Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
"WHY BUY I Any other kind of Tea ? II IS Why Pay more?" when you can buy the very best MAYPOLE TEA Delicious, Fragrant, Refreshing, FOR 1/4 At any of our 650 Branches throughout the Kingdom. MAYPOLE DAIRY Go., Ltd. The Largest Retailers of Choicest Quality Butter, Tea and Margarine in the Kingdom. Haachester Hoose, Station Rd., COLWYN BAY; 1, Russell Buildings, High Street, RHYL; 95, Mostyn Street, LLANDUDNO (TeS? £ •) Over 640 Branches now open. 39 Established,884. THOMAS DAVIES Wheelwright and Coach Builder, Waggon, Van, Cart and Lurry Builder, ABERGELE ROAD, —— COLWYN BAY. Mangle Rollers of the best Maple Wood supplied and fitted at the lowest rates. Wheelbarrows for Contractors and Farmers. ESTIMATES FREE. TERMS MONTHLY. T. T. ROBERTS, PENMAENMAWR, Family Grocer & Provision Dealer. GENUINE HOME-MADE BREAD DAILY. Home-cured Hams, Bacon, and Wiltshire Smoked. Sole Agent for Lord Vernon Butter. Horner's Devonshire Cream, and Cream Cheeses. Sole Agent for W. & A. Gilbey s Wine and Spirits. Purity and Genuineness guaranteed on the labels. (Frice list of 330 varieties on Application to the Agent). Ale and Porter Stores. In Firkins, Pins, and Bottles Telephone No. 8. a6 DAVIES BROTHERS, WHOLESALE DTTTrilPPQ and RETAIL OU XtllilKd. Only the Primest Quality of Meat Supplied. Windsor House, Abergele Road, COLWYN BAY, AND AT DOUGHTY BUILDINGS, Conway Road. Tel. No. 95. Telephone No. 17. Telegraphic Address Davies Bros., Colwyn Bay 468 PENDYFFRYN NURSERIES, Between PENMAENMAWR & CONWAY. PETER WRIGHT, NURSERYMAN AND ART FLORIST Wreaths, Bouquets, and General Floral Decorator Gardens laid out and kept in order. Golf, Croquet, Tennis, and Bowling Greens laid. Rock Building, &c. Practical Men sent out by the Hour, Day, or Contract COLWYN BAY GOLF CLUB. Sporting 9 Hole Course, situated above Pwllycrochan Woods. Comfortable Club House. Luncheons and Refreshments pro- vided. Golfing Requisites stocked. Steward and Professional-L. GREEN. Subscriptions—Per Annum. 4 s. d. ;G s. d. Honorary Members. 1 1 0 & 0 10 0 /Ladies 110 Resident Members Gentlemen 2 2 q Country Members, Ladies or Gentlemen 1 1 Visitors, 2s. per day, 7s. 6d. per week. is. Half-day Tickets issued after i o'clock. Mr. D. Mason Peacock, Hon. Sec, 30 The Club House, Colwyn Bay. FT) A T ¥" Motor and General JjA 1—* Engineer, Millwright, Iron & Brass Founder, RELIANCE WORKS, CONWAY. Marine Motors supplied and installed, Sparking Plugs, Batteries, Coils, &c. Sole Agent for the BROOKE MARINE MOTOR. Machinery, Motors, Cars, &c., Repairs a Speciality. New Lawn Mowers supplied from iss. Any make repaired to cut equal to new. Steam. Gas and Oil Engines. Pumps, Heating Apparatus, Hydraulic Rams, and other Machinery supplied and fixed. Motor, Gas, and other Oils at lowest prizes. Strict personal attention given to all orders. Telegrams: II Ban, Conway." Moderate Charges. CERDD-DRYSOR Y PLANT. CASGLIAD 0 DONAU at wasanaeth y Band of Hope, yr Ysgol Sul, a'r Gymanfa Pris, 2g. Telerau Gostyngol i Ysgolion Sabbothol, &c. Cyhoeddedig ac i'w gael gan Mri. R. E. Jones a'i Frodyr, Swyddfa'r Weekly News," Conwy.
Nodion Ned Llwyd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodion Ned Llwyd. Y TRIP I KAN CHESTER. Mae y rhai hyn wedi dechreu eleni eto, ac vmddengys eu bod yn cael cefnogaeth mor ffvddlawn ag erioed. Yr oedd trip o sir ton yr wythnos o'r blaen, ac yr oedd telynor yn myned a'i delyn gydag ef, i ddyddori y teith- wyr ar y daith, a chanwr pennillion hefyd. Yr oeddynt yn tynu tyrfa atynt yn Belle Vue, a llwyddodd y ddau i gael digon o arian i dalu eu costau, a thipyn wrth gefn. Fel arall y bydd. Ilanner gair i gall. Byddaf yn methu deall pa gysur geir i gychwyn rhwng dau a thri o'r gloch yn y bore, a dychwelyd wedi hynny erbyn tri neu bedwar bore tran- noeth. Nid ydyw ryfedd fod cyn lleied mewn ambell i addoldv bore Saboth diweddaf. Yr oedd un brawd wedi meddwl am gysgu yn y tren ar hyd y ffordd gartref, a llwyddodd i gael cerbyd heb ond ychydig deithwyr ynddo. Aeth i fewn, tynnodd ei esgidiau, a gorwedd- odd, gan feddwl cysgu yn dawel hyd nes cyr- raedd pen ei daith, ond pan oedd yn stesion Conwy, dyma rhywun at ddrws y cerbyd ac yn gwaeddi Penmaenmawr! Penmaen- mawr Pan glywodd hyn, bu agos iddo gael gwasgfa, gan ofn i'r tren adael y stesion cyn iddo gael amser i roi ei esgidiau am ei draed. Bychan feddyliai fod un o gyfeillion Ned Llwyd mor agos ato! LL AN F AIR F E C H AN. Enfyn gohebydd oddi yma hanes y par ifanc oedd yn priodi yn ddiweddar. 