Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PENNOD XXXVIII.-AGOR LLYGAID…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENNOD XXXVIII.-AGOR LLYGAID DAU DAD. "Sut mae Miss Ludlow?-Rhyw newydd am Mr Herberb?" ymholai Syr Thomas, wrth ddy- chwelyd gartref, ond heb aros i glywed atebiad James, y butler moesgar. Wedi bod mewn cyf- arfod arbenig o'r ustusiaid yn Nhre Ddyffryn yr oedd y barwnig y diwrnod hwn pan yr oedd Gwenith yn fawr ei hawydd a'i phryder yn Mod Unig. Wrth gwrs, prin y rhaid hysbysu y darllenydd mai celwyddau digymysg o'r dechreu i'r diwedd oedd holl stori Stewart wrth Ferch y Saer. Er mawr ofid iddo, deaUodd y barwnig oddiwrth ei ferch, May, nad oedd dim goleuni sut yn y byd wedi ei gael ar y dirgelwch mewn perthyiuis i Caradoc Herbert; a mwy o lawer oedd ei ofid a'i bryder pan ddeallodd mai gwaeth yn hytrach na gwell ydoedd iechyd Alice. Yn wir, yr oedd hi yn cael ei hystyried yiiCb'feryglus o glaf. Noson bruddaidd ddigon, gan hyny, ydoedd hon yn Mhlas Penros. Y farn gyffredin, yn y cyfamser, ydoedd y rhaid fod Caradoc wedi cael ei "fwrdlro" gan rai o'r sipsiwn. Dyma sefyllfa pethau pan y safai Syr Thomas Ludlow wrth ddrws ei balas, boreu dranoeth, a golwg pur bryderus ar ei wedd.. Toe, wele'r Ustus Tomkins yn marchogaeth i fyny at y ty. Ei neges rieillduol ydoedd trefnu pethau yn derfynol gyda golwg ar briodas ei fab, Fred, ag Alice Ludlow. Ac nid heddycliol ei ddyfodiad, chwaith, a gwyddom yn dda paham—oherwydd iddo goelio Fred fod Syr Thomas yn dirmygu'r meddwl am berthynas briodasol rhwng Plas Penros a Phlas y Coed. Gan mai "busnes" oedd i'w drafod, aeth y ddau wr boneddig i'r- parlwr lie y bu y barwnig yn siarad ddiweddaf a Charadoc Herbert; a chanfyddai Syr Thomas, ar un edrychiad, fod tymher yr hen Ustus yn bur afrywiog, a'i fod wedi dyfod yno i "ddweyd ei feddwl yn blaen," yn ol ei arfer. "Nid wedi dyfod yma i fwyta nac i yfed yr wyf," ebai'r Ustus, yn gwta ddigon; ond i setlo pethau gyda golwg ar Fred acw, ac Alice. Yr wyf wedi clywed—nid dyn i droi o gwmpas pethau ydwyf fi, Syr Thomas, fel y gwyddoch— do, mi glywais o enau Fred ei hun eich bod yn ystyried mai rhywbeth .islaw 'ch ,sylw chwi jifyddiai uniad priodasol rhyngddo ef ac Alice. Pwy ydych chwi,.syr, mi garwn wybod? Pwy a pheth oedd eich cyn-dadau ? Paham na fuasech chwi yn meddwl am hyn cyn tros- glwyddo eich etifeddiaeth i'm dwylaw i? Ateb- wch chwi y cwestiynau hyn, Syr Thomas' Lud- low A tharawodd yr hen Ustus y bwrdd yn drwm a'i law nes-y neidiai y dwfr o'r cawgiau gwydr addurnedig a ddalient y blodau—blodau a gasglodd ac a drefnodd dwylaw Alice ei hunan. Hawdd oedd gweled oddiwrth wynebpryd y barwnig ei fod yntau wedi cael ei gyffroi a'i ddigio yn fawr. Gwyddai yn dda nad oedd ei gyn-dadau ef ei hun yn agos cystal, o ran cyfoeth ac urddas cymdeithasol, a chyn-dadau yr hen Ustus ond ni chaniataodd i'w deimlad ei ar- wain i ddweyd dim anfoesgar wrth yr hen fon- eddwr. Ei unig sylw ydoedd, "Mae ymddygiad eich mab y fath, Sgweiar Tomkins, • nad alia i ddim ei gymeradwyo sut yn y byd. Gvda golwg "Ymddygiad wir!" ebai'r hen wr, yn fawr ei gyffro, "ai chwi sy'n siarad am ymddygiad, Syr Thomas Beth am eich ymddygiad cliwi eich liunan I Beth fu hwnw, tybed? Beth, hefyd, ond testyn gwawd a chrechwen i'r holl sir Beth os ydyw Fred wedi bod: dipyn yn wyllt'( Nid ydyw eto, beth bynag, wedi bod yn is ei yDl: ddygiad nag y buoch chwi eich hun, syr! Nt chlywais i erioed ei fod wedi syrthio mewn cariad a'r ewe acw nac ag unrhyw un arall o'r morwynion. Ymddygiad wir! efallai ei fod wedi dilyn yr esiampl a roddasoch chwi eich hun iddo, ond nid oedd gan Fred na phriod na merched wedi tyfu i fyny i gael eu poeni oher- wydd ei ymddygiad. Meddyliwch am y pethaU

----MEROH SIMON Y ..SAER -