Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-'————————-—-——— COLOFN Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

————————-—-——— COLOFN Y GWEITHIWR. Y MAE trysorfa gynorthwyol y South Wales j)a;,Iy News tuag at gynorthwyo trueiniaid y dan- chwa yn Tondu wedi cyrhaeddyd dros £600, ac eiddo y pwyllgor lleol £3,250 17f. Y MAE y gweithwyr sydd yn sefyll allan yn Glyfi Ebbwy wedi penderfynu trwy bleideb lynu wrth lithr-raddfa ddiwygiedig. Hyderir y daw y pleidiau at eu gilydd yn fuan. Rhanwyd X150 o drysorfa ceiniog yr wythnos rhwng 630 o bersonau yr wythnos ddiweddaf. EB i ychydig o flaenoriaid eithafol Undebau y Gweithwyr ymwrthod cymeryd rhan yn etholiad Leeds yr wythnos ddiweddaf, aeth grym meibion llafur i bleidleisio yn galonog dros yEhyddfrydwr Mr J. L. Walton, a methodd nifer fawr ohonynt gyrhaeddyd yn brydlon i wneyd yr un modd a'u brodyr, a sicrhawyd ei ddychweliad anrhydeddus trwy fwyafrif sylwcddol o 948. Y MAE y trai maanachol ar ol y llanw diweddar bellach yn ffaith bur gyffredinol. Y mae y rhag- olygon braidd yn tywyllu o ddydd i ddydd. Y mae yr alwad am y gwahanol nwyddau wedi arafu yn ddirfawr, a'r prisoedd mewn canlyniad wedi gostwng llawer. Tra y ceir fod canoedd lawer o weithwyr mewn nifer o weithiau alcan ac haiarn, yn nghyda glofeydd Deheudir Cymru yngweithio eu mis rhybudd allan, ni cheir nemawr i weithfa yn gweithio amser llawn. Collir dyddiau yn yr wythnos yn agos yr oil. Dywedodd Syr Albert Rollit, Uy wydd y Chamber of Commerce, yn Nghas- newydd, fod pobl ddiwaith wedi cynyddu er Awst y flwyddyn flaenorol o 3'28 i 5'12 y cant. Priodolai ef y trai presenol i anturiaethau rhyfygus, a thollau gelyniaethus. Y MAE y mudiad er lleihau oriau llafur bechgyn a genethod ein maelfeydd yn enill nerth oddiar ddyfodiad y Weinyddiaeth Ryddfrydol i awdur- dod. Dywed Syr John Lubbock fod nifer y bech- gyn a'r genethod yma yn filiwn, a bod y mwyafrif mawr ohonynt yn gweithio 14 a 15 o oriau y dydd. Ceir fod Rhyddfrydwyr, Toriaid, a Rhyddfrydwyr Undebol fel Chamberlain yn pleidio eu hachos. Dywedir na fyddai lleihad eu hOrlnu Utttm i Adeu- Y 1 —• i fasnach. X MAE yr amseroedd yn. J- ein hamaethw^" teXjru. JV id oedd y cnydau gwair y tymbor diweddaf yn agos i fyny a'r cyfartaledd. Y mae y llafuriau yn well, ond y mae prisoedd yr anifeiliaid wedi gostwng yn enbyd. Mewn ffordd, mae y dosbarth yma wedi colli eu diwrnod. Bu y bleidlais Seneddol bron yn gyfyngedig iddynt hwy-gyda hwy oedd creu ein Seneddau. Ond yn anffodus ni wnaethant y defnydd goreu o'u hawl- hu-cynffonent i'w harglwyddi tiroedd Toriaidd. Y mae yr hawJfraint wedi d'od i feddiant dos- barthiadau ereill erbyn heddyw, ac y mae budd- ianau y rhai hyn mewn canlyniad yn hawlio sylw. Y mae yn rhaid i hawliau meibion llafur gael sylw dyladwy bellacb. Eto y mae pwnc y tir yn gwest- iwn pob dosbartb, ac ni cheir llwyddiant mas- nachol byth wedi ei seilio ar sylfeini dyogel hyd nes y ceir diwygiad trwyadl yn neddfau y tir. Ymddengys fod y Prifweinidog yn ei ymweliad & Gogledd Cymru wedi sangu dipyn yn drwm ar draed ein tirfeddianwyr Cymreig. Y mae Col. Cornwallis West a'i frawd Mr Lort Phillips yn gwaeddi yn enbyd. Ond gwaeddi neu beidio rhaid gwynebu pwnc y tir o ddifrif, a hyny yn fuan bellach os ydyw y wlad i dderbyn ymwared. Colli amser gwerthfawr fydd penodi Dirprwyaetb i wneyd ymchwiliad swyddogol i'r mater yma, Y mae digon o ffeithiau yn hysbys i ddeddfu bellach ar linellau cyfiawn. Pwnc y tir fydd pwnc mawr y wlad yn y dyfodol agos. Symuder Ymreolaeth yr Ynys Werdd, a Dadgysylltiad a Dadwaddoliad i Gymru yn fuan o'r ffcrdd i roi lie iddo. DEFNYDDIE 303,571 o dunelli o lafnau alcan yn America bob blwyddyn. Er ei holl ymffrost nid ydyw America ei hun yn gallu cynyrchu ond rhyw 4,460 o dunelli o'r uchod. Ni chynyrchwyd yno yn y flwyddyn ddiweddaf oedd yn gorphen yn Mehefin gyda chynorthwy y llafnau Seisonig Is ddipiwyd yn y Talaethan, ond 6,092 o dunelli. Beth oodd yno at alwad y wlad F Yn wyneb y ffeitbiau uchod ymgais at hunanladdiad ydoedd toll-ddeddf McKinley. Trueni fod meistradoedd Cymreig wedi ymwylltu cymaint yn yr achos, a myned drosodd i gynorthwyo y gelyn. Rhaid i'r fasnach alcan aros eto yn ei nerth am flynyddoedd yn y wlad hon, er ei bod ar hyn o bryd o dan dipyn o gwmwl—canlyniad naturiol ei banes yn y gor- phenol. Yn ol un o gyhoeddiadau gwerinol America ei hun, ceir fod Jonathan yn dechreu agor ei lygaid nad ydyw cyfiogau uchel ar draul talu yn ddrud am bob peth a brynant ddim yn ateb y dyben, ac oherwydd hyn dywed y bydd i lawer o bleidwyr blaenorol yr Arlywydd Harrison bleid- leisio yn yr etholiad agosaol dros Cleveland, arwr masnach rydd. Llwyddiant i Cleveland. Ynsicr efe sydd ar y llinellau iawn. Nid ydyw aflwydd- iant y naill wlad ddim yn hanfodol i lwyddiant gwlad arall, yn fwy nag ydyw aflwyddiant y naill dalaeth ddim yn hanfodol i lwyddiant talaeth arall.

Y DIWEDDAR DR JOHN THOMAS…

ABERCARN.

NELSON.