Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

HERBERANIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HERBERANIA. LLITH Ill. Nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist," oedd tystiolaeth ae appeliad yr Apostol Pedr wrth annog y saint i lynu yn ffyddlon wrth yr efengyl pan yn adolygu ei fywyd a'i lafur oddiar derfynau y byct dyeithr lie telir i bawb yn ol en gweithredoedd. Mae hyn yn rhoddi ar ddeall fod chwedl* adroddwyr yn ym- wthio i fv'sg pregethwyr enwog yr oes apostolaidd, a rhoddi yr egiwysi ar eu gwyliadwriaeth ddyfal i ymgadw rhag- ddynt, gan ofalu am burdeb efengylaidd yr athrawiaeth. Yr oedd dylanwad llygr- edig llenyddiaeth chwarwyfaol (dramatic) Groeg a Rhufain yn penfeddwi yr oes wamal hono, gan gynnyrchu y pryd hyny, megys y gwna yr un effeithiau ar y meddwl a'r hyn a wna diodydd meddwol ar y corph -sef llacio a gwanychu holl ewynau nerth a moesau, a magu cenhedlaeth, ie cen- hedlaethau o ddynion bwhwmanllyd a di- fam. Dyma y canlyniad yn mhob oes o guddio y gwirionedcl dan bentwr o chwedl- au rbamantus a thwyllodrus. Dywedir am yr holl Atheniaid a'r dyeithriaid, y rhai oedd yn ymdeitbio yno, nad oeddynt yn cymmeryd hamdden i ddim ond i ddy- Wedyd neu glywed rhyw newydd"—ne- wydd ehwedl. Ymddengys mai Plato oedd y eyntaf yn mysg yr athronwyr pagan- aidd i ddyweud yn erbyn eu hudoliaeth ac i aodi eu peryglon cymdeithasol. Mae y eanlyniadau yn adnabyddus i ddarllenwyr hariesiaeth henafol Rollin a Gibbon. Mae yn amlwg fod ysgrifenwyr sanctuidd y Testament newydd a'u golwg ar y peth, ac oherwydd hyn ceir y gair sobrwydd. (sophron) mor ami ac yn y fath, amryw- iaeth 9 gyssylltiadau yn yr epistolau. Yr oedd eu rhybuddion yn bendant a diam- mwys. Dywedodd Paul wrth Timotheus am droi oddiwrth halogedig ofersain a gwrthwyneb wybodaeth," a. gofalu am gadw yr hyn a roddwyd atto i gadw," gan ei orchymyn i aros yn Ephesus, fel y rhybuddiai y rhai na ddysgent ddim am- gen, ae na ddalient ar chwedlau;" a dy- wedir befyd fod rhai mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwrthun, yn gwneud mar- siandiaeth o'r eglwysi. Mae hanes arfer- ion eglwysig a bywyd cymdeithasol eg- lwys Corinth yn rhybuid difrifol i eglwysi Cymru y dyddiau hyn. Nid rhyfedd fod dynion ysbrydol fel yr apostolioa yn eyffroi eu meddwl puraidd a holl nsrth eu dylanwad sanctaidd yn erbyn y fath arfer- ion Philistaidd, oblegid ni pherthynant i athrawiaeth a buchedd y? eglwysi Crist- ionogol. 