Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CADW'R GYMRAEG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CADW'R GYMRAEG. Rhoddir llawer iawn o sylw y dyddiau hyn i'r pwysigrwydd o gadw a meithrin y Gymraeg yng Nghymru. Mae'r dosbarth mwyaf goleuedig wedi dechreu sylweddoli y ffaith fod yn amhosibl cadw'r genedl ar ei goreu heb gadw ei hiaith yn fyw ac mae'r athrawon yn ein hysgolion dyddiol, o'r diwedd, yn cydnabod fod y plentyn Cymreig ar ei fantais wedi dysgu'r ddwy iaith. yn rheolaidd ym. morea eu oes. Tro ar ol tro mae'r Saeson sydd wedi cael swyddi bras yng Nghymra, ac wedi dysgu'r Gymraeg yn drylwyr ar ol hynny-ac mae eu nifer yn fawr-wedi addef nas gallent byth ddeall cyfrinion y genedl heb feistroli yr iaith a'n llenyddiaeth; ac eto yng ngwyneb ffaith fel hon fe welir ami i Ddic Shon Dafydd yn gwneud protest yn ein Byrddau lleol pan roddir y frawddeg "rhaid iddo ddeall Cymraeg a Saesneg" ynglyn ag hysbysiad pan am ddewis ami i swyddog cylioeddus mewn ardal wledig o Gymru. Nid yw'r Sais byth yn penodi gwr i swydd neillduol yn Lloegr heb fod y person hwnnw yn deall y Saesneg, a phaham raid i Gymry gwledig ymddwyn yn wahanol ? Y mae'n llawen gennym weled safle'r iaith, ei phurdeb a'i chadwraeth, yn cael y fath gefnogaeth. yn y Gcninen, am ionawr. Mae'r cylchgrawn cenedlaethol hwn yn cael ei ysgrifennu gan lenorion goreu'r genedl, a gwelwn yma eu bod oil yn unfarn parthed gwerth y Gymraeg ym mhob cylch o fywyd. Ar ran y pulpud-lle y dylai'r Gymraeg fod ar ei goreu-dadleua Elfed yn gryf dros burdeb a cheinder yr iaith. "Dylai pob pregethwr ymdrechu bod yn Gymreigwr da," meddai, ac hefyd "nid oes dim yn werth ei gyhoeddi o'r pulpud nas gellir ei osod mewn iaith ddealladwy. Dichon y bydd raid gadael y term gwyddonol heb ei arfer, ond hawdd gosod ei gynwys mewn gair neu eiriau gyfleant ei ystyr i'r gwran- dawyr." Mewn llith ar Lofruddio yr Iaith Gymraeg," dywed Carno" bethau hallt yn erbyn ein colegau enwadol, ac mae ganddo engreifftiau lawer o frawddegau cymysglyd y pregethwyr hanner-Cymreig sydd mor hoff o andwyo'r iaith. Ond yn bennaf oil rhaid gosod araith Pedr Hir, yr hon a draddodwyd yng Ngorsedd Abertawe, fel y condemn iad mwyaf llym ydym wedi ei weled ers hir amser ar Ddic Sion Dafyddion yr oes. Mae Pedr Hir wedi defnyddio'r hen Fabinogi ynghylch hela'r Twrch Trwyth i ddynodi sefyllfa bresennol yr iaith. Arthur yw'r gwir genedlaetholwr Cymreig. Y Twrch Trwyth yw'r Sais-Gymro, neu'r Die Sion Dafydd, ac mae Pedr Hir yn canlyn yr helfa o gwr bwy gilydd i Gymru. Byddai'n gam a'r llith i'w difynnu: rhaid ei darllen oil i'w deall yn iawn; er hynny, mae'n ormod o brofedigaeth i adael y darn hwn allan. Ebai Arthur, Beth yw'r tri adeilad a welaf draw-un yn Aberystwyth, un ym Mangor, ar trydydd yng Nghaerdydd"? Atebodd rhywun, Tair melin ydynt at falu yd er cael blawd i besgi perchyll y Twrch Trwyth." Nis gellid wrth gondem- niad gwaeth o'n colegau cenedlaethol yn sicr Mae gan Gymry Llundain gyfle yn awr i wneud rhywbeth tros gadwraeth eu hiaith Ym mhen blwyddyn eto daw yr Eisteddfod ar ymweliad a ni, a beth fydd ein hymddyg- iad tuag at y Gymraeg y pryd hwnny? Addawodd y rhai ftl'n gwneud y cais am dani yn Abertawe ei gwneud mor Gymreig- aidd ag sydd ddichonadwy, a hyderwn y cedwir at yr addewid. Na foed i ni geisio ymddadrys o'n cyfrifoldeb dan yr hen esgus impracticable," a cheisio cyfiawnhau'n haddewid drwy osod un neu ddwy gan Gym- reig ar y rhaglen, a chyfle i un neu ddau hen fardd i anerch y dorf am bum mynud yn Gymraeg, fel math o gywreinbeth i'r Saeson fydd yn bresennol! Rhaid i'r holl gynllun fod ar seiliau Cymreig, a dylai'r holl destyn- au fod wedi eu trwytho a'r ysbryd gwir Gymreig, fel ag i osod gwyl 1909 yn esiampj ac yn rhag-redegydd i'r oesau a ddel. Os llwyddir yn hyn, byddwn wedi gwneud rhywbeth tros gadwraeth yr Iaith, a bydd i genedlaetholwyr yr oes ddilynol, ein coffhau yn barchus am wneud ein eyfran i god;"r lien wlad yn ei hoi.

Advertising