Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ARDAL WYMORE, NEBRASKA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARDAL WYMORE, NEBRASKA. Ei Nodweddion Amaethyddol—Cymry Wedi Cyraedd Sefyllfaoedd Cysurus-Ymyl Alun fel Aelod o Ir Ddeddfwrfa-Yr Hynafiaethydd O. M. Williams -Jones y Penglogydd. GAN HUMPHREY RICHARDS. Cotter, Iowa, Tach. 6.—Cyfarfum yn Wymore a'r Parch. W. W. Jones, Belle- vue, Neb. (P.). Brodor ydyw Mr. Jones o'r Bala, Cymru, wedi ymneillduo at y Saeson, ond eto yn coleddu tipyn c serch at yr hen genedl. Mwynhaodd ei hun fel eraill yn fawr yn y Gymanfa. Mae cryn gywreinrwydd yn nodweddu Mr. Jones. Proffesa ddarllen penclog- au, ae y mae ambell un o herwydd di- ffyg yn ei ben yn tueddu i'w wawdio. Sail Mr. Jones ar ei ben ei hun, yn ddiau, mewn llawer o gyfeiriadau, ac e herwydd ei hir brofiad mae yn feirniad craffus o'r ddynoliaeth. Dywedwyd wrthyf nad oes ond ugain o deuluoedd Cymreig yn byw yn yr ardal hon yn bresenol—llawer o dro i dro wedi sy- mud ymaith a gwerthu allan er mwyn cael ychwaneg o dir mewn IIeoedd new- yddion; ond yn sicr ni welodd yr ys.. grifenydd well gwlad erloed nag sydd yno. Mae golwg gysurus, glyd, sydd ar yr amaethwyr yn y gymydogaeth yn datgan hyn. Ymddengys i mi fod yno gymeriadau a thalentau neillduol, wedi oanolbwynt- io yn yr ardal. Nodaf rai o'r bonedd- wyr y diaethym i gyfarfyddiad a hwy, gan ddechreu yn y lie y lletywn—ty John W. Roberts. Gwyddwn am y gwr hwn trwy glywed am dano fel dyn call. synwyrol, dystaw a diabsen am bawb. Ffarmwr taclus a "financier" o'r fath oreu ydyw; ac mae llwyddiant neilldu- 01 wedi bod arno. Mae pob peth o am- gylch y lie yn dangos chwaeth uchel— megys y cyntedd (y lawn) hardd, a'r blodau amryliw a pheraroglaidd, y rhai sydd wedi eu gosod mewn trefn o arn- gylch palasdy prydferth; hefyd, yr ys- gubor a'r tai allan. Yn addurno y pal- asdy oddimewn y mae un o'r gwragedd goreu, caredicaf a fagodd Talaeth Ohio erioed; ac mae yno ddwy feroh ieuanc brydferth, ddiwylliedig, wedi derbyn addfysg dda, ac yn cael addysg. Creda Mr. a Mrs. Roberts mewn rhoddi diwyll- iant da i'w plant yn ogystal a diwyllio y ffarm. Hefyd, mae g:anddynt un mab pedair ar dideg oed a hwnw yr ieuengaf o honynt, a diau genyf y daw y llanc hwn yn ddyn o nod, gan fod! amgylch- tadau yn ei gylchynu, fel nas gall bron beidio bed. 0 Old Man's Creek, Iowa, y symudodd Mr. Roberts i'r lie. Mab yd- oedd i'r diweddar Barch. Evan Roberts, Iowa City, pregethwr cymeradwy ar hyd ei oes gydla'r Wesleyaid, a chofiant yr hwn a ymddangosodd flynyddau yn ol yn y "Cvfaill" a'r "Cenhadwr," Yn yr ardal hefyd y preswylia yr hen- afgwr Thomas Humphreys, brodor o'r Cemmaes, Maldwyn, -ac yn ddarllenwr mawr o'r "Drych." Dymunai arnaf ei gofio yn gynes at yr henafgwr D. J. Evans o'r ardal hon, yr hwn, meddai, oedd yn gydfordwywr ag ef i'r wlad hon flynyddau lawer yn ol. Y llariaidd arch- ddiacon R. W. Roberts sydd! yn llawn yni a sel gyda gwaith yr Arglwydd. Robert Jones hefydl sydd yn hynod groesawgar wrth ddyeithriaid. Brodor yw ef o yn agos i Forfa Rhuddlan, a thedmlad Cymreig yn gwreichioni trwy ei gyfansoddiad ef a'i briod lawen. Yno y lletyai y Parchn. T. Miles a J. T. Mor- ris tra yn yr ardal. Mae y teulu hwn yn ddarllenwyr cyson a thra manwl o'r "Drych." Cefais fy nghroesawu i dy y barddi a'r hynafiaethydid Owen M. Williams, brod- or p Ddyffryn Ardudwy, Meirionydd— dyn pwyllog a phenderfynol yr olwg, dipyn yn rhesymol o ran ei feddwl mi allwn dybiedl Mae yn sylwedydd craff; a. gwyr llawer sydd yn darllen y "Drych" am ei allu nenyddol o dro i dro ar ei ddalenau. Mae ganddo ef a'i briod serchus dyaid o blant prydferth, ddi- wylliedig yr olwg, ac mae Mr. Williams ei hun yn un o ddiaconiaid yr eglwys, ac yn ddechreuwr canu. Gwelwoh wrth hyn fod ynddo gyfuniad o alluoedd wedi eu plethu. Dyn arall o nod sydd yn yr ardal yd- yw yr Anrhydeddus George W. Jones (Ymyl Alun). Y dydd cyntaf i mi ddod

Beth Ellwch Wneyd

POTEL YN RHAD FBL SAMPL

Y DIWEDDAR WATKIN JONES, WALES,…

[No title]

Advertising