Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
- NODION. j
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION. Ar ol yr Eisteddfod. -DymA yr Eisteddfod heibio eleni eto, ac yn ol yr adrodd- iadau a welsoi-n y mae pob arwyddion ei bod yn un dra llwyddianus. Cafwyd cynulliadau lluosog. Sut y saif y cyfrif arianol, nis gwyddom, ond -gan fod yr Eisteddfod yn parhau am bum' niwrnod, gyda chynulliadau da o hyd, dys- gwyliwn fod hwnw yn foddhaus. Cafwyd cystadleuaeth ragorol ar rai pethau, a mawr ganmolai y beirniaid y cynyrchion a anfon- wyd i mewn. Ataliwyd rhai gwobrau, mae'n wir, ond yr ydym yn dra chyfarwydd a hyny er's blynyddoedd. Ofnwn fod yr atal sydd wedi bod wedi digaloni rhai o'r ysgrifenwyr goreu sydd genym. Gall, er hyny, mai y pwyllgorau yn fwy na'r beirniaid na'r cystadl- euwyr sydd yn gyfrifol am hyn. Nis gall neb wneyd gwaith pum' mlynedd mewn un, ac ofer dysgwyl hyny. Mae ymchwiliadau llenyddol pwysig, yn enwedig pin y gwneir hwynt mewn meusydd newyddion hollol, yn gofyn amser maith, ac yn fynych gryn draul. Dylai pwyllgorau wrth ddewis testynau gadw hyny mewn golwg bob amser. Yr oedd y gystadleuaeth gerddorol o ran quality yn un i-alrorol, fel yr ymddengys. Gwir i'r brifwobr gerddorol fyned i wlad y Sais unwaith eto, ond nid gwiw cwyno am hyny. Os ydym yn gosod ein cystadleuaethau yn agored i'r byd, yna rhaid goddef y canlyniadau beth bynag a fyddont. Llawen iawn genym i gystadleu- aeth y Corau Meibion droi yn wahanol. Cystadleuwyr a Beirniaid. MATER yr ysgrifenir cryn 0 'o lawer arno mewn cylchoedd cerddorol yn awr yw hwn. Mae wedi ei erodi vn awr van ymddygiadau rhai pobl mewn eisteddfod yn Abertawe ar ddechreu Awst diweddaf. Yn nglyn a'r prif ddarn cerddorol y bu, pan oedd y beirniad Seisonig, Randegger, yn clorianu y corau. Yr oedd barn y gynulleidfa yn bur bendant y pryd hwnw o blaid cor arall heb- law yr un gafodd y wobr, a rhuthrodd rhyw- rai i'r llwyfan i wrthdystio. Pan ymadawodd y beirniad a'r babell, dilynodd rhywrai ef ar hyd y ffordd gan ei hwtio. Mae hyny wedi galw allan wrlhdystiad cryf oddiwrth ysgrif- enwyr yn Nghymru, ac un ysgrif faleisus ac ynfyd mewn cyhoeddiad cerddorol Saesoneg. Trueni mawr iddo ddygwydd, ac yn wir yr oeddym wedi gobeithio ein bod wedi gadael pethau felly ar ol am byth. Gredwn yn hawl cynulleidfa i wrthd) stio, a gwneyd hyny yn eglur a digamsynied, ond dylai wneyd hyny°yn foneddigaidd. Y condemniad mwyaf ar feirniad yw dangos yn eglur ei fod yn anghywir yn ei farn. Nid yw hwtio a gwawdio yn cyrhaedd unrhyw amcan. Yn wir, anmharchu ei hunan yn llawer mwy na'r beirniad y mae cynulleidfa, neu unihyw ran o gynulleidfa, wrth wneyd hyny. Barn Mr Emlyn Evans-a phwy yn fwy cymhwys i draethu barn ar y mater—y dylai cynulleidfa mewn eisteddfod ymgadw heb ddangos ar- wyddion o gymeradwyaeth nac anghymerad- wyaeth hyd nes y byddo y cystadleuvvyr wedi gorphen. Hwyrach ond o'r braidd y mae hyny yn bosibl lie y mae y pryder yn fawr. Gobeithio na welir dim eto o fath yr hyn welwydyn Abertawe, onide bydd pobl yn dechreu gofyn, Ai hyn yw ffnvyth diwylliant addjsgol Ojmru ? —- Y GadfrUoj Booth. W EDI 'gorphen ei daith fawr o Penzance i Aberdeen, cy- merj.l