pentre, Hermon a Betbania (Treorci), Cwmparc, Treherbert, Tynewydd, a Blaenrhondda, naw o eglwysi, a'r rhan fwyaf obonynt yn eglwysi cryf- ion. Tynwyd progra-mme allan tua thri mis yn ol o ddeunaw o donau hollol newydd i'r holl eglwysi, o'r Ail Lyfr, a dwy Chant, Bef Salm xxiii. a'r xlii., a dwy anthem, un o waith M. O. Jones, Treherbert, a'r llall o waith John Thomas, LIan- wrtyd. A dydd Llun diweddaf, Medi 24-ain, yn Siloh, Pentre, oedd y dydd i ddangos eu gwaith, sut yr oedd wedi cael ei "wneyd. Arweinydd y dydd oedd Eos Morlais, a gwnaeth ei waith yn ardderchog. Rhoddwyd yr emynau allan gan Mr Davies, Treorci. Dyma y t6nau a ganwyd, sef Cambridge, St Cross, Nearer Home, Calvary, Cyfamod, Tanymarian, Danville, Gogerddan, St Barnabas, Bryniau Canaan, Ardudwy, Aberys- twyth, Hendre, Pwllheli, Twrgwyn, Huddersfield, a Trawsfynydd. Yr oedd dau anerchiad hefyd yn mhob oedfa. Y rbai fu yn anerch oeddynt Mri Davies, Cwmparc; Edwards, Hermon; Morris, Bethesda, Ton Williams, Brynglas; Rees, Car- mel, Treherbert, a Davies, Bethania, Treorci. Y mae dyweyd fod pob peth wodi troi allan yn llwyddiant perffaith yn ddyweyd digon i bob pwrpas. Yr oedd y canu yn fendigedig—dyna dystiolaeth pawb oedd yno, a dyna oedd tystiol- aeth ddiamwys yr arweinydd. Yr oedd y fath lewyrch ar bob peth, yn anrbydedd mawr i ar- weinyddion y gwahanol gynulleidfaoedd, i Mr Davies, Pentre, arweinydd y cyngyfarfodydd, a'r rhai lafuriodd mor egniol. Y cyfeilyddion oedd- ynt Rhondda Davies a Miss Sarah Edwards. Mae yn dda genyf ddyweyd hefyd fod yr undeb hwn wedi cymeryd awgrym Eos Morlais i gael pro- gramme allan yn uniongyrchol eto, a chael eymanfa ddechreu y flwyddyn, er mwyn i'r cantor- ion gael tipyn o lonydd yr haf i fyu'd i lkn y m6r a'r ffynonau. Mae yn dda genyf gael ar ddeall fod son am gael cymanfa undebol arall yn y Cwm, sef y rhan iaaf, ac yn cynwys eglwysi Rhondda fechan. Wel, ati o ddifrif, frodyr. A beth pe byddai y tri undeb yn eyfarfod eu gilydd bob rhyw dair neu bedair blynedd. Dyna lie byddai canu canu fel canu c6r Dafydd brenin Israel. Mae caniadaeth y cysegr yn llawn deilwng o ar- ddangosiad felly. GQHEBYDD.
O'M LLYFRGELL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gwbl-nad ydynt am roddi ffydd hanesyddol yr eglwya i fyny-nae ychwaith ei hathrawiaethau pwysicaf hi. Dadleua hefyd nad.yw y gyfun- drefn newydd yn ymosodol yn ei thymher, a'i hunig amean i ddinystrio a diddymu yr hen gyfundrefn. Ceisia brofi eu bod yn gwneuthur defnydd helaethach. o reswm yn y newydd na'r hen — eu bod yn dehongli yr Ysgrythyrau mewn dull mwy syml a naturiol-yn honi perth- ynas newydd a gwyddoniaeth naturiol, a myfyrdod helaethach ar ddynoliaeth yn gyffred- inol-a hawlia y Dduwinyddiaeth Newydd yr angenrheidrwydd am ail-ddadganiad o'u cred- iniaeth yn yr hyn a eilw y duwinyddion y pethau diweddaf" — sefyllfa prawf, y farn, gwobr a chosb. Mae y gweddill o'r llyfr yn cynwys pregethau ar "Dderbyniad y Gwirionedd," "Duw ein tarian," "Cariad at Grist fel person, "Tosturi Crist," Crist fel Pregethwr," Daliad Tir," Amgylchyniad Moesol" (Moral Environment), "Anfarwoldeb a Gwyddoniaeth," "Anfarwol. deb a Natur," Anfarwoldeb yn ol dysgeid- iaetk Crist," "Ymdriniaeth Crist ttg angeu," « Adgyfodiad oddiwrth y meirw," Dull cosb- edigaeth," "Y Farn," "Bywyd yn elw," Pethau i'w haros." Mae y pregethau yn fwy ar ffurf traethodau na phregethau. Nid ydynt yn cael eu hymdrin yn bynciol nae yn destynol. Mae ynddynt gryn newydd-deb, ac y mae yr iaith ya berffaith syml a diymhongar, heb unrhyw ymgais ym- ddangosiadol at effaith uniongyrchol. Ceir sylwadau rhagorol yn y bregeth gyntaf ar ddatguddiad. Yradnnia yn alluog yn yr ail bregeth ar Dduw fel dyogelwch rhag galluoedd natur, rhag drygau anocheladwy bywyd, dad- feiliad, a henaint, rhag peryglon bywyd, a rhag- om ein hunain. Pregeth a'i llon'd o deimlad, ac o sylwadau rhagorol ydyw yr un ar Dosturi Crist." A chawn bregeth llawn addysg oddi- wrth eiriau Crist yn y Synagog yn Nazareth. Mae y testyn yn arwain yr awdwr i wneyd rhai crybwyllion am gaethgludiad y genedl-rhai o ffurfiau y gosbedigaeth—arweinia ni i fyfyrio ar lenyddiaeth proffwydoliaeth Esaiah, ac ar berthynas y proffwyd a'r bobl, ac wedi rhoddi i ni olwg eang ar y pethau y gallasai y testyn arwain ein meddwl atynt, disgyna ar fater y bregeth; pregethau Crist yn eu cynwysiad, yn eu hathroniaeth, ac yn eu dylanwadau. Amser a balla i ni gyfeirio at y gweddill o'r pregethau. Digon yw dyweyd eu bod yn gynyrch meddwl grymus, eu bod yn Hawn touches o natur, a'u bod wedi eu hyagrifenu yn y dull mwyaf syml a diymhongar. Mae y Ilyfr eisoes wedi cael cylchrediad helaeth. Nid oes ynddo ddim i siglo ein ffydd yn yr hen wirioneddau. Gwisga hen wirionedd mown agwedd newydd, ac weithiau gesyd allan ambell i ddrychfeddwl allan mewn dull mor feiddgar, fel yr ydym yn gorfod talu gwarogaeth i wroldeb y dyn am araethu ei olygiadau mor ddiofn.