Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

GARIBALDI YN GARCIIAROR, OND…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ymddangosodd yr erthygl ganlynol yn yr English Independent am yr wythnos ddiweddaf. Ym- ddengys i ni mor bwrpasol a dyddcrol, fel y teimlwn awydd i'w chyfieithu yn ei chryn- swth, Penawd yr erthygl ydyw:- GARIBALDI YN GARCIIAROR, OND YN FUDDUGOL. Y mae pleidleisiaeth gyfFredinol f plehiticismJ, fe ymclden gys, yn arddatganiad difrifol o ewyllys cenedl o bobl, fel y mae yn deilwng c bob ystyr- iaeth ac anrhydedd pan fyddo yn cydredeg ag ewyllys a dymuniadau Ffrainc, ond yn hollol ddiwerth a dirmygus pan elo yn y gwrthwyneb i hyny. Offeryn dymunol iawn ydyw yn llaw y wladfywiaefch Ymerodrol; prin n'ad allem ei alw yn hoff ddyfeiswaith. yr Ymerawdwr Louis Napoleon. Da, genym ei fod wedi ein cynhysg- aethu a moddion i ddeall y gwir werth sydd ynddo yn ei olwg ef ei hun, a hyny yn y modd mwyaf eglur a phenderfynol. Amlygodd yr Ymerawdwr i lywodraeth Itali, os derbyniai hi benderfyniad pleidleisiaeth gyffredinol unrhyw dref neu dalaeth o fewn tiriogaethau y Pab, i'w chorffori a Ilywodraeth Victor Emanuel, y byddai iddo gyhoeddi rhyfel yn erbyn Itali. Nyni, y rhai a wyddom y rhan fawr a chwareuodd yr offeryn twyllodrus hwn yn nwylaw'r Ymerawd- wr a'i weision, a'r modd y defnyddiwyd ef i gys- segru mawredd ac urddas Ffrainc, a allwn yn hawdd gael ein taro a syndod wrth weled mor ebrwydd y dillana ei werth a'i awdurdod, pan y saif ar ffordd eiddigedd hunangeisiol Ffrainc; yna canfyddir yn union, pa mor unfrydol a gwresogfrydol bynag a fyddo y bleidleisiaeth gyffredinol, nad ydyw yn ddim amgen na pheir- iant y gwr drwg er aflonyddu heddwch llywodr- aethau sefydledig, ao y rhaid ei roddi i lawr hyd yn nod ar draul rhyfel gwaedlyd. Yr ydym yn ddwfn ddiolchgar bod yr arch-gynllwynwr hwn (Napoleon) wedi ei orfodi fel hyn i osod gwarth a gwaradwydd ar ei offeryn dewisedig ei hun, ac i ddangos ei hun, yr hyn ydyw mewn gwir- ionedd, sef fel gelyn penderfynol i bob peth sydd uniawn, difrifol, a gwirioneddol yn symudiadau diwygiadol yr amserau. Cyflawnodd Garibaldi gymaint a hyn beth bynag. Boed y canlyniadau y peth y bo'nt gyda golwg arno ef ei hun yn bersonol. gosodocld Ymerawdwr y Ffrancod mewn cyllwr o benbleth a dyryswch anobeithiol yn mron, a sicrhaodd i'w wlad hawl i leisio yn annibynol yn mhender- fyniad achosion Rhufain. Efe a orfododd fyddin Itali i groesi trosodd i'r tiriogaethau Pabawl- efe a dorodd rwymau yr iau flin a roddasai Napoleon ar war Itali—efe a orfododd Victor Emanuel i sefyll i fyny, a siarad allan fel dyn, o r diwedd. Mewn ffaith, cynhyrchodd orfod- aeth i benderfynu cwestiwn Rhufain, a dyna oedd ganddo mewn golwg o'r dechreu, ac mor belled a hyny, er iddo fethu meddiannu Rhufain, y mae yn fuddugoliaethwr yn mhob modd. Efe ydyw gwir feistr y sefyllfa, a'r mwyaf urddasol o lawer o'r penaduriaid sydd yn dal tynghedfen Rhufain yn eu clwylaw. Efe oedd yr unig un a feddai amcan eglur a chydwybod lan o'r dechreu. Y mae yn gweled trwy y Babaeth