Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB BRYCHEINIOG.j

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB BRYCHEINIOG. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb yn Nghwmwysg, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Awst 30am a'r 3iain. Yr oedd yn bresenol yn y Gynadledd, dydd Mawrth, y Parchn D. A. Griffith (yn y gadair, yn absenoldeb y Parch D. Richards, y cadeirydd am y flwyddyn) R. James yr Athraw D. Miall Edwards, M.A.; M. P. Moses; T. G. Davies; T. Gwyn Thomas; Gomer Harris; E. T. Parry Emrys James, B.A. D. Lloyd; Penar Griffiths, Pentre Estyll; hefyd y lleygwyr-Mri Davies. Aberhirnant; George, Castelldu Davies, Penca, Price, Y Felin; George, Trawsllwyndu Morgan, Cwmone Davies, Tycornel; cynrych- iolwyt eglwys Cwmwysg a D. James, Y.H., Trecastell. Y GYNADLEDD, Ar ol i'r Parch R. James, Llanwrtyd, arwain mewn gweddi, ac wedl darllen a chadarnhau. cof- nodion y cyfarfod blaenoroi, pasiwyd:— 1. Fod y cwrdd nesaf i'w gynal yn Aberyscir. (a) y Parch Josiah Davies, Gilwern, i bregethu ar Ddirwest,' pwnc y Gynadledd (b) Parch W. H. Price, Talgarth, i bregethu ar fater roddir iddo gan yr eglwys sy'n galw'r cwrdd (c) Dysgwylir anerch- iad y cadeirydd, yn lie y papyr arferol. 2. Swyddogion y Cyfundeb am 1911 :-Cadeir- ydd, Parch M. P Moses, Libanus; Trysorydd, Mr D. Jones, Brynhyfryd, Talgarth; Ysgrifenydd, y Parch D. Lloyd, Cwmrhos. 3. Darllenodd y cadeirydd lythyr oddiwrth y Parch D. Richards. Llangatwg, yn cyfeirio at y symudiad sydd ar droed i dystebu yr Ysgrifenydd, ac yn galw sylw at y ffaith, ei fod ef, Mr Richards, fel Ysgrifenydd y Pwyllgor, wedi anfon cylchlythyr at holl eglwysi y Cyfundeb, a siaradwyd ar gynwys y llythyr, gan y Parch Gomer Harris, aelod o Bwyllgor y Dysteb. 4. Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn ar gais Pwyllgor Llenyddiaeth yr Enwad Nad yw enw unrhyw bregethwr cynorthwyol i'w osod yn y Blwyddiadur, oni ddel trwy ddwylaw Ysgrifenyddion y Cyfundebau. 5. Codi pregethwyr. Yn unol a rhybudd rodd- asai o'i fwriad i wneyd hyny, dygodd y Parch M. P. Moses yn mlaen gyuygiad mewn perthynas i godi pregethwyr. Ar ol ymdrin a r mater yn ei wahanol arweddau, ymddiriedwyd y peth i bwyllgor o dri, a chyfarwyddwyd hwy i ddwyu adroddiad yn cynwys amlinelliad o gynllun i'r Gynadledd nesaf. Aelodau y pwyllgor ydynt:—Parchn R. James, D, Miall Edwards, M.A., a M. P. Moses. 6. Y Genadaeth Gartrefol. Dengys adroddiad Trysorydd y Cyfundeb fod yr eglwysi wedi casglu £ 16 17s ic at amcanion y Genadaeth—swm sydd wedi ei drosglwyddo i'r drysorfa ganolog. Yn nglyn a, rhanu yr arlan, pasiwyd fod Pwyllgor yr Achosion Gweiniaid i gyflwyno adroddiad i'r Gynadledd nesaf, yn nodi allan yr eglwysi ystyrient hwy mewn angen cynorthwy, a hyny cyn gwneyd dim yn derfynol. Darlienodd y Cadeirydd lythyr oddiwrth y Parch Towyn Jones, yn cyfeirio at ei Genadaeth, ac ym- ddiriedwyd i Bwyllgor yr Achosion Gweiniad i drefnu a Mr Jones yr adeg i ymweled a'r eglwysi ar ran Pwyllgor y Genadaeth Gartrefol. 