Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. LLYTHYRAU.—Drwg gennym nas gall y ddau lythyr ar Safon Caneuon Oymreig ymddangos yr wythnos hon. Y ffaith yw -ein. bod oddicartref, ac felly nas gellir rhoddi y Haw arnynt. Cant ymddangos yr wythnos nesaf. EDWARD GRIEG.—Ni fyddai y nodiadau cerddorol hyn yn gyflawn heb o leiaf gyf- eiriad at y cerddor adnabyddus hwn, sydd aiewydd ymadael a'r fuchedd hon, yn 64ain ml wydd oed. Ganwyd Grieg yn Bergen (Norway) ar y 15fed o Fehefin, 1843. Hannai o linach Geltaidd, canys yr oedd ei daid, Alexander -Grieg, yn Ysgotyn. Dysgodd ei gelfyddyd, ,gan mwyaf, yn yr Almaen, ac yr oedd dylanwad Gade a Mendelssohn yn amlwg yn "ei weithiau. Fel Schubert, rhagorai Grieg fel cyfansoddwr caneuon, er fod Schubert ;(yr hwn oedd gerddor mwy nag ef) wedi gadael ar ei ol gyfansoddiadau ysblenydd i'r 'Gerddorfa. Wrth gwrs rhaid cydnabod rhagoroldeb y suite fyd-enwog allan o'r gwaith Peer Gynt," gan Grieg. Gwnaeth Grieg lawer dros ganeuon pobl Norway, a chofir ei enw yn hir yn y cysyllt- tad hwn. Y mae ei briod hefyd wedi helpu i wneud ei ganeuon yn boblogaidd. Yr -oedd ei chalon hi yn ei waith ef, fel yr eiddo Madam Schumann gyda gwaith ei phriod "eIiwog hithau. ,GWYL GERDDOROL GLOUCESTER.- Yr wyth- nos ddiweddaf cynhaliwyd hon, ac yr oedd yn llwyddiant mawr mewn ystyr Gerddorol. Canwyd yno rai o weithiau Elgar-am yr hwn y sieryd y veteran, Joseph Bennett, yn uchel yn y Telegraph. Ychydig yn siomedig ydoedd y teimlad gyda golwg ar waith Hubert Parry, sef y Sinfonia Sacra." Cydnabyddir ei fod yn waith pwysig, ond ni «chredir y bydd yn boblogaidd. Prif waith yr Wyl ydoedd datganiad ardderchog o "Requiem" Verdi, gyda'r mnawdwyr Madam de Vere Sapio, Marie Brema, Gervase Elwes, a Dalton Barker. Tra'n son am Wyl Gloucester, temtir ni i roddi i'n darllenwyr ychydig o hanes Gwyl arall sydd yn agos, sef yr eiddo Leeds, ZD an o'r rhai pwysicaf a fedd y Saeson. Dichon y bydd y rhestr a roddwn yn un hwylus i'n Pwyllgorau Cymreig ei chadw wrth law erbyn y dyfodol: dyna ein prif reswm dros ei chyhoeddi yma. GWYL GERDDOROL LEEDS.—Y mae y Wasg Seisnig ers talm yn hawlio fod y Gwyliau a gynhelir yn Lloegr bob blwyddyn wedi gwneud, ac yn parhau i wneud, gwasanaeth mawr i'r gelfyddyd gerddorol-cryn dipyn mwy nag a wna yr Eisteddfod i Gymru gerddorol. Y mae yr haeriad yn un ag y mae y Cymro yn dueddol i'w daflu yn ol gyda dirmyg, ond beth ydyw y ffeithiau ? Edrycher ar waith yr Wyl sydd i'w chynnal yn ei thro unwaith eto yn y ddinas hon. A ddarfu'r Eisteddfod Genedlaethol a'r rhai llai-yr oil gyda'u gilydd-hyrwyddo y .gelfyddyd gerddorol y ddegfed ran o'r hyn a wnaed yn Leeds yn unig, heb son am wyliau Gloucester, Worcester, Birmingham, a Norwich ? Naddo yn sicr. Edrycher ar y gweithiau berfformiwyd yn Leeds o fewn yr haner-can mlynedd di- weddaf-y rhan fwyaf wedi eu cyfansoddi yn arbennig i'r Wyl! Onid yw yn rhestr ysblenydd, ac yn brawf diamheuol o'r lies a wna i'n brodyr y Saeson ? Dynoda (1) y perfformiad cyntaf o r gwaith 1858 (1) "May Queen" Bennett (Yr Awdwr yn arwain.) 