0 na buasai eu rhybuddion gonest a difrifol yn foddion i'w attal, oblegid effeithiodd er diffodd pob gwybod- aeth o'r efengyl am oesoedd, gan ddwyn yn ei lie holl chwedlau ynfyd y paganiaid a'r mynachod anwybodusa diras. Priodol y gelwir y cyfnod hwnw yr oesau tywyll, oblegid pa, oleuni ysbrydol a ddisgwylirj ddynion oddiwrth chwedlau dychymygol rhamantus ac anfocsol. Bu y diwygiad Pro- testanaidd yn foddion eifeithiol i adferu gwybodaeth efengylaidd, ac i ddwyn medd- yliau dynion at wirioneddau sylweddol ac achubol yr ewyllys ddatguddiedig. Nid oedd dim y rhoddodd Puritaniaid yr eil- fed ganrif ar bymtheg eu gwynebau yn fwy pendant yn ei erbyn na'r drama, yn nghyda'r chwedlau mynachaidd ynfyd a llygredig oedd yn llenwi y wlad. Ond erbyn hyn mae dan allu llygredig ar waith ya lladd dylanwad y diwygiad mawr hwnw, sef defodaeth a cnwedloniaetli. Mae yn wir eu bod hyd yn hyn yn cym- meryd eu safloedd gwahanol, ond er hyny yn effeithiol gyd-nwydo dynion i feddiant yr ysbeilydd. A yw y mil-flwyddiant wedi myned heibio, a Satan wcdi ei ollwng yn rhydd i dwyllo y cenhedloedd, lieu ynte- a yw Cristionogaeth Cymru i fyned dan gwmmwl nes gwawrio seithfed dydd gwyn- fydedig y ddaear ? A oes un dosbarth 0 drigolion ein gwlad i gael eu pendroni gan ddefodau a'r, rhan arall gan chwedlau ? Onid chwedlau gwneuthur yw crynswth y pregethau a adroddir yn gyffredin yn y cymmanfaoedd a'r cyfarfodydd mawrion ac os hyn yw y ddarpariaeth at yr am- gylchiadau hyny, pa beth raid fod porfa, lorn y praidd bycbain sydd gartref ? Nid rhyfedd fod y bobl yn ysglyfaeth parod i'r bleiddiaid sydd yn herwa ar hyd y wlad y dyddiau hyn. Ond nid yw dyogeiwch y praidd gymmaint pwys, oblegid Herberania sydd yn boblogaidd ac yn talu. Ar ol ym- ddangosiad jllithddiweddaf,clywais fod un gwr wedi"' gwneucl ei farc" trwy adrodd chwedl y ferch anllac1 (gwel llith ii.), fel y ,a mae byth ar ol hyny yn ffrynt y cymman- faoedd a'r cyfarfodydd pwysig yn mhob man, ac wedi llwyddo i ymgodi trwy amryw symmudiadau gweinidogaethol i fy woliaeth gwerth dros ddau cant o bunnau yn y flwyddyn, yr hyn a ystyrir yu mysg Ym- neillduwyr gystal agarch-esgobaeth Caer- gaint. Rhaid, iddo .et') gan hyny ddiolch am ei safle i adroddiad hwyliog a wnaeth o chwedl y ferch anniwair. Horrida dictu. Ai i'r fan hyn mae disgynyddion proffesedig yr hen Buritaniaid enwog wedi disgyn, er yr holl fost am burdeb athraw- iaeth a phurdeb eglwysig ? Nid engraifft unigol yw hon. Dywedai diacon eglwys mewn tref bwysig yn ddiweddar nad oedd un dyben i neb dd'od yno i bregethu os na ddywedent hanesion a gyru y bobl i grio. Nid oedd yn dyweucl hyn mewn gwawd, ond adrodd ei syniad yn onest am athraw- iaeth a dyben yr areitlifa. Yr oedd ei gyfaill yn cydymdeimlo ag ef, a dywedai yn ddifrifol "y dylaiawclurdodau v'colegau gvmmeryd y mater at eu hystyriaeth, oblegid yr oedd yn teimlo ers liawer 0 am- ser focl rh,,ii-o'r dynion ieuainjajc yn ddiam- can benstiffol." Dichon, felly, y gallwn ddisgwyl gweled mudiad newydd ar droed cyn hir er cael cadair newydd ar staff y colegau, sef, cadair chwedlau. I arcs dyfodiad yr amser hwnw, nodwn ychydig o'r chwedlau, gan y gallant fod yn fantais 1 lawer o'r myfyrwyr dibrofiad, ac yn fwyn- had i'r sawl