'Does dim o'i le yn hynny. Gresyn na byddai mwy yn gwneud, a gresyn hefyd na bai y rhai sydd yn gwneud yn myned i Abergele i fyned trwy y seremoni. Ond nid i Abergele yr aeth y par y cyfeiriaf atynt, ond i Gaernarfon, a hynny mewn cerbyd yn cael ei dynnu gan bar o geff- vlau. Wedi cyrraedd y dref a myned trwy v seremoni, aethant i dynu eu lluniau, ac wedi hynny i gael ciniaw, a'r cerbydwr gyda hwy. Bu raid disgwyl yn hir am hwnnw, a chlywais mai y rheswm am yr oediad oedd eu bod wedi gorchymyn cael "plum pudding," ac fod eisiau amser i ferwi hwnnw. Yr wyf yn dymuno pob hawddfyd i'r par ifanc. BANGOR. Bu y Parch. Keri Evans, M.A., yn y ddinas hon yn cynnal cyfres o gyfarfodydd dan nawdd vr Eglwysi Rhyddion. Caed cyfarfodydd lli- osog, a gair canmoliaethus iawn roddir i lafur y gweinidog da hwn. Mae Pwyllgor yr Eg- iwysi Ri-ivddion yn gwneud gwaith canmoladwy mewn gwahanol gvfeiriadau, nid yma yn unig, ond mewn lleoedd eraill hefyd. ^eithiau ceir rhai vn disgwyl iddynt wneud mwy hefyd. Clywais frawd yn cwyno na fyddai y Pwyllgor hwn yn ceisio rhoi atalfa ar waith y rhai sydd vn gwerthu Ilefrith ar y Saboth, ac yn cantl eu clychau pan fyddo gwasanaeth yn mvned ymlaen yn yr addoldai. Nid wyf yn gwybod pa mor bell y mae awdurdod y Pwyll- gor yn mynd, ond yn wir os oes ganddynt hawl ac awdurdod i atal hyn, priodol iawn fyddai iddynt wneud. Dylai pawb gael llonydd i addoli. A oes gan yr heddgeidwad hawl i roddi stop arnynt? CONWY. Buasai yn dda gennyf allu bod yn y dref hon yr wythnos ddiweddaf i gael gwrandaw ar y Parchn. Stanley Jones ac Edward Jones, Rhyl, vng nghyfarfod blynyddol yr Anibyn- wyr. Caredig a brawdol iawn YdNrw- y Wes- levaid a'r Methodistiaid yn rhoddi iddynt fenthvg eu haddoldai ar amgylchiadau fel hyn. 1 Maes" o law, caiff yr Anibynwyr addoldy newvdd, un a fydd yn ddigon eang. Mae y Parch. Luther Thomas yn hoffus iawn gyda phobl ei ofal, ac yn edrych ymlaen gyda llaw- enydd at ddigwyddiadau y dyfodol. Arhoswch funud, ai gwir yw fod un o weinidogion y cylch yma wedi cael galwad i ran arall o'r sir? Dyna glywais i heno. Caf holi eto. Os gwir ydyw, bydd yn nes i'r stesion o dipyn nag y mae yn bresennol. COR YR EISTEDDFOD. Llanwenydd i liaws ydyw deall fod y cor hwn yng Ngholwyn Bay i gael ei gadw gyda'u gilydd. Mae yn debyg y trefnir gyda Mr. John Williams i fod yn arweinydd iddo eto yn y dyfodol. Os y gwneir, bydd ganddo ddigon o waith rhwng hwn a chor Caernarfon. Trwy y cwbl, gwaith wrth ei fodd ydyw arwain, a gwaith ac y mae yn feistr arno. MYND I GERMANY. Cefais lythyr-gerdyn heddyw oddi wrth un o'r fintai sydd wedi myned allan i edrych an- sawdd y wlad honno. Mae ymysg y fintai rai o Gaernarfon, Bangor, a Chaergybi. Nid oes llawer o amser er pan ddychwelodd eraill wedi bod ar daith gyffelyb, ond o herwydd nad oedd y rhai hynny' i gyd yn condemnio Masnach Rydd, trefnwyd i anfon mintai arall. Bydd yn hawdd i'r rhai sydd yn eu hanfon gael minteioedd eto i fyned pan y maent yn ym- gymeryd a thalu eu treuliau. Ymysg y rhai sydd yn awr allan y mae Mr. Peter Angel, Caernarfon; R. Mon Williams, Caergybi; ag Owen Owens (Castellfryn), Bangor. Rhaid i mi gael hanes y daith gan rai o honynt ar ol eu dychweliad. EIN LLYFRGELLOEDD. Sefydliadau ardderchog ydyw y rhai hyn, a chvnulla lhaws iddynt yn ddyddiol, yn neill- tuol yn y trefi. Syn genyf weled y cyfrif roddir o'r llyfrau a roir allan o honynt. Mwy na thair rhan o bedair yn ffug-chwedlau! Rhaid fod rhyw awydd ofnadwy ynnom am y cyffrous, &c., pan y rhoddwn gymaint o sylw i'r dosbarth yma o lyfrau, a hynny ar draul esgeuluso llyfrau fyddai yn debyg o'n gwneud yn well. Mae yr oes hon yn oes ddarllengar iawn, ond nid yw yr hyn a ddarllenir yn agos mor sylweddol a'r hyn a ddarllenid gan ein hynafiaid. Yr wyf yn gwybod fod llawer o ddarllen ar lyfrau da, ond credaf fod mwy'yn darllen rhai gwahanol, ac fel y dywedais, mae y cyfrif a roddir gan ein llyfrgellwyr yn profi hynny. Y MYFYRWYR. Yr oedd yn syn gennyf ddeall oddi wxth hanes arholiad yn ddiweddar ar ymgeiswyr am fynediad i goleg diwinyddol fod y prifathraw yn galw sylw at anwybodaeth rhai o'r ymgeis- wyr o'r Ysgrythyr. Gwnaeth yr un peth y llynedd, ac ychydig oedd yr arwyddion eu bod yn well eleni. Buasech yn disgwyl yn gyntaf peth, goelia i, fod pob ymgeisydd am y weini- dogaeth yn gwybod mwy o'r Beibl nag o un- rhyw lyfr arall, ond mae lie i ofni mai fel arall y mae. Nid wyf heb fod yn gwybod y rhoddir sylw arbennig i lyfrau eraill yn yr arholiad, ond credaf mai y Beibl ddylai fod y prif Lyfr iddynt hwy. Clywais mai anaml y gwelir myfyriwr yn myned i'r Y sgol Sul, gar- tref ac oddi cartref. Ceir rhai o honynt nad ant i wasanaeth gartref trwy y dydd, rhag dangos eu bod heb gyhoeddiad. EGLWYSBACH. Disgwylir hwyl fawr yma nos Wener. Mae y Wesleyaid wedi sicrhau y Telynor Dall, Dewi Mai o Feirion, a J. E. Jones, Caernarfon, i gadw cyngerdd. Buasai yn dda iawn gen- nyf fod yno gyda thriawd mor ddoniol. GAIR PERSONOL. Yr oeddwn wedi meddwl yn sicr na fuaswn yn gallu ysgrifennu dim yr wythnos hon, os na fuaswn yn gallu gwneud hynny yn fy ngwely; ond trwy drugaredd, cefais waredig- aeth brydlon, ac yr wyf yn well nac yr ofnwn v buaswn. Diolch am hynny. NED LLWYD. Weekly News Office, Conwy.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
