Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA GEEDDOEOL CWMi ABERDAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA GEEDDOEOL CWM ABERDAR. Un o uchelwyliau mwyaf blasus a phoblogaidd y Cwm yw y Gymanfa hon. Mae er's amser bellach yn ein plith yn sefydliad blynyddol mor rheolaidd a phwysig a gwyl y Pasg neu y Pente- cost i'r luddewon gynt. Yr eglwysi perthynol iddi eleni oeddynt Bethel, Siloa, Soar, Saron, Moriah, Aman, ac Abercwmboy. Cynaliwyd hi ar y dydd Llun diweddaf o fis Mai, yn Cwmaman am 10, yn Siloa. am 2, ac yn Saron, Aberaman, am 6. Arweinid drwy y dydd gan Mr Rhys Evans, Aberdar. Y mae Mr Evans a Mr Hywel Cynon, ar gais y pwyllgor, yn ymgymeryd yn garedig yn eu tro ag arweinyddiaeth y Gymanfa, yn ogystal a dysgu y cantorion yn y rehearsals blaenorol iddi, a chyflawnant eu gwaith bob blwyddyn gyda medr difwlch, ac mewn modd nodedig o ddylan- wadol, Diau fod y brodyr hyn yn help aruthrol i gerddoriaeth gysegredig yn y Cwm. Cenid gan y gwahanol gorau undebol ar byd y dydd odlau, t6nau, ac anthemau. Mae y chants a'r anthems nid yn unig yn d'od ag amrywiaeth i'r cyfarfodydd, ond yn taflu bywyd ychwanegol iddynt hefyd. Sylwasom yn nghyfarfod y boreu mai salm-d6n ac anthem gododd y dorf yn gyffred- inol i'r ysbryd uchaf a mwyaf brwdfrydig o addoli. Rhoddasai anerchiadau y brodyr lawer o adeiladaeth i'r gwrandawyr yn ogystal a theimlad i'r canwyr, yn enwedig felly os amcanent at fod yn benodol, byr, a blasus. "Llwynogod bychain yw yr areithiau, Of ns na bydd dim yn neillduol yn y meddwl." Cenid Ar ben mae'r gogoneddus waith yn ogoneddus, ac yr oedd anthem J. T. Eees, o Cwmaman, ar yr adnodau cyntaf yn Salm v., yn peri i lawer wylo a, gweddio. Canai ton gynulleidfaol Hywel Cynon, o'r enw Aber- aman," yn gryf a mawreddog, ac yn llawn o ar- llwysiadau mawl, a pbroffwydem iddi ddyfodol gwych yn mysg corau medrus a cbryf. Yr oedd Lausanne yn deg ac yn dyner fel awel hwyr- ddydd haf, ac yr oedd "Bryniau Canaan" yn gyffrous o ddarluniadol o deimfad dyn duwiol yn ymyl marw ac wrth ganu, 0 Dduw Elias, tyr'd i lawr 9 I hollti llif yr afon fawr," teimlem mai petb hawdd a hyfryd fuasai mentro yr afon yn awn cerddoriaetb. Pan genid Gorphenwyd (Dr Parry), ymsynetn a thybiem fod holl gantorion Gwynfa, ar adog marwolaeth yr Iesu, wedi cydgwrdd ar fynydd Seion, ac wedi iddynt ei glywed yn llefain "Gorphenwyd," cip- iasant y gair, a rhoisant dystiolaeth ar gan o blaid gwirionedd ei farw yn ngwydd nefoedd ac uifern. Gorphenwyd, gorphenwyd, Mae'r nefoedd yn dyst 0 bosibl mae'r don gynulleidfaol agosaf i deimlad pawb oedd Pen Nebo." Mae'n un o'r tonau hyny a ellir ei chanu beb ei dysgu, fel ieithoedd dydd y Pentecost. Wrth ei chanu meddyliem fod yno ganoedd wedi esgyn o rosydd Moab i fyn- ydi Nebo," a bod yr Arglwydd yn dangos iddynt ardderchogrwydd y wlad, ac nid oedd bosibl d'od i lawr o ben Nebo, oherwydd cenid hi drosodd a throsodd, drachefn atliracefri, "a'i swn a glywid yn mhell." Deffroed yr eglwysi ati eto o ddifrif ar gyfer y Gymanfa nesaf. Diau y cyferfydd y pwyllgor cyn hir i drefna a chynllunio, a gofaler am ddanfon cynrychiolwyr iddo. Cofiwch gyffes ffydd Luther —Duwinyddiaeth yn gyntaf, a Cherddoriaeth yn ail, neu y Beibl a Mawl.