sydd yn byw ar y fath sothach, ond yn benaf i alw sylw y cyhoedd at wrthuni yr hyn a cldysgir yn ein hareith- faau yn lie yr efengyl. Y gyntaf, yn awr, yw Chwedl y gwas du." Dywedicl fod Cymro uniaith, gwladaidd, 0 gymmydog- aeth Ffair Rhos, trwy hir gymhell, wedi myned i Lundain i ymweled a brawd oedd wedi cyrhaedd sefyllfa 0 gyfoeth a bri yno. Cafwyd darluniad barddonol, rhamantus, a difyr dros ben o'r daith 0 orsaf Ystrad y Fflnr i Aberystwyth, trwy Faldwyn, Am- wythig, a siroedd canol-dirol Lloegr, nes cyrhaedd y brif-ddinas,—cymmoedd dyfn- ion, mynyddoedd uehel, brynian banog, dyffrynoedd llydain, meusydd blodeuog, parciau cyfoethog, palasau gorwych, tref- ydd mawrion, a'11wg tew, torchog y Black Country. Cyrhaeddodd y brifddinas, a daeth 0 hyd i dy ei frawd, a synwyd efyn (iairiawr gan yr oiwg baiasaidd iawreddog oedd arno, a theimlai y fath ofn a phryder fel na wyddai pa un ai myned at y drws i guro, ynte dychwelyd yn ol i Ffair Ehorf a wnai. Yr oedd yr hwyr yn taflu ei chys- godion niwl-feiynog-tywyll bellach dros y lie, ac yr oedd arosiad yn y fath awyr- gylch, a than y fath amgylchiadau dyeithr, yn olygfa newydd iddo. Ond cafodd ddigon o wroldeb i fyned at y porth a chyffwrdd a'r dor-glap. Agorwyd y drws a daeth creadur i'r golwg na welodd ei gyffelyb, ac ni ddychymygodd fod ei fath mewn bodol- aeth creadur pen-wlanog, llygadog; gweflog, danneddog, cern-esgyrnog, llydan- glustiog, dyeitbr ei iaith, garw ei leferydd, hagr ei ystum, ac mor ddu a phe buasai newydd ddiangc u wlad y mwg mawr. Dychrynodd y gwJadwr truan yn arutnrol, a diangodd am ei fywyd i'r heol. Ond yn ffortuuus, digwyddodd ei frawd edrych allan 0 ffenestr y parlwr ar y pryd, a rhed- odd yn frysiog ar ei ol, a chafodd afael arno wedi hanner llewygu gan ofn; ac ar- weiniodd ef yn ei law i'r palas heibio i'r gwas du, yr hwn yn awr, er dangos ei foesau i frawd ei feistr, oedd yn ymgrymu a.c yn dysgyrnygu yn fwy dychrynllyd na chynt. Cafodd yr adroddiad effaith fyw- iog a cliyffrous ar y gynnulleidfa wledig oedd yn gwrando, yn enwedig y darluniad godidog o derfyniad llwyddiannus y daith, a chroesaw llawn parlwr cynhes y brawd cyfoethog. Dywedodd gwr cyfarwydd yr arferid adrodd y chwedl hon ddeugain mlynedd yn ol gyda'r cyfnewidiad angen- rheidiol i amgylchiadau yr amseroedd. Y nesaf yw—" Stick to the rock, Johnny." Stoii am ddau blentyn oedd wedi myned ar grwydr yn y mynyddoedd caregog yw bon-a phan mewn cutting yn iiUway fawr San Francisco yn canfod cerbydres yn agoshau gyda chyilymdra banner can milldir yn yr awr, a'r eneth ar y foment yn cymmeryd gafael yn ei brawd bychan gan ei daflu i agen yn y graig, ac yna yn neidio fel ellyll ar draws trwyn y tren i ymguddio mewn agen yr ochr arall, gan waeddi, Stick to the rock, Johnny, stick to the rock, Johnny ac felly yn parhau- nes chwyrnellodd y tren