Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CLEFYD Y MOR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CLEFYD Y MOR UN diwrnod, yr haf diweddaf, diwrnod tawel a liyfryd, tynwyd sylw teithwyr ar fwrdd un o'r agerlongau a groesant rhwng Dublin a Chaergybi at foneddiges ieuanc brydferth a thrwsiadus, yr hon oedd yn sal iawn gan glefyd y mor. Cymerwyd hi yn sal gyda i'r llong gychwyn, a thrwy nad oedd neb ond hi yn sal ar y llong tynai sylw mawr. Yn ccrddcd yn ol a blaen ar y dec yr oedd boneddwr parchus yr olwg arno, ac wrth weled y bobl yn ymdyru o gwmpas y ferch ieuanc, aetli yno i edrych beth oedd y mater. Wedi ymwtliio i ganol y dorf, gofynodd, Clefyd y mor sydd ami ? Ie, syr," atebai rhywun. Gwelid y boneddwr yn chwilio ei bocedi, ac o'r diwedd, tynodd allan flwch bychan, tebyg i flwch pils, ac meddai wrth yr edrycliwyr, Yn ffodus iawn y mae genyf feddygin- iaetli anffaeledig ar gyfer y salwch atgas yma. Os bydd i rai olionocli ofyn i'r fereh ieuanc yna gymeryd y pils hyn yrwan, bydd yn holliach cyn pen y cliwarter awr. Mae yn ddrwg genyf drosti, druan, pwy bynag ydyw y niae yn bur sal, mi welaf." Darfu i ryw foneddiges garedig a ddaliai ben y ferch ieuanc sal gymeryd y boes o law y boneddwr, a rhoddi dwy o'r pils i'r glaf mewn ychydig o ddwfr glan. Safai y teith- wyr o gwmpas, yn llawn o awydd gweled a oedd rhyw feddyginiaetli wedi cael ei dar- ganfod o'r diwedd i wella clefyd y mor. Edrychant ar en horiaduron er mwyn gweled a fyddai i'r pils hyny wella y ferch ieuanc o fewn chwarter awr fel yr oedd y dyn wedi dyweyd y gwnant. Cyn pen deng mynyd, yr oedd y ferch ieuanc yn dechreu adfywio; a chyn pen ugain mynyd yr oedd yn holl- iach, yn cerdded o gwmpas ac yn dechreu mwynhau awyr iacli y mor fel y teithwyr ereill, o ba rai nid oedd neb yn sal. Anilygodd y teithwyr syndod a boddhad wedi gweled effeithiolrwydd y fath feddygin- iaeth, ac aeth lluaws ohonynt ar ol y gwr boneddig oedd piau y blychiad pills gan ofyn iddo pa le y gallent hwy gael y feddygin- iaetli, rhag ofn iddynt fod yn sal o glefyd y mor rywbryd yn y dyfodol, ac meddai y boneddwr wrthynt, Yr wyf fi yn teithio dros y cwmni mawr o fferyllwyr sydd yn gwneyd y pelenau hyn, ac yn bur ffodus y mae genyf ryw ddau neu dri dwsin o fiyeheicliau ohonynt yn fy mag i lawr yn y caban." Aeth y teithwyr ar ei ol i'r caban, a bu gwerthu prysur ar y pils am y gweddill o'r fordaith. Gwerthodd y boneddwr werth deng neu ddeuddeg punt ohonynt cyn cyr- liaedd Dublin, ac wrth gwrs, ni bu treial arnynt wedy'n y tro hwnw gan fod y tywydd mor dawel a neb yn sal. Wedi cyrhaedd Dublin, synwyd y teithwyr yn fawr wrth weled y boneddwr a'r ferch ieuanc fu yn sal-y rhai nad oeddynt wedi dangos unrhyw arwydd cyn hyny eu bod wedi gweled eu gilydd erioed o'r blaen-yn myned or agerlong i'r lan yn mreichiau eu gilydd, yn galw cerbyd ac yn gyru ymaith ar ffrwst gyda'u gilydd. Caed allan wedi hyny nad oedd y feddyginiaeth anffaeledig hono yn ddim amgen na phelenau o flawd a dwfr wedi eu cymysgu, ac er eu bod wedi costio i'r teithwyr druain hanner coron y blychiad, nad oedd fwy o rinwedd ynddynt i iachau clefyd y mor, neu unrhyw glefyd arall, nag sydd o rinwedd mewn blawd llif i wnoyd cawl. Sowlrl again, be jaber-sl" ebe'r Gwyddelod yn unllais.

Y WRAIG LENYDDOL

Y PARROT"

Advertising