Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

-------'-"-'---...---'---.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHIALTWCH YN MBYNSIENCYN. Nid oes o bessibl hyd finion elaer y Fenai glir" lanerch fwy dymunol na, Threfarthen (nid Trefarthin), nag ond ychydig, dybygem, o fwy dyddordeb i'r hynafieithydd Cymreig. Llawer awr ddifyr a dreuliasom yn nghwmni rhai o drigolion hynaf y gymmydegaeth, tra yr adroddent gyda brwdfrydedd am rai o helyntion y lie yn moreu eu hoes; a thebygwn nad yw enw Trefartben i gael ei drosglwyddo i'r oesau a ddelont ar ol, heb o leiaf un ychwanegiad at restr prif hel- yntion y lie, oblegid y mae dychweliad y Cadben a'r Anrbydeddns Mre Duff o'u taith briodasol ddydd Iau diweddaf, eisoes wedi ei gofrestru fel prif ddigwyddiad yr oes, yma,—mor belled ag y mae rhialtwch yn myned. Fel yr awgrymasom yn ein sylwadau ar ddathliad y briodas, ychydig gyfleustra gawsom i roddi prawf teg ar deilyngdod y Cadben, ond meddem ffydd <ldiysgog yn ngeirwiredd yr hen ddiareb Oymreig—<f gwell gwr o'i berchi," a'r cyfWstra eyntaf ddaeth i'n cyrhaedd rhoddasom brawf arni. Ni chyrbaeddodd yma sicrwydd pandant partbed eu dych- weliad hyd j nos Sadwrn blaenorol, a gwelir fod yr amser i barottoi gogyfer a hyny yn resynol o fyr; fodd bynag, yip- ffurfiwyd yn bwyllgor yn ddioed, a phrota. manylrwydd a phrysurdeb y gweithred- iadau, pa mor awyddus a Ilalurns fuwyd i roddi i'r pir dedwydd dderbyniad croesaw- us. Ceisiwn roddi yma, mor gryno ag y gallwn, gipdrem ar y gweithrediadau. Yr oedd y ffordd yn ngbyfeiriad Llanfair, wedi ei britho a phynt a bwau bythwyrdd- ion, am o leiaf ddwy filltir a hanner o ffordd, uwchben y rhai y chwyfiwyd baner- au ac arwyddeiriau amrywiol a pbriodol. Safai y gyntaf o'r rhai'n dros y ffordd uwchben Gwyddfrynbir a'r yr hon yr oedd yr arwyddeiriau-" Long and happy life to Capt. and Hon. Mrs Duff," ac ar yr ochr gyferbyniol "God bless the happy pair." Y nesaf oedd yn agos i'r fynedfa at balas Llanidan, o wnenthuriad Mr John Roberts y g6f, ac arni yn ysgrifen- edig yr oedd Welcome home to Mr and Mrs Duff," yn nghyd a'r Llew mewn agwedd ymosodiadol (lion i-antpant).- arfbais y Cadben Duff. Addurnwyd hon hefyd ag amryw bwsiau tlysion a roddwyd ganyr Anrhydeddns Mrs Hussey. Gyferbyn a ni, ar y bryn uwchlaw yr Ysgol Wlad- wriaetbol, ymgyfyd un arall o faintioli aaferth o wneuthuriad Mri. Jones, Tycroes, a'r ysgolfeistriaid. Ar y cwr uchaf o boni yr oedd sketch tarawiadol o ddwylaw yn cyfareh, ac odditani y geiriau Welcome Mr and Mrs Duff," ac islaw drachefn yr ymadrodd tarawiadol o eiddo y gwleid- yddwr Americanaidd enwog Webster— H Now and forever, one and inseparable." Yn y gwagle uwchben y brif fynedfa tr;vodd y crogai y Hew drachefn, mewn agwedd fygythiol. Symmudwn yn mlaen yn nghyfeiriad y pentref. Ar y croes- ffyrdd ar ei gyfer sitif pedwar o fwau godi- dog, yn gwbi orchuddiedig a baneri ac arwyddeirian ac yn ffurfio math o betrual eang a fwriedid fod yn stand lie y rhydd- heid y pedwar earnoliaid o'u rhwymedig- aeth, ac y tresid ya eu lie "ebolion y Bryn." Yn y pentref ymgollwn yn lan yn ngorlawnder y baneri a'r arwyddeiriau a chyn ein bod wedi gallu myned banner ei hyd, yr ydym yn dyheu fel Ilwynog o flaen bytheuiid am un anaclliad o aivyr glir--yr oedd pob ty a thwlc, ac byd yn nod an- neddau y moch yn addurnedig. Pan drown em hwyneb yn nghyfeiriad y Fenai a Threfarthen, drachefn, ni welir ond pynt a baneri yn ymddyr- chafu yn mhob cwr. Y gyntaf a gyfar- fyddwn 4 hi sydd gyferbyn a'r persondy, yr hon, yn nghyd a'r baneri amryliw a'i hamgylchai, dangosai chwaeth a meckus- rwydd rhagorol. Ychydig o'n blaen,y mae math o dwael ardderchog gyferbyn a'r Ty Cocli, trigfa Mv T. M. Griffith a'r Dr. Owen ac ar y canllawiau (railings)o flaen y ty ymleda yr arwyddair