WHAT OTHERS SAY. James Swift, Attercliffe, Sheffield, says The first dose gave me great relief. I can confidently say that one box of these Pills has done me more good than all the medicines I have taken." Mrs. A. Wilkinson, of Nelson, states :—" My sister, who suffered from weak kidneys, took one box, and it has done her more good than pounds spent on Medical Men." HOLDROYD'S GRAVEL PILLS, a positive cure for Gravel, Pains in the Back, Dropsy, Bright's Diseases of the Kidneys, Gout, Sciatica, is. Id. all Chemists. Post free 12 id. stamps. HOLDROYD$MEDICAL HALL, Cleckheaton. 15
Nodion Llywarch Hen
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodion Llywarch Hen I Cododd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, gadach coch ar y beirdd. Yn ol ei farn ef, canu awdl ar y pedwar mesur ar hugain yw'r gamp am y gad air. 0 na fuasai Gwilym Cow- lyd yn fyw. Na, meddarr beirdd yn un llais, canu'n gaeth yn ol dulliau'r Sain, y Lusg, v Groes, a'r Draws, yvv'r gamp. Chwareu teg iddynt, y mae ambel) fesur o'r pedwar ar hugain yn druenus i'r eithaf. Os rredr un roddi ynddynt gynghanedd, ni fedrodd neb loddi ynddynt, ac ni fedr chwaith, un liwchyn o feddwl. Maddeuer i bawb fan bechcdau, a rhodder i ni gynghanedd bersain, a meddwl swynol a byw. A fedr yr ehedwr, Robert Loraine, (Wmraeg? Gelwir ef gan rai yn Robert Jones aeth rhai mor bell a honi ei fod yn lab i'r diweddar DdT. N. Cynhafal Jones. Nid gwir mo'r ddarn hon o'r chwedi, beth bvnnag am y llall. Gofynodd gwraig iddo .}TD Mon ai mab y doctor CK_dd ond gwen siriol oedd yr unig at- ebiad gafodd. Cymer ran ar hyn o bryd yn y chwareu-gerda The Man from the Sea," cyd- darawiad digon hynod. Bwriada ymbriodi a Miss Lohr, boneddiges o'r un urdd a swydd ag ef ei hun. Ai Mrs. Jones fydd hi? Wrth droi hen ddail iiielynioi--rhv-w ddail fel dail yr hydref, a ffrwyth yn aros yn eu cysgod-jaethum ar aawn cofnodiad o lyfr dieithr i mi. Gelwir ef Glan dulunia," sef casgliad o gyfansoddiadau Eisteddfod Taly- bont, o flaen neu ar ol 1862. A fedd un o'm darllenwyr gopi ohorio? Hoffwn wybod. » Nid yw ymyraeth y Babaeth yn llesoli iddi hi ei hunan. Beth bynag am ei gwer.th fel crefydd y mae ei hymyraeth dirgelaidd a llyw- odraethau yn ei dinistrio. Collodd orsedd Itali. Collodd nawdd LEfraingc. Sigla'r Ys- baen o dan ei gwadnau. A thyma Portugal yn ad-drefnu ei thy Gwell genyf fremn 11a gwer- iniaeth. Ond pan elo brenin yn gysgod i dw-yll, yn esgus i anghyfiawnder, ac yn bawen i grefydd neilltuol, gwell hebddo. Ni chred neb vn ei bwyll mwyach yn hawl ddwyfol brenin. Os ar eu gore y llywodraetha senedd o wyr gore'r wlad, ym mha e yr ym- ddengys un gwr cyffredin ei amgyfirecliof1 lawer tro. Rhaid i'r Eglwys Babaidd foddloni yn hwyr neu hwyrach ar ei bugeiliaeth ysbrydol. Mynrhvddideihoeleuraidd. Y mae rhwymo ei phobl ar bwys colli eu heneidiau i hyr- wyddo ei buddiant hi yn groes i'r elengyl. Y mae rhwygo cymdeithas i hereticiaid anuwiol a saint yn groes i farn gyfiawn. Y mae hau hadau gelyniaeth yn y dirgel yn wasanaeth i Satan. Cyfiawnder agoro ddorau rhyddid led y pen. Cyfiawnder yw egwyddor y deyrnas nad vw o'r byd hwn. Aeth Mr Balfour i'r Yscotland 1 areithio. Llefarodd yn ddawnus a m-sdrus ond cadwodd flaen ei lawes yng nghil ei ddwrn, a chadwodd ei chyfrinion iddo ei hun. Medrai Mr. Glad- stone ddangos ei logell heb ddangos ei arian a hwyrach mai'r gore am ei efelychu yw Mr. Balfour. Pa fodd bynag, datganodd yn glir ei wrthwynebiad i dalu i aelodau Senedd. Ni char ei hegwyddor. Onid arfer ei blaid ef ei hun hi yn ddeg gwaeth na'r un blaid arall? Y mae Plaid Llafur yn onest. Cwnant hwy yn gyhoedd yr hyn wna'r ddwy blaid arall yn y dirgel. Meddyliwch am lawer o'r ymgeiswyr Ceidwadol yng Nghymru'r etholiad ddiweddaf oni thalwyd eu treuliau etholiad gan eu plaid? Nid oes gennyf farn glir eto ar bwnc y talu yma. Ond gwn hyd sicrwydd mai melltith ofnadwy i'n gwlad yw'r cyfoeth red fel afon ar adeg etholiad. Y mae i arian ran rhy bwysig o lawer yn ein hetholiadau. Pe delai Mr. Balfour allan, a chlirio yr holl wlad o