Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
23 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
iftftl-'V DHYCH-l 897 ^cwyddiftrfnf CeoediaethoL CYEOEDDEDIG BUB DYDD IAL Vvti4 yn 44tave Liav. '4#rin t G-? rrsu, yn mlaen Haw yti idieltkriad 2-.oW 'N ON 'L/AE3FL SYSB Y81ADa (7 ar/i SHsiau Rhesym- sJ. Anfvne? ore* Hn Tderau ANFONEIi AiilAH MEWN POST OF vich ORDER, siffiti iSTEKED LETTKR NET siewn DRAFT AK NEW YORK, Taladyt? 5 3 PEBOHSNOG THOMAS J. tJRtFFITHSj ~-<rt ran offio*. cyrica, «b. v- fmenvn a? Gomisiwn. DAVii; « S» £ W13 k CO., m tSf 179 CHAMBERS ST., NEW YOB £ lRhwng Wasftiastos a Greenwich Sts.j Ymenyn Nswdil, Llüi wedi si Iladd, &c., ar $i-'é<rth ar Gomv^a, Akifonir arian mor luaa ig y gwertfeit £ Miiias. T>. W, JUE^I^ & -O. T\R. D. H. ROBERTS a ddyinuna b.ys bysu ei fod wedi symtid ei swyddfa i 226 GENESEE STREET, UT1CA, N. Y. [Uwcbben Store John O. Jones & Son.] Preswylfod-M5 Genesee St, JUST PUBLISHED-Four New Songs by EDWARD BROOKE. "MEADOW-SWEET" (Soprano or Tenor). 61c "DRIFTWOOD" (Mezzo-Soprano) W'c "RECONCILED" (Contralto or Baritone). 40c "SWEETHEART, GOOD NIGHT" (Baritone,— dedicated to and sung by Mr. Ffrangcon Davies, 68c Order from— „ D. O. F/VANS. Young?town, O. Or the Composer-EDWARD BTiO JME, Do iglas Church, Montreal, Canada. BUCKNELL UNIVERSITY JOHN HOWARD HARRIS, PRESIDENT. Comprises a College with four courses, lead- ing to degrees in Art, Philosophy and Science: Academe for Yonng fif e i and Boys: Ladies Institute, a refined boarding school: School of Music with graduating courses. For catalogue address- Wm. C. Gretzinger, Registrar, Iiewisburg.Pa. KEYSTONE ACADEMY, FACTORY VILLE, PA. A refined school for both sexes. Modern ecn. venienoies. Experienced teachers. Prepares for college, business and teaching. Graduates pupils in music. Twenty-ninth year will begin August 3i, 1897. For illustrated catalogues send to— „ REV. ELK ANA 3 HULLEY, A. M., Principal. GALE COL,LEGE GA.LESVILLE. WIS. Rev. G. James Jones, M. A., Ph. D" President. IN ITS; FORTIETH YEAR. ART in all its branches; Music, vocal, instru- mental, composition; NORMAL, embracing busi- ness, book-keeping, typewriting, short hand, teaching; THE ACADEMV, preparing for Gale or any other college, or giving a fair classisal edu- cation; THE COLLEGE off-rs four courses; THE POST GRADUATE DEPARTMENT offers four cour- ses in advanced work. For particulars in any branch of study write to the President. CCRnnftRIAFTH NPWVnn JESUS IS PASSING BY.I.J. Jones THE STRONGHOLD J. B. Lodwick NOTHING BUT LEAVES J. Rodgers Yr oil am 10 cent. Am 15c. mewn stamps an- fonir yr ben donau "Diadem," "Cragybar," "St, Garmon" a "Dinystr Newydd," gyda r darnau newyddion uchod, i unrhyw gyfeiriad. J. B. LODWICK, Youngstown, Ohio. .1Q IDrtcb^Coiumbia.
[No title]
Nid yn unig y mae y llywodraeth yn suddo i ddyled bob mis, ceir Ilawei-o ddinasoedd a threfi hefyd yn yr un cyf- lwr cyfyng, ac i'r dyben o gyfarfod a'u treuliau trethant eiddo am ei lawn werth, ac mewn rhai manau am hyd yn nod fwy na'i werth. Y mae deddf yn Ffrainc yn gwahardd
[No title]
gwerthu oleomargarine yn lie ymenyn. Gofynir i bob ymenyn i fod yn onest a didwyll, a chosbir pob ffurf ar dwyll. Dylai pob gwlad amddiffyn bwydydd ei phobl gyda gofal arbenig. Mae iechyd a chymeriad gwlad yn ymddibynu ar ei hymborth. Bydd yn ddyddorol i lawer fod y wni-
[No title]
yddes gyntaf wedi cyraedd Klondyke, a'i bod yn gwneyd ei ffortiwn yn rhwydd. Ei henw yw Mrs. Chester C. Adams o Winlock, Wash., ac mewn 30 o oriau gwnaeth $90 drwy wnio. Der- bynia $5 am y wisg fwyaf cyffredin, ac o $10 i $15 am y gynau mwyaf diaddurn. Telir hi mewn talpiau o aur. Yn y "Catholic World" am Awst ed-
[No title]
