Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
'\ , Y FARWNES BURDETT-COUTTS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y FARWNES BURDETT-COUTTS. HANA y bendefiges hon o cleulu cyfoetliog yn Llundain—teulu q ariaii- wyr, y rhai a wiiaethant, ffortiwn fawr drwygadw un o brif fanciau y brif- ddinas. Angela Georgina 9 t, Burdett-Coutts yw y farwnes, a hi yw y gyntaf i ddwyn y teitl yna, oblegid yn 1871 y cafodd y teitl ei roddi. Y mas yn nodedig ar gyfrif ei haehom at wahanoi achosion, ac ar gyfrif ei dyngarwch a'i gofal am y tlodion. Priododd yn 1881, gyda Mr W. Ashmead-Bartlett, yr hwn a gymerodd iddo ei liun yr enw Burdett- Coutts—y gwr yn cymeryd enw y wraig! Cafodd ei gwr ei etliol i'r Senedd yn 1885 yn aelod dros Westminster. Y mae y farwnes yn 79 mlwydd oed yn awr.
--MADAME PATTI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MADAME PATTI. GELWIR Madame Adelina ClorindaPatti yii "Fren- hines y Gail," a diau mai hi yw cantores en- wocaf y byd yn awr. Italiad yw o ran gwe- helyth; yn Madrid, Yspaen, y ganwyd hi ac yn Nghraig y Nos, ger Abertawe, Deheudir Cymru, y mae yn cy- meryd ei cliartref pan heb fod ar ei theithiau. in JNew lork, yn 1859, y gwnaethei hymddangosiadcylioeddus cyntaf, ac or yr adeg hono y mae wedi bod yn canu yn mron yr olio brif ddinasoedd y byd. Ei tliaith drwy Weriniaeth Arianin, Deheu- dir America, oedd y fwyaf llwyddiannus o'i holl deithiau fel cantores. Cynnaliodd yno 24 o gynglierddau, ac yr oedd derbyniadau yr oil ohonynt yn 70,000p, a derbyniodd hithau gymaint a 1600p y noson o gyflog. Y mae ganddi cliwareudy wedi ei adeiladu yn Nghastell Craig y Nos. Priododd, yn 1868, gyda phendefig tramoraidd, ond yn 1883 cafodd ysgariaeth oddiwrtho, ac y maeyn awr yn briod gyda Signor Nicolini, yr hwn yntau sydd yn lleisydd o gryn fri. Dyry gyngherdd blynyddol' yn Abertawe er budd y tlodion. Yn 'Eisteddfod Gencdlaetliol Aberhonddu canodd ainryw droion, ac enynodd frwd- frydedd digyffelyb.
MICHAEL DAVITT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MICHAEL DAVITT. NID yw efe yn awr ond 47 mlwydd oed. Fferm- wr bychan oedd ei dad, a phan nad oedd Michael ond ieuanc iawn, cafodd y teulu eu troi o'u fferm, ac y mae y di- gwyddiad hwnw wedi gadael y fath argraph arhosol ar Davitt fel ag i beri iddo ddod allan fel un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda helynt y tir yn y Werddon. Collodd ei fraich ddeheu drwy ddamwain mewn melin yn Lancashire, pan uad oedd ond bachgen. Aeth i gysylltiad a'r Ffeniaid, ac yr oedd yn bresennol yn yr ym- osodiad ar Gastell Caer, ac am anfon arfaui'r Werddon, cafodd ei ddedfrydu i bymtheng mlynedd o benydwasanaeth. Rhyddhawyct ef yn mlien saith mlynedd a saith mis. Tra yn y carchar, cynlluniodd yn ei feddwl ym- gyrch tirol i'r Werddon er sicrhau y tir i'r bobl." Wedi dod yn rliydd, trefnodd gyfar- fodydd yno, ac yn y cyntaf ohonynt cycliwyn- wyd y Cynghrair Tir. Anfonwyd ef yn ol i benydwasanaeth, a bu yno am bymtheng mis. Yn yr etlioliad cyffredinol y llynedd dychwelwyd ef i Dy'r Cyffredin fel aelod dros Ogledd Meath. Cafodd ei ddiseddu am y rheswm fod rhai o'r offeiriaid wedi defnyddio dylanwadau annheg o'i du, ond yn ddilynol, etholwyd ef yn ddiwrtliwynebiad dros ranbarth arall.
WILLIAM BLACK.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WILLIAM BLACK. MR WILLIAM BLACK yw un o ffugchwedleuwyr galuocaf Prydain ar hyn o bryd, ac y mae wedi cyhoeddi llawer o nofel- au o dro i dro, y rhai sydd wedi cael cylch- rediad mawr a darllen- iad pur gyffredinol yn mhlith y Saeson a'r Y sgotiaid. Albanwr yw efe, wedi ei eni a'i fagu vn ninas Glasgow, a chychwynodd ar ei yrfa lenyddol yn gyntaf oil fel newyddiadurwr, fel, yn wir, y mae y nifer luosocaf, fe ddichon, o nofelwyr wedi cycliwyn. Bu yn dal cysylltiad a newydd- iadur Llundeinig, ac yn ystod yrhyfel rhwng Prwsia ac Awstria, yn 1866, efe oedd gohebydd arbenig y papyr hwnw. Wedi hyny bu mewn cysylltiad a r Daily News, y newyddiadur mawr Rliyddfrydol, i'r hwn y bu am gryn amser yn olygydd cynnorth- wyol. Ysgotaidd yw "golygfeydd" llawer o'i ffugcliwedlau, ac yn Ysgotland y darlunia y digwyddiadau yn cymeryd lie.