ddylanwad y pwrs, efe a roddai i ni allu newydd i fyw'n gyfiawn. » Yn ol fel yr athrawiaethwyd ym Mermo'r dydd o'r blaen, y mae'r Eglwys yng Nghymru yn cael ei gwala a'i gweddill o ymgeiswyr am y weinidogaeth. IIanes arall ddaw o Loegr, eu bod yn brin ac yn prinhau. Pe buasai rhyw iT mwy ystyriol yn canu'r gan hon am hanes yr Eghvys yng Nghymru, a than amgylchiadau gwahanol, dichon na fuasai'n hollol yr un fath. Onid amcan Penadur yr Hostel yw cloddio allan feini i deml y weinidogaeth. Pa angen trafferthu, os dont yn lluoedd cymwys. Y mae mab yr yswaih yn ymestyn am swydd- au gwell. A meibion amaethwyr Aberteifi i Lundain yn lluoedd. Lie y mae'r chwarel? Daw amseroedd o brinder cyn hir ar bob enwad yng Nghymru. Y mae ein cwrs addysg yn eu harwain i bob man ond i'r weinidog- aeth. A pob bachgen a thalent fwy na'r cyffredin i'r ysgolion canol. Pan ddelont allan o'r rheini y mae llawer galwedigaeth deg yn eu gwahodd, ac i'r rheini yr ant. Anwyl popeth am Williams Pant y Celyn i galon Cymro. Wele ddarlun, Robert Evans, Trefriw, tad Ieuan Glan Geirionvdd, o'r Per- aidd Ganiedydd Rhan o rydd-ymddiddan ydyw a gymerodd le rhwng Robert Evans ag un Robert Herbert Williams:- Da iawn, da iawn yr wyt ti wedi taro ar ysbryd Williams i'r dim dyna fe i'r blewyn dyna'r fath un yn union oedd Williams." Pa sut y gwyddoch chwi hynny, Robert Evans?" ebe fi. Sut y gwyddwn i" meddai; yn eithaf da! Onid oeddwn yn ei adnabod ef ei hun. Bum yn ei arwain ef fwy nag unwaith o Drefriw i'r capelau o amgylch pan fyddai ar ei daith. yn pregethu yn y wlad hon; felly cefais ei weled a'i glywed. Y ffrwt o ddyn mwyaf sydyn a welsoch chwi erioed oedd efe. Mi ddywedaf am un tro neilltuol pan yr oedd- wn yn teithio gydag ef o Drefriw i'r Bettws, ac y mae y peth mor ffres ar fy meddwl fel pe mai doe y digwyddodd. Rhyw las hogyn oeddwn y pryd hwnnw. Wedi cychwyn o Drefriw, yr oedd Williams yn y dechreu yn rhyw edrych ac yn syllu o'i amgylch gan syn- fyfyrio. WTeithiau safai yn ystont ar y ffordd fel un na wyddai pa. un a'i ymlaen neu yn ol yr elai; ond ar foment sydyn, dywedai ryw- be.th vn ffrwt, yn hynod o bert a ffraeth, ac yn bwrpasol i'r ymddiddan oedd rhyngom. Cyn cychwyn i'- daith yr oedd elfenau ystorom a dryghin yn ymgasglu yn yr qwyr; y cymylau yn dechreu duo, gan fygwth taranau a gwlaw, yn gwneuthur ein taith yn anghysurus felly y cawsom hi wedi cychwyn o Drefriw. Ond nid oedd waeth er hynny; vr oedd tywyllwch yr wybren a'r gwlaw yn ymdywallt arnom yn rhoddi testvn i Williams ar y pryd i lefaru wrthym am yr ystormydd, y piofedigaethau, a'r croesau sy'n cyfarfod a'r Cristion cyn cyrraedd yr hafan ddymunol. Pan ddaethom at Bias y Gwydir, ac yng nghanol y Ion sydd yn arwain i Lanrwst a'r Bettws, tynodd Williams yn ffrwyn y ceffyl mor ddisymwth a chyflym, fel nas gwyddwn beth i feddwl ar y foment. Saf- odd yn ystont. Edrychai fel un wedi ei daraw gan syndod, ac yn ineth-I ymryddhau o hono ei hun, nes synwyd fi wrth. edrych ar ei agwedd a'r modd yr estynai ei law. At beth debyg- v/ch chwi y cyfeiriai Haw Williams ato? Ond at y cymylau duon yn dechreu cael eu gwas- garn, a golsani yn ymddangos yn eu He, a'r goleuni hwnw yn rhoddi testyn o'r newydd iddo dorri allan yn nghanol ei syndod mewn llais cyflym, llaweq a gorfoleddus, yn y penill, 1 Ni phery ddim yn hir Y ddu dymhestlog nos Ni threfnwyd amser maith I neb i gario'r groes Mae'r hyfryd wawr yn goleu draw Yn dweyd fod bore braf gerllaw.' Beth ai cywir y darluniad hwn o Williams? A yw bosibl i'r darlun benywaidd o Williams geir ar furiau ein parwydydd fod yn ddarlun o ffrwt o ddyn sydyn, selog a thanbaid? Ganwyd Robert Evans, tad Ieuan Glan Getr- ionydd, yn Llanbedr, ym Meirionydd, yn y flwyduyn 1762. Dð i Drefriw oddeutu 17S5 pan yn 23ain oed. Cyn dod o nono i Drefriw, pan yn saer llongau ym Mhenrvnde'i- draeth, aeth y ''glas hogyn," chwedi yntin, i Llangeithio droion, a chafodd ysgwyd llaw a I Daniel Rowlands. A thyna olyniaeth gampus, olyniaeth rhin a bendith. Robert Evans yn I ysgwyd llaw a Daniel Rowlands, yn ar»vain Williams, Pantycclyn, a daeth o'i Iwynau yntau un o brif emynwyr Cymiu, awdwr Ar lan Iorddonen ddofn. Rhaid fod Williams oddeutu 7oalii oed yn vr adeg uchod canys bu farw yn 1791 yn 74. Bu Robert Evans farw yn 1850 yn 87 mlwydd oed, a gwasanaethodd gref- ydd yn selog am oes nodedig o faith,
