Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

BYDENWOG

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BYDENWOG 7. Sultan Twrci YDD y rhai hyny o'n clar- llenwyr sydd wedi dilyn y bywgraphiadau roddwyd eisoes ar y tudalenau hyn o frenhinoedd a llyw- iawdwyr Ewropeaidd, yn g weled han es Ymlierawdwr Twrci yn rhywbeth hynod gwelant yn ddi- oed fod yr hanes yn dwyn cysylltiad a gwlad a phobl ryfedd-pobl y mac eu crefydd, eu harfcrion, ou hiaith, a'u pobpeth o'r bron, mor wahanol i eiddo cenedloeddereillEwrop ag y dichon iddynt fod. Ac nis gall liyn fod yn wahanol, oblegi I nid Ewropeaid yw pobl Twrci; 0 Asia y daeth mt, porthyn i Asia y maent, lliw melynddu pobl Asia sydd ar eu wynebau, crefydd fawr Asia—Mahometan iaeth—yw eu crefydd, ac arferion Asiaidd yw cu harferion gwladol a chymdeithasol. Pan ddywcdwn fod gan y Sultan presennol bedair o brif wragedd, ac oddeutu tri chant o gaethforwynion, neu yn hytrach ordderch- adon, gwelir ar unwaith fod un o brif sylfaeni arferion cymdeithasol y Twrc yn dra gwalianol i eiddo yr Ewropeaid. Ond o ran hyny, yn Asia y mae rhan fawr o'r ym- herodraeth Dyrcaidd yn gorwedd mae Asia Leiaf o dan faner yr haner lleuad, ac o gan- lyniad, dan lywodraeth y Twrc y mae y Tir Sanctaidd fu yn fagwrfa gycliwynol i'r grefydd fawr arall sydd maes o law i yru Mahometaniaeth a phob tywyllwch oddiar wyneb y ddaear, sef Cristionogaeth. Rhyw helynt yn nglyn a gwlad Canaan fu yn esgus gan Czar Rwsia pan y cyhoeddodd ryfel yn erbyn Twrci yn Ebrill, 1877. Cymerai y Czar arno fod yn teimlo parch rhy ddwfn i'r Tir Sanctaidd i ganiatau i'r Twrc gario yn mlaen ei annhrefn a'i afreoleidd-dra yno, ac felly galwyd ei fyddinoedd allan i ymosod ar Twrci. Bu yn ymladd dyclirynllyd; cafodd y Twrc gurfa dost amryw weithiau, ond cafodd y Rwsiaid lawer curfa liefyd cyn i Gyngrair Berlin roddi atalfa derfynol ar raib a thrachwant yr Arth o'r Gogledd. Ond i ddyweyd gair am y Sultan, Abdul Hamid II. Ar y Sulgwyn yn 1879, caed y cyn-Sultan yn farw yn y palas, ar lan y Bosphorus, un ai wedi cyflawni liunanladd- iad neu wedi cael ei lofruddio. Yr oedd wedi cael ei ddiorseddu bum' diwrnod cyn hyny, dan yr esgus ei fod yn wallgof, a gorseddwyd ei nai, Mourad. Ond ychydig wythnosau y bu hwnw drachefn ar yr orsedd cyn dangos nad oedd ei alluoedd meddyliol yn ddigon cryfion i wrthsefyll y gwahanol ddylanwadau tramor geisient gipio Twrci oddiarno, ac felly bu raid iddo yntau wneyd lie i Sultan newydd, sef y presennol, yr hwn sydd yn frawd iddo. Nid oedd ar y Sultan presennol eisieu y fath swydd; yr oedd wedi byw yn dawel mewn ym- neillduaeth hyd hyny, a gwyddai mewn pa f th annrhefn ofnadwy yr oedd yr ym, j. olraeth. Fodd bynag, wedi methu cael gan yr awdurdodau roddi un prawf yn rhagor ar ei frawd, cydsyniodd yn bur an- ewyllysgar i esgyn i'r orsedd, a geiiit- ayweyd am dano mai efe yw un o'r llywiawdwyr goreu fu gan Twrci er's cinrifoedd. Nid oedd ond ieuanc y pryd hyny—nid yw eto ond 51—ond yn lied fuan ar ol dechreu teyrnasu, dangosodd fod ganddo fwy o yni, p3nderfyniad, a gallu na'r un Sultan fu o'i tiaen er's llawer o amser. Dechreuodd wneyd