Y DEON VAUGHAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DEON VAUGHAN. DYMA wr enwog sydd wedi gwrthod un o'r swyddi mwyaf anrliydeddus allai Eglwys Loegr ei chynnyg iddo, sef gwrthod cael ei benodi yn esgob. Bu yn brif-atliraw ysgol enwog Harrow am fiynyddan, ac yn 1860 gwrthododd esgobaeth Rochester. Yn mhen naw mlynedd ar ol hyny calodd ei benodi yn Master of the Temple, ac yn Ddeon Llandaf yn mhen deng mlynedd wedi hyny drachefn. Penod- wyd ef yn un o swyddogion clerigol ei Mawr- hydi yn y flwyddyn 1883. Mae y Deon Vaughan yn enwog fel awdwr yn ogystal ag mewn cyfeiriadau ereill; ac yn mhlith ei weithiau Ulwyaf adnabyddus ceir Eglwys y Dyddiau Boreuaf "Darlitliiau ar Actau yr Apostolion;" a Hanner Oriau yn Eglwys y Temple." Y mae efe bellach wedi cyr- haedd oedran lied fawr, oblegicl ganwyd ef yn y flwyddyn 1816.
I111BRENHIN YSPAEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
111 BRENHIN YSPAEN. DYMA ddarlun o'i Ucliel- der Brenhinol Alfonso XIII., breiihin Yspaen, yr hwn a an wyd yn Mai, 1886, ac felly nid yw eto end saith oed— y brenhin ieuengaf yn Ewrop. Wrfch gwrs, nis gall efe lywodraetliu neb na dim am flyn- yddau eto, ac hyd lies y daw i oed, mae y deyrnas i barhau dan lywodraeth y Frenliines Maria Christina, ei fam. Bu farw ei dad, Alfonso XII. yr un flwyddyn ag y ganwyd y brenhin-etifedd bychan hwn. Flynyddau yn ol bu helynt mawr yn Yspaen, pan y torodd gwrthryfel allan, ond trechwyd y gwrthryfelwyr, ac yn 1876, ffurfiwyd i'r Yspaen y cyfansoddiad sydd iddi yn awr, sef brenhiniaeth a llywodraetli gyfansoddiadol, gyda'r gallu i weithredu yn nwylaw y brenhin, a'r gallu i ddeddfu yn ngofal y Cortes, fel y gelwir y Senedd yno. Os bydd y plentyn hwn fyw i oedran priodol, bydd yn frenhin ar oddeutu deunaw miliwn o bobl.
Y PROFFESWR HENRY DRUMMOND.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PROFFESWR HENRY DRUMMOND. GwR enwog ar lawer ystyr, yn enwedig fel awdwr ac fel athronydd crefyddol. Enillodd ei enwogrwydd mawr gyn- taf drwy ei lyfr ar Ddeddfau Naturiol yn y Byd Ysprydol," llyfr gwir alluog, sydd wedi cael cylchrediad rhy- feddol. Y mae wedi cyhoeddi llawer o lyfrau ereill o dro i dro ar ol hyny, megis Y Peth Mwyaf yn y Byd Pax Yobiscum" Y Bywyd Cyfnewidiedig," &c., ac yn ychwan- egol at y cyfryw lyfrau o nodwedd grefyddol, y mae wedi ysgrifenu llyfrau ereill yn des- grifio ei deithiau yn Neheudir Affrica, Gogledd America, a manau ereill. Brodor o Stirling, Ysgotland, ydyw, a derbyniodd ei addysg yn Mhrifysgol Edinburgh a bu wedi hyny yn efrydu yn ngholeg duwinyddol Eglwys Rydd Ysgotland, ac ar ol hyny aeth yn genadwr i Malta. Wedi dychwelyd oddi- yno i Ysgotland penodwyd ef yn areitliydd ar wyddoniaeth yn ngholeg yr Eglwys Rydd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dylai ein gweddiau fod am fenditliion yn gyffredinol, canys Duw a wyr yn oreu betli sydd dda i ni.-Socl"atcs. Nid yn unig y mae efe yn segur sydd yn gwneuthur dim, ond y mae yntau hefyd yn segur a allai fod yn gwneuthur gwell.- Socrates. Hyd oni byddo dyn wedi dyfod i adnabod ei hunan, mae yn wrtliun iddo ymbryderu mewn perthynas i bethau allanol, y rhai nid oes a fyno efe a liwy.—Socrates. Megis yr adwaenir ceffyl, nid wrth ei wisg ond wrth ei deithi, felly y mae dynion i'w gwerthfawrogi am eu rliinwedd ac nid am eu e,yf oetli.-Socrateg.