rycha offeiriad Pabyddol gyda difrifwch anghyffredin ar bwnc colledigaeth plant anfedyddiedig. Dywed fod 700,000 o blant yn America yn marw yn flynyddol, o'r rhai nid oes ond 200,000 yn fedyddiedig. Yn ol yr offeiriad hwn y mae tua haner miliwn yn flynyddol yn suddo i golled- igaeth o ryw fath. Nid yw yn hysbysu pa fath gyflwr na pha beth a olygir wrth y golledigaeth y cyfeiria ati. Yn Itaji nid oes cosb angeuol am lof-
[No title]
ruddiaeth. Mae llawer o ddynion yn coelio mai cosbi sydd yn peri troseddu, a phe y dileid cosb yn gyfangwbl y dif- lanai drwg o'r byd. Yn ddiweddar rhyddhawyd llofrudd o'r carchar a dych- welodd i'w gartref yn Potenza, ac mewn ymrafael trywanodd el wraig, ei fam yn nghyfraith, ei chwaer yn nghyfraith, ei nain a chyfnither, a phedwar o'r cym- ydogion. Buasai ei grogi wedi rhwystro yr oil. Mae deddf newydd y tariff yn drymach
[No title]
a manylach ar gefnau ymwelwyr a dychwelwyr o'r Hen Wlad nag un Wil- son. Caniateir gwerth $100 ac yna treth- ir y gweddill. Dywedir hefyd y def- nyddir- y eroes-belydrau i ddadguddio twyll a hoced y teithwyr. Bu Esgol) Potter o New York ar ymweliad a'r Hen WIad yn ddiweddar, a bu eyfeillion yn Ysgotland mor garedig a'i anrhegu a dwy gistanaid o chwisci Ysgotaidd i'w gysuro ar y ffordd. Wedi cyraedd yr hafan gorfu iddo dalu $40 o doll! Mewn erthygl yn y "Railroad Gazette"
[No title]
rhoddir rhai ffigyrau a ffeithiau dyddor- ol. Dengys y cyfrifon hyn gynydd mawr mewn rheilffyrdd o 1891 hyd 1895. Yn 1891 yr oedd 395,143 o filldiroedd o reilffyrdd yn y byd, yr hyn oedd yn 1895 wedi cynyddu i 433,953. Felly adeilad- wyd 38,810 o filldiroedd mewn pedair blynedd Yn 1895 yr oedd yn Ewrop 155,284 o filldiroedd; Asia, 26,890; Af- rica, 8,1.1; America, 229,722, ac Aws- tralia, 13,888 o filldiroedd. Dengys y fSgyrau uchod fod mwy o nIMiroedd o reilffvrdd yn America na'r holl fyd. Yn y Drefnewydd y dydd o'r blaen
[No title]
traddododd H. M. Stanley araeth ar Aff- rica. ac y mae cynydd yr Ymerodraeth Brydeinig ar y eyfandir hwnw yn ddydd- orol iawn. Un peth od yn nglyn a'r ar- aeth oedd y ffordd y siaradai Mr. Stan- ley, fel pe bae efe yn un o'r rhai sydd yn rhedeg yr ymerodraeth. Yn ystod y tair blynedd ar ddeg diweddaf "yr yd- ym ni," ebe efe, "wedi ychwanegu 1,860,- 000 o filldiroedd ysgwar at yr eiddo Prydeinig yn Affrica." "Ein dyled- swydd." ebe efe, "yw cadw dyeithriaid rhag troseddu ar ein tiriogaethau yn Affrica." Beiai a chondemniai Mr. Glad- stone am nad oedd yn ystyried mai eiddo Prydain Fawr a Mr. Stanley vw pob rhan o'r cyfandir. Yn ystod gwein- yddiaeth onest Gladstone y daeth y Ger- maniaid a chenedloedd' eraill i mewn gan ladrata eiddo Shon Darw a H. M. Stanley! Y mae golygiadau rhyfedd gan rai dynion am eiddo a meddianau!
OWEIKYDDIA ETII LAFURF. IWR.
OWEIKYDDIA ETII LAFURF. IWR. Ymddengys fod giau o wifrau gan weinyddiaeth McKinTey..Y perygl vw iddi wneyc1 gormod. Ni orphwysodd cyn pa?io tariff Dingley. Eto yr hysbysir fod dwy ddirprwyaeth yn ym-gymeryd a'r'ddwy anturiaeth fwyaf y clywyd son am danynt erioed ar gyfandir America, neu ar unrhyw gyfandir arall, sef adeil- adu camlas o for i for yn Nicaragua, a chamlas arall o'r llynoedd i for y Wer- ydd. Ni fydd y Talaethau yn foddJon hyd y cyflewnir rhyw wrhydri o'r fath. Byddai y ddwy anturiaeth yn elw mawr, ac yn gyfleusdra braf i wledydd y ddae- ar. Rhoddwyd yr awdurdod eisoes i'r Arlywydd i enwi dirprwyaeth i ymuno a chynrychiolwyr Canada i gydweithio er dyfeisio moddion i gwblhau gwaith mor glodfawr a daionus a'r olaf. Penodir y dirprwywyr yn fuan, a bwriedir i'r ddwy blaid o gynrychiolwyr gyfarfod a'u gil- ydd y gauaf nesaf gyda'r dyben o gyt- uno a chydweled mewn perthynas a ffordd ryngwladwriaethol i gychwyn a rl'1"r"II -& 1"11"1.
PTVNC YR ARIAN.