UNDEB CANU CYNULLEIDFAOL GOGLEDD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB CANU CYNULLEIDFAOL GOGLEDD CEREDIGION. Cynaliwyd Cymanfa yn nglyn A'r Undeb uchod yn Salem, dydd Mawrth, Mehefin 3ydd, o dan arweiniad Tanymarian, pryd y canwyd yr anthem Ar lan Iorddonen (Dr Parry), a'r t6nau canlynol :-Aylesbnry, Spires, Beddgelert, Glan- yr-afon, Mendelssohn, Normanton, Bethlehem, St. Cross, Haddam, Bryntirion, Abergynolwyn, Pwllheli, Tahiti, St. Hilary, Tanymarian, Pen Nebo, St. Martin, Danville, Trawsfynydd, Yr Hyfrydlais, a Glan Dwyfach. Dechreuwydyroedfaon gan y Parchu P. Davies, Clarach, a T. J. Morgans (M.C.), Bow-street. Gwasanaethwyd wrtb yr harmonium gan Mri Spurway, Salem, a Kemp, Talybont. Yr oedd y tywydd yn ffafriol, y cynulleidfaoedd yn lluosog iawn, a'r hwyl yn peri i ni anghofio y ddaear yn fynych,
YMWELIAD A CHYMRU-GLANIADY…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMWELIAD A CHYMRU-GLANIADY PARCH O. MORFAB JENKINS, B.D., AMERICA. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Caniatewch i mi ychydig ofod i alw sylw at laniad y brawd teilwog uchod yn Nghymru, i'r liwn y mae y newyddiaduron wedi dwyn tyetiolaethau nodedig o ffaf. iol yn barod. Er pan y gwelais ef a gwe idi Mrs Jv nkii.s yn Bangor, Wis., yn haf 1878, gwyliais ei synud adau gyda dyddordeb—o Ban-ror i'r athrofa dduwinyddol yn Chicago, lie y graddiodd mewn duw- inyddiaeth—ac yfl derbyn galwad oddiwrth eglwys Old Man's Creek, Iowa (un o'r eglwysi Cymreig goreu yn Man's Creek, Iowa (un o'r eglwysi Cymreig goreu yn America), byd yr adeg y rhoddodd yr eglwys hono i fyny, ae y deibyniold XGO o dysteb ganddi ar ei amlygiad o'i fwriad i ymweled a Chymra er mwyn ei iecbyd ef a'i deala. A phan ddealiais am y bwriad uchod, eiddunwn i mi fy hnn fwynhad neillduo] i gyfarfod eilwaith ag ef a'i deulu. G;aniodd Mr Jenkius yr wythnos ddiweddaf, ond heb yr anwyl C auJia—Mrs Jenkins wedi ei chladdu er's dros ddau fis yn ol; ac yn mhwy erioed y cafwyd cyfuniad gwell o hynawsedd, talent, a chywirdeb nag a geid yn y wraig dda hon P ond wedi myn'd. Ar ei laniad, cyfeiiiodd Mr Jenkins i Abcrpo th, ei hen gytnydogaeth. Y Sabboth cyn y diweddaf oedd ei Sabboth cyntaf yn Nghymru, pryd y cawsom y mwynhad arbenig o'i wrandaw yn pregethu yn Bryn- mair yn y prydnawn, ac y pregethodd hefyd gydag arddeiiad neillduol gyda'r cyfeilJion Methodistaidd yn Aberporth yn yr hwyr. Gwir dda genym gael croesawu brawd mor deilwnff, a gweinidog m< r ymroddgar a llwyddianus a Mr Jenkins i'r H n Wlad; ond I lawer gwell na hyny fyddai genym allu ei gadw i weinidogaethu yn sefydlog yn yr Hen Wiad, ac nid oes dadl na byddai yn gaffaeliad i unrhyw eglwys ei gael. Ond ofnwn nad rhwydd iawn y gellir ei berswadio i aros, gan fod eglwys Old Man's Creek wedi myiiu rhoddi galwad oilwaith iddo pan ar fin gadael am Gymru, a chaniatau iddo chwe' mis o holidays yn yr Hen WIad er adnewyddiad iechyd. Dymunaf iddo y llwyddiant penaf a'r derbyniad mwyaf croesawgar tra yn em plith. Os am gael ei wasanaeth, goheber a'i frawd-yn-nghyfraith, y Parch J. Jones, Machynlleth. Yr eiddoch, &c., W. PARI Huws. Beulah, Castellnewydd-Emlyn,