ymchwiliadau manwl i gyflwr arianol a chymdeithasol ei wlad, a gwelodd fod yno y tryblith mwyaf yn bodoli. Mewn gair, yr oedd Twrci ar fin trancedigaeth fel ym- herodraeth annibynol; ei thysorlys yn wag, y llywodraeth bron wedi myned yn bankrupt; cudd-swyddogion Rwsiaidd wrthi yn brysur yn mhob tref a phentref yn ceisio enyn gwrthryfel yn mlilith y bobl anwybodus—ac anwybodus iawn oedd pobl Twrci y pryd hyny—yr oedd Servia liefyd wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Twrci; ac yn ngwyneb. y perygl nid oedd gan y Twrc ddim trefn na rheol ar ei fyddin -pobpeth wedi myned yn blith-draphlith, yn gymysgfa anobeithiol o'r bron. Dyna fel y cafodd Abdul Hamid ei ymherodraeth pan esgynodd i'r orsedd yn 1876. Yn ddioed gafaelodd yn yr awenau gyda llaw gadarn mynodd gael ei ffordd ei hun er gwaethaf ystrywiau a chyngliorion yr haid ddiles o gynghorwyr oedd o'i gwmpas, y rhai fynent iddo beidio cymeryd unrhyw fesurau newyddion na gwneyd dim gwelliantau, eithr gadael pobpeth fel yr oeddynt. Cy- merodd arno ar y cyntaf wrandaw arnynt, gan mai gorchwyl anhawdd a pheryglus iddo ef ei hun fuasai iddo eu bwrw dros y bwrdd yn ddiseremoni; ond tra yn gwrandaw yn barchus ar eu cymhelliadau, yr oedd yn brysur yn paratoi ei gynlluniau ei hun, y rhai y mynodd wedi hyny eu gosod mewn gweithredia,d. Dechreuodd cyflwr Twrci wella yn raddol, ond cyn pen y flwyddyn, fel y dywedwyd o'r blaen, dyna y Czar yn anfon ei fyddinoedd i geisio llethu y Twrc o fodoL aeth, ond ni chafodd y Czar ryw lawer o ogoniant i'w fyddinoedd nac o enill i'w wlad drwy y rhyfel hwnw, gan iddo gyfarfod mwy o wrthwynebiad nag yr oedd wedi fargeinio am dano. Bytli er pan derfynodd y rhyfel ac i heddwch deyrnasu, mae y Sultan wedi bod yn gwneyd ei oreu i wella cyflwrr ei bobl yn foesol a chymdeithasol. Y mae wedi cryf- hau y fyddin, fel erbyn heddyw mae gan Twrci fyddin gref iawn y mae wedi peri i reilffyrdd gael eu hagor drwy'r ymherodr aeth, wedi dwyn i weithrediad gynllun addysg rydd drwy bob cwr o'r wlad wedi ceisio, beth bynag am lwyddo, i wneyd i ffwrdd yn llwyr a'r llwgrwobrwyo cyffredinol oedd yn myned yn mlaen mewn cylchoedd uchel yno, ac wedi amcanu gosod sefyllfa arianol yr ymherodraeth ar well seiliau. Ond cylchynir ef gan beryglon, yr hyn sydd yn peri ei fod, o ran ymddangosiad, yn ddyn an- esmwyth, ofnus, ac yswil, pan nad yw felly mewn gwirionedd. Cymerir y gofal mwyaf gyda'i ymborth, rhag ofn i rywun ei wen- wyno. Gwneir ei ymborth mewn llestri arian neu aur yna selir hwy, a bydd y prif ganghellydd yn cymeryd llwyaid o bob llestr cyn i'r Sultan ddechreu bwyta. Rliat peryglus yw ei wragedd, neu ei ordderch- adon, hefyd; mae llawer ystryw a brad- gynllwyn yn erbyn ei ragiiaenoriaid wedi cychwyn o'r harem, fel y gelwir y palas lie y mae yr holl ferched hyn yn byw. Mae yn y palas hwnw oddeutu chwe mil o bersonau, a bwyteir tunelli o ymborth yno bob wythnos. Gwell gan y Sultan, fodd bynag, fyw yn. mhell o swn ei wragedd-ar ei ben ei hun mewn palas bychan ar lan y Bosphorus. Rhaid fod gan dri chant o wragedd swn ofnadwy. Gwarchod pawb Tri chant Mae un yn ddigon.

PENNILLION Plaoa