yn ei gallu tymmorol ac ysprydol, ac y mae yn llefaru ei feddwl yn groew am dani. Y mae yr actors ereill yn gweled rhyw gymaint hefydjPbnd ni feddant onestrwydd a gwrolder i lefaru. Y mae ganddynt hwy hapchwareuaeth ddifrifol i fyned trwyddi, a chwarddant yn eu llewis wrth ei thrin; ac oblegid hyny y mae cymaint o betruso a chroesweithredu wedi bod. Pe buasai llyw- odraeth Victor Emanuel yn meddu ar y ddegfed ran o yni a phenderfyniad Garibaldi, gallasai yn hir cyn hyn fod yn feistres y sefyllfa,-yn dal Rhufain yn ei Haw, ac oddiyno yn dwyn cyf- lafaredd ar ei hachos, rhyngddi a llywodraeth Ffrainc. Gadawodd i'r cyfleusdra hwnw ddianc o'i gafael. Y mae pob dydd wedi dangos pa mor werthfawr oedd y fantais a gollwyd; ond gorfyddodd Garibaldi hwy i wneud y peth goreu nesaf at hyny a allasent wneud, sef honi'r hawl i gymeryd rhan gyda Ffrainc yn ngweryl y Babaeth. Nid oedd cymeryd Garibaldi yn garcharor ond digwyddiad o bwys bychan. Yr oedd yn eithaf amlwg y buasai iddo gael ei orthrechu yn gynt neu yn hwyrach gan y byddinoedd rheol- aidd, os na fyddai iddo syrthio yn aberth ar y maes. Ond nacawyd y dynged hono iddo, ac yr oedd buddugoliaeth, mor belled a chymeryd Rhufain, allaa o'i gyraedd; ond yr ydym eto yn haeru fod ei anturiaeth wedi terfynu yn llwyddiannus. Ilhaid i'r cwestiwn bellach gael ei benderfynu ar seiliau safadwy; ac ni all Vic- tor Emanuel na Louis Napoleon feithrin y go-1 baith lleiaf y bydd heddwch yn Itali hyd nes yr enillo Rufain. Y mae y llywodraeth Italaidd, trwy alw ei byddin yn ol o diriogaethau y Bab- aeth, wedi taflu holl gyfrifoldeb yr achos ar Ffraine. Cyhuddir hi o lwfrdra, ac o fradychu anrhydedd y wlad, a gwna ei gwaith yn gwneud ei hun yn geidwad carchar Garibaldi hi yn an- mhoblogaidd i'r eithaf. Nid yw dyryswch sefyllfa Louis Napoleon fewr iawn lai ar ol cael Garibaldi oddiar y ffordd. Y mae efe yn llawn ystyriol o'r perygl o wneud Itali yn elyn iddo ar y fath gyfnod a hwn, drwy ei waith yn ymyryd a chweryl y Pab. Buasai yn dda gan ei galon yn mhob ystyr allu gochelyd yr ymyraeth hwn; ond prin yr oedd at ei ddewisiad. Pan yr oedd Garibaldi a Mazzini o'r tu cefn iddo, yn gwasgu at byrth Rhufain, a Ilywodraeth Itali yn ofni cyfryngu i'w hatal, na chymeryd yr achos i'w llaw ei hun, yr oedd yn teipilo dan orfod i gyfryngu, neu dynu y blaid offeiriadol yn Ffrainc yn ei ben, yr hyn na fynasai er dim ei wneud. Gadael ei filwyr eto yn Rhufain a dynai y blaid ryddfrydig yn Jb iramc, o'r tu arall, yn ei ben, yr hon sydd yn dyrchafu ei_Uais anghymeradwyol yn ei glustiau ar heolydd Paris. Tynu ei filwyr yn ol. ar y pie fod y Pab yn alluog i'w amddiffyn ei hun, fyddai dadwneud y cwbl a fwriadai wrth eu hanfon yno. Llawen fyddai ganddo pe cymerai y Congress y fusnes oddiar ei law, ond nid oes fawr o obaith am hyny. Rhaid iddo beth bynag ehwilio am ryw esgus dros adael i'r Pab gymeryd ei spawns. CD

nr ddonintth.

LLINELLAU

---HIRAETHGAN YR AWEN,

YR HEN WR MEDRUS.

BARA A CHIG.

Y DDAU 'DDYN CLAF' YN EWEOP.

_._-----_--TYMMESTL DDYCHRYNLLYD…

MAEROLIAETH LIVERPOOL.