trystfawr heibio. Diogelwyd y ddau. Mae lion yn cynnwys elfenau chwedl dda ond oherwydd diffyg crebwyll a dawn ymadrodd, ni chafwyd ond adroddiad dieffaith iawn—llais main, teneu, cyhyrog, cygnog, ac mor boenus i'r clybodd a gwaedd mulfran 0 dan bron- chitis, yr hyn, yn nghydag agweddiad gor- Solomoniol, ofdd yn anfantais fawr iddo gyda'r gynnulleidfa. Yr olaf a nodwn yw Profedigaetli Satauaiddddiwrnod rhent." Chwedl ardderchog mewn cymmydogaetb amaethyddol yw hon, yn enwedig os dig- wydd i'r adroddwr feddll crebwyll bywiog a dawn ymadrodd da—gall fod mor ddydd- orol a dim a welir yn yr Arabian Nights. Clywais hi yn cael ei llurgunio unwaith neu ddwy. Dywedid fod hen gwpl priod- asol parchus iawn yn byw ar dyddyn da ar etifeddiaetli henafol Castell Bryn- diwanog. Unwaith yn y flwyddyn y telid y rhent, a byddai y ddau yn ddieithriad yn myned i'r castell y diwrnod hwnw, er fod ganddynt bum milidir ar hugain 0 ffordcl. Yr oedd hyny yn arferiad er cyn cdf gan y teuluoedd hyuaf oedd ar yr etifeddiaetli. Diwrnod mawr oedd hwnw ganyr hen bobl; siaradent lawer am dano cyn y deuai ac ar ol yr elai heibio-Yll enwedig am ginio y rhent." Hen bobl dda, grefyddol, yn ol yr hen ffasiwn oedd- ynt, ac yr oedd y byd a phawb ereill wedi bod ar delerau da gyda hwy bob amser. Yr oedd y naill wedi rhoddi ei gred i'r llall ar ddydd y briodas yn moreu eu hoes, ac ni bu ffyddlonach ymddiried erioed. Ond cawsant brofedigaeth annghyffredin un- waith wrth fyned i dalu y rhent. Yr oedd y dclau wedi cyfrif yr arian y prydnawn blaenorol amryw weithiau drosodd, a'u rhwymo yn barod yn y pnirs-" hen bwrs y rhent,"—erbyn y daeth boreudrannoeth; ond cyn myned i'r gwely, all gyfrifodd yr hen wraig hwy gan ei gor-bryder i fod yn sicr. Codasant yn foreu, a chychwynasant yn mhell cyn dydd er cyrhaedd y castell yn brydlon, a chael eu lie arferol wrth y bwrdd. Ond yn mhen ttiag awr aflonydd- wyd ysbrycl yr hen wraig gan amheuaeth yn nghylcli yr arian—ac yn fuan aeth yr amheuaeth Y.11 gred sefydlog nad oeddynt wedi cyfrif yn iawn. Sicrhai yr hen wr fod pob dimai yn ei lie, ond ni fynai hi ei pherswadio mewn un modd. Bu hir ddadl, ac yr oedd eu profedigaeth yn fawr iawn, obJegid yr oedd yr amser yn colli, ac lii allent fyned yn ol nac yn mlaen. Ond o'r diwedd, wedi hir bryderu a disgwyl, daeth ymyl eurog aml-liwiog gwawr y boreu i'r golwg, ac ni chafodd gwyliwr erioed fwy o ryddhad. Eisteddasant i lawr ar y twr ceryg cyntaf a gafwyd i agor y pwrs a chyfrif yr arian, a chafwyd eu bod yn eu lie. Cychwynasant eilwaith, gan feio y gelyn oherwydd ei ddichellion majeisus a'i gelwyddau dybryd, a daeth y ddau i deimladau da fel arferol wrth gyd-drin Satan. Ond cyn cyrhaedd banner y ffordd ffiachiodd rhyw lewyrch dros lygaid yr hen wraig, a daeth y syniad ar foment i'w meddwl fod peth o'r arian wedi syrthio i'r twr ceryg wrth