Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NAPOLEON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NAPOLEON Tra, bu "gwaedgwn rhyfel" yn cymeryd eu hanadl atynt. yn adeg GynnadIedd Amiens, yn 1802, talwyd Sylw un waith yn rhagor i'r Ddyled Wladol, a'r moddion goreu i'w thynu i lawr. Yn mhen ychydig o fisoedd fe welwyd fod heddwch ar sylfon sigledig. Yr oedd Napoleon yn benderfynpl am ryfel, ac ni phetrusai pa fodd y caffai ef hi. Pan ofynwyd iddo am eglurhad arei ha.wlion.. efe a ddywedodd mewn modd haerllug wrth y negesydd Seisnig, yn Mharis, nas gallai Prydain Fawr ymladd a Ffrainc. Yn Mai, 1803, gofynodd Arglwydd Whitworth am ei passports. Yna dechreuodd y rhyfel, yr hon a. drochodd Ewrop mewn gwaeci dynol, ac a barha- odd hyd nes y gorchfygwyd 3'r hen Nap. ar faes gwaedlyd Waterloo, yn 1815. Nid oedd yr hen ryfelwr yn foddlon ar ryfel a Lloegr, ond aeth ac a roes holl Ewrop yn erbyn y gelyn cyffredinol a chwerw. Casglodd y fyddin oedd i wneyd rhythrgyrch ar Loegr j Boulogne. Ond pan welodd ef nad oedd modd croesi y sianel tro-es ei wyneb i'r Cyfandir, ac yn fuan yr oedd tynged Awstria wedi ei phenderfynu yn Awsterlitz. Ond '0"1' diwedd fe droeosi y llanw, cafodd y Ffrancod ar ddeall yn lied fuan nad oedd dull yr Hispaeniaid o ryfela (yr hwn, gyda llaw, oedd yn gyffelyb i'r dull a gymerir yn awr gan y Boer- iaid) mor hawdd i'w roddi i lawr ag y tybient ar y cyntaf; ac yr oedd y Prydeiniaid yn ga.llu taro Napoleon drwy y Peninsula darawiadau a fuont yn ddinystr iddo. Torwyd y cynghrair a Rwsia a gwthiodd Napoleon ei luoedd i gyfeiriad Moscow, yr hyn a fu'n. ddifrod trwyadl i'r rhyfelgyrch hwnw. Gyrwyd Nap. yn ol, a bu raid, idd'o gwffio am ei fywyd ar waMadeddau ei wlad ei hun—-Ffrainc. Er ei lioll fedrusrwydd fel rliyfelwr, ac yr oedd ei fedr yn fawr ofnadwy, fe gafodd ei hun yn Elba! Ond dychwelodd yn ol i Ffrainc yn dra sydyn ao annisgwyliadwy, ac yr oedd yn fuan yn arwain byddin gref. Swniai tabwrdd rhyfel unwaith drachefn. Ni pharhaodd y rhyfel ond amser byr. Machludodd seren Napoleon ar faes Waterloo, a theyrnasodd heddwch unwaith vn rhagor ar Ewrop. O'r flwyddyn 1803 i 1815, fe chwyddodd y Ddyled Wladol i swm aruthrol; ac y mae d'au- fis ar hugaiii o ryfel a'r Boeriaid wedi ei chwyddo drachefn yn ol dwy filiwn yn yr wythnos

GWION AC OLWEN

[No title]