l y Cadfridog gyfieus- 0 dra i grybwyll amryw bethau y mae wedi rhoi ei fryd ar en dwyn oddiam- gylch yn y dyfodol. Ya eu mysg y mae Prifathrofa Newydd. Y mae i zD fod yn wahanol i ddim sydd yn bodoli ya awr. Y mae i roi cyfleusdra i efrydu cwestiynau cymdeithasol yn benaf, fel y bodolant yn mhob gwlad adnabyddus. Myn efe i ddiwygwyr cymdeithasol, ac yn enwedig pregethwyr ac aelodau ei fyddin ef, fyned drwy yr athrofa hono i'w cymhwyso at eu gwaith. Orel, a hyny yn gywir yn ddiau, fod anwybodaeth llawer o ddynion cyhoeddus am wir gyflwr cymdeithas yn fawr iawn, ac y gellid symud llawer ohono mewn athrofa felly. Wrth gwrs, gwneir yn ngtyn ag abhrofeydd yn bresenol beth gwaith o'r natur yni, ond nid mor llawn a llwyr o lawer ag y mynai efe iddo gael ei wneyd. Os yw y Cadfridog Bjoth wedi rhoi ei fryd ar ddwyn hyn oddiamgyloh, y mae yn sicr o'i wneyd. Nid gwr i gellwair a phethau yw efe, ond un i gario ei fwriad drwodd pan Z, fydd we3f gtnseya ei tfeddwi i fynj. D faHurwa. iddo Iwyddiant mawr, oblegid credwa mai un o'r pethau mwyaf angenrheidiol yw gwybod- aeth yn nghdch sefylifa gym leifch isjL y bobl y gellir dibynu arni. Ofn wa fod yr ystaiegan a roddir yn fynych yn gwbl gamarweiniol. Cesglir hwynt yn fynych i amc mion plaid, a chau ddynion sydd yn extremists. Mae eisieu goleuni llawn a theg ar bethau, oblegid nid b zn oes dim ond hyny a'n galluoga i ddelio yn effeithiol a bwynt. Y Cynghorau Sirol yn d'od i ddeall eu gwaith. MAE arwyddion eglur fod y Cynghorau Sirol yn Nghymru yn dechreu d'od i ddeall eu gwaith erbyn hyn. Bu rhai ohon- ynt yn araf iawn i wneyd hyny, ac y mae eto ar ambell Gynghor ber- sonau nad ydym yn gallu anagyffred eu hym- ddygiadau o gwbl. Yr ydym wedi sylwi yn yr adroddiadau a gyhoeddir o weithrediadau y Cynghorau ar amryw ohonynt. Gobeithiwn y deuant hwythau heb fod yn hir i weled y doethineb o gydweithredu I'ti cydaelodau Rhyddfrydig ac Ymneilldaol hyd nes y byddom wedi dwyn barn i fuddugoliaeth. Gallant fod yn gwbl sicr o un peth, y mae llygaid y wlad arnynt, a bydd rhaid galw sylw atynt heb fod yn hir, os parhanb i ym- gyndynu. Dibyna pob peth yn mron yn awr ar i holl Gynghorau Cymru fod yn ffyddlon i'w gilydd. Os gormesir un, neu os cynygir gwneyd hyny, y mae o'r pwys mwyaf i'r lleill fod yn barod i gydymdeimlo ac amddiffyn. Gall y Bwrdd Addysg fforddio ymladd ag un neu ddau o'r Cynghorau, ond ofer fydd meddwl ymladd a'r oil gyda'u gilydd. Gwyr na lwydda byth. Y mae y Gynadledd fawr sydd wedi ei threfnu o gynrychiolwyr y gwa- hanol Siroedd i gyfarfod yn Nghaerdydd yr wythnos gyntaf yn y mis nesaf. Ni chynal- iwyd erioed yn hanes ein gwlad gyn adledd bwysicach, a dysgwyliwn na fydd un Cynghor yn Nghymru heb anfon cynrychiolwyr yno. n Y gynadtedd hono fydd yn penderfynu y polisi i weithredu arno yn wyneb Deddf (^onrhrech y LlywOdraeth. Y mae Ymneill- duaeth a Rhyddfrydiaeth y genedl mewn brwydr fawr, a gwae y neb a fyddo yn anffyddlon yn awr. Nis gall fod felly, heb brofi yn anffyddlon i fuddianau uchaf ei wlad, ac i gymwynaswyr ffyddlonaf y genedl yn y gorpheuol. Da iawn genym weled fod y Cynghorau ya gosod en hunain yn y drefn oreu i dderbyn ymosodiadau y gelyn.