PTVNC YR ARIAN. Parhau i ostwng y mae arian, ac nis gwyr neb pa mor isel yr a. Nid yn unig y mae yn siomi ei gyfeillion mynwesol a'i gefnogwyr mwyaf pybyr, eithr y mae yn syhu pawb, hyd yn nod ei elynion, sef gwyr yr aur. Nis gellir priodoli ei dynged iddynt hwy, ychwaith, oblegid nid oes eisieu, gellid meddwl, idd- ynt ymyraeth o gwbl, gan fod rhag- luniaeth fel pe wedi cymeryd meddiant o'r ymhonwr. Nis gellir ei briodoli i India, oblegid defnyddiodd y wlad hono yn agos i ddau gymaint o arian y flwyddyn hon ag a wnaeth y flwyddyn ddiweddaf. Bathodd ein llywodraeth ninau y flwyddyn ddiweddaf $21,000,000. Yr unig esboniad ellir roi yw fod arian fel pob nwydd masnachol arall, yn myn- ed yn rhad o herwydd ei or-gyflawnder. Gan fod y cynyrch yn ormodol rhaid yw i'w bris ddisgyn. Y mae mwyhad y cynyrch yn lleihad yn ei werth. Prawf yr amgylchiadau hyn y tu hwnt i bob ameuaeth a dadl mai anmhosibl yw i'r llywodraeth roddi gwerth ffugiol ar arian er mwyn boddloni plaid. Y cyfartaledd yn bresenol yw 37 i 1. Yn ol yr adroddiadau, gwelir fod masnach yn Mexico yn dyoddef yn arw o her- wydd iselder gwerth yr arian. Niweidir y llywodraeth Mexicanaidd hefyd yn fawr gan fod ei derbyniadau yn arian a'i thaliadau yn aur. Pa fasnachwr yn ei bwyll sydd yn myned i gymeryd gwerth 40c. yn lied$1 yn dal am nwyddau?
----RHYDDID BARN
RHYDDID BARN Y peth hawddaf yn y byd yw ymffrost- io yn y peth hwn a'r peth arall, ond gwaith anhawdd yw dwyn hyny i weith- rediad. Pe y chwilid gweithredoedd pobl y Talaethau Unedig ceid o hyd i lawer o bethau hollol anghyson a'n heg- wyddorion proffesedig. Maent yn llu- osog ac yn amlwg. Ymddengys di- swyddiad y Llywydd Andrews o Brifys- gol Brown fel gweithred daigon anghyf- iawn. Creda Andrews mewn rhyddfath- iad, ond nid oedd wedi cymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus politic- aidd, nac wedi dadgan ei olygiadau yn v newyddiaduron nac yn addysgu ei gred i neb yn ol arfer penboethiaid. Coledda hi fel cred bersonol ac y mae gan ddyn berffaith hawl i wneyd hyny. Ond yr oedd ei drosedd yn ddigon i dram- gwyddo ymyrwyr gorthrymus, ac i'r dyben o gael cyfle ac achlysur i'w ddy- fetha fel llywydd, ysgrifenodd rhywrai ato yn gyfrinachol i ymofyn yn nghyloh ei olygiadau ar arian; ac wedi cael ei farn yn. ddirgelaidd cyhoeddwyd yr oil yn fradychus. Yr oedd ymddygiad An- drews yn anrhydeddus o'i gydmaru ag eiddo ei wrthwynebwyr, ond ymddengys mai yehydig o anrhydedd sydd yn llyw- odraethu rai pobl. Pe y cyhoeddasai ei olygiadau neu y dadleuasai arian yn gy- hoeddus yn ol arfer y politicians buasai rhyw sail i'r weithred, ond ymddengys, o dan yr amgylchiadau, yn anghyfiawn- der digymysg.
---.-TLAWD A BALCH.
TLAWD A BALCH. Gellir yn briodol iawn y dyddiau hyn ddesgrifio cyflwr gresynus Ysbaen a'r tri gair syml uchod, sef tlawd a balch. Yn sicr y mae y wlad mewn cyfyngder mawr, a dengys yr ynfydrwydd yw rhyf- ela yn erbyn trefn rhagluniaeth. Dyl- asai Ysbaen fod wedi rhyddhau Cuba cyn hyn neu ei gwerthu am ychydig neu ddim. Yr unig reswm na wnaeth hyny yw am ei bod yn wlad falch, hunanol, yn cael ei rheoli gan ysbryd trahaus a chwyddfrydig. Y mae yn byw gan mwy- af ar adgofion o'i hen fawredd pan oedd y wlad flaenaf yn y byd. Er colli yn agos ei holl etifeddiaeth, eto y mae yr hen ysbryd yn fyw. Mwy na thebyg fod Cuba yn myned i wastadau ffug- urddas a gwag-ysbryd yr hen deyrnas goeg-grediniol a chwil-lysol. Ei hamcan hi yn awr yw gorchfygu Cuba, drwy deg neu anheg, ac felly cynal i fyny yr ych- ydig glod sydd yn aros yn ei meddiant; ond y mae wedi costio yn ddrud ofnad- wy iddi eisoes. Amcan-gyfrifir y draul o ryfela a'r ynys yn$75,000,000 yn flyn- yddol, sef haner holl dderbyniadau Ys- baen. Y mae y llog ar ddyled y llywod- raeth, yn nghyd a swm blynyddol treul- iau y rhyfel yn Cuba yn unig yn llyncu yr holl dderbyniadau. Heblaw y draul mewn arian tybir fod rhai canoedd o filoedd wedi colli eu bywydau oddiar gychwyniad yr ymrafael. Y mae yn am- lwg fod Ysbaen wedi methu yn ei ham- can; ac ymddengys y dyddtau hyn fel pe bai y gwrthryfelwyr yn cael y trech- af arni. Y mae rhagluniaeth a Cuba gyda'u gilydd yn sicr o orchfygu.
Y FASNACH ALCAN.
