Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN WLEIDYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. GAN GWLEIDYDDWR. Neson yn y ddau Dy. CAFWYD noson nodedig yn y ddau Dy yr wythnos ddiw- eddaf. Yn Nhy yr Arglwyddi yr oedd y Mesur Trwyddedol dan sylw, ac yn Nhy y Cyffredin, Senlais ar y Weinyddiaeth oedd ar droed. Anhawdd pen- derfynu yn mha un yr oedd y dyddordeb mwyaf. Yr oedd y ddadl yn y ddau Dy yn llawn addysg. Cafwyd areithiau yn y naill a'r liall a gofir yn hir. Fel canlyniad i aJlu effeithiot y Prifweinidog i newid trefn bron bob path y mae Ty yr Arglwyddi wedi dyfod yr unig noddfa i ryddid ymadrodd yn y Senedd. Goruchwyl- iaeth y cloadur sydd mewn grytn yn y Ty Cyff- redin. Yno y dysgwyliasid cael pob chwareu teg i ryddid barn a llafar. Ond y mae y dyn a weinyddodd orthrech yn yr Iwerddon flynydd- oedd yn ol gyda'r fath lymder a chreulondeb yn ceisio gorthrechu mangre cynrychiolaeth y babl a dybir yn freintiedig. Pan yr oedd ei garcharorion yn yr Iwerddon yn gwingo gan eu poenau, yr oedd awdwr y creulonderau erchyll yn gwenu yn foddhaus yn y Ty Cyffredin ar ei lwyddiant i gosbi dynion a rhai ohonynt yn well dynion nag ef ei Itun.-DLidi ail-ddarlleniad Mesur y Trwyddedau oedd mewn llaw gan yr Arglwyddi. Arglwydd Belper, un o'r dynion dinod sydd yn gwneyd i fyny Weiuyddiaeth y Prifweinidog presenol, ac yn lLilwn ohono, oedd a gofal y Mesur, ac efe gyiiygiodd ei ail- ddarlleniad. Ni ddysgwylid ac ui chafwyd dim neillduol yn ei araeth ef. Ail-a L oddiad o ffug- resymau ei feistr mewn lie a a l ydoedd ei araeth gan- mwyaf, a thraddo iodd hi mewn arddall oedi yn ddigon awdur iodol i bender- fynu pob mater mewn dadl, Ond nid yn y swyddog is-raddol hwn yr oedd y dyddordeb na'r dylanwad. Daeth un mwy nag ef ar ei o'. Cynygiodd Arglwydd Peel nad allai Me3ur a amcanai greu buddi nt parkaol mewn trwydded dros flwyddyn fod yn drefniai boddhaol ar bwnc y trwyddedau. Hysbys i bawb ydyw fod Arglwydd Peel yn feistr ar y pwnc hwn yn ei holl agweddau, a bod ei ddyddordeb ynddo yn eithriadol. Efe yn ddiau ydyw un o'r prif awdurdodau arno yn yr holl wlad, Araeth uod- edig ydoedd yr eiddo ef. Codai y mater i'r tir uchaf. Ystyr foesol y pwnc oedd ganddo ef. Cyfiawnder oedd n6d a dyben ei gynygiad a'i araeth. Cafwyd araeth yr un noson gan Arch- esgob Caergaii.tar yr un pwnc, a gresynir mai golwg y bydol-ddyn a gymerai efe arno. Can- molai y Mesur tra yn ceisio dadieu yn ei erbyn. Y mae y g,witkgyferbyniad rhwng y ddwy araeth hon yn boenas i'r sawl a sylweddolant y gwahaniaeth yn safle a swydd y ddau areithiwr. Daily Senlais. A a yr un noson yr oedd y Ty Cjflredin yn dadleu cyflwr a chymeriad Balfour a'i Wein- yddiaeth yn wyneb y sane a'r ymddygiadau diweddar yn nglyn a dyfais gaethfasnachol Mr Chamberlain. Traddododd C.B.' araeth orch- estol wrth agor y ddadl, ac amlwg oedd ei fod yn teimlo dyogelwck y tir oedd dan ei draed. Ond yr araeth hynotaf, a'r hon a gafodd fwyaf o sylw, oedd eiddo Arglwydd Hugh Cecil. Yr oedd fel halen ar gig noeth. Yr oedd difrifwck y siaradwr, a min ei arfau, yn tori i'r byw. Cyfuniad o'r fath hapusaf ydoedd o brif nod- weddion yr areithiwr ac yn y blynydJoedd diweddaf, aid oes odid yr un wedi ymddadblygu mwy nag Arglwydd Hugh Cecil. Mr Liard George a Mr Winston Churchill, ac yntau sydd wedi gwneyd y cynydd mwyaf o bawb yn y Ty. Pe cawsai ei gefnder sydd wrth y llyw ddeu- parth o'i ysbryd difrifol a gonest ef, ni buasai mor ddirmygedig ag ydyw ef heddyw. Ond er galluoced yr araeth hon dirymwyd ei heffaith i raddau pell pan hysbysodd ei hawdwr nad oedd yn bwriadu pleidleisio dros y Senlais, eithr yr ymfoddlonai ef ar ymgadw yn gyfangwbl o'i bleidlais, ac felly y gwnaeth ef a nifer pur fawr o'r Toriaid Rhyddfasnachol ereill. Ond fe gaf- odd Balfour 78 o fwyafrif yn erbyn yr ymgais i'w gondemnio. Gwae y neb a osodo ei liyder ar Doriaid pan ddaw galwad arnynt i gefnogi eu plaid gan nad beth fyddo pwysigrwydd yr egwyddor a'i geilw i fyned yn ei herbyn. Dyna fu, dyna ydyw, a dyna fydd hanes y Tori wrth bob tebyg. Cododd Mr Chamberlain ar ot Arglwydd Hugh Cecil. Ni fwriadaigymeryd rhan yn y ddadl, meddai of, ond yr oedd yr araeth a gafwyd gan Arglwydd Hugh Cecil wedi ei gynhyrfu. Plaid Balfour a gymerai, ond yr oedd yn bur amwys yn rhai ymadroddion. Anhawdd deall yn hollol wir berthynas y ddau yma. Awgrymai mai goreu pa gyntaf i Iwydd- iant yr ymgais am Ddiffyndolliaeth y daw yr Etholiad Cyffi-edi iio!. Ystyrid y cyfeiriad hwn yn apel am etholiad, ond nid yw Balfour inewn brys o gwbl. Er pob ymgais o eiddo cefnogwyr gorselog Chamberlain i'w gadw yn y golwg, ac i floeddio fod ei achos yn llwyddo, i lawr y mae yn myned. Cafodd deu- ddeg mil i'w wrando yn Welbeck, cartref y Due o Portland, dydd lau diweddaf, ond dywedir mai methiant truenus oedd y cwbl. Proffesu anerch amaethwyr a thir-lafurwyr r ydoadd, ond hen araeth Glasgow, wedi ei hail dwymno, ydoedd. Yr oedd maiut yr adeilad, yr ystorm ofnadwy o fellt a tharanau, ae aflonyddwch y bobl na allent ei glywed yn y cyrau pellaf, fel pe yn cydymgais i atal ei lwyddiant. Yn ei erbyn y mae y ewbl y dyddiau hyn. Ond y mae yn fil cryfaeh a gonestach na'r creadur ilyswenaidd sydd yn Brifweinido- Nid yw Chamberlain yn celu fod yn rhaid trethu ym- borth y bobl cyn y gellir cyrhaedd yr amcan sydd ganddo ef mewn golwg. Nid.yr hen ym- laddwr oedd yn araeth y Senlais, nac yn araeth y babell yn Welbeck. Bnoydf Mesur Gorthrech Oymru, PRYDNAWN ddydd Gwener diweddaf, cafwyd brwydr yn y Ty Cyffredin, na chafwyd ei bath er dyddiau Mesurau Gorthrech yr Iwerddon, a sicr yw y bydd iddi ganlyuiadau pvysi,, yn y y 11 wlad. Iechyd mawr oedd ei chael. Yr ydoedd ei heisieu er's tro. Pe gwnaethid yr hyn a wnaed dydd Gwener, yn awr ac eilwaith, yn ysbaid y chwe' mis diweddaf, buasai difrod mwy nag a fu ar hanes a chymeriad y dyn diegwyddor sydd yn darostwng y wlad a'r Senedd yn ngolwg yr holl fyd. Perthyn i Gymru yr anrhydedd o yraladd ag ef yn yr unig flfordd effeithiol i ddynoethi ei wir gymeriad. Pan welodd Balfour fod Cymru yn gwrthod cynaliaeth i'r Ysgolion Enwadol, gosododd rai ar waith i gynllunio moddion i gyfarfod a'r dlffyg. Nid oes neb, mi dybiwn, yn barnu y gallasai efe ddarpar mesur i'r amcan. Yn Morant, meddir, y cafwyd yr Ahitophel i'r gwaith. Gyda llaw, nid anmhri- odol crybwyll fod rhai o'r dynion sydd yn fwyaf hysbys yn holl gyfrinion yr helynt yn ngl^n ag Addysg y tair blynedd diweddaf, yn barini na cheir cyfundrefn wir genedlaethol o Addysg, nes cael gwared o Morant sydd yn llywod- raethu yr holl achos. Daw amser i wneyd cyf- newidiad mawr yn y Bwrdd Addysg.. Mesur Gorthrech, i orfodi Cymru i gynal yr Ysgolion Enwadol ydyw y ddyfais, a hwnw oedd ger bron y Ty dydd Gwener. Un byr ydyw, ond er byred, mynai Balfour ei gario drwy rym y Clo- adur, heb ei ddadleu o gwbl. Dyma un o'r pethau mwyaf cywilyddus a fu yn hanes y Senedd odid un amser. Brys oedd y nod. Prydnawn ddydd Gwener ydoedd, a holiday diwedd yr wythnos yn gwasgu ar y dyn sydd yn fwy gofalus am fan fwyniantau nag am ddeddfu yn uniawn i'r wlitfl. Ac onid oedd galwad o faes y Sport lie saethir petrip, yn ei orfodi i yru y Mesur hwn drwy bob stage hab svlw arno o gwbl ? Pa bwys am Gymru? Gwlad yn anfon Rhydd- frydwyr i'r Senedd ydyw hon. Cosber hi hyd yr eithaf. Sathrer ei hawliau dan draed. Plyger hi drwy orthrech Cloadur yn y Ty, a thrwy orthreeh deddf felldigedig luniwyd yn ol cyn- llun y fall yn y wlad. Ond trech gwlad,' er yn fechan, os yn uniawn, na llon'd Senedd 0 Arglwyddi gormesol. Anhawdd desgrifio yr olygfa yn y Ty ddydd Gwener. Dadleuai yr Aelodau Cymreig yn erbyn gwthio y Mesur heb ddadl arno. Yr oedd gwelliantau lawer iddo, a honid yn eithaf rbesymol, mai teg oedd eu dadleu. Mr J. W. Lowther oedd yn y Gadair, a chafodd amser digon anhyfryd. Yr oedd efe ei hun yn bur garedig drwy yr holl helynt, ond amlwg oedd ei fod ef ei hun yn syl- weddoii i'r eithaf anghyfiawnder yr hyn a geisiai Balfour wneyd. Apeliwyd ato yn daer i nacau y cais i osud y Cloadur mewn grym. Ymladdwyd y frwydr gyda medr ac urddas eithriadol. Dylai Cymru fod yn falch o'i chyn- rychiolwyr. Wrth gwrs, yr oedd Mr Lloyd George ar y blaen, a chefnogwyd ef yn galonog a galluog gan y lleill. Ymunodd yr holl Wrth- bia7, d yn y frwydr cyn y diwedd. Cyhoeddodd y Cadeirydd y bleidlais. Gwrthododd yr holl W rth blaid. Yr oedd caethion y Prifweinidog wedi myned i'r cyntedd. Apeliodd Mr Lowther yn daer at y lleill, ond dal a wnaethant. Gor- fodwyd ef i enwi yn ol yr arfer. Yn mhen tipyn daeth yr holl Wrthb!aid allan mewn gwrth- dystiad Golygfa nad anghofir ydoedd. Yr oedd difrifwch ar wyneb pob un. Nid show fight, ac yu sicr, nid chwareu plant ydoedd. Ar ol ymadawiad yr Wrthblaid, gwthiwyd y Mesur yn ei grynswth drwy y Ty Cyffredin, a darllen- wyd ef y drydedd waith dydd Llun. O! 'r gwar- adwydd Oad diolch am dano. Dechreuad brwydr ydyw sydd yn rhaid ei hymladd allan bellach. Gall barhau yn hir, ond fe ddaw y diwedd, ac nis gall hwnw fod yn ddim angen yn y pen draw m Dadsefydliad a Dadwaddoliad yr Eglwys sydd yn wir achos yr holl helynt. Hyderaf mai y cam aes-if fydd i'r holl Gyn- ghorau Sirol ymwrthod a'r gorchwyl o wein- yddu y Ddeddf Addysg o gwbl. Uner i hyny. Caiff Balfour a'r Esgobion weled pwy fydd ben.

t----GWIBDEITHIAU LLIN ELL…

NODION.I