7. Mesur y Masnachdai. Pasiwyd penderfyniad ar linellau cylchlythyr anfonasid yn enw Cynghrair yr Eglwysi Rhyddion Cymreig, yn liawenhau yn y rhagolwg ar gwtogiad oriau gwasanaeth yn y siopau, tra ar y Haw arall yn anghymeradwyo y darbodion sydd yn y Mesur yn cyfreithloni agor siopau ar y Sul, ac ysbeilio yr awdurdodau Heol o unrhyw lais yn y mater. 8. Pleidlais o gydymdeimiad. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch W. H. A. Morgan, B.A., Talybont-ar-Wysg, yn ei alar a'i goiled ar ot ei anwyl fam. 9. Perthynas Ymneillduaeth a, phynciau cy- hoeddus darllenodd yr Athraw D. Miall Edwards, M.A., bapyr cryf a buddiol, ac o nodwedd ymar- ferol, ar y mater uchod. Yn yr ymddyddan ddilyn- odd ddarlleniad y papyr, cymerwyd rhan ddyddorol gan amryw, a rhan amlwg gan y Parch Penar Griffiths, oedd yn ymwelydd &'r ardal. Cyn terfynu yr ymddyddan, rhoddodd yr Athraw Edwards ry- budd o'i fwriad i ddwyn yn mlaen gynygiad yn y Gynadledd nesaf, fel cam at wneyd rhywbeth yrnar- ferol. Terfynwyd y Gynadledd fuddiol trwy weddi gan y Parch Penar Griffiths. Y MODDXON CYHOEDDUS. Nos Fawrth, pregethwyd yn Nhrecastell gan y Parchn D. Lloyd a Phenar Griffiths yr un adeg yn Nghwmwysg, pregethwyd gan y Parchn Gomer Harris a D. A. Griffith. Yn Nghwmwysg, dydd Mercher, pregethwyd am 10, gan y Parchn M. P. Moses ac R. James, yr olaf ar fater roddasid iddo gan yr eglwys; am 2, pregethwyd gan y Parchn E. T. Parry a T. Gwydrim Davles-yr olaf ar bwnc y Gynadledd. Am 6, pregethwyd gan y Parchn T. Gwyn Thomas a Phenar Griffiths. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn T. Gwydrim Davies, E. T. Parry, a D. Lloyd, Llywyddwyd gan y Parch M. P Moses. Yr oedd yr eglwys wedi darparu croesaw a llun- iaeth yn yr adeilad ger yr addoldy-ar gyfer pawb. Diolchwyd i'r chwiorydd ac ereill am wasanaethu byrddau. Caed cynulliadau da, er fod yr hin yn finffafriol-a phregethau pwrpasol, o nodwedd ym- arferol. Arosed y fendith. SARON NEWYDD. Mae addoldy Saron, ail-agorwyd tua thri mis yn ol, wedi myn'd dan gyfnewidiad trwyadl-wedi ei ail- adeiladu o sail i grib. Buasai yn fwy cywir dyweyd ei fod yn gapel newydd. Costiodd yr ymgymeriad, a chytrif yr ychwanegiadau, tua 65001 ond nid oes dyled ar Saron. Talwyd y cyfan, gan adael yn weddill £22, ac ychwaneg tuag at welliantau peli- ach. Mae'n werth nodi ffaith fel hon; mae'n ddangoseg dlws o'r hyn all cydweithrediad calonog effeithio. Mae'r adeilad newydd yn un hardd, tufewn ac allan, a hawdd siarad, a gwrando, ac addoli ynddo. Gwnaethai yr architect, Mr Evan Morris, Seven Sisters, waith da a gweithiodd yr adeiladydd, Mr William Thomas, Trecastell, y cynllun allan yn ofalus, a chyda medr gwr cyfar- wydd. Buasai y diweddar Mr Evans, Ynysfawr, a'r diweddar frawd craff, William Jones, Blaenau, wrth eu bodd yn Saron Newydd, ac mewn hwyt diolch am y llewyrch sydd ar bethau. DAVID LLOYD, Ysg.

Advertising

CYFUNDEB GORLLEWIN MORGANWG.