Y FASNACH ALCAN. Ymddengys fod alcan America wedi cychwyn ar ei yrfa fuddugoliaethus. Nid yn unig y mae eisoes yn gyru pob cys- tadleuaeth allan o'r Talaethau eithr y mae wedi dechreu anturio i feusydd tramorol. Yr oedd allforiad alcan o weithfeydd Elwood, Ind., yr wythnos ddiweddaf yn ddechreuad cystadleuaeth a gwledydd eraill yn Itali; a'r dysgwyl- iad yw y bydd alcan America yn alluog i ddal ei ben i fyny hyd yn nod mewn cystadleuaeth a llafur rhad cydymgeis- wyr tramorol. Dywedir y byddys yn all- uog cyn bo hir i gynyrchu alcan yn y wlad hon yn rhatach nag yn Nghymru. Y mae diwydiant yr alcan o dan aden diffyn-dollaeth wedi tyfu mewn pum mlynedd o faban i fod yn gawr mawr. Dywedodd McKinley yn 1892 y buasai y diwydiant hwn yn cynyddu nes gyru 'cystadleuaeth estronol allan o'r wlad; ac y mae hyny erbyn heddyw yn wir, a'i obeithion mwyaf dysslaer yn cael eu syivveauoii. Teimla y weithfa yn Elwood, Ind., yn falch mai hi yw y gyntaf i allforio alcan i wlad estronol. Sefydlwyd y gwaith cyntaf yn Indiana yn Elwood, Gorphen- af, 1892. Ffurfiwyd y cwmni gyda stoc o $180,000. Agorwyd y weithfa Medi 13, 1892, gan William McKinley, gydag arddangosiad mawr a brwdfrydig. Cyn- yrcha 16,000 o flychau yr wythnos, a thel- ir allan yn gyflogau bob mis y cyfanswm mawr o $60,000. Wedi yr ychwanegiad- au a'r gwelliantau yn Medi nesaf cyflog- ir 2,200.
TAW PI A HI.
TAW PI A HI. Y mae hen eiriau sydd yn ffrwyth profiad cenedlaethau yn anghyfnewidiol yn eu doethineb, ac annichonadwy o'r braidd yw gwella ar y gwersi a roddant. Y mae y difoes a'r gwreng fel rheol yn safn-agored, ac nid ydyw yn rhoddi bri ar ddirgelwch a chyfrinach. Nid yw moeseg na theimlad cymdeithas yn dys- gwyl dim amgenach oddiwrth ddynion cyffredin ac ansylweddol; ond fel y byddo cymeriadau yn ymddyrchafu mewn diwylliant ac yn llenwi swyddau pwysig a chyfrifol y mae tawedogrwydd yn hanfodol angenrheidiol: Medr yr an- nuwiol mewn cwmni o annuwiolion agor ei enau a gwneyd mynwes lan o'i fedd- yliau a'i fwriadau anghaboledig ac an- foesgar heb dramgwyddo nemawr ddim; eithr mewn cymdeithas o bersonau di- wylliedig dysgwylir rhagorach ymddyg- iad ac amgenach ymadrodd. Mewn dyn canol rhwng pleidiau gofynir gofal a doethineb, ac yn enwedig tafod tewi; ac yn sicr mewn swyddog yn cynrychioli gwlad fel America, gwell yw dyn sydd yn siarad llawer yn ei galon, yn hytrach na dyn yn dadgan ei farn a'i olygiadau yn rhydd a diofal o'r canlyniadau. Ymddengys nad yw Mr. Sherman wedi dysgu moes-ddysg llysoedd, ac nad yw yn sylweddoli fod gan wledydd deimlad fel sydd gan bersonau. Nid yw efe yn gweled dim o le mewn siarad a Lloegr ar draws y llyn yn ngwydd y byd ac yn nghlyw pawb yn lie trosglwyddo ei gen- adwri a'i dadleuon yn gyfrinachol. Nid gweddus yw i ddwy ddynes ar draws y ffordd neu yn nghyhoeddusrwydd ys- tryd-gar drin eu pethau dirgelaidd yn nghlyw pawb; ond ymddengys fod John Sherman yn ei weled yn eithaf priodol i ddweyd ei drafodaeth a Lloegr ar-gong- lau y byd, ac yngan ei farn am Ysbaen yn ddigel. Oni ddylid cosbi newyddiad- uron am hudo gweision y llywodraeth i siarad ar bynciau ryngwladwriaethol? Ac onid yw dyn yn ddiofal i ddweyd ei feddwl wrth safn agored newyddiadur- aeth? Diaelodir y wlad hon o gym- deithas gwledydd y byd yn fuan oddi- gerth iddi ddysgu bod yn fwy cymen a moesga-r, a siarad yn fwy parchus a bon- eddigesaidd am ei eh wiorydd.
Y GYMRAEG YN EI IIOL.
