Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD : FFESTINIOG.

-_..____.-_-----YR HYN A GLYWAIS.

----__-___-------LLITH LLYGADOG.

-=" ! IOAN MALDWYN A PLEIDIWR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-=" IOAN MALDWYN A PLEIDIWR GWIRIONEDD. FONEDDIGION, Ymddangosodd gofyniad yn Llais y JVlad am yr wythnos ddiwedd- af yn dwyn yr enw Pleidiwr Gwirion- edd," a hyn yw swm ei ofyniad appelia at ddarllenwyr a gohebwyr yn gyffredinol, a oedd hawl gan olygydd rhyw bapyr newydd i wrthod cyhoeddi ysgrif amddi- ffynul, gan fod yr ymosodydd wedi dyweud rhyw gelwyddau dychrynllyd ar yr am- ddiffynydd. Diniwaid iawn, onide ? Ond hyn sydd genyf i'w draethu, bod gohebydd yr H. C., o'r Borthaethwy, yn haeru wrth drigolion yr ardal hon, mai loan Maldwyn yw y Pleidiwr Gwirionedd hwn, ac y mae yn gwneud difyrwch mawr ar draul hyny iddo ei hun a'i gwmpeini. Dy- munaf, foneddigion, i chwi wneud yn hys- bys yn eich papyr yr wythnos hon, nad oes dim a wnelwyf a'r llythyr gofyniadol crybwylledig. Gan na ysgrifenais yllythyr dan sylw, ac na feddyliais am ei gynnwys- iad, ac na arferais erioed yr enw Pleid- iwr Gwirionedd," ystyriaf yn orchwyL annheg iawn i neb ei dadogi arnaf. Yr ( wyf ar fy ngair llw yn tystio na wyddwn ddim am dano nes i mi ei weled yn argraff- J edig yn eich papyr ddydd Gwener diwedd- af. Ymae yn ddrwg iawn gennyf i neb ddyweud mai myfi ydyw awdwr y llythyr dan sylw, gan fod hyny yn tueddu i wneud cam a golygydd yr H. C., oherwydd cefais yr H. C. yn rbydd i wneud pob am- ddiffyniad a geisiais. Y mae yn iawn i bawb a phob peth gael chwareu teg. Pan"; wnelo unrhyw newyddiadur gam a mi, nid I E-Jufy**8? yD 8wne»<3> ond yn rhoddi y fleithiau I lawr yn deg i'r dar- llenydd. Gwnaeth gohebydd y Borth ymosodiad personol, digrifol, plentynaidd arnaf yn ddiweddar yn yr H. C., a chan na ddaeth amddiffyniad allan, barna ef yn ol ei farn fach, gul, fynyddig, mai wedi cad fy ngwrthod yr ydwyf; ond y gwir- ionedd ydyw nad oedd ei lythyr yn cyn- nwys ffaith, ymresymiad, mater, na ffraethine b, ac felly yr oedd yn is nag islaw sylw genyf. JOHN DAVIES (loan Maldwyn). "4 Cadnant, Menai Bridge. [Nid oedd a fyno ysgrifenydd y llythyr uchod o gwbl a llythyr "Pleidiwr Gwirionedd."—GOL.] j

PENBLETH PRIODASOL.

DAMWAIN ALARUS AR Y RHEILFFORDD.

FFRWYDRIAD ANGEUOL. :