CURIOUS CASE OF AN INVALID.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CURIOUS CASE OF AN INVALID. A case which has excited some interest in Rbodes during the past week is that of a man named John Thompsom, of Church Street, who bas had a wonderful partial recovery of the use of his limbs by a medicine known as Hop Bitters. He formerly worked for Mr C. W. Briepley, at Rhodes House. About 13 years ago be strpined himself with lifting, but little notice was taken of the same at the time, but he gradually grew worse and became unable to feed, dress, or move himself in bed, becoming really helpless. He tried several doctors, and the Royal Infirmary three times, but was discharged incurable. He was in this helpless condition for 11 years. About ten weeks ago he was persuaded to t y Hop Bitters. During the first bottle,, to use his own words, he "felt a queer sensation all, over his body," and since then he has been improving j: he can now feed himself a little, put his arms at the top of his head, move his legs about, but is not yet, quite ab'e to stand. He can sit up in bed, or in a-, chair for five or six hours, or he can raise himself up.. On Monday be was taken out in a fruit cart belonging: to a person named Stevenson, and went as far as: Prestwich, and the difference between being in bed for so long a time and then outside was so great that be, could not describe his feelings. His change was so remarkable that many persons who had known him to> be bedfast so long, and had heard of his great change, but were sceptical about the truth of it, paid him a visit on Monday evening.—Middleton Albion, June 7, 1884. 4
IARHOLIAD ATHRAWON YSGOLION…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARHOLIAD ATHRAWON YSGOLION SABBOTHOL UNDEB DYFFRYN ELYROH. Cynaliwyd Cymanfa gan y tair ysgol a gyfansoddanft yr Undeb ucho :—Tabor, Maesyewmwr; Salem, Trelyn a Chalfaria, Bargoed-yn y lie diweddaf a nodwyd ar y Llungwyn diwaddaf. Yn nghyfarfod dau o'r gloch, aed trwy y gwaith o wobrwyo yr ymgeigwyr llwyddianus am certificates, pryd y darllenwyd y nodiadau a ganlyn gan yr arholydd, loan ab Dewi:— Mae yn dda genyf alia dwyn tystiolaeth ffafriol i'r ymdrech I -yddianas sydd wedi bod i ateb y gofyniadau. yn yr arholiad sydd wedi cymeryd lie yn mhlith yr ymgeiswyr a,m freintebau (certificates) yn trwyddedu; yr ymgeisydd i fod vn athraw yn yr Ysgol Sabbothol.. Yn sicr, fe )ydd i'r llafur sydd wedi ei ddangos a'i; brofi gan amryw o'r ymgeiswyr hyn i dalu yn dda iddynt yn y dyfodol, a bydd i ereill dderbyn lies. drwyddo pin osodir y gwyr hyn yn athrawon ar y gwahanol ddosbarthiadau yii yr Ysgol Sal. Nid ydynt. wedi cyrhaedd perffeithrwydd neb ohonynt, eto efallai y bydd yr ymiais hwn o'u heiddo yn gam yn yr iawnt gyfeiriad i dir enwogrwydd, ac na fydd iddynt fl;nOl nes cyrhaedd ei binacl. Yn y Dosbarth Cyntaf, lie y dysgir yr egwyddor yn unig, daeth 13 o'r ymgeiswyr i fyny &'n safon yn yr arholiad, sef D. R. Williams. D. J. Williams, Horatio, Ymgeisydd, Ymgeisydd (yr ail), Ymofynydd, Lewis Jones, Dysgybl, Moses, J. Brown, Cyfaillyr Ysgol, D. Evans, ac Un yn addaw gwell y tru nesaf. Mae Dysgybl, Horatio, D. J. Williams, J. Brown. D. R. Williams, ac Ym^eisyd I wedi gadaal allan y llafariaid perthynasol. Hefyd, mae yr orgraff yn lied wallus yn ami gan rai ohonynt, ond gan meii yr ymgais hon yw y gyntaf o'u heiddo, a'u bod oil wedi ateb y rhif gofynoli o'r gofyuion, barnwyf y dyllu eu trwyddedu oil k breinteb. Felly y bo. Dosbarth yr Ail, lie y dysgir sillebu a darllen.. Nifer yr ymgeiswvr yn y dosbarth hwn yw 9, ac y ma^nt oil wedi cyrhaedd y safon, ac wedi gwneuthur y marks, ac felly yn dei wng i dderbyn bob un ei freinteb. Mae Lewis Jones wedi methu ateb gotynin(i yr 8fed, ac yn cam siliebu yn ami. J. Bowen, Ym- ofynydd, ac Ymgeisydd heb roddi engreifftiau o bwyslais a goslef a'r gwahanol foddau. Dosbarth y Trydydd, yn yr hwn y darllenir yr Ysgrythyr Lan. Mae wyth ymgeisydd yn y dosbarth hwn, ac y maent oil yn dda a theilwng o certificate, sef J. Brown, Ymgeisydd, Ymgeisydd