Y GYMRAEG YN EI IIOL. Arwyddocaol iawn oedd cyfaddefiad y "Western Mail" y dydd o'r blaen pan yn dweyd y byddai yn rhaid iddo ddyfod allan yn y Gymraeg ar fyr. Ymddengys yn obeithlawn a llewyrchus ar yr hen iaith pan y mae trigolion dinas fel Caer- dydd yn galw am Gymraeg. Ar gynyg- iad y Parch. J. M. Jones yn ddiweddar anfonodd Bwrdd Ysgol Caerdydd at holl benau teuluoedd y ddinas yn cyflwyno yr ymofyniad syml a ganlyn: "A fyn- wch chwi Gymraeg yn yr ysgolion?" Y canlyniad fu i dri o bob pedwar ateb yn gadarnhaol. Nid yw yr atebion yn gyff- redinol, ond yn ol cynifer a ddychwel- wyd saif y dewisiad fel y canlyn: Am Gymraeg, 4,678;yn yn erbyn, 1,093. Er mor anmherffaith yw y cyfrifon hyn a ddaethant i law profant fod gob- aith da am adfywiad y Gymraeg, ac y mae yn sicr o fyw eto am genedlaethau ond i'w phlant ei chynorthwyo i fyw. Nid yw dweyd "Oes y byd i'r iaith Gym- raeg" yn ddigon, rhaid yw rhoddi rhyw- beth iddi fyw arno. Ymborth y Gym- raeg yw ei siarad. Rhagrith yw proff- esu ei hanwylo, a siarad dim ond Seis- naeg. Bydded hysbys i bob Cymro a Chymraes nad yw yn ddianrhydedd siar- ad Cymraeg. Siaradodd tywysogion a thywysogesau Gymraeg cyn hyn; a hyf- rydweh yw deall fod pendefigion fel Mar- quis Bute, Arglwydd Aberdar, &c., &c., a'r cyfryw yn rhoddi bri arni. Ei phlant ei hun sydd yn ei cliraddio a'i dir- mygu. Cymry digon anurddasol ac an- llythyrenog yw y rhai sydd yn ei bych- anu. Coder hi i fri eto, parcher hi fel y peth agosaf i fywyd y genedl Gymreig, ac ymdreched pob Cymro a Chymraes i'w gwneyd yn glasurol. Rhodres, murs- endod, ac anwybodaeth sydd yn peri i feibion a merched Cymru ddiystyru yr hen iaith.
BWRDD Y TYWYDD .ci'R PECIIOD…
BWRDD Y TYWYDD .ci'R PECIIOD GWREIDDIOL. Dywed hysbysiad o Washington fod gweision Bwrdd y Tywydd wedi troi eu hymenyddiau i chwilio i mewn i berth- ynas y tywydd a drygioni. Coeliant fod rhyw gyfathrach anweledig rhwng yr' hin a rhinwedd. Gellir dysgwyl yn fuan yn lie "gwlaw" a "theg" ar ein hin- wydrau, weled yno "ddrwg a "da," a gall y wraig ddysgwyl pryd y daw yr hen ddyn adref yn feddw oddiwrth gyf- lwr y gwydr! Dywedir fod un o'r swyddogion yn broffwyd tywydd ac yn physigwr rhagorol, ac y mae y gwaith o ddarganfod y gwir wedi ei. ymddiried iddo ef. Y mae dynion drwg yn dysgwyl yn barhaus am gyfleusderau i ymesgus- odi, a bydd dyfod o hyd i'r ffaith fod troseddiadau yn gynyrchion hinsoddau drwg yn gymorth i esmwytho ffordd galed y troseddwr. Nid ydym yn hoffi priodoli dim i'r diafol yn ddiachos, ond J- "00 (5c.ndd:o of j-1'1. bor sonol law mewn cynlluniau o'r fath. Ni ddaw yr "arian byw" byth i ddynoethi drwg, ac yn sicr ni fydd cysondeb a chydwelediad byth rhwng y Weather Bureau a'r Pechod Gwreiddiol! Oni wneir ymgeisiadau yr oes wyddonol hon i gyfiawnhau, neu o leiaf i esgus- odi, dynion am eu pechodau? Coelia rhai mai anhwylder yw pechod, ac mai i'r cyfferdy yn hytrach nag i'r carchar- dy y dylid anfon y dyhiryn sydd wedi lladd ei gymydog neu wedi lladrata ei eiddo. Dyma chwaer ymgais eto, sef ceisio rhoi y bai am gamwedd dyn ar annymunoldeb y tywydd! Oni wneir pob ymdrech i gael trefn rhagluniaeth yn hytrach na direidi dyn yn gyfrifol am ddrwg y byd. Dylai annuwiolion y byd gefnogi Bwrdd y Tywydd hyd yr eithaf yn ei ymdrech i roddi cyfrif am- aethyddol am gnydau pechod yn y byd.
UN 0 DDRYGAU Y NEWYDDIADUR
UN 0 DDRYGAU Y NEWYDDIADUR Tebyg i'r darllenydd sylwi lawer gwaith ar sylwadau canmoliaethol i bethau disyiwedd a diwerth mewn ne- wyddiaduron heb feddwl am fynyd beth sydd wrth wraidd hyny. Nis gellir am- gyffred pa faint o niwed a wneir gan sylwadau o'r fath. Nid hysbysiadau yd- ynt—o leiaf ni ymddangosasant ar ffurf a llun hysbysiad. Tebyg eu bod o ddech- reuad hysbysiadol, ac wedi eu cychwyn yn iawn teithiant yr holl newyddiadur- on gyda'u cenadwri lechwraidd. Rhodd- wn un neu ddwy o engreifftiau. Pan y byddo cryn salwch yn y wlad, neu dwymyn neu haint yn ffynu mewn rhan- au o honi, ymddengys sylwadau mewn- newyddiadur megys o enau neu oddiar ysgrifell rhyw feddyg nodedig (ond ni enwir neb, gan fod hyny yn ychwanegu at bwysigrwydd y cyngor) fod tybaco yn angeu i'r milionos, yr hadau sydd yn cynyrchu y clefyd, a rhoddir ystadegau yn dangos fod y geri yn fwy tueddol i afaelu yn y rhai na sydd yn ysmygu na chnoi! Nid oes eisiau llygad i weled mai gwneuthurwr tybaco gychwynodd y peth er lies i'w fusnes. Pwy na welodd hefyd y sylw gwerth- fawr, sef yr ystyrir lemon y tonic goreu! Fod gwydraid o ftdwfr a sudd y lemon -wrth ymneillduo i orphwys yn rhagori mewn gwirionedd, ar quinine! Ac yna y ceir cleifion yn llenwi eu cylla a diod sur a digon o honi, i andwyo eu giau a gwenwyno eu gwaed am fiynyddoedd. Yn amser ofn y geri fiynyddau yn ol honid fod ei hadau yn trengu mewn sudd tybaco, a'i fod yn annichonadwy iddynt fyw yn nghyfansoddiad dyn yn arfer ysmygu a chnoi. Mynych y gwelir alcohol yn ei wa- hanol ffurfiau yn cael ei gymeradwyo fel meddyginiaeth 'anffaeledig at lawer o glefydau cyndyn, ac yn rhywfodd ed- ryc-hir yn ffafriol iawn ar honiadau am y gwirf. Twyllir miloedd gan y gwirf, ond ni siomir neb. Fel rheol gyffredin, coelir pob sylw bach cyfrwys sydd yn dadleu daioni llymaid o chwisci neu wydriad o ddiod. Gosodir pethau o'r fath yn y newyddiaduron gan fasnach- wyr sydd yn gwerthu chwisci a diod. Gwelsom yn ddiweddar y sylw fod "bac- illi" yn amlhau yn gyflym mewn dwfr, ond eu bod yn llewygu yn arogl chwisci!