....-,.----Cyfeithiad "Hen…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfeithiad "Hen Wlad Fy Nhadau." AT OLYGYDD Y Weekly News. SYR,—Cynygiwyd gwobr sylweddol yn Eis- teddfod Genedlaethol Colwyn Bay am y cyf- ieithiad goreu o Hen Wlad fy Nhadau." Dywedodd y beirniad dysgedig, Mr. Ernest Rhys, bethau heilltion iawn am fwyafrif y cyf- ieithiadau a anfonwyd i mewn, ac feallai mai nid heb achos y llefarwyd y pethau hynny. Erbyn hyn wele gyfieithiad gan y beirniad ei hunan, a gyfamoddwyd ganddo. un ai fel math o gerdd-duchan i drwsgleiddiwch y mwyafrif o'r ymgeiswyr, neu ynte, fel safon iddynt ym- gyrraedd ato yn y dyfodol; diamheu mai yr olaf ydoedd ei amcan. Gan fod y beirniad dysgedig wedi cael hawl i ddweyd yr hyn a feddyliai am y cyfansoddiadau, feallai na omeddwch chwithau, syr, i Labrwr Llenydd- 01 ddweyd ei farn am ei gyfansoddiad yntau. I ddechreu, mae Hen wlad fy Nhadau sy'n anwyl i mi," yn ei gyfieithiad wedi mynd yn Hen wlad oedd yn anwyl i'n tadau o'n blaenau." Diamheu fod yr hen wlad yn anwyl Lawn i'n tadau, ac am y rheswm hwnnw yr ym- laddasant mor ddewr o'i phlaid ond nid ydyw y gwreiddiol yn son dim am y syniad ei bod yn anwyl i'n tadau. "Arwyr a cherdd- garwyr sydd grai Mr. Prys, a'r rhai hynny yn canu ymaith ofn. Yn y gwreiddiol cawn feirdd," cantorion," enwogion o fri (heb law mewn barddoni, canu, ac yinladd), rhyfelwyr a gwiadgarwyr yn colli eu gwaed dros ryddid y wlad oedd mor anwyl iddynt. Yng nghvfieithiad Mr. Rhys ceir rhywbeth neu rhywun yn caei gorchymyn i alw enwogrwydd yr arwyr,' a'r cerdd garwyr o'r bedd lie safasant ac y rhoddasant waed eu calonau dros --3(idid. Yr oeddwn i bob amser yn tybied fod yr hen arwyr Cvmreig wedi cael eu claddu yn hollol yr un modd ac y cleddir rhai nad ydynt arwyr heddyw ond mae'r ovfieithiad yn cyfleu y syniad mai ar eu sefyll where they stood ") y claddwyd hwynt. Ond feallai mai yr "heart-blood" sydd yn niwedd y llinell olaf a wnaeth iddynt sefyll yn eu bedd-au, Y CYDGAN. Yr oedd yr hen Eardd Cvmreig yn bleidiol i'w wlad," ond mae'r cyfieithydd yn caru ei wlad yn ormodol—" Too fondly I love thee, dear lanel." Gweddio Duw fod i'r hen dafod fyw'n mlaen wna'r cyfieithydd, hyd nes bo'r mor rhyfelgar a'r traeth wedi mynd ond bodd- lonai y bardd Cymreig ar ddymuno fod i'r iaith barhau tra bo'r mor yn fur i'r bau. Y mae'r iaith Gymraeg wedi troi yn Welsh Tongue o dan law y cyfieithydd, ie, yn Old tongue "—Hen Dafod—un o glasuron iaith dwy botwraig wedi syrthio allan a'u giiydd yn eu diod. Gobeithio yr arbedir fi rhag gorfod gwrando byth ar ganu y cydgan fel ag y mae i iawr yn y cyfieithiad. Onid oes modd hefyd cael rhywbeth gwell na Land, Land," i'w ddweyd am Gwlad ''? Hen (iymru fynyudig sydd gan y bardd, y 1:1 ond mae'r cyfieithydd wedi dod o hyd i Gymru wedi ei hadeiladu gyda mynyddoedd—" Old mountain-built Cymru. Feallai, yn ol safon yr ysgol newydd fod moantain-built Cymru'' yn anrhaethol mwy barddonol na il Cymru fynyddig." P'run bynnag am hynny, gellir yn ddibetrus ddweyd nad yw yn gyfieithiad. Y mae gan Mr. Rhys ei farm in the c-Arin," a'r wild crag (craig) m the skies ond dv- ffryn a chlogwyn sydd yn yr anthem, a'r teimlad gwladgarol sydd yn mynwes y bardd yn gwneud si y nentydd a'r afonydd yn swynol"; ond ni chanfyddodd Mr. Rhys ond un afon, a dim cymaint ag un "nant." Proffwydir yn ami fod yr iaith Gymraeg yn sicr o farw ond ymddengys ei bod wedi marw unwaith o'r blaen, ac wedi adgyfodi i siarad oddi wrth y meirw—" The old tongue hath risen to speak from the dead. Gan hynny, Gymrv, na fangalonwch; os mai marw wna yr iaith, fe ddaw eto yn fyw ac hoenus i lefaru'r drydedd waith. Ni ddywed y bardd wrthym fod vr iaith wedi marw er treisio'r wlad yr oedd yr iaith yn fyw ni luddiwyd awen na thelyn ychwaith. Ni ddywedwyd wrthym, ac. n; phetrusai neb, mae'n debyg, am faint y delyn na luddiwyd ond erbyn hyn cawn allan mai telyn fechan ydoedd-" small-harp," math o delyn aelwyd mae'n debyg feddylir, ac mae'r syniad yn dlws a naturiol; a'r unig fai gennyf i'w erbyn yw ei fod yn myned twhwnt i gread- igaeth y bardd. Nid yw break the small harp" yn foddhaol o gwbl ychwaith; Iludd- iwyd," meddai y bardd. Feallai mai "break yw y cyfieithiad goreu posibl, ond rhaid bod yn bur ddysgedig cyn y goddefir ei gyfieithu felly. Y mae fy llythyr eisoes yn faith, felly rhaid gadael y twyll odlau sydd yn ibritho y cyfieithiad, i geisio gweithio eu ffordd i anfarwoldeb cyneithiadol oreu gallont, a boddloni ar ddv/eyd—Os na ellir rhywbeth anrhaethol gwell fel cyfieithiad o Hen Wlad fy Nhadau na hyn, gwell fyddai gadael llon- ydd iddi. Dyddorol iawn fyddai cyhoeddi y cyfieithiadau a snfonwyd 1 mewn, er rhoddi cyfle i'r cyhoedd eu barnu, a chymeryd y cyf- ieithiad hwn fel safon. Pwy feiddia ym mlaen?—Yr eiddoch, &c., LABRWR LLENYLIDOI. WTiitford, Holywell
