Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

- SUT I WELLA COF DRWG

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SUT I WELLA COF DRWG YCHYDIG o fisoedd oedd er's pan yr oeddynt wedi priodi. Cyn iddo ef fyned i'r dref yn y boreu rhyw ddiwrnod, dywedodd y wraig wrtho fod ganddi lythyr iddo, wedi ei ysgrif- enu ganddi hi ei hun. Nid oeddef i ddarlleii y llythyr hyd nes y cyrliaeddai y dref. Felly y bu. Yn y dref, agorodd efe y llythyr yr hwn oedd fel y canlyn Yr ydym yn awr wedi bod yn briod er's misoedd. Meddyliais lawer am ddyweyd wrthych yr hyn sydd ar fy meddwl, ond attaliais hyd yn hyn. Y mae y peth mor bwysig, ac y mae wedi dyfod mor annioddefol fel nad oes modd mwy ei gelu. Ofnaf yn sicr, fy anwylyd, y bydd i chwys oer redeg ar hyd eich cefn pan ddeallocli yr hyn sydd genyf i ddyweyd wrthych. Wel, rhaid tori trwodd i ddyweyd y peth, er cased y dichon iddo fod [yma rhaid oedd troi tudalen, yr hyn a wiiawd gyda'r cyflymdra mwyaf]. Nid ydycli wedi cofio gorchymyn i'r glo fasnachydd anfon tunell o lo yma eto Aeth y gwr yn union at y gwerthwr glo, a rhoddodd archeb am dunell.

=r" NEWYDDION TRWY Y TELEPHONE

Advertising

GO' GLYNOGWY neu 'Nid Clan…