CLADDFA Y BEIRDD.
CLADDFA Y BEIRDD. Yn seremoni yr Eisteddfod yn Ffestin- iog dywedir ar gynygiad o eiddo Wat- cyn Wyn i benderfyniad gael ei basio yn cymeradwyo ac awdurdodi rhywrai yn rhywle yn rhywfodd i brynu claddfa yn Nghymru i'r beirdd "yh unig." Aw- gryma hyn lawer o feddylddrychau dig- rifol. Bydd yn gladdfa ofnadwy o fawr os y bwriedir claddu pob bardd Cymreig ynddi. Y cynllun goreu fyddai prynu un o'r gwastadeddau yn y wlad hon. I'r dyben o gyfiawni y gwaith yn iawn yn ol amcan gwreiddiol y cynygiad dylid sefydlu Bwrdd Arholwyr i roddi allan dystysgrifau i feirdd sydd yn ymgeis- wyr am feddau. A fydd caniatad i feirdd America gael lie i orwedd ynddi yn ddychmygol, fel tase? Gan nad yw barddoniaeth yn ddim amgen na dych- ymyg, ai nid gwell (yn ei berthynas a beirdd America, gan y bydd y ffordd yn mhell a'r amser yn rhy dlawd i dalu treuliau claddu pob bardd a farwo) fyddai cael caniatad ac awdurdodiad yr "Arch"-dderwydd (fel y "pryf" under- taker) i wneyd eirch i gladdu eu "gweddillion meddyliol," yn lie eu "gweddillion marwol," a chyfrif y cladd- edigaeth yn gyflawniad o ddyben goreu y mudiad newydd. Ni ddywedir sut y bwriedir rhanu y fonwent i wahanol fathau a graddau o feirdd. A fydd yno dir cysegredig i blant Dafydd Ap Ed- mwnt? A fydd yno "oehr" o gwbl i gaethfeistri yr awen? A roddir rhyw farciau i wahaniaethu rhwng beddau yr awdlwyr a'r pryddestwyr? A gleddir y beirdd yn ol eu safle mewn cymdeithas neu ynte yn ol eu barn hwy am danynt eu hunain? A gleddir hwy yn eu heis- tedd o barch i'r Eisteddfod neu ar eu gorwedd fel dyfarniad mai angeu ddaeth allan yn fuddugol yn y "pryf" gystad- leuaeth? Fel ymofyniad ol-ysgrifol, ai nid gwell fyddai peidio coffau marwolaeth y beirdd "anfarwol," gan y byddai hyny yn rhyw fath o gyfaddefiad o'u marwol- deb. A fwriedir tori beddau cadeiriol i'r beirdd penaf (sef y beirdd a'r pen- au) ? A fwriedir adeiladu beddau i'r eyfryw at eu dodrefnu a chadeiriau buddugol fel y gallont yn y eymeriad o feirdd "anfarwol" ddwyn eu gwaith yn- mlaen a chynal ambell i Eisteddfod "dragywyddol" tra fydd plant man awen yn cysgu eu hun(ain) allan!