..--.... Ysgol Sir Bethesda.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ysgol Sir Bethesda. Da trennym weled llwyddiant Mr. Arthur Wynn °Williams, un o fechgyn yr ysgol hon, yn sicrhau ysgoloriaeth y Sir o jT20 am dair blyn- edd. Efe hefyd sydd yn sefyll gyntaf mewn Cymraeg trwy yr oil o Gymru yn arholiad y Bwrdd Canolog. Ychydig amser yn ol yr oeddym yn cofnodi ei lwyddiant yn ennill ysgoloriaeth arall gwerth £20 am dair blynedd ym Mhrifysgol Bangor. Deallwn ei fod wedi dechreu ar ei efrydiau yno y tymor hwn. Ymlaen yr elo.-Gohebydd. -a.-
Congl yr Awen.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Congl yr Awen. PILL PEN BLWYDD I MAIR ELIN HUGHES. Hawddamor it', fy ngeneth fach, Wyt heddyw'n ddengmlwydd oed, Y fach anwylaf welsom ni, Dy dad a'th fam, erioed. Dy ddiniweidrwydd gwylaidd. glan. Yw'th goron glaer yn awr Rhoed Duw it' ras i'w chadw n glaer, Tra'n teithio llwybrau'r llawr. Eiddunwn it' fendithion fyrdd, Goreuon dae'r a nef; A I Igweddi yw, ar it' gael bod Yn anwyl gandno Ef. Pan ddelo dengmlwydd eto'i ben. Beth fydd yr hanes, Mair ? 0 glyn yn dynn wrth Iesu Grist. Gan lwybro'n ol ei Air. Ond it' wneud Iesu Grist yn Ffrind, Cei ddringo grisiau'r nen, Cei wyl pen-blwydd yng Ngwynfa Duw. A'th goron ar dy ben. "Bodawen," Colwyn Bay, Dv DAn. Hyd. igeg, 1910. (H. Brython Hughes).
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
EVANS' CELEBRATED LLANDUDNO TOFFEE, obtainable from leading confectioners or direct from manufacturer, Mostyn-avenue, Llandudno. Tel. ny. 1107
Cwrdd Croesawu " Llifon."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cwrdd Croesawu Llifon." Trefnodd Bedyddwyr Llanddulas groeso tywysogaidd i'r Parch. W. G. Owen (Llifon), y bardd a'r arweinydd eisteddfodol enwog, ar ei ddyfodiad o Bandy'r Capel i gymeryd gofal yr eglwysi yn Llanddulas ac Abergele. Daeth cynulliad rhagorol o aelodau'r eglwys i Gapel Ty'nyffordd, ac hefyd amryw o eglwysi eraill y cylch. Llywyddwyd gan Mr. Isaac Jones, ysgrifennydd yr eglwys, ac wedi canu emyn gweddiwyd gan y Parch. W. Wilson Roberts (M.C.). Caed anerchiadau gan y gweinidogion canlynol :—Llongyiarchai y l'arcll. Peter Jones, Colwyn Bay, yr eglwys ar ddyfodiad Mr. Owen i'w mysg fel gweinidog. Prin y gellid cyfan- ach dyn yn unman a pheth da fyddai iddynt fedru teimlo'n dawel fod eu plant yn cael tyfu'n nghysgod gweinidog fel hyn. Bydded iddynt ddysgu ei garu fel y cerid Dale o Bit. mingham gan aelodau ei eglwys, y rhai a ddwedent wrth ei roesawu'n ol o'i wyliau un- waith-" We love you, and we want you to know it. Yr oedd Mr. Owen yn dod i hen eglwys, a chwedl yr henair, Hawdd cynneu tan ar hen aelwyd." Bendith y nef fyddo dros y gweinidog newydd a'r eglwysi. Dywedai y Parch. J. Aeronydd Enoch (A.), Caersalem, fod aelodau Caersalem yn canmol "Llifon" fel pregethwr. Yr oedd Mr. Owen wedi dyfod i gylch rhagorol i weithio, a boed i'w braidd wneud yn fawr o honno, ac i'r un- deb rhwng Mr. Owen a'r eglwys droi'n fantais i'r gymdogaeth yn gyffredinol. Y Parch. T. Frimstone, Colwyn: Daw Y.r. Owen yma a blynyddoedd cyfoethog o brofiad wrth ei gefn. Y mae'n ddyn o egwyddor, ac er ei fod yn enwadwr cryf, eto y mae ganddo barch tuag at argyhoeddiadau y sawl a larno'n wahanol iddo. Y mae hefyd yn ddyn cenedlaethol, a dangos- odd yn yr Eisteddfod ddiweddaf pa fodd y gall lywio Uond pabell o bobl, gan hawlio pob parch ar gyfrif hynnv. Y Parch. Daniel W il- liams, Salem (W.).—<Gwyddai am Mr. Owen ar's blynyddau. trwy glywed, a bu dymor yn byw yn yr Ysgoldy yn ymyl Alafon, ei frawd. Gobeithiai y derbynient ef nid fel caethwis yr eglwys, ond fel gwas i Iesu Grist. Y Parch. Wm. Hughes, Congo Institute, Colwyn Bay Yr oedd Mr. Owen wedi dod i ofalu am ddwy eglwys ragorol. Eglwys Aber- gele yn feddianol ar gyfoeth o ras i weithio, ac wedi sicrhau darn rhagorol o dir i godi teml newydd. Yr oedd amlygiadau o awydd cyffelyb yn eglwyg'Llanddulas, a gobeithient y llwyddai hithau i sicrhau capel newydd yn fuan. Bydd- ed pob lies a bendith ar y ddwy eglwys a'u gweinidog. Fel swyddog yn yr Eisteddfod ddiweddar, gallai ef ddweyd na chafwyd tra- fferth yn y byd 1 ddewis Llifon a Llew Tegid fel y ddau fwyaf yn y wlad i arwain yn y cyfar- fodydd Cydnabyddai pawb fod Lhfon yn un o'r ddau oreu. Adroddodd Eilydd Elwy am- ryw o engiynion rhagorol yn croesawu Llifon i'r cylch, a chafodd gymeradwyaeth galonnog. Y Parch. W. Wilson Roberts.