Long life and happiness to Mr and Mrs Duff." Wedi gadael hon, canfyddwn ein hunain ar am- .1 rantiad bron, yn wynebu rhyw gastell deiliawg anfer ;1, o gynlluniad a gwneu- thuriad tenantiaid Assbeton Smith, Ysw., ac ar ei wyoeb y geiriau Tenants' wel- come to Captain and the Hon. Mrs Duff," yn nghyd a'r arwyddair Health, happi- ness, and prosperity," oil yn ffurliedig â daii, ac o yrnddangosian prydferth. Yr ydym bellach yu ngolwg prif fynedfa Tre- farthen; ac yn y bont uwobben, cawn chwaeth a chelfyddydyn eu perfieitbrwydd. Uwch ei phen y cyhwfana chwech o faneri mawreddog, ac arni y geiriltu-H Welcome home to Captain and the Hon Mrs Duff," yn nghyd ag arf-bais y boneddwr. 0 bob tu- i,r rhodfa, hyd at Drefarthen, rhifwa chwech ar hugain o faneri amryliw pob un yn eu dull inoesgar eu hunain yn croesawu y ddeuddyn dedwydd. Ychydig funudau cyn pedwar o'r gloch, rhoddai y fagnel oddiar fryn Ty Groes, arwydd i'r cannoedd disgwyliaid ar y stand y crybwyllwyd am dani o ddynesiad y teulu ieuainge. a mawr oedd y rhuthro o bob eyfeiriad i'r ffrynt er ceisio eiel golwg deg arnynt. Pan ^yrhaeddasant, llongy- farchwyd hwy a'r floedd o 0 hwre fwyaf taranllyd a, glywsorn erioed, a chanodd plant yr ysgol ddyddiol, y rhai a ffurfiwyd yo rhengoedd trefnus oddeutu y Square," yn odiaethol o swynol. Cydsyniodd y Cadben yn ddiolchgar a'r cynllun o'i lusgo i lawr oddiyno i Drefartben,ac wedi myned o honynt drwy y pentref ac yn ol, dadgys- sylltwyd y meirch, a chymmerwyd eu lie gan driarddeg o'r ardalwyr parchusaf,- amaethwyr gan mwyaf. Tra y cymmerai hyn le, aarhegwyd y foneddiges a, dyrnaid o bwsiau prydferth citn Miss U. M. E. Glynne Griffith, geneth fath ieuengaf y Cadben Glynne Griffith, Brynllwyd, a diolcbodd yn wresog i'r fechan am danynt. Yna cychwynwyd yn orvmdaith drefnus tua Threfarthen, yn nghanol bloeddiadau byddaroln "hurrah for Mr and Mrs Duff," y rhai a adnawyddid gyda grym fel yr elid dan y pynt ar byd y ffordd. Pan gyr- haeddwyd y fynedfa at y ty, disgyaasant o'r cerbyd, a diolchodd y cadben yn wresog i bawb am y derbyniad rhwysgfawr a roddasid iddo ef a'i briod, a hyderai j gallai mewn anasar roddi.iddynt brofion mwy sylweddol o'u diolchgarwch iddynt. Tra yr ail esgynent i'r cerbyd, derbynias- ant y Uongyfarchiadau mwyaf byddarol, ac yna ymwahanodd yr edrychwyr, gan na threfnid i neb fyned y tu mewn i'r lIe, oddigerth aelodau y pwyllgor gweitbiol, a chynnrychiolwyr y wasg, i'r rhai y trefn- asid luncheon belaeth mewn ystafell wedi ei haddurno yn hardd ar sryfer yr amcjylehiad, dan arolygiaeth Mr Neil McNeil, y bailiff. Wedi gwneud cyfinwn- der trwyadl a'r dyn oddimewn ail ym- Ifurfiwyd vn drefnus o flaen y dalas, lleyr oedd o cadben a'i briod siriol yn eu derbyn. Annerchwyd hwy ar ran y pwyllgor gan Mr Roberts, yr ysiiolfeistr, yr hwn a ddat- ganai ofid dwfn oblegid analluogrwydd y pwyllgor i gyflwyno iddynt annerchiad priodol fel y dymunent, a hyny drachefn oblegid eu dychweliad annisgwyliadwy1, a hyderai y caent yn fuan yr anrhydedd o wneuthur hyny ar ymweliad aer ac etifedd. Diolchodd y cadben mewn ychydig eiriau llawn teimlad, a dywedai na byddai iddo byth annghofio y croesawiad annisgwil- iadwy a roddasid iddo ef a'i briod, ac yr hyderai y caffai yn fuan wneuthur rhyw- beth iddynt mewn ffordd o ad-daliad. Heddyw (ddydd Gwener),anrhegir plant yr ysgol ddyddiol, oddeutu dau gant mewn nifer, a the a bara brith, &c., a'r un modd gweddwon a thylodion ereill y gymmydog- aeth â chiniaw danteithiol gan Mr a Mrs Duff, a ffyna y brwdfrydedd mwyaf yn mysg pawb.-Goheby(ld.

[No title]

GWRECSAM A'R AMGYLOHOEDD.

-----_._._--__--. DYNLADDIAD…

DYNLADDIAD PRIOD.

I MORWYR YN AvrR A THKITJGAINI…

jK^\rYNTAD PLANT.

.. LLOFRUDDI.VETH GAN FACHGEN.

MACHYNLLETH.

Family Notices

GORNEST I FARWOLAETH.

EISTEDDFOD RHYL. !