AMSRTGANWRT,
AMSRTGANWRT, Feallai fod yr enw uchod yn ddyeithr i'r darllenydd, eto nid anhysbys yw yr anhwylder y golygwn iddo fynegu. Yr ydym fel rheol gyffredin yn ymdrechu ysgoi clefydau ac anhwylderau o bob math, a'u hysgoi a ddylid; ond y mae yn ddichonadwy i glefyd fyned mor gyffredinol o genedlaethol fel y cyfrifir dyn yn od os na fydd yn sal fel eraill, ac yn gaeth i'r un pla. Nid oes dim yn amlycach yn nghymer- iad yr Americanwr na'r awydd "myn'd" sydd ynddo yn barhaus-y "gyru" tra- gywyddol yma—sydd yn ganlyniad ach- osion amrywiol. Y peth tebycaf Mdo yw dawns Saint Gwyd. Yn y naill an- hwylder fel y llall fedr y claf ddim bod yn Ilonydd. Peth nodweddiadol arall yw y darbwyllir dynion i goelio mai rhinwedd yw ac nid ffaeledd. Danodir i genedloedd eraill yn ami eu harafweh a'u pwyll, ae ystyrir ein rhuthr ni fel peth canmoladwy iawn. Y mae diareb- ion, athroniaeth, doethineb naturiol a gwyddonol yn profi i ni fod brys a rhuthr o bob math yn y diwedd yn feth- iant ac andwyaeth. Y cenedloedd arafaf a mwyaf eu pwyll sydd i barhau hwyaf, oblegid y mae cymedroldeb yn rheol nas gall na gwerin-lywodraeth nac unrhyw anturiaeth arall ei newid. Y mae natur yn ddigyfnewid ac nis gellir datgan an- nibyniaeth oddiwrthi hi. Y mae natur yn rheoli plant dynion o dan bob ffiirf- lywodraeth. Y mae yr Americanwst, er yn anhwyl- der gwerinol, eto yn anghyson a, ac yn anghyfiawn tuag at hawliau y werin, ac yn anhwylder sydd yn myned i ddrygu y bobl. Pe buasai y "myn'd" diorphwys -yr ymffwdanu diflino yma-yn gweith- io yn ffafr lies cyffredinol gallesid dys- gwyl bendith oddiwrtho, a buasai felly yn werinol; ond y ffaith yw ei fod yn hollol hunanol, yn bersonol, ac felly yn wrthwynebol i amcanion gwerin-lywod- raeth. Ond y mae ystyriaeth ddifrifol arall yn codi o hyn, sef gan fod gorlafur a gor-bryder yn arwain i ddadfeiliad a pharlysiad yn y corff unigol, oni ellir dysgwyl i dynged gyffelyb ddisgyn ar genedl? Gwna cicaion a llysiau o'r fath gynydd mawr mewn amser byr, ond nis gellir eu cymharu, serch hyny, a'r dderwen araf ei thyfiant. Y mae cynydd y Talaethau yn rhyfeddol; nis gellir gwadu hyny, ond ai nid yw hyny yn awgrymu y gallant wywo yr un mor gyflym oddigerth iddynt fabwysiadu mwy o arafwch a phwyll? Y mae lie i ofni ein bod fel pobl yn esgeuluso eg- wyddorion pwysig ac yn coelio ein bod yn eithriad yn llywodraeth Duw.
[No title]
Cyfartaledd toll yn ol mesur Wilson oedd 40.10 y cant-yn ol cyfraith Ding- ley, Sefy bresenol, 54.16 y cant. A
INOIHON lTKRSONOt
NOIHON lTKRSONOt Gwelir mewn coiofn arall englynion gyflwynwyd i ni gan Cilcenin, wedi ea cyfansoddi gan y Parch. J. P. Harries, (Ieuan Ddu,) Nanticoke, Pa., yr hwn sydd yn awr tua 80 mlwydd oed. Mae y Parch. Owen Jenkins o Char- don, Ohio, yn treulio ei vacation yn Plainfield, Otsego, Co., N. Y., lie y dech- reuodd bregethu. Da oedd genym ei weled yn edrych mor rhagorol. Mae Aneurin Fardd wedi dychwelyd adref ar ol cael cryn adgyfnerthiad i'w iechyd tra yn aros yn nghylchoedd Scranton. Ei gyfeiriad o hyn allan fydd 211 Macon St., Brooklyn, N. Y. Dyma yw ei brofiad: Mae Scranton yn mysg yr Hwntwys,- ynlle Llawen iawn i orphwys: A phlant- Cymruii Uu llwys, yn anrhydedd De a Gogledd i fyd ac eglwys. Dydd Llun, Awst 2il, bu farw William Jones, un o sefydlwyr hynaf Oak Hill, 0., yn 88 mlwydd oed, gan adael tair, merch, Miss Margaret a Mrs. Alban Al- ban, Oak Hill, a Mrs. William Isaacs o Sir Gallia. Dydd Sadwrn, y 7fed, o anwyldeb y galon, bu farw J. H. Davies o Vene- docia, 0., yn nhy ei dad-yn-nghyfraith, John Alban, Madison, gan adael gweddw ieuanc a baban i alaru ar ei ol. Lladdwyd un Edward Parry o Kinney- town, Plwyf Plains, Pa., trwy daniad er- gyd yn nglofa Keystone. Yr oedd yn 27 oed, a chanddo wraig a thri o blant. Englyn G. Cadle ar ymadawiad Mor- gan M. Williams, Taylor, Pa., am Gym- ru: Duw fo'n dwr uwoh dyfnderau—eigion i Morgan M., was goIau: A« yi- N-dd fro'i dadau, O'i holl ing wua'i lwyr wellhau. Ar y 3ydd cyfisol, yn nhy ei gyfaill, y Parch. John Hughes, (Gian Ystwyth), Lerpwl, bu farw y Parch. Henry Pritch- ard, Ystalyfera, cyn-ysgrifenydd Tal- aeth Ddeheuol y Wesleyaid yn Neheudir Cymru. Ganwyd ef yn Llansantffraid, Glan