rwymo y goden. Safodd mor ddiysgog a phawl Uticus. "Beth yw 0 y mater ?" ebe yr hen wr mewn cyffro. Beth yw y mater atebai yr hen wraig, pan gafodd ei hanadl,- syrthiodd dwy gini i'r twr ceryg wrth rwymo y god, ac y mae eu swn yn fy nghlustiau y munud yma." Ymdrechofid yr hen wr ei pher- swadio mai satan oedd yno drachefn, a gwnaeth ei oreu i geisio ganddi ddod yn mlaen yn lie colli amser. Nid oedd dim perswadio arni, ac felly mewn trailed mawr, wedi hir ddadleu, troisant o'r neilldu y cyfleusdra cyntaf*a gafwyd, i lanerch glas i gyfrif yr arian drachefn. Yr oedd cyffro yr hen wraig mor fawr fel y dyrysai bob cynnyg. Cymmerodd yr hen wr afael ynddo, a sicrhaodd fod y cwbl yn iawn. Ond nid oedd bosiBl gwnend iddi hi ganfod hyny, ac ni symmudai gam o'r lie. Yr oedd rhwng y ddau amgylchiad dros awr a hanner.0 amser wedi ei golli,a dechreuodd yr hen wraig ddwrdio y byddent ar ol pawb yn y castell. Ar hyn cynbyrfodd Satan yr hen wr yn angerddol. Ni bu un amgylchiad yn ei oes y gwnaeth y fath longddrylliad o'i ras attaliol. Siaradai yn uchel ac yn arw, a thaflodd awgrym cas nad oedd heddweh na llwydd- iant i ddynion gan ferched a Satan-dylni un a 'strywiau y llall-er yr amser y buont yn cyngrheirio i hudo y dyn cyntaf i ladratta, afalltu-a bod raid iddi hithau naill ai myned yn ei hoi adref gyda ei Satan,neu ddod yn ei blaen yn ddistaw ar unwaith. Cydgerddodd y ddau rhagddynt yn dawedog a 13arug, ond pan ddaetbant i olwg y castell a deall eu bod yno yn brydlon, siriol )dd eu hysbrydoedd—aeth- ant rliag eu blaen i'r office at y stiward i dalu y rhent, a chawsant eu hunain yn ol eu harfer y rhai cyntaf i eistedd wrth y bwrdd ar ddeheulaw eu meistr, er holl brofedigaethau tanllyd y dydd. Adrodd- iad caucus oedd hwn, a chynyrchodd effaith annghyffredin ar y dorf fawr oedd yn gwrando. Ni ddywedwyd dim yn ystod y gymmanfa a dynodd gymmaint o sylw ac a hi yn gymmaint 0 destyn siarad, yn enwedig yn mysg yr amaethwyr. Yr oedd pob gair, acen, ystum, a wine yn eu lie. Nid wyf yn coiio teimlo grym y llais yn gymmaint ar un amgylchiad— ie dyna lais clir, dwfn, cwmpasog, tonnog —pob nodyn yn gywir-mor gywir a nodau dihafal cloch arian saith—seith-mil bro- fedig sanctum sanctorum Astar Veda, lie nad oes neb ond duwiau yn cyfarfod. Yr oedd y darluniad godidog o fwrdd mawr hir, Ilawn, y castell—wyneb siriol, croes- awgar y meistr-yn nghyda'r olwg ddy- munol ar yr hen bar priodasol patriarch- aidd,anrbydeddus, yn ymfwynhau i helpu eu hunain a helpu eu gilydd ar ol y brofedigaeth fawr, yn rhoddi boddbad difesur i bawb, yn enwedig i epiciwriaid y gynnulleidfa, pa rai, fel march Job, oedd- ynt yn arogli 0 bell yr hyn oedd eu glwth chwant yn ei fawr fly si o. (Y darlithiau chwedlog mewn llith ddyfodol.) SION TOMOS. (I'w barhau.)

Advertising

NODION 0 GEREDIGION.

NEBO, CAPEL GARMON.I

Advertising