yr Ail, John Jones, Moses, Dysgybl, Cyfaill yr Ysgol, D. Evans, ac Un yn addaw gwell, &c. "Dosbarth y Pedwerydd (yr arolygydd), lie y gofynir am brawfion o Ddwyloldeb yr Ysgrythyr, gwahanol ystynon y gair cyfiawuhfd, gwahanol ffurfiau yr Eglwys o'r dechreuad, y tabernacl, &c., &c llywodr- aeth, ffurf, a threfn yr Eglwys Apostolaidd, &c. Chwech yw nifer ymgeiswyr y dosbarth hwn, ac y maent oil yn rhai tra theilwng. Moses yn helaeth a manwl, on i heb fod yn holiol drefnus a diwall; Cyfaill yr Ysgol yn lied drefnus, ond ddim yn fanwl; Dysgybl yn dre,nus a chwaethus; John Jones yn fanwl, helaeth, ac mewn diwyg dda; D. Evans yn helaeth a, manwl, a rhanau o'i papyr yn dda iawn, er ddim mar. drefnos ag ereill; Un yn addaw gwell, &c., yn fyr, cywir, a medrus. Y chwech hyn eto yn dra theilwng Ot. gael eu trwyddedu a breintebau. I Bargoed. IoiN AB DEWI,"
AT Y PARCH H. WILLIAMS, H.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT Y PARCH H. WILLIAMS, H. G., LLECHRYD. SYR,—Dymunwn arnoch gyhoeddi y bregeth a draddod.;soeh yn ngbyfarfod Bryngwenith. Os cyd- syniwch a'r cais hwn, gwnewch fawr foddloni eich cydgenedl. UN OEDD TN EICH GWBANDO.
ATHROFA DDUWINYDDOL CHICAGO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ATHROFA DDUWINYDDOL CHICAGO. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—OS oes yn Nghymru fyfvrwyr a fwriadant gael cwrs du < inyddol yn un o athrofeydd America, gallant gael y manteision g >reu yn yr athrofa uchod. Gallant gael catalogue, ond anfon atif yn cynwys yr holi fanylion. Gall myfyrwyr o amgylch- iadsu isel wneyd yn well yma nag yn athrofeydd ereiII y vvlad, am fod yn Chicago a'r cylehoedd gyni'er o gyfl-usderau i gyflenwi y mission churches a'r eglwysi gweigion. Mae myfyrwyr hyddysg yn yr iaith Saesoneg yn c^el cyma;nt o waith a ewyllysiant. Ac yn adeg gwyliau yr haf, ceir trwy superintendant yr Home Mission faesydd da i lafnrio ynddynt. Arbedir hwy felly rhag y gwaith annymunol o deithio trwy y talaethau. Mae sifon derbyniad i mewn yn debyg i Yale, Andover, Oberlin, &c. Yr eitldoch, &c, Aberporth, nnar Cardigan. O. M. JENKINS.
CAD AIR YR UNDEB AM 1885.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAD AIR YR UNDEB AM 1885. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Dyma Gyfarfodydd yr Undeb eleni eto wrth y drws, a'r rhan bwysicaf o'r gwa.th fydd ethol cadeirydd am y lfwyddyn ddyfodol. Hyd yn hyn, nid wyf wedi cael cymaint ag awrfrym pwy a ddygir i sylw. Mae yn ddealledig y rhaid iddo fod yn Ddeheuwr; ac erbyn edrych oddiamgylch, nid rhyw laweroleiddewiaoblithyr henafgwyr sydd genym, ac nid pob henafgwr ychwaith sydd wedi bod yn adnabyddus selog o blaid yr Undeb. Gwir mai y teilyiifjaf ddylai gael yr anrhydedd, ond nid y teilyngaf me.' n un peth, eithr y teilyngaf yn mhobpeth. Mae llyjjaid yr ysgrifenydd er's tro ar wr y credwyf yn ddiysyotf sydd wir deilwng wneuthur ohonom hyn iddo," a'r gwr hwnw yw yr hybarchol 0. Thomas, Beulah, swydd A berteifi, yr hwn erbyn hyn sydd wedi rhoddi ei otal gweinidogafthol o'i law, ac sydd hefyd yn atinabyddus trwy Gymru fel gweinidog ordeiniedJg er's yn agos i haner canrif. Hen wyliedydd fEyddlon ar y mur, ffyddlon i'w swydJ, ei waith, a'i Euwad-un o'r rhai ffyddlonaf felly mae yn ddiau. Ac yn sier hefyd, o ran oedian a pbarch, safle a dylanwad, talent a chymeriad, ffyddloudeb ae enwyddorion sydd yn arbenig deilwng o'r gadair am 1885. Gwir dda genyf pe byddai i'r awgryrniad hwn fod yn foddion i roddi sylw dylddwy i'r cwestiwn yn ddioed. Pwy ddywed air yn rohellach ar y pwnc ? Yr eiddoch yn ddiffuant, &c., CROFT.