Conwy, 54 mlynedd yn ol. Yn nghynadledd ddiweddar y Wesley- aid Prydeinig cymeradwyodd y pwyllgor cenadol benodiad y Parch. John Evans, Eglwysbach, yn efengylwr dros holl Gymru yn 1898. Ymddengys fod gwaith y genadaeth yn y Deheubarth wedi cael ei gyfyngu yn fawr o herwydd gwaeledd Mr. Evans. Yn ei absenoldeb rhoddodd y gweinidogion lleol lawer o gynorthwy gyda'r gwasanaeth yn Town Hall, Pont- ypridd. Cadwyd y cynulleidfaoedd i fyny yn lied dda, a pharhaodd yr aelodau yn ffyddlawn. Rhif presenol yr aelodau yw 249, gyda 41 ar brawf, yr hyn a ddengys gynydd o tua 40. Yn ystod y flwyddyn collwyd y Parch. H. P. Mor- gan, yr hwn sydd wedi cael ei benodi yn weinidog ar eglwys Wesleyaidd Wilkes- barre, Pa. Gwleddoedd Cerddorol.—Nos Sadwrn, y 7fed cyfisol, yn Winona Park, Eagle Lake, Ind., dan nawdd y "Winona As- sembly and Summer School," datgan- wyd y gantawd "The National Flower," gan dros 75 o blant, dan arweiniad Proff. William Miles, yr hwn sydd yn gyflog- edig yno am y tymor; a'r nos Fercher canlynol rhoddwyd perfformiad peni- gamp o'r "Messiah," (Handel) dan ar- weiniad Proff. Miles. Canwyd yr un- awdau gan Genevra Johnson Bishop, (sop) o Chicago, Miss Edith Yarnelle (contralto) o Fort Wayne;, Gwilym Miles (bar.,) o New York, a David Davis (tenor.) o Cincinnati, Pittston, Pa., Awst 7.—Derbyniodd teulu Henry Roberts o Oregon, lythyr yn hysbysu ei fod ef ar gychwyn i aur- gloddiau y Klondyke, Alaska. Yr oedd ef a dyn arall yn ngwasanaeth cwmni o Providence, R. I., a chynygiodd y cwmni $1000 i bob un o honynt at eu treuliau ar yr amod, os byddent yn llwyddianus, fod yr elw yn cael ei ranu. Youngstown, 0., Awst 12.—Bu y Parch. J. L .Davies, Akron, 0., yn llanw pwlpud y Plymouth Church am rai Sabbothau yn ddiweddar. Un o'r dyn- ion mwyaf prysur yn y ddinas yw yr ynad poblogaidd Dafydd y Gareg Wen. Yn ychwanegol at gyflawni ei ddyled- swyddau fel Justice of the Peace gwas- anaetha fel trengholydd (coroner) y sir ac yn herwydd yr ami ddamweiniau trwy foddi ac ar y rheilffyrdd, y mae llawer o waith yn nglyn a'r swydd hono. Emporia, Kas., Awst 12.-Pan oedd Ellis Lewis, cyn-gyfreithwr Sir Osage, yn rhedeg i ddal cerbydres llithrodd ac aeth ei ddau droed o dan yr olwynion. Cludwyd ef adref mewn cyflwr gresynus. Asbestos, Can., Awst 7.—Wrth ddarllen ysgrif ddoniol y Parch. Tecwyn Parry ar e.i ymdaith i ben y Wyddfa, rhedodd llinellau mal hyn drwy fy meddwl: Gelwir prif fynydd Gwalia-hen eglur Binaglawg- yn Wyddfa: Ceir boneddion liinon ha' Wycli hapus ar ei chopa.-Bogelyn. GLANAU'R TAWELFOR San Francisco, Awst 7.—Bu Taliesin Evans o Pittston, Pa., ar ymweliad a'n dinas; ac y mae ein Taliesin Evans ni a'i briod wedi bod yn Los Angeles. Caf- odd y cyfaill Pierce Williams ei daraw gan un o'r cerbydau trydanol, a diangfa gyfyng fu iddo. Pasiodd William, mab W. E. Rowlands, Comptonville, gynt o Plas Pen Mynydd, Mon, arholiad yn y dosbarth I, ac mae wedi cael swydd o ymdiried yn y custom house yn y ddinas hon. Mawr lwydd iddo. John R. Meredith, Burnett, Wash., sydd wedi dod i'r ddinas ac yn aros yn y Poplar House. Mae yn cael ei flino gan y cryd- cymalau. Brodor o Newmarket, Sir Fflint, ydyw-hen ysgolor i'r Parch. B. Hughes a hen ddysgybl i'r Parch. T. Roberts, (Scorpion). Hyderwn y caiff lwyr adferiad yma.-R. O.
MARWOLAETH DAVID R LLOYD,…
MARWOLAETH DAVID R LLOYD, FREELAlSD. Freeland, Pa., Awst 12.—Ar 01 cystudd hir, gan yr hwn y bu yn gyfyngedig i'w wely am bum mis, bu farw y brawd car- edig Dafydd R. Lloyd o'r lie hwn, ar y 7fed cyfisol. Ganwyd ef yn Merthyr, Hydref, 1834. Ymfudodd i'r America Ebrill, 1863, yn yr "Anglo Saxon," yr hon a suddodd Ebrill 27, 1863, yn agos I oleudy Cape Race, ar gyffiniau New- foundland, pryd y collwyd 237 o fywyd- au ac yr achubwyd 227. Yr oedd 30 o Gymry ar fwrdd y llong a chollwyd ug- ain o honynt. Yn mhlith y deg a ach- ubwyd yr oedd Mr. Lloyd. Cefais y ffeithiau hyn ganddo ef ei hun. Treul- iodd y flwyddyn gyntaf yn y wlad hon rhwng Mineral Ridge, Ohio, a Columbia, Pa. Yn 1864 gymudodd i Yorktown, Pa., ac yn 1877 i Drifton, ac yn 1892 i Free- land. Annibynwr oedd o ran ei grefydd, hyd amser dadgorfforiad yr eglwys An- nibynol yn Drifton, pryd yr ymunodd