—Dymunai yntau bob llwyddiant i Mr. Owen a'r teulu ar eu dyfodiad i'r cylch, ac awgrymai ar iddynt ffurfio cymdeithas lenyddol i'.2U ddiwylliadol rhag blaen-cyfariod, dyweder, ar nos Wener, a rnanteisio ar brese-ioldeb Llifon yn y fro i helpu i'w chario ymlaen yn llwyddianus. Yii, cododd y Parch. S. Yalentine i egluro paham y rhoed galwad i Mr. Owen i Lan- ddulas. Mae'r achos yma'n hen, meddai, a'r eglwys wedi brwydro'i ffordd drwy lawer ystorm. Yma y dechreuodd gweinidogaeth Dr. Robert Ellis (Cynddelw), Roberts, Trosynant; Parry, Aberdulais Dr Spinther James, Llan- dudno ac fe fu Giraldus yn y cylch, a J. A. Humphreys, y gwr ag y mae mor chwith medd- wl ei fod yn wael. Teimlai'r frawdoliaeth fod yr achos yn mynd i lawr, ac yna dechreuwyd dyheu am i ryw wawr dori arnom. Ac fe dor- odd yn y dwyrain—daeth y newydd fod Aber- gele wedi penderfynu galw Llifon; rhoed y cynnyg i ninau fynd yn gyfranog. Fe wnaethom ninau hynny yn unllais ac ungalon. Gobeith- ient y byddai dyfodiad Mr. Owen yn lies i'r ardal, ac yn rywyd 1 bob achos da in y cylch. Y Dr. Abel J. Parry, Rhyl.-Talodd y doctor deyrnged uchel i'r gweinidog newydd fel dyn a chanddo gynysgaeth o rinweddau gwronol, ac o'r rhagoriaethau bychain fel y'u gelwir-cyd- bwysedd nodedig o'r great and minor vir- tues," ys dywed y Sais. Bydded iddynt weddio trosto, a boed bendith yr Arglwydd yn gorffwys arno ef a'i deulu, a'r eglwysi all galwodd. Wrth gydnabod y croeso a chyflwyaio diolch am dano, dywedodd Mr. Owen ddarfod iddo glywed tine calon ymhob gair a lefarwyd. Yr oedd y darlun a dynai'r brodyr yr un yn union a'r hyn a garai ef allu bod. Diolchai i bawb o ddyfnder calon, a rhoesai'r croesaw brwd fin ar ei ddymuniad i fod o ryw fendith gyda gwaith y deyrnas fawr yn y cylch. Boed iddynt oil sylweddoii eu braint a'u cyfrifoldeb gyda hwnnw, a chadwed hynny hwy'n wastad yn undeb yr ysbryd ac yng nghwlwm tangnef- edd. UN OEDD YNO.
Llandudno Pier Concerts.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llandudno Pier Concerts. The last of the season's special concerts in the Llandudno Pier Pavilion took place on Saturday night, when there was a remarkably large audience present. At the close of the concert Mr. Harold Rathbone presented Mr. Payne, with his portrait, drawn by himself. Mr. Payne, who was loudly applauded, said that, as usual at the termination of the Pier Company's season, he wised to say a few words before leaving. He wished to thank the audi- ence for their patronage and appreciation. The season just ending had been highly successful. The programmes had certainly been varied, and he had tried to suit all tastes, which, he could assure them, was no easy thing to do. With the exception of the last two weeks the Thurs- day concerts had all been devoted to the great composers, and he was happy to say that on those evenings they had invariably had enor- mous audience. (Applause.) In accordance with the general desire of visitors he had in- cluded each week a great deal of good light music. In fact, four nights per week had been appropriated to that purpose. There were many hundreds of pieces in the library, and all of them had been played during the season, while about 150 new pieces had been played for the first time at the concerts. (Applause.) Among these was the suite 01 French holiday sketches by the talented first 'cellist of the orchestra, Mr. J. H. Foulds. (Applause) He was sorry Mr. Foulds was not present to hear that ex- pression of appreciation. The work of Mr. Foulds had only recently been produced, and it had not yet had a fair chance of its qualities being recognised. S ext year he hoped they would play it many times, when he felt sure the music would be appreciated at its full value. In his opinion it was a very fine work indeed. (Applause.) The pier concerts would be con- tinued until October 30th under the manage- ment of the Autumn Concerts Committee. Most of the present orchestra were remaining, and would be conducted by his friend Mr. Walter Haigh—(applause)—which, of course, was a sufficient guarantee that the perform- ances would be good and the programmes inter- esting. (Applause.) In the interest of Llan- dudno he sincerely hoped that the extension concerts would be even more successful than those of last year, which, he believed, were very good. (Applause.) He wished publicly to thank his friends the members of the orches- tra for their admirable work during the season. (Applause.) They had played at nearly 370 consecutive concerts without a single break, a fact which spoke highly for their loyalty to himself and their desire to please the patrons. (Applause.) The music season would com- mence next year on April 13th and would ter- minate on October 8th, a period of 25 weeks. He hoped to have the pleasure of meeting all his colleagues and the audience then. Having thanked Mr. Rathbone and others who had sent tributes to Mrs. Payne and himself, Mr. Payne concluded by saying Au revoir.
