Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

HANES TAITH I'R AMERICA.

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.

DIRWESTWYR A'R ETHOLIADAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIRWESTWYR A'R ETHOLIADAU. At y Parch. J. Thomas, Liverpool. Anwyl Frawd,—Nid yw eich llythyr yn y TYST j heddyw yn galw ond am ychydig sylwadau eglur- haol pellach oddiwrthyf. Yr ydych yn addef y geill ymgeisydd fod dros cldadwaddoliad yr Eglwys Wyddelig heb fod dros g-ydraddoldeb crefyddol, ac yn awgrymu y geill un fod dros i'r fasnach feddwol ddarfod o ddiffyg cefnogwyr, er na byddo bleidiol i'r Permissive Bill. Yr wyf yn cydweled a chwi yn hollol yn hyn. Yr wyf hefyd yn ystyried mai dir- westwyr yw asgwrn cefn y mudiad ataliol, ac wedi teimlo yn anfoddus i ddarllen areithiau rhai o hen bleidwyr dirwest yn esgusodi eu hunain rhag pleidio y mudiad dirwestol yn egniol, oherwydd y gwna y Permissive Bill y gwaith. Y mae Uwyddiant y gyfraith wedi ei phasio yn gystal a'i gwneuthuriad yn ymddibynu ar gadwraeth i fynu deimlad goleu- edig yn erbyn y fasnach yn nghalon y cyhoedd, yn enwedig Trethdalwyr. Yr un fath nid wyf yn gweled un sail i ni fel Ymneillduwyr bleidio dad- waddoliad yr Eglwys Wyddelig ond gwirfoddiaeth grefyddol. Addefweh nad oes mwy o debygolrwydd i gwestiwn cydraddoldeb crefyddol ynddo ei hun ddyfod gerbron y Senedd na chwestiwn y Permissive Bill, am eu bod y naill fel y llall yn anaddfedu. Ond daw mesurau yn arwain at y naill a'r llall. Y mae y fasnach feddwol mewn sefyllfa mor gyffred- inol anfoddhaus, fel y mae yn sicr o ddyfod ger bron, a phan soniaf am ddyn dros y fasnach feddwol golygaf ddynnidyn unig croes i'r Permissive Bill ond dyn fel Mr Roebuck yn erbyn pob cyfyngiad ar weithrediadau y fasnach. Dyna reswm y frawddeg yn fy llythyr diweddaf a gyfrifech dipyn yn annheg. Nid wyf yn credu yn uniondeb iia doethineb y policy o gadw o'r golwg ar yr adeg bresenol y pen draw yn ein golwg, sef perffaith gydraddoldeb crefyddol. Credwyf fod y Parch. W. Rees yn llygad ei le yn ei lythyrau at Mr Gladstone, a'u bod nid yn unig yn alluog ond hefyd yn amserol. Derbyniaf gyda phleser a diolchgarweh bob instalments a gyfyngo ar ryddid y fasnach feddwol, neu a helaetho ryddid crefyddol, ond parhaf yn y naill gwestiwn a'r llall i ofyn a hawlio yr holl ddyled. Derbyniaf help a chydweithredaf a phersonau er Cael y eyfryw instal- ments er na byddaf yn aros lie yr arosant hwy-a galwaf y cyfryw undeb yn un damweiniol yn hyt- rach nag egwyddorol. Yr wyf yn meddwl mai fel hyn y sicrhawn fwyaf ac y cadwn ef ar ol ei gael. Yr wyf yn awyddus i wrthwynebwyr y fasnach feddwol weithredu yn annibynol ar bleidiau gwlad- yddol, fel moddion i beri i wladweinwyr astudio eu pwnc nea y daw yntau yn ei dro yn destyn plaid. Dywedaf hyn heb roddi 'sen' i'r naill blaid na'r llall. Y mae llywodraeth trwy bleidiau yn fath o ddrwg angenrheidiol yn ein gwlad;' ond y mae yn mhob plaid ddynion cydwybodol yn ofni Duw ac yn amcanu at les y wlad. Deallwn ein gilydd. Dealla ein darllenwyr, ond hwyrach yr arosem ar safteoedd gwahanol, ond y peth y daethom ato cerddwn wrth yr un rheol.' Yr eiddoch yn barchus, Hebron, Mehefin 26, 18.68. SIMON EVANS. Ni waeth i Mr Evans a miimau derfynu ein hym- gomyn y fan yma. Nid amser i daeru ydyw, ond amser i weithio. Gwnaeq Mr Evans ei oreu i ddy- chwelyd i'r Senedd newydd aelodau ffafriol i gyn- hygiad Mr Gladstone; ac os byddant dros y Per- missive Bill hefyd goreu oil. Yr wyfyn barod i fyned law yn llaw a fy nghyfaill i gael y fasnach feddwol d'r ffordd ar ol hyn ond er mwyn pob peth gadewch i ni gael yr Eglwys Wyddelig o'r ffordd. Llwyddiant mawr i Mr Evans i wasanaethu ei o-en- hedlaeth yn mhob peth da, gyda chofion cywir ato. Liverpool. J. THOMAS.

'""NEW TREDEGAR. --"

'Y LLYFR TOlTAIJ AC EMYNAIJ.'

CYMMERIADAU.

s ■ " BEIRNIADAETHAU. !