1877 (1) Oratorio: "Joseph" Macfarren 1880 (1) Martyr of Antioch Sullivan (Efe yn arwain.) 1880 (1) Building of the Ship" Barnett 1883 (1) King David" Macfarren (1) "'Gray's Elegy' setting" Cellier (1) "97th Psalm" Barnby Oratorio The end of the World" Raff (Y tro cyntaf yn Lloegr.) 18S6 (L) Golden Legend" Sullivan (1) Story of Sayid Mackenzie (1) "The Revenge" Stanford (L) Oratorio:" St. Ludmila" Dvorak Mass B minor Bach 1889 (1) St. Cecilia's Day Parry (1) Sword of Argantyr Corder (1) 11 Sacrifice of Freia" Creser (1) "Voyage of Maeldune" Stanford 1892 (1) "Arethusa," Cantata Alan Gray (1) Symphony.. Cliffe 1895 (1) Invocation to Music" Parry (1) Forsaken Merman" Somervell (1) Suite Ed. German (1) Orchestral Piece Massenet Perfformiad o'r Messiah Handel 1898 (1) "TeDeum" Stanford (1) Caractacus," Cantata. Elgar (1) Setting of Ode: "The Passions" Cowen (1) Symphonic Poem Humperdinck (1) Choral works Alan Gray (1) Choral work Goldschmidt 1901 (1) Blind Girl of Castel Cuille.. Taylor 1904: Darnau newyddion gan Mackenzie, Wal- ford Davies, a Dr. Wood. (1) Orchestral, &c., work Holbrook (1) Violin Concerto Stanford (1) Five Songs of the Sea" (1) Overture Elgar Cliriwyd y swm anrhydeddus o Ddwy fil-ar- hugain o bunnau o'r Festivals a gynhaliwyd yn y blynyddoedd a enwyd, a rhanwyd y swm hwn cydrhwng yr hospitals yn y ddinas. Wele restr o'r darnau a genir eleni "Israel in Egypt," Rhan I. Handel Choral Symphony (No. 9).. Beethoven Sinfonia Sacra Parry Pastorals (new) Brewer Symphony No. 2 in D Brahms (1) Symphonic Cantata: Stabat Mater" Stanford Scenes from Olav Trygvason" Grieg Suite, Peer Gynt" Grieg Overture, Die Meistersinger Wagner Oratorio, The Kingdom gar Requiem Mozart Symphony No. 8 Glazounow Mass in B minor Bach ac amryw o ddarnau ereill. Y mae Caerdydd yn gweithio yn yr un cyfeiriad a Leeds a'r lleoedd ereill yn Lloegr. Os mai yn yr Eisteddfod y dysgodd y Cymry i gystadlu gyda cherddoriaeth ac os yw yr awydd i gystadlu yng ngwaed y genedl, y mae gennym obaith, pe gellid sefydlu Gwyliau Cerddorol mewn lleoedd pwysig yng Nghymru, y llwyddai y Gerdd- oriaeth i ddenu meibion yr Eisteddfod iddynt, lawn cymaint ag y denir y Saeson i'w Gwyliau hwy. Nid ydyw ond mater o arferiad. Ein dymuniad mawr ni, yn bersonol, fyddai gweled yr Eisteddfod Genedlaethol yn fwy o lawer o Wyl Gerddorol;" ond yn raddol iawn y gellid gwneud hynny, canys y mae y Beirdd a'u seremoniau o hyd ar y ffordd

[No title]

GWEINIDOG BRYN SION.