New Municipal Buildings for…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
New Municipal Buildings for Denbigh. COLWYX BAY ARCHITECTS SUCCESSFUL. A tew weeks ago the Denbigh Town Council offered three prizes of liS, CSo and f25 for the best plans of new Municipal Buildings, in- ckiding a Public Hall to seat 2000 persons, Council Chamber, Magistrate- Room, Town Hall, Brigade -ooi-ns, Markets and various Qflicfca. TMrty-two sets of plans were received. T were examined by Messrs. Learning and I -timing, architects, Westminster, and the mbers of the Council. The result was made Known on Saturday morning as follows:- First prize, Messrs. Porter and Elcock, Col- wyn Bay; second, Mr. A. Fairdale, Kinton Lodge, York third, Messrs. Hugh Mackintosh and Newman, Holborn, London. The build- ings will cost from ^'10,000 to ^15,000, and their erection will of course depend on the sanction of the Local Government Board being received. The buildings designed by Messrs. Porter and Elcock will be carried out in the loca) lime-stone with dressings of York or other suit- able stone, and the design is on the lines of the best Scottish Baronial work, which seemed in every way suitable to the historical ante- cedents of the ancient town of Denbigh, which has been the very centre of stirring episodes for many centuries. The large public hall shown, to seat 2000, with a large stage, dressing rooms, etc., will be carried out mainly in reinforced concrete with large roomy galleries carried on canti- levers without any supporting columns to inter- cept the view of the audience. The judgment of the assessors when announced to the Council was unanimously confirmed, after all the plans had been inspect- ed by the members present.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BICENTENARY. 1710-1910." SUN FIRE OFFICE FOUNDED 1710. THE OLDEST INSURANCE OFFICE IN THE WORLD. Insurances effected on the following risks: FIRE DAMAGE. Resultant Loss of Rent and Profits. Employers'and Liability Personal Accident, Workmen's Compensa- Sickness & Disease tipn, including Fidelity Guarantee, Accidents to Burglary. Domestic Servants. Plate Glass. 1926 I For more than Twenty-five Years, Dr. DAVIS'S I FAMOUS FEMALE PILLS Have been universally admitted to be A Boon to Womankind. Have been the best known Remedy for Anaemia, Giddiness, Fulness and Swelling after Meals, Loss of Appetite, Hysteria, Palpitation of the Heart, Debility, Depression, Weakness, Irregularities, and all Female Ailments. Boxes gid., is. xid., 2s. gd., 4s. 6d. and 11s. May be had from Chemists and Patent Medicine Vendors everywhere, or under cover from the Pro- prietors. Dr. DAVIS'S ittle book for MARRIED WOMEN, most invaluable, sent free on receipt of a stamped ad- dressed envelope. Only address 309, PORTOBELLA RD., NOTTING HILL, W. flf CHEAP CHAIRS |f~l| For Churches, Chapels, Missions and Schoolrooms. KSplA From Is. 8d. each. [> ILi Buy from the factory, save middle profits. Missions and Schoolrooms. KSplA From Is. 8d. each. [> ILi Buy from the factory, save middle profits. w MEALING BROS., High Wycombe 3 LADIES! SEND AT ONCE. Mrs. STAFFORD BROOKES Ladh; IptSt has much pl-asure in annou ri g that her remedy for restoring health WITHOUT MEDICINE is the only certain ani speeJy one known. I GUARANTEE EVERY CASE. Send at ottce statnfed addressed e >n.'e lofi-e-for FREE particulars and testivio)inils (gna> anteed gettuifu! under a penalty of £ 1000 ) A LADY WRITIIS :-Dr. has reoommenMed me for which I thank him— WHITK N,) (Dpl Mrs. STAFFORD BROOKES (Sfr), no, Andgowan-road, Hither Green, LONDON, S.E. GOOD CLASS WEEKLY PAPERS ■ MI 11 1 reaching fc"V/V/ MILLION8 OF READERS. AN AMAZING OFFER TO ADVERTISERS. Send Jor List and Tet-ms. W. H. COLLINGWOOD, Advertising Agent, 18, Hogarth Road, Earl's Court, S.W. 71 A WATCH FOR SKILL. In the centre of the Diagram you see Fig 5. Arrange the figures i. 2, 3. 4, 6, 7. 8, and 9, in the remaining squares so that the columns 5 add 15 up, down, across, and from corner to corner. If correct. and you comply with the simple condition we shall send you a HANDSOME WATCH (Lady sor Gent's, guaranteed 5 years), will be seut you Entirely Free of Cost. Send your answer NOW, enclos- ing stamp for reply to (Dept. 7). Eureka Watch Co 31, Eglington Road, Swanscombe (Kent). DEIM14ISgS ■K."LINCOLNSHIRE" -1 fHIPlc powderSI The best medicine (or PIGS and POULTRY. I Cure all diseases to which Pigs are subject.! everywhere lOd. per doz. Post free, Is. I from the Sole Proprietor— 0 i.W.Dennis.Chemist,Louth.Lincs. Established 1894. MORRIS HUGHES & SON, the principal Billposters. Town Criers, and Bill Distributors in Llanrwst and District. Good Hoardings in all part of the town. All orders prompty attended to. 24 and 25, Narrow Street, Llanrwst. 360 'Hanes Iesu Grist i'r Bobl.' Y ddwy gyfrol yn un, mewn rhwymiad hardd: Pris 2s.; gyda'r Post, 2s. 4c. Telerau arferol Lyfrwerthwyr. I'w gael gan yr Awdwr-Rev. Owen Evans, 1.7, Lawson Road, Colwyn Bay.