-----I 0 GWR Y WINLLAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0 GWR Y WINLLAN. —Yn gyntaf i gyd y tro hwn, dymunwn lon- gyfarch y Parch J. Michreth Ilees ar ei waith ya enill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Er cynydd cyflym addysg, a lluosogiad safle- oedd o fri yn mysg- y genedl, erys anrhydedd mawr yn nglyn a'r tiort Gddair o hyd. Nid hawdd ei heaill, onide cynygied y rhai a ddy- wedant hyny. CafFed ein cyfaill ATacbreth fyw yn hir i fwynhau ei anrhydedd ac i was-in- aethu ei gened'. Gwelsom ei fod hefyd wedi ei benodi yn olygydd newyddiadar Cymraeg newydd y bivriedir ei gychwyn vn fain i was- anaethu Cymry L!undain. Gwelsom hefyd fod Dewi Medi, a'r Parch D. Eurof Wa'ters, Llanymddyfri, wedi enill gwobrau yn yr JBisfeddfoii Grenedlaectiol. Ijlongyftirctiwa hwythau. -!< -Sylwasom mai yr enillwr ar y Cywydd oedd y Parch T. Davies (Bethel), Caerdydd. 03 nad ydym yn camjfofio, mae efe wedi cipio y Cywydd amryw weithiau o'r blaea, ac, wrth gwrs, wobrau lawer heb'aw. Y sgrifenodd un fod tri dosbarth o breg- ethwyr i'w cael bob amser :(!) Pregethwyr nas gellir eu gwrando. (2) Rhai y gellir eu gwrando. (3) Rhai nas gellir peidio eu gwrando. —Nid yw pawb yr un farn ar waith ein dynion cyhoeddus yn gallu troi pob chwerw- der yu uglY-a a. gwaith eyhoeddus-gwle idydd- iaeth, er eagraifft-heiblo pan ddeuant i gysylltiadau ereill mewn bywyd. Darllenasom yti ddiweddar eiriau cryfiou o eiddo un a ystyr- iai byny yn ddiff'yg dyfnder a chryfder mewn argyhoeddiad. Dyma hwynt:—' What a mockery controversy was in the House How often have I seen members, who were furious at one another across the floor, quietly shaking hands outside, and inviting one another to dinner I have heard them say that we ought to congratulate ourselves that Parliamentary differences do not in this country breed personol animosities. To me this seemed anything but a subject for congratulation. Men who are totally at variance ought not to be friends, and if Radical and Tory are not totally but super- ficially at variance, so much the worse for their Radicalism and Toryism.' -*• -Ac yna yn mhellach ar yr un mater dywed:—'It is possible, and even probable, that the public fury and the subsequent amity were equally absurd. Most of us have no real loves and no real hatreds. Blessed is love, less blessed is hatred, but thrice accursed is that indifference which is neither